Fflach Newyddion Natur Ceredigion 10/04/26
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 10/04/26 |
|---|
Cyfarfod Partneriaeth Natur Leol CeredigionCynhelir y cyfarfod chwarterol hybrid nesaf ddydd Mawrth 21 Ebrill 10am-4pm yng Ngheinewydd. Yn ogystal â sgwrs gan Josh, y Dyn Bywyd Gwyllt, bydd TAITH AM DDIM MEWN CWCH o gwmpas Craig yr Adar. Does dim rhaid ichi ddod i’r cyfarfod na bod yn aelod i fynd ar y daith, ond mae’r lleoedd yn brin, a’r cyntaf i’r felyn gaiff le. Gallwch drefnu’ch lle yn y cyfarfod a/neu ar y daith ar y cwch yma. Gweler yr agenda ynghlwm.https://www.eventbrite.com/e/1986072711945?aff=oddtdtcreator |
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU - EBRILLSesiynau am ddim yn cofnodi bywyd gwyllt gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt lleol.
|
Creincwr (Daliwr Crancod) Gwirfoddol ar gyfer Sesiynau Creinca Am Ddim 🦀Mae angen rhywun â diddordeb yn y môr i redeg sesiwn creinca yng Ngorffwysfa’r Pysgotwr yn ystod hanner tymor mis Mai neu wyliau haf yr ysgolion 2026. Bydd y sesiynau’n cyd-fynd â’r llanw uchel, am tua 4 awr mewn adegau o hanner awr. Y nod yw helpu addysgu plant ac oedolion am bwysigrwydd cael hwyl ar lan y môr heb blastig a’u helpu i ddod i adnabod crancod. Mae nifer fach o rwydi crancod pren ar gael am ddim i’w defnyddio a’u cadw ar ôl y sesiwn. Cysylltwch â catchofthedaycardigan@btconnect.com i drefnu’ch amser neu ffoniwch Jane ar 01239 612359 i drafod gwirfoddoli. (Cyfleusterau ar gael ar y safle). Mae’r gweithgaredd hwn yn rhan o Brosiect Arfordir Teifi sy’n cael ei ariannu drwy LNP-WG-WcVA-Coastal Fisheries. |
Arolwg Rhanddeiliaid ArfordirolMae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu APEM i gynnal Arolwg Rhanddeiliaid Arfordirol er mwyn cael darlun cliriach o:
|
GWEITHGAREDDAUClwb Ar Ôl YsgolBydd y Clwb Ar ôl Ysgol yng Ngardd Enfys yn dechrau eto ddydd Mawrth 14 Ebrill, 3.30 - 5pm. Sesiynau i adael plant 5 i 11 oed yw’r rhain = £4 y sesiwn. Caffi a Chyfnewid HadauPrynhawn i gyfnewid nwyddau garddio am ddim - hadau, planhigion ifanc, toriadau ac awgrymiadau yn Aberteifi. Dydd Sadwrn 18 Ebrill 1-4pm. Fflora Constitution HillYmddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Y Wennol Ddu GyffredinDysgu sut i adnabod mannau nythu’r Wennol Ddu yn eich tref neu eich pentref drwy esbonio’r broses o chwilio am safle nythu. Nos Fawrth 21 Ebrill 7pm. Gweithdy Llesiant a Choginio TymhorolDysgu am fyw a bwyta yn ôl y tymhorau a chrefft glanhad naturiol y gwanwyn eleni. Dydd Sadwrn 25 Ebrill 11am-2pm ym Mwlch-llan. Gweler ynghlwm = £50. Prosiect Bioamrywiaeth a Ffermio Mynydd-bachDigwyddiad llawn am ddim ar y fferm ddydd Gwener 24 Ebrill ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gweler ynghlwm. |
SWYDDIMae angen Porwr CadwraethOxygen Conservation – Esgair Arth. Gweler ynghlwm. Swyddog ProsiectCoetir Anian. Dyddiad cau: Dydd Mercher 15 Ebrill. |