Rhagymadrodd | Introduction |
---|---|
Croeso i Ardd Gobaith, man ymgynnull cymunedol yng nghanol gardd goedwig ym mhentref Cilgerran yng ngogledd Sir Benfro. Dyma’r cylchlythyr cyntaf ers inni gael arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Mehefin, ac mae llawer wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni. Mae yna wefan hardd yn hopegarden.uk sy’n cael ei chyfieithu i’r Gymraeg, cyfres o weithdai am ddim a thocynnau ar Evenbrite. Mae Marianne wedi dechrau dylunio’n fras, rydw i wedi bod yn creu rhestr o blanhigion, mae Yusef o Ganolfan Gwybodaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru wedi cwblhau arolwg ecolegol, ac rydw i wedi ychwanegu’r rhestr o blanhigion brodorol ar y wefan. Darllenwch ragor. | Welcome to the Hope Garden, a covered community meeting space at the heart of a wildlife forest garden in the village of Cilgerran, north Pembrokeshire. This is the first newsletter since we received our National Lottery Heritage Fund funding back in June and there has been a lot happening behind the scenes. There’s a shiny website at hopegarden.uk, which is being translated into Welsh, a series of free workshops with tickets on Evenbrite, Marianne has started sketching designs, I’ve been putting together a wishlist of plants, Yusef from WWBIC has completed an ecology site survey, I‘ve added the native plant list to the website. Read on to find out more! |
Newyddion | News |
---|---|
Y grant Ddydd Llun 3 Mehefin 2024 clywsom y newyddion rhagorol fod ein cais am grant ar gyfer Gardd Gobaith wedi llwyddo. Mae’r arian ar gyfer gweithdai a chreu gardd goedwig gymunedol. Mae’r ‘Dibenion Cymeradwy’ isod yn rhoi crynodeb o’r prosiect a throsolwg weirioneddol ddefnyddiol. | The grant On Monday 3rd June 2024, we found out the amazing news that our grant application for the Hope Garden had been successful. The funding is for workshops and creating a community wildlife forest garden. The “Approved Purposes” summarise the project, and give a really useful overview. |
Arolwg Ecolegol Mae Yusef Samari yn ecolegydd diddorol a llawn gwybodaeth o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (y sefydliad sy’n gyfrifol am gydlynu cofnodion ecolegol). Gwnaeth arolwg ecolegol o’r Ardd Gobaith ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog iawn ym mis Gorffennaf, sy’n addas iawn gan fod y lle’n cael ei alw’n ‘Dir Porfa Corsiog’. Mae’r adroddiad PDF yn dangos map o’r safle, rhestr o’r tua 50 o fathau o blanhigion, dolenni i fap o rywogaethau yn yr ardal leol (tua 7,000!) a rhai syniadau am gynnal amrywiaeth a chynefin planhigion. Y syniad allweddol yw ein bod, drwy wybod pa fywyd gwyllt sy’n byw ar y safle, yn gallu llunio gardd sy’n cynyddu cynefinoedd a bwyd ar gyfer creaduriaid di-asgwrn-cefn. | Ecology Survey Yusef Samari is a wonderfully engaging and knowledgable ecologist from West Wales Biodiversity Information Centre (the organisation responsible for collating ecological records). He carried out an ecology survey on the Hope Garden site on a very wet and windy day in July, which is fitting, as it’s classified as ‘Marshy Grassland’. The PDF report shows a map of the site, a list of the approximately 50 plant species, links to a map of species in the local area (about 7,000!) and some ideas about retaining plant and habitat diversity. The key idea is that knowing what wildlife lives on the site means we can design a garden that increases habitat and food for invertebrates. |
Dylunio Gyda Gardd Gobaith rydym yn gobeithio creu enghraifft o’r ffordd y gallwn fyw yng nghanol natur gan wella cyfoeth bywyd drwy dyfu cnydau bwytadwy. Mae hynny’n dipyn o dasg. Felly rydym yn ffodus iawn i gael y dylunydd tirwedd dawnus Marianne Jones i weithio ar y prosiect. Mae yna brif elfennau yn y ardd – megis y man ymgynnull dan do, gwelyau llysiau lluosflwydd, coed ffrwythau a chnau, cloddiau a phorfa brodorol, llwybrau cyfleus – a rhaid i’r rhain gael eu gwau ynghyd yn gelfydd mewn lle cymharol fach. Yn ogystal â’r mathau o blanhigion brodorol sydd eisoes ar y safle, rydym wedi dechrau taenlen o blanhigion brodorol a phlanhigion gardd goedwig hefyd. Ond yr hyn sy’n hanfodol i ddod â’r holl elfennau hyn ynghyd yw’r bobl a fydd yn ymwneud â’r ardd: rhandirwyr Pen y Foidr, plant Ysgol Cilgerran a thrigolion Cilgerran ei hun. Dyna pam rydym yn rhedeg dau weithdy ar ddylunio gerddi, y naill yn yr Ysgol ym mis Medi a’r llall i oedolion ddydd Sul 6 Hydref. | Design With the Hope Garden, we wish to create an example of how we can live amongst nature, improving the richness of life whilst growing edible crops. This is quite a big ask. So we’re very lucky to have the accomplished landscape designer Marianne Jones working on the project. There are key elements in the garden — such as the covered meeting space, perennial vegetable beds, fruit and nut trees, native hedging and ground cover, accessible paths — and these have to be woven artfully together in what is not a huge space. As well as the native plant species already on site, we’ve started a spreadsheet of native and forest garden plants as well. But what is essential to bring all these elements together is the people who will be engaged with the garden: the allotmenteers at Pen y Foidr, the school children at Ysgol Cilgerran and the residents of Cilgerran itself. This is why we’re running two garden design workshops, one at the school in September and one for adults on Sunday 6 October. |
Gweithdai - AM DDIM | Workshops - FREE |
---|---|
I gadw cydbwysedd rhwng pobl a natur, rydym yn credu ei bod yn hanfodol rhannu ein gwybodaeth gyfan ac amrywiol. Y gyfres hon o weithdai am ddim yw sail ethos Gardd Gobaith. | To find the balance with people and nature, we believe it’s essential to share our accumulated and diverse knowledge. These series of free workshops underpin the ethos of the Hope Garden. |
gyda Jake Rayson Edrych ar y syniadau a’r arfer y tu ôl i Ardd Gobaith: garddio coedwig, garddio bywyd gwyllt gyda phlanhigion brodorol, a gwneud penderfyniadau gyda Chynulliadau Cymunedol. Cinio hefyd. | with Jake Rayson A look at the ideas & practise behind the Hope Garden: forest gardening, wildlife gardening with native plants, and inclusive decision making with Community Assemblies. Lunch included. |
gyda Yusef Samari WWBIC Adnabod planhigion, ffyngau, creaduriaid di-asgwrn-cefn a chreaduriaid eraill, addas ar gyfer pob lefel. | with Yusef Samari from WWBIC Identifying plants, fungi, invertebrates & other creatures, suitable for all levels. |
gyda Jake Rayson Syniadau a thechnegau o’r Ardd Gobaith i drawsnewid eich gardd yn baradwys o fwyd a bywyd gwyllt. | with Jake Rayson Ideas & techniques from the Hope Garden to transform your garden into a wildlife & edible paradise |
gyda Stephanie Hafferty Edrych ar fyd rhyfeddol llysiau lluosflwydd yng ngardd a rhandir yr awdures a’r arddwraig adnabyddus ei hun. | with Stephanie Hafferty A look at the wonderful world of perennial vegetables in renowned author and gardener’s own plot. |
🧑🤝🧑 Cynulliad Cymunedol gyda Ophelia Camp Cyflwyniad i’r ffordd o redeg Cynulliad Cymunedol, proses anffurfiol, gynhwysol a strwythuredig o wneud penderfyniadau. | 🧑🤝🧑 Community Assembly with Ophelia Camp An introduction on how to run a Community Assembly, an informal, inclusive & structured decision-making process. |
gyda Martin Hayes Dysgu hanfodion tocio gyda pherllannwr cydnabyddedig. | with Martin Hayes Learn the pruning fundamentals with nationally recognised orchardist. |
gyda Martin Hayes Dysgu sut i blannu coeden ffrwythau, gyda dulliau i’w gwarchod a’i chynnal. Byddwn yn plannu yng Ngardd Gobaith. | with Martin Hayes Learn how to plant a fruit tree, with guards & supports. We’ll be planting the Hope Garden. |
gyda David Hunter a Tracey Styles 3 diwrnod llawn o wneud meinciau glasgoed ar gyfer Gardd Gobaith, gyda’r tiwtoriaid profiadol iawn, David a Tracey. | with David Hunter & Tracey Styles Full 3 days of greenwood bench making of benches for the Hope Garden, with very experienced tutors David & Tracey. |
gyda Phil Blackwood Mae gan BlueGreenCymru flynyddoedd o brofiad o redeg gweithdai awyr agored er mwyn llesiant, a bydd Phil yn rhannu ei wybodaeth. | with Phil Blackwood BlueGreenCymru have years of experience running well-being outdoor workshops & Phil will be sharing his knowledge. |
🌰 Fforio gyda Salena Walker~ Y fforwraig, y llysieuydd a’r arddwraig Salena yn mynd â chi i fforio ar droed, gan arwain at sesiwn o wneud te. | 🌰 Foraging with Salena Walker Forager, herbalist & gardener Salena takes you on a walk to forage, which leads to a tea making session. |
Oriel luniau | Photo gallery |
---|
Cysylltiadau gobeithiol | Hopeful links |
---|---|
|
|