Jan. 6, 2025, 8:58 p.m.

Gardd Gobaith Hope Garden 12/2024

Hope Garden

Drone photo of edge of field by allotment
Sut y dechreuodd…
How it started…
Drone photo of garden in progress, with bark mulch down and new track, by allotment
…sut mae’n mynd
…how it’s going

Edrych yn ôl ar 2024

2024 in retrospect

“Human beings are works in progress that mistakenly think they’re finished.”
~ Dan Gilbert

O’r dechrau’n deg, mae gerddi’n waith sy’n datblygu’n gyson wrth fynd ymlaen. Dydy Gardd Gobaith yng Nghilgerran yng ngogledd Sir Benfro ddim yn wahanol. Pan ddechreuson ni ym mis Mehefin, y syniad cyffredinol oedd cael rhyw fath o weithredu cymunedol ar yr hinsawdd o gwmpas gardd goedwig bywyd gwyllt.

Nawr mae’r syniad yn datblygu, mewn ffyrdd diddorol ac annisgwyl, fel ystafell ddosbarth, llyfrgell a lle gweithdy.

Yn bennaf fe fydd yn ystafell ddosbarth awyr agored i ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion sy’n meddwl yn ecolegol yn wyneb yr argyfwng natur, gydag ardal dan gynfas yng nghanol cynefin bywyd gwyllt.

Nôl ym mis Medi cafodd disgyblion cynradd weithdy ID bywyd gwyllt ar y safle. Roedd yn llwyddiant diamheuol gan roi cychwyn ar y prosiect ID Natur Glaswelltir gan Glaswelltir Ceredigion Grassland, mewn hanner dwsin o ysgolion cynradd yng Ngheredigion.

Bydd Gardd Gobaith hefyd yn gartref i lyfrgell o blanhigion bythol i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arferion cnydau gwydn. Eisoes mae yna gasgliad helaeth yn crynhoi, i gael eu plannu fel rhan o weithdy gwanwyn. Bydd labeli clir ar y planhigion, yn amrywio o goed cnau i lwyni ffrwythau a llysiau bythol, a chaiff y rhandirwyr eu hannog i’w lluosi ymhellach.

Defnydd arall yn deillio o drafodaethau am economiau tir cynaliadwy yw lle gweithdy. Garden Wild Plants, sef y CCBC y tu cefn i gais Gardd Gobaith am arian, redeg gweithdai coedwig, a gallai’r partneriaid BlueGreenCymru ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer eu gweithdai natur awyr agored.

Wrth i’r gwaith dylunio a thirweddu ddechrau dod ynghyd, bydd digon o siawns i gyfleoedd eraill ddod yn amlwg.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yng Ngardd Gobaith hyd yma.

“Human beings are works in progress that mistakenly think they’re finished.”
~ Dan Gilbert

From the very beginning, gardens are continual works in progress. The Hope Garden in Cilgerran, north Pembrokeshire, is no exception. When we started in June, the general idea was for some form of community climate action around a wildlife forest garden.

Now, the idea is taking shape, in interesting and unexpected ways, as a classroom, library and workshop space.

Foremost, it will be an outdoor classroom to engage the next generation of ecologically minded citizens in the face of the nature emergency, with a canvas covered area, in the midst of wildlife habitat.

Back in September, primary school pupils had a wildlife ID workshop on the site. It was an unmitigated success, spawning the Glaswelltir Ceredigion Grassland‘s Grassland Nature ID project, across half a dozen primary schools in Ceredigion.

The Hope Garden will also be home to a library of edible perennials to promote the awareness and practise of resilient crops. Already, there is a large collection amassing, to be planted as part of a spring workshop. The plants, ranging from nut trees, to fruit bushes and perennial vegetables, will all be labelled clearly, and allotmenteers will be encouraged to propagate them further afield.

Another use arising from discussions about sustainable land-based economies is as a workshop space. Garden Wild Plants, the CIC behind the Hope Garden funding application, could run forest gardening workshops, whilst partners BlueGreenCymru could use it as a venue for their outdoor nature workshops.

As the design and landscaping work starts to pull together, there will be plenty of scope for other opportunities to become apparent.

A huge thank you to everyone who has taken part in the Hope Garden so far.

Blog

Blog

I ble mae’r dŵr yn mynd?
Cwestiwn sylfaenol ar gyfer unrhyw dir, ac yn enwedig ar gyfer gardd.

Darllenwch ragor…

Where does the water go?
A fundamental question for any land, and particularly a garden

Read more…

ID Natur Glaswelltir
Fel cyfres deledu dda, mae Gardd Gobaith wedi dechrau achosi amrywiaeth o wahanol syniadau a phrosiectau.

Darllenwch ragor…

Grassland Nature ID
Rather like a most excellent TV series, the Hope Garden has started to spin-off a variety of different ideas and projects

Read more…

Cyfarpar ID Bywyd Gwyllt i Ysgol Cilgerran

Mae arian wedi ei sicrhau i brynu cyfarpar ID bywyd gwyllt ar gyfer ysgol leol Gardd Gobaith, a gweithdai’n cael eu darparu gan Plantlife Cymru.
Darllenwch ragor…

Wildlife ID equipment for Cilgerran school
Funding has been secured for purchasing wildlife ID equipment for the Hope Garden‘s local school, with workshops provided by Plantlife Cymru

Read more…

Ffotograffiaeth Man Sefydlog FTW
Mae dau fraced FPP yn eu lle i helpu dogfennu cynnydd Gardd Gobaith.

Darllenwch ragor…

Fixed Point Photography FTW
Two FPP brackets are in place to help document the progress of the Hope Garden

Read more…

Digwyddiadau

Events

Tocio coed ffrwythau
Sad 11 Ion
Gweithdy Gardd Gobaith gyda Martin Hayes, perllannydd o fri rhyngwladol. Bydd mewn 2 le, y naill ger Gardd Gobaith a’r llall wrth Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru.

Fruit tree pruning
Sat 11th Jan
Hope Garden workshop with Martin Hayes, celebrated international orchardist. Will be on 2 sites, one near the Hope Garden and the other by the Welsh Wildlife Centre.

Plannu coed
Sad 22 Chwef
Gweithdy arall yng Gardd Gobaith, eto gyda Martin Hayes, a’r tro hwn hwn yn plannu coed. A phlanhigion eraill. Yng Ngardd Gobaith.
DS gall y dyddiad newid yn ôl y cynnydd gyda’r gwaith tirweddu!

Tree planting
Sat 22nd Feb
Another Hope Garden workshop, again with Martin Hayes, this time planting trees. And other plants. At the Hope Garden.
NB date may alter depending on landscaping progress!

Lluniau

Photos

Uchafbwynt 2024 oedd gweithdy Ysgol Cilgerran. Y siom oedd dyfodiad yr hydref-gaeaf a cholli tyweirch Gardd Gobaith 😢

The highlight of 2024 was the Cilgerran School workshop. The lowlight was the onset of autumn-winter and deturfing the Hope Garden 😢

Gathering of small children around an ecologist and some interesting bugs in a field
School children gathered around ecological discovery
Plant ysgol yn gwylio darganfyddiad ecolegol
What was a field, now deturfed with bark going down one edge of the allotment fence
Fairly barren foundations, protective bark mulch going down
Sylfeini digon moel, gosod tomwellt coed i’w diogelu

You just read issue #9 of Hope Garden. You can also browse the full archives of this newsletter.

Share on Facebook Share via email Share on Mastodon
This email brought to you by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.