Fflach Newyddion Natur Ceredigion 17/04/26
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 17/04/26 |
|---|
Cyfarfod Partneriaeth Natur Leol CeredigionCynhelir y cyfarfod chwarterol hybrid nesaf ddydd Mawrth 21 Ebrill 10am-4pm yng Ngheinewydd. Yn ogystal â sgwrs gan Josh, y Dyn Bywyd Gwyllt, bydd TAITH AM DDIM MEWN CWCH o gwmpas Craig yr Adar. Does dim rhaid ichi ddod i’r cyfarfod na bod yn aelod i fynd ar y daith, ond mae’r lleoedd yn brin, a’r cyntaf i’r felyn gaiff le. Gallwch drefnu’ch lle yn y cyfarfod a/neu ar y daith ar y cwch yma. Gweler yr agenda ynghlwm.https://www.eventbrite.com/e/1986072711945?aff=oddtdtcreator |
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU - EBRILLSesiynau am ddim yn cofnodi bywyd gwyllt gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt lleol.
|
GWEITHGAREDDAUClybiau Plant Ar Ôl YsgolBob dydd Mawrth o 12 Ebrill i 19 Mai yng Ngardd Enfys = £4. Gweler ynghlwm. Gwyddoniaeth FudrArchwilio mater afiechydon heintus ym maw cŵn nos Lun 20 Ebrill 5.30 -7.30pm ym Mar Theatr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Gweld yr Adar ym Mhlas CrugMwynhau taith i weld adar gydag arbenigwr ddydd Gwener 24 Ebrill 2pm. Gweithdy CompostioRhaid trefnu ymlaen llaw. Dydd Gwener 24 Ebrill 10am-2.30pm. Llandysul. Llesiant Tymhorol a Gweithdy CoginioDysgu am fyw a bwyta yn ôl y tymhorau a chrefft glanhad naturiol yn y gwanwyn. Dydd Sadwrn 25 Ebrilll ym Mwlch-llan. Gweler ynghlwm. = £50 Saffari ar Lan y DŵrArchwilio pyllau’r creigiau am grancod, pysgod, pysgod anemoni, malwod môr a mwy yng Ngheinewydd ddydd Sswrn 2 Mai 2.30-4pm. Ocsiwn GwenynOs hoffech brynu neu werthu offer cadw gwenyn, ewch i Goed-y-Bryn ddydd Sadwrn 2 Mai o 10.30am. Gweler ynghlwm. |
ARIANNUGrantiau Cymunedol GwyrddGrantiau hyd at £25,000 ar gyfer grwpiau nid-er-elw. Dyddiad cau: Dydd Mercher 22 Ebrill. Ariannu Coed, Cloddiau a PherllannauMae gan y Cyngor Coed nifer o gyfleoedd ariannu i gefnogi prosiectau cymunedol coed, cloddiau a pherllannau. |
CYSTADLAETHAUCystadleuaeth am LyfrEnnill copi o lyfr Nigel Adams Hedgelaying: The Complete Guide to a Rural Traditional Rural Craft. Dyddiad cau: Dydd Sul 19 Ebrill. Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Lluniau o’r CefnforCystadleuaeth sy’n agored i ffotograffwyr o bob oed a lefelau profiad yn chwilio am luniau grymus o’r cefnfor. Dyddiad cau: Dydd Gwener 30 Medi. |
WEBINARAUPerygl sychdwr - Creu Coedlannau a ChoedwigaethCael y diweddaraf o waith ymchwil diweddar yn archwilio effeithiau sychdwr ar goedwigoedd y DG. Dydd Mawrth 21 Ebrill 10 – 11.15am. Ffermio yn ôl y TywyddArchwilio sut gall coed ddiogelu tirwedd gan gynnig lloches, cysgod a chefnogi llesiant a chynhyrchu da. Nos Iau 30 Ebrill 6.30-8pm. Planhigion Brodorol y DGDysgu am y rhywogaethau a’r is-rywogaethau planhigion sydd i’w cael yn y DG. Dydd Mawrth 5 Mai 12.30-2pm = £12.50. Pryfed Cop Gwe OrbDysgu am un o’r grwpiau mwyaf cyffredin o bryfed cop yn y DG. Nos Fawrth 5 Mai 6-7.30pm = £12.50. |
SWYDDI A GWIRFODDOLIBioBlitz 2026 – Galw ar Arbenigwyr!Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark yn gobeithio rhedeg BioBlitz gyda thimau o wyddonwyr gwirfoddol ac aelodau eraill o’r gymuned yn gweithio gyda’i gilydd i enwi a chwilio am gynifer â phosibl o fathau o blanhigion, anifeiliaid, ffyngau ac organebau eraill. Swyddog Amgylchedd (Cadwraeth)Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyddiad cau: Dydd Sul 19 Ebrill. Swyddog Prosiect Uwch Cynefin i WenynYmddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn. Dydd Llun 27 Ebrill. Cyfarwyddwr GweithredolSea-Changers. Dyddiad cau: Dydd Iau 30 Ebrill. Swyddog Atebion ar Sail NaturNational Landscapes Association. Dyddiad cau: Dydd Gwener 1 Mai. Cynghorydd Coedlannau CymruCoed Cadw. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 5 Mai. |