Fflach Newyddion Natur Ceredigion 24/04/26
CYng
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 24/04/26 |
|---|
Cadwch ddydd Sadwrn 25 Ebrill yn rhydd am prynhawn llawn gweithgareddau hwyliog sy’n dathlu gwenoliaid duon … a rhinos hefyd!Prynhawn gwych yn helpu Neuadd Goffa Caerwedros i ddathlu ei phen-blwydd yn 75 oed gydag agoriad swyddogol tŵr gwenoliaid duon cyntaf Ceredigion – Hafod y Wennol. Gweler ynghlwm. |
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU - EbrillSesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt yn lleol. Dydd Mercher 29 10am-1pm: Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi |
Miliwn o Gamau ar gyfer Bywyd Gwyllt CymruBydd Josh, y Dyn Bywyd Gwyllt,yn cerdded 1,000,000 o gamau ym mis Ebrill - dros 33,000 o gamau bob dydd - i godi arian at Gymdeithas Adaryddol Cymru a Chymru Wyllt. Mae pob cam yn cefnogi gwaith cadwraeth hanfodol. |
WEBINARAUWebinar ar Gynllunio RhandirCael arweiniad ar yr hyn sy’n gorfod cael caniatâd cynllunio a sut i gael caniatâd cynllunio os bydd eisiau. Dydd Mercher 29 Ebrill 2-3pm. Gwarchod Enghreifftiau BotanegolAwgrymiadau a thechnegau ar gyfer gwasgu enghreifftiau botanegol sy’n gallu cyfrannu at lysieufa neu gasgliad neu eu hanfon at ganolwr rhywogaethau fel y dyn ei hun i’w cadarnhau. Nos Fawrth 28 Ebrill 7-8pm. |
GWEITHGAREDDAUGweithdy Ysgrifennu Creadigol/BarddoniaethCyflwyniad i ddigwyddiadau yn Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran a sut i wylio bywyd gwyllt, yna gweithdy ysgrifennu creadigol/ barddoniaeth. Dydd Sadwrn 25 Ebrill 10.30am - 3.30pm. Am ddim ond rhaid trefnu drwy’r e-bost hwn c.rogers@welshwildlife.org Sesiynau IogaSesiynau Ioga sy'n cael eu cynnig yn Hwb Natur Ynys-las Gwaith Fforio’r Gwanwyn |
GWIRFODDOLISesiwn Wybodaeth i Wirfoddolwyr CAVOCyngor cyfeillgar, anffurfiol am: Gyfleoedd gwirfoddoli lleol, dysgu sgiliau a chael profiad a chael swyddi sy’n addas i’ch diddordebau chi dydd Mercher 29 Ebrill 10am–4pm yng Nghanolfan Byd Gwaith Aberystwyth. BioBlitz 2026 – Chwilio am arbenigwyr!Mae Canolfan Cadwraeth Fferm Denmark yn gobeithio rhedeg BioBlitz gyda thimau o wyddonwyr gwirfoddol,teuluoedd, myfyrwyr, athrawon ac aelodau eraill o’r gymuned yn gweithio gyda’i gilydd i weld ac adnabod cynifer â phosibl o fathau o blanhigion, anifeiliaid, ffyngau ac organebau eraill. Ydych chi’n hoff o fwsogl, yn dwli ar adar neu’n gweld creaduriaid heb asgwrn cefn yn ddiddorol? Hoffem ichi ymuno â grŵp bach o bobl i chwilio am rywogaethau. Anfonwch e-bost at Tigs yn info@denmarkfarm.org.uk os hoffech groesawu grŵp ddydd Sadwrn 30 Mai. Diolch! |