Trawsnewid Cymru | Transform Wales - #10 Mehefin/June
Canolbwyntio ar iechyd a gofal yng Nghymru | Focus on health and care in Wales
This is a bilingual newsletter, English posted below the Cymraeg
#10 - Canolbwyntio ar iechyd a gofal yng Nghymru
Helo bawb,
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn Trawsnewid Cymru yn gweithio ym maes iechyd yng Nghymru, mewn rhyw ffordd neu gilydd.
Does dim prinder syniadau am yr hyn sydd angen ei wella ym maes iechyd a gofal yng Nghymru. Mae amseroedd aros, oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, pwysau ar y gweithlu a'r galw cynyddol yn parhau i fod yn heriau mawr. Ond er ein bod yn aml yn trafod beth sydd angen newid, rydym yn treulio llai o amser yn ystyried sut rydym yn sicrhau bod y newid hwnnw'n digwydd.
Mae'n hawdd dod i'r casgliad mai mwy o arian, mwy o dechnoleg neu ailstrwythuro arall yw'r ateb. Mae gan bob un o'r rhain ran i'w chwarae. Ond mae straeon y mis hwn yn awgrymu bod rhywbeth arall yr un mor bwysig: y ffordd rydym yn mynd ati i gyflawni newid.
Rydym yn aml yn barnu iechyd a gofal yn ôl y canlyniadau rydym yn eu gweld, fel amseroedd aros, oedi ambiwlansys neu berfformiad ysbytai. Ond y tu ôl i bob canlyniad mae cyfres o benderfyniadau ynghylch sut mae gwasanaethau'n cael eu dylunio, eu darparu a'u gwella.
Mae cylchlythyr y mis hwn yn dwyn ynghyd straeon sy'n edrych y tu hwnt i'r penawdau. Maent yn dangos nad yw gwella gofal iechyd yn ymwneud â datrys problemau heddiw yn unig. Mae'n ymwneud â chreu'r amodau ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell, darparu gwasanaethau gwell a chynnig profiadau gwell dros amser.
Newyddion digidol Cymru y mis hwn
Sut mae ymchwil a dylunio yn trawsnewid llythyrau brechu
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn esbonio sut mae ailgynllunio llythyrau apwyntiadau brechu drwy ymchwil gyda defnyddwyr a dylunio cynnwys yn debygol o arbed mwy na £41,000 y flwyddyn. Profodd y tîm ddyluniadau dwyieithog newydd gyda'r cyhoedd, gan wneud gwybodaeth bwysig yn haws i'w gweld, gwella hygyrchedd a chreu dull y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer cyfathrebiadau'r GIG yn y dyfodol. Mae hyn yn dangos sut gall buddsoddi mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr wella profiad pobl o wasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau arbedion sylweddol ar yr un pryd.
Y tîm oedd y seilwaith
Mae Anne Marie Cunningham yn myfyrio ar sut y llwyddodd Cymru i adeiladu System Imiwneiddio Cymru mewn llai na phum mis drwy ddibynnu ar dîm amlddisgyblaethol profiadol oedd eisoes yn deall gwasanaethau imiwneiddio ac yn gallu addasu'n gyflym wrth i'r gofynion newid. Yn hytrach na chaffael system newydd, bu'r tîm yn gweithio'n agos gyda staff rheng flaen, yn gwella'r gwasanaeth yn barhaus ac yn adeiladu system a gefnogodd un o raglenni brechu COVID-19 cyflymaf y byd. Mae'r stori'n dangos gwerth buddsoddi mewn timau digidol sefydlog sydd â gwybodaeth ddofn o'r maes, yn hytrach na dibynnu ar brosiectau tymor byr.
Llwybr y drain: chwe mis cyntaf arwain newid ym maes gofal iechyd
Mae Ayala Gordon yn ysgrifennu am ei chwe mis cyntaf fel Perchennog Gwasanaeth yn GIG Cymru, gan edrych ar yr hyn sydd ei angen i arwain trawsnewid digidol mewn amgylchedd gofal iechyd cymhleth. Mae'n dadlau bod cynnydd yn dibynnu llai ar fod â'r holl atebion, ac yn fwy ar feithrin ymddiriedaeth, croesawu safbwyntiau gwahanol, creu lle i ddysgu a helpu timau amlddisgyblaethol i weithio drwy gymhlethdod gyda'i gilydd. Mae'n cynnig safbwynt gonest ar yr arweinyddiaeth, y perthnasoedd a'r diwylliant sydd eu hangen i sicrhau newid parhaol mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Beth yw "gofal rhagorol" mewn gwirionedd, ac a yw gwasanaethau'n mesur yr hyn sy'n bwysig?
Mae Ben Eaton o Llais yn dadlau y dylid barnu ansawdd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ôl profiadau pobl, nid yn unig drwy fframweithiau sefydliadol na mesurau perfformiad. Gan dynnu ar Egwyddorion y Bobl Llais, mae'n gwneud yr achos dros ddefnyddio profiadau byw ochr yn ochr ag ymchwil a data gweithredol i lywio penderfyniadau a gwella gwasanaethau. Mae'r erthygl yn dangos pam mae deall profiadau go iawn pobl o ofal yn hanfodol i ddylunio, mesur a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.
Gofal brys ac argyfwng y GIG – system dan bwysau parhaus
Mae Archwilio Cymru yn dod â chanfyddiadau ei waith diweddar ar ofal brys ac argyfwng ynghyd, gan dynnu sylw at y pwysau parhaus ar draws y GIG er gwaethaf cyllid ychwanegol a mentrau newydd. Mae'r adroddiad yn nodi heriau parhaus, gan gynnwys oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, prinder gweithlu a diffyg rhannu data effeithiol. Mae hefyd yn nodi chwe chwestiwn i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol eu hystyried. Mae'r adroddiad yn atgyfnerthu'r angen am arweinyddiaeth ar draws y system, defnydd gwell o ddata a chydweithio parhaus rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i wella canlyniadau i bobl Cymru.
Cysylltu systemau i wella llif cleifion ar draws iechyd a gofal
Mae Comisiwn Bevan wedi cyhoeddi papur newydd sy'n edrych ar sut gall cydlynu gwell rhwng gwasanaethau iechyd a gofal wella llif cleifion, lleihau amseroedd aros a sicrhau canlyniadau gwell. Mae'r papur yn nodi saith cam lle mae oedi ac aneffeithlonrwydd yn digwydd, ac yn dadlau bod atal, partneriaethau cryfach a helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain yn allweddol i leihau'r pwysau ar y system. Mae'n symud y ffocws o wella gwasanaethau unigol i wella'r ffordd mae'r system iechyd a gofal gyfan yn gweithio gyda'i gilydd.
Digwyddiadau i ddod
Wythnos Gwasanaethau 2026 - 29 Mehefin i 3 Gorffennaf. Wythnos o ddigwyddiadau ar-lein ynglŷn â darparu gwasanaethau cyhoeddus. Amserlen llawn.
Founders Night Swansea – 7 Gorffennaf, 6.00pm, Tramshed Tech, Abertawe.
#10 - Focus on health and care in Wales
Helo bawb. Hi everyone.
Most of us here at Transform Wales work in the health sector in Wales in some shape or form.
There is no shortage of ideas about what needs to improve in health and care in Wales. Waiting times, delayed discharge, workforce pressures and rising demand all remain major challenges. But while we often debate what needs to change, we spend less time discussing how we make that change happen.
It's easy to conclude that the answer lies in more funding, more technology or another restructure. Those things all have a role, but this month's stories suggest something else matters just as much: how we approach change.
We often judge health and care by the outcomes we can see: waiting times, ambulance delays or hospital performance. But behind every outcome is a series of decisions about how services are designed, delivered and improved.
This month's newsletter brings together stories that look beneath the headlines. They show that improving healthcare isn't only about solving today's problems. It's about creating the conditions for better decisions, better services and better experiences over time.
This month’s digital news in Cymru
How research and design is transforming vaccination letters
Digital Health and Care Wales explains how redesigning vaccination appointment letters through user research and content design is expected to save more than £41,000 a year. The team tested new bilingual designs with members of the public, making important information easier to find, improving accessibility and creating a reusable approach for future NHS communications. This shows how investing in user-centred design can improve people's experience of public services while delivering significant cost savings at scale.
The team was the infrastructure
Anne Marie Cunningham reflects on how Wales built the Welsh Immunisation System in under five months by relying on an experienced, multidisciplinary team that already understood immunisation services and could adapt quickly as requirements changed. Rather than procuring a new system, the team worked closely with frontline staff, iterated continuously and built a service that supported one of the world's fastest COVID-19 vaccination programmes. It makes a compelling case for investing in long-lived digital teams with deep domain expertise, rather than funding short-term projects, to deliver resilient public services.
The path of thorns: leading change in healthcare, six months in
Ayala Gordon writes about her first six months as a Service Owner in NHS Wales, exploring what it takes to lead digital transformation in a complex healthcare environment. She argues that progress depends less on certainty than on building trust, embracing different perspectives, creating space for learning, and helping multidisciplinary teams navigate complexity together. It matters because it offers an honest perspective on the leadership, relationships and culture needed to deliver lasting change in digital public services.
What does “outstanding care” really look like, and are services measuring what matters?
Ben Eaton from Llais argues that quality in health and social care should be judged by people's experiences, not just organisational frameworks or performance measures. Drawing on Llais' People's Principles, he makes the case for using lived experience alongside research and operational data to shape decisions and improve services. It highlights why understanding people's real experiences of care is essential to designing, measuring and delivering better public services.
NHS urgent and emergency care – a system under constant pressure
Audit Wales brings together findings from its recent work on urgent and emergency care, highlighting persistent pressures across the NHS despite additional funding and new initiatives. The report identifies ongoing challenges including ambulance handover delays, delayed hospital discharges, workforce shortages and poor data sharing, and sets out six questions for the Welsh Government, NHS Wales and local authorities to address. It reinforces the need for whole-system leadership, better use of data and sustained collaboration across health and social care to improve outcomes for people in Wales.
Connecting systems for better patient flow in health and care
The Bevan Commission has published a new paper exploring how better coordination across health and care services could improve patient flow, reduce waiting times and deliver better outcomes. The paper identifies seven stages where delays and inefficiencies occur and argues that prevention, stronger partnerships and helping people manage their own health are key to reducing pressure on the system. It shifts the focus from improving individual services to improving how the whole health and care system works together.
Upcoming events
Services Week 2026 - 29 June to 3 July. A week of online events about delivering public services. Full schedule.
Founders Night Swansea - 7 July at 6pm, Tramshed Tech Swansea.