Newyddion a blog | News & blog |
---|---|
Mae’r gwaethaf o’r gaeaf ar ben, ond yng Ngardd Gobaith dydy oerfel a stormydd gwael y gaeaf ddim wedi ein rhwystro. Rydyn ni wedi bod yn brysur yn plannu, yn tocio, yn dylunio ac yn paratoi ar gyfer blwyddyn gyffrous i ddod. Darllenwch ymlaen i gael gwybod am ein gweithdy tocio ym mis Ionawr, y diweddaraf am ein llyfrgell blanhigion a’r olwg gyntaf am y ffordd y gallwch gymryd rhan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cofiwch ein dilyn ar Eventbrite fel na fyddwch yn methu cymryd rhan yn y gwanwyn. | The darkest days of winter are behind us, but at Hope Garden we haven’t let the bleakest midwinter cold and storms stop us. We’ve been busy planning, pruning, designing and gearing up for an exciting year ahead. Read on to find out about our January pruning workshop, an update on our plant library and the first look at how you can get involved later in the year. Don’t forget to follow us on Eventbrite so you don’t miss out on how you can get involved this spring. |
Llyfrgell Planhigion Wrth i Ardd Gobaith ddatblygu, felly hefyd yr amcanion. Y prif nod yw “lle cymunedol wrth galon gardd goedwig bywyd gwyllt”. Ystyr hyn yn ymarferol hyd yn hyn yw bod tri chanlyniad. | Plant Library As the Hope Garden develops, so do the aims and objectives. The overarching aim is a “community space at the heart of a wildlife forest garden“. What this means on the ground so far is three key outcomes. |
Gweithdy tocio i adfer O gofio’r tywydd, daeth tyrfa sylweddol ynghyd ar gyfer y gweithdy tocio ar ddydd Sadwrn oer. Mae Martin Hayes wedi bod yn dylunio, plannu a thocio perllannau ers blynyddoedd lawer, ac mae galw mawr am ei ddull difyr ac uniongyrchol. | Restorative pruning workshop Considering the weather, a considerable crowd gathered for the pruning workshop on a cold Saturday. Martin Hayes has been designing, planting and pruning orchards for many years and is much sought after for his engaging, no-nonsense approach. |
Digwyddiadau | Events |
---|---|
Tree planting day Dim angen profiad - dewch á’ch brwdfrydedd a’ch parodrwydd i roi eich dwylo yn y pridd. Byddwn yn darparu’r holl offer a’r arweiniad angenrheidiol. Cofiwch wisgo dillad cyffyrddus ac esgidiau caeedig. Eich tiwtor Mae’r perllannydd profiadol Martin Hayes wedi plannu miloedd lawer o goed ffrwythau, a bydd yn dysgu rhai awgrymiadau defnyddiol iawn ichi. | Tree planting day No experience is necessary - just bring your enthusiasm and willingness to get your hands dirty. We'll provide all the tools and guidance you need. Don't forget to wear comfortable clothes and closed-toe shoes. About your tutor Experienced orchardist Martin Hayes has planted many thousand fruit trees, and he will teach you some very useful tips and tricks. |
Gweithdy gwneud mainc o bren glasgoed Dydd Gwener, 11 Ebrill Ymunwch á ni yn y gweithdy Glasgoed i ddysgu sut i greu eich mainc eich hun o’r dechrau dros 3 diwrnod. Mae’r lleoedd ar y digwyddiad hwn i gyd wedi eu llenwi, ond mae lle ar y rhestr i enwau wrth gefn. | Greenwood bench making workshop Friday, 11 April Come join us at the Greenwood bench making workshop and learn how to craft your own beautiful wooden bench from scratch, over 3 full days. This event is sold out but there is space on the waiting list. |
Fideo | Video |
---|---|
Os na fuoch yn y gweithdy tocio, rydyn ni wedi ffilmio rhai o brif awgrymiadau Martin mewn dau fideo am ddim - edrychwch ar hwn, ac mae un arall yma. Gallwch gael sbec hefyd ar ein proses cynllunio a dylunio yn y ffrydio hwn gan Jake | If you missed our pruning workshop, we captured Martin giving some of his top tips in two free videos - check out this one, and a second one here. You can also get a sneak preview into our planning and design process with this stream from Jake here |
Cysylltiadau gobeithiol | Hopeful links |
---|---|
Y Llywodraeth yn gwrthod mesur y Toriaid ac yn atal defnyddio plaladdwyr argyfwng sy’n lladd gwenyn - buddugoliaeth i fioamrywiaeth Newyddion heb fod cystal am filiau dwr, ond cam cadarnhaol i’r amgylchedd: Cwmniau dwr wedi addo’r buddsoddiad mwyaf erioed i lanhau eu harferion ac atal llygru ein dyfrffyrdd. | Government overturns Tory measure and bans emergency use of bee-killing pesticide - a real win for biodiversity Not good news for water bills but a positive step for the environment: Water companies have pledged record investment to clear up their practices and stop polluting our waterways. |
Ac yn olaf … dyma lun gan drón o’r safle wedi ei dynnu yn ystod y mis diflas hwn. Byddwn yn ceisio dangos llun newydd bob mis i chi gael gweld sut mae’r safle’n datblygu dros y blynyddoedd i ddod. | And finally… we’ll leave you with a drone shot of the site taken on this bleakest of months. We’ll try to share a new one each month so you can see how the site develops over the years to come. |