Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
Log in
Subscribe
7 August 2026

Newyddion Natur Ceredigion 07/08/26

Newyddion Natur Ceredigion 07/08/26

Gwylio Gwyllt Gorllewin Cymru

Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod y bywyd gwyllt lleol. 10am – 1pm.

Eich Llecyn Gwyllt – Awst

  • Coed y Bont – Dydd Sadwrn 8 Awst 10am-1pm.
  • Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark – Dydd Mercher 12 Awst 10am-1pm.
  • Canolfan Natur Ynys-las, Y Borth – Dydd Mercher 19 Awst 9-11am.

Gweithgareddau

Digwyddiadau yn Fferm Denmark

Pwll Bywyd Gwyllt Syml

Dydd Iau 13 Awst, 9:30am - 12:30pm. Dysgwch sut i greu pwll bach, mewn casgen, sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac sy’n addas i hyd yn oed yr ardd leiaf. Byddwn yn trafod lleoliadau, planhigion a gwaith cynnal a chadw, a sut i’w wneud yn addas i fywyd gwyllt, anifeiliaid anwes a phlant. LLEOEDD AM DDIM i drigolion lleol. 

Creu Gardd Ffrwythau a Llysiau Gynaliadwy

Dydd Mercher 19 Awst, 10:00am - 12:00pm. Dysgwch am y flwyddyn tyfu llysiau a ffrwythau – pryd i wneud beth – a darganfyddwch ffynonellau da o gymorth a gwybodaeth am lysiau a ffrwythau. LLEOEDD AM DDIM i drigolion lleol.

Diwrnod Ymuno, Hau, Tyfu a Rhannu

Ymunwch â Phrosiect Gardd ‘Laudato Si’ i glywed anerchiadau ysbrydoledig a chymryd rhan mewn gweithdai ymarferol ddydd Sadwrn 19 Medi, 11.30am-4.30pm yn Eglwys y Santes Anne, Penparcau, Aberystwyth.  

Cynhadledd Flynyddol Canolfan y Dechnoleg Amgen

Ymunwch â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ar gyfer penwythnos o deithiau, anerchiadau a gweithdai sy’n archwilio sut y gallwn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Dydd Gwener 21 Awst – Dydd Sul 23 Awst. 

Digwyddiad cymdeithasol yr haf i wirfoddolwyr

Dewch i drafod materion sy’n ymwneud â recriwtio gwirfoddolwyr, eu cefnogi a’u rheoli yng Ngheredigion. Dydd Iau 27 Awst, 10am-12 canol dydd. 

Beyond the Bird Table

Podlediad newydd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, Beyond the Bird Table. 
Mae’r bennod beilot yn fyw’n awr, a’i theitl yw ‘A is for Auk’. 

Orchid Meadows

Montage of photos of glaming site, showing tents and aerial view of fields and wood, with text 'Glamping on a rewilding nature reserve in Wales: Where will you explore?

Mae gan Orchid Meadows, sef safle glampio a gwarchodfa natur dad-ddofi ger Tregaron, leoedd gwag i bobl a fyddai’n hoffi aros yno yn ystod yr haf eleni gyda’r posibilrwydd o ddilyn cyrsiau byw yn y gwyllt. Dyma gyfle i archebu llety fforddiadwy ac addas i deulu yn y Red Kite Yurt neu’r Goldfinch Glampavan, a chyfle i ymgolli ym myd natur a mwynhau profiadau o fyw yn y gwyllt ar y safle gyda Natur Ni, sef ysgol goedwig leol.  

Cyrsiau a hyfforddiant

Cwrs Hadau

Cwrs ar-lein am gasglu a phrosesu hadau. Dydd Mercher 26 Awst, 10-11.30am. 

Cyrsiau Cadwraeth

Mae’r cyrsiau i gyd yn costio £190, ar wahân i’r un cyntaf.

  • Cwrs: Lansio eich gyrfa ym maes cadwraeth bywyd gwyllt = Am ddim 
  • Gwaith hwyluso ym maes cadwraeth bywyd gwyllt   
  • Gwaith ymgynghori ym maes cadwraeth bywyd gwyllt  
  • Gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ym maes cadwraeth bywyd gwyllt  
  • Gwaith monitro a gwerthuso ym maes cadwraeth bywyd gwyllt  
  • Gwaith cynllunio prosiect ym maes cadwraeth bywyd gwyllt  
  • Ysgrifennu cais am grant ym maes cadwraeth bywyd gwyllt  
  • Gwaith rheoli prosiect ym maes cadwraeth bywyd gwyllt

Ymgynghorydd Perllannau Cymunedol

Diben y rhaglen hyfforddiant am ddim yw rhoi i gyfranogwyr y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol sy’n angenrheidiol i weithio fel ymgynghorwyr llawrydd ynghylch perllannau i The Orchard Project a sefydliadau eraill. 

Ysgol Goedwig Wildways

Mae Elemental Adventures yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc 8 i 15 oed ennill cymwysterau cydnabyddedig gydag Agored Cymru.  

Cyrsiau ar-lein y Cyngor Astudiaethau Maes = £20+.

  • Cyflwyniad i Garlymoliaid 
  • Darganfod Rhedyn  
  • Darganfod Morloi’r DU 
  • Dyfrgwn y DU

Cyllid

Grantiau Bach Gwyrdd

Mae grantiau o £300 i £20,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd. 

Coed am ddim

Pecynnau am ddim o goed ifanc ar gyfer unrhyw sefydliad addysgol a phob math o awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol dielw. Derbynnir ceisiadau’n awr am goed ifanc a fydd yn cael eu dosbarthu ym mis Tachwedd. 
Cyllid Ymddiriedolaeth Elusennol  
Cyllid i sefydliadau ar gyfer prosiectau sy’n helpu pobl anabl neu ddifreintiedig i gysylltu â byd natur a chefn gwlad. Dyddiad cau: Dydd Llun 24 Awst. 

Adnoddau

Archwiliwr Map Bele’r Coed

Map ar-lein rhyngweithiol sy’n dangos achosion o weld bele’r coed ar draws y DU, er mwyn hybu gwaith cadwraeth a gwella dealltwriaeth o adferiad y rhywogaeth. 

Canllawiau Dyfrhau

Dyfrhau coed sydd newydd gael eu plannu, yn ystod cyfnod pan fo defnyddio pibellau dŵr wedi’i wahardd. 

Coed a sychder

Cipolwg ar y problemau sy’n ymwneud â choed a sychder. 

Rhannu eich man awyr agored

Ffyrdd syml o gynorthwyo bywyd gwyllt yn eich man awyr agored. 

Llythyr newyddion

Llythyr Newyddion Ffermio a Bioamrywiaeth y Mynydd Bach. Gweler ynghlwm. 

Screenshot of Mynydd Back newsletter with aerial view of SSSI

Ymgynghori

Y Papur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol

Rhan o ymrwymiad 100 diwrnod y Llywodraeth i sefydlu gwaith ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur er mwyn helpu i wireddu’r uchelgais sero net erbyn 2040 a hybu adferiad sylweddol i natur erbyn 2050. Dyddiad cau: Dydd Mercher 14 Hydref. 

Swyddi a gwirfoddoli

Geomorffolegydd

Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru. Dyddiad cau: Dydd Llun 17 Awst.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â [email protected]

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact [email protected]

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Mynydd Bach Farming - July 2026 - Newsletter 2.pdf
Download
Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
← Newer Wales Regional Tree Warden Forum Older → Ceredigion Nature Newsletter 07/08/26
naturceredigion.cymru
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.