Fflach Newyddion Natur Ceredigion 24/08/26
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 24/08/26
RHWYDWAITH WARDEINIAID COED CEREDIGION
Dewch i fod yn Warden Coed gyda Phartneriaeth Natur Leol Ceredigion.
Oes gennych chi ychydig oriau i’w sbario ac a hoffech chi wneud gwahaniaeth go iawn i natur yn eich cymuned?
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n tîm o Wardeiniaid Coed. Does dim angen unrhyw brofiad – byddwn ni’n darparu:
Hyfforddiant llawn
Cyfarpar diogelu personol
Yr holl offer y bydd arnoch eu hangen, o fewn rheswm.
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio’n bennaf am wirfoddolwyr i helpu i ddyfrhau coed sydd newydd gael eu plannu yn Nhal-y-bont ac Aberystwyth, ond rydym yn awyddus i recriwtio Wardeiniaid Coed o bob cwr o Geredigion i gynorthwyo i blannu a gofalu am goed ar draws y sir yn y dyfodol.
Cysylltwch â [email protected] heddiw i gael gwybod mwy ac i ymuno â rhwydwaith cynyddol o bobl sy’n gofalu am ein hamgylchedd lleol.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu coed Ceredigion i ffynnu am genedlaethau i ddod.
GWASANAETHAU NATUR LLEOL
Ydych chi’n rhedeg busnes neu sefydliad sy’n ymwneud â natur?
Mae’r cylchlythyr hwn yn lle gwych i hyrwyddo eich gwaith a chyrraedd pobl sy’n poeni am natur, bywyd gwyllt a’r amgylchedd ar draws Ceredigion.
Efallai eich bod yn arddwr; yn rhywun sy’n difa plâu mewn modd sy’n garedig i fywyd gwyllt; yn werthwr planhigion neu flodau gwyllt; yn rhywun sy’n tyfu cynnyrch ar randir; yn gynhyrchydd lleol; yn ymgynghorydd amgylcheddol; yn grŵp cadwraeth; yn fusnes sy’n seiliedig ar natur; neu hyd yn oed yn rhywun sydd â blwch gonestrwydd ac sy’n gwerthu planhigion, cynnyrch neu nwyddau’n ymwneud â natur.
Os hoffech hysbysebu neu hyrwyddo rhywbeth mewn cylchlythyr yn y dyfodol, cysylltwch â [email protected] i rannu eich manylion.
Helpwch ni i gefnogi cymuned natur leol Ceredigion a rhoi llwyfan iddi
GWEITHGAREDDAU
Taith Ystlumod
Ymunwch â Grŵp Ystlumod Gogledd Ceredigion ar Daith Ystlumod i ddathlu Noson Ryngwladol Ystlumod nos Sadwrn 29 Awst, 8:30pm.
Bio-Blitz
Ymunwch â Chanolfan y Dechnoleg Amgen i fwynhau diwrnod am ddim i’r teulu lle byddwch yn darganfod ac yn cofnodi bywyd gwyllt lleol drwy archwilio pyllau, dal gwyfynod, arolygu ieir bach yr haf, a cherdded ar draws dolydd. Dydd Llun 31 Awst, 10am–3pm.
Helfa Beledi Plastig Fyd-eang 2026
Paratowch i ymuno â gwirfoddolwyr o gwmpas y byd rhwng dydd Gwener 4 Medi a dydd Sul 4 Hydref er mwyn helpu i gasglu tystiolaeth hanfodol o lygredd peledi plastig, codi ymwybyddiaeth ohono a dangos ei fod yn broblem fyd-eang.
Gwobrau Caru Ceredigion Awards
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2026, wrth baratoi i ddathlu llwyddiannau eithriadol busnesau, cymunedau ac unigolion y sir am y drydedd flwyddyn yn olynol. Dyddiad cau dydd Gwener 16 Hydref.
SWYDDI
Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd
Dyddiad cau Dydd Sul 30 Awst.
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Dyddiad cau: Dydd Mercher 2 Medi.
Hwylusydd Sesiynau sy’n siaradwr Cymraeg
Mae Thrive yn chwilio am Hwylusydd Sesiynau, sy’n siaradwr Cymraeg, i weithio bob dydd Mercher o fis Medi ymlaen.