Newyddion Natur Ceredigion 01/05/2026
Newyddion Natur Ceredigion 01/05/2026 |
|---|
Cyfarfod Partneriaeth Natur Leol Cerediogion ![]() |
PARTNERIAETH NATUR LEOL CEREDIGIONNodweddion Bywyd Gwyllt CymunedolYdych chi’n byw yng Ngheredigion ac oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi natur lle rydych yn byw? Rydym yn archwilio cyfleoedd i osod amrywiaeth o nodweddion bywyd gwyllt ledled Ceredigion – a hoffem glywed gennych chi. Gweler ynghlwm. Dychwelwch i biodiversity@ceredigion.gov.uk Dyddiad cau: Dydd Llun 18 Mai. |
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU - MaiSesiynau am ddim i gofnodi bywyd gwyllt gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt yn lleol. 10am- 1pm.
|
GWEITHGAREDDAUDigwyddiadau NaturEwch i Fantasy Farm i weld crefftau gyda Peggy ddydd Llun 4 Mai 12 Canol dydd. Gweithgaredd/Crefft y dydd i gael ei gyhoeddi. Saffari ar y LanChwilio ym mhyllau’r creigiau am grancod, pysgod, pysgod anemoni, malwod y môr a rhagor yng Ngheinewydd ddydd Gwener 9 Mai 1.30-3pm. Ieir Bach yr Haf yng Ngheredigion yn 2025Bydd Paul Taylor (Cofnodwr Ieir Bach yr Haf yng Ngheredigion) yn eich arwain drwy uchelfannau ac iselfannau bywyd ieir bach yr haf yn y sir y llynedd. Cyn hynny bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol byr. C22 Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth. Nos Lun 11 Mai 7pm. Digwyddiad Biosffer DyfiBydd digwyddiad i drafod gweithgareddau coed a choetiroedd ar draws Biosffer Dyfi ddydd Llun 11 Mai yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen. Mae’r manylion yma. Gobeithio eich gweld chi yno. Trwco – Theatr Byd BachArtistiaid, arweinwyr, meddylwyr amgylcheddol, llunwyr polisi a mwy yn dod ynghyd i archwilio syniadau pwysig yn gorgyffwrdd creadigrwydd, gwybodaeth a gweithredu ar yr hinsawdd. Dydd Gwener 15 Mai 10am-4pm = £25+ Caneuon Ein HynysoeddYmunwch â Chôr Cymunedol Côr Cei nos Sadwrn 16 Mai 7pm yn Llanina am noson o gerddoriaeth. Mynediad drwy gyfraniadau’n unig a’r holl elw’n mynd i gefnogi gwaith Canolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion. Gweithdai NaturDydd Sadwrn 16 Mai yn Neuadd yr Eglwys, Llanfihangel-Rhos-y-Corn. Gweler ynghlwm.
Gŵyl PeillwyrDdydd Sul 17 Mai 10am-4pm Cletwr byddwn yn cynnal Gŵyl Peillwyr gyda gweithgareddau i’r teulu cyfan i godi ymwybyddiaeth am anawsterau pryfed peillio a sut y gallwn eu helpu. Dathlu NaturewiseDangos llwyddiannau gan Naturewise, Aberteifi ddydd Mawrth 19 Mai 1.30-3.30pm. Gweler ynghlwm. Brecwast gyda Dolffin TrwynbwlGwylio Dolffiniaid Trwynbwl, Llamhidyddion, Morloi Llwyd ac adar môr ar y wal yr harbwr yng Ngheinewydd ddydd Sadwrn 23 Mai 9.30-11am = £2.88. Diwrnod Garddwriaeth Bysedd GwyrddTreulio’r dydd yn harddwch natur ar ein Diwrnod Garddwriaeth Bysedd Gwyrdd ddydd Sadwrn 30 Mai yn y Ddôl Flodau, Penrhiwpâl. Labordy Gwyddoniaeth y Môr - Dilyn Deiet DolffiniaidDysgu am fathau o ysglyfaethwyr,y broses dreulio a gwneud nifer i arbrofion rhyngweithiol wrth wylio dolffiniaid yng Ngheinewydd, ddydd Mercher 27 Mai. 10-11am = £5.04. Gweithgareddau Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru: Mai - £4
Teithiau Archwilio Bywyd Gwyllt Bae CeredigionYmunwch ag ymchwilwyr profiadol o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion mewn arolwg mawr drwy’r dydd ym Mae Ceredigion. Lleoedd yn brin, felly trefnwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi. £90.10+
|
WEBINARAU
Clywed gan ddau gadwriaethwr am yr heriau a’r cyfleoedd ym myd sgwrsio am y gylfinir. Nos Lun 1 Mai 6.30-7.30 pm.
Cyflwyno Pan-species Listing, menter gyffrous sy’n annog cystadlu gyfeillgar i gofnodi mwyaf o rywogaethau yn y DG. Nos Fercher 13 Mai 6.30-7.30pm.
Rhyngweithio rhwng Planhigion a Pheillwyr ac Amcanion Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig Dysgu pam mae rhyngweithio rhwng planhigion a pheillwyr yn bwysig, sut maen nhw’n sail i SDG y CU, a pha gamau all gefnogi dyfodol sy’n garedig i beillwyr. Dydd Mawrth 26 Mai 12.30-2pm.
|
FFERMIOStraeon Ffermio sy’n Garedig i NaturNoson gan ffermwyr sy’n garedig i natur yn rhannu eu straeon am gynhyrchu bwyd a blodau mewn ffyrdd sy’n helpu’r blaned. Nos Fercher 20 Mai 6.30-7.45pm. Cynllun Ffermio CynaliadwyMae Ffurflen Gais Unigol ar agor nawr lle gallwch gadarnhau eich bod yn dod i mewn i’r cynllun ac yn gwneud cais am y taliad. |
WYTHNOS GENEDLAETHOL CLODDIAUDydd Llun 4 - dydd Sul 10 Mai. Adnoddau Wythnos Genedlaethol CloddiauAdnoddau am ddim i’w lawrlwytho i’ch helpu i greu dangosiadau deniadol a fydd yn difyrru ac yn addysgu plant a theuluoedd. Crefft Plygu CloddiauEdrych ar fyd cymhleth plygu cloddiau gan roi sylw penodol i’r gwahanol arddulliau rhanbarthol. Dydd Mawrth 5 Mai 1-2pm. Pwysigrwydd CloddiauDysgu am gloddiau: eu pwysigrwydd, ar beth mae eu hangen, a sut y gallwch eu cynnwys yn eich man gwyrdd preifat chi (bach a mawr). Nos Fercher 6 Mai 6-7pm = £3.50. Y Ddraenen DduCyfwyniad i brosiect ymchwil ar y ddraenen ddu i geisio deall gwytnwch - a bygythiadau - i’r goeden eiconaidd hon. Dydd Iau 7 Mai 1-2pm. Clawdd yn y NenEdrych tu ôl i’r llenni ar Sioe Flodau Chelsea guda’r Buzz Club. |
ARIANNUGrantiau er LlesAriannu elusennau lleol bach neu sy’n tyfu, grwpiau gwirfoddol neu fentrau cymdeithasol sy’n cael effaith fawr ar gymunedau, pobl neu’r amgylchedd. Ymddiriedolaeth y Dyn GwyrddCronfa Gymunedol sy’n anelu at gefnogi gweithgareddau sy’n mynd i’r afael ag angen cymdeithasol, yn annog cynhwysiant ac yn helpu ein cymunedau i fod y fwy gwydn. Sefydliad Esmee FairbairnCronfa ar gyfer sefydliadau a fydd yn cael yr effaith hiraf ac yn newid systemau ar gyfer y dyfodol. Cynllun Cymunedau Treth Gwaredu Tirlenwi Arian grant i helpu cymunedau sy’n byw o fewn pum milltir i rai gorsafoedd trosglwyddo gwastraff tirlenwi i gymryd camau dros eu hamgylchedd leol. Dyddiad cau: Dydd Gwener 5 Mehefin. |
CYRSIAUCyrsiau Byr yn CATCyrsiau dydd a rhai byr o’o Ganolfan Technoleg Amgen am amrywiaeth o faterion cynaliadwyedd. Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl ifanc sydd am droi eu hymrwymiad i ddiogelu ein planed yn weithredu ystyrlon = £200+ (help ar gael ai allu fforddio). Cyrsiau’r Cyngor Astudiaethau Maes - Mai
|
YMGYNGHORIYmgynghoriad am LifogyddMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad ar gynllun i leihau perygl llifogydd y llanw ar gyfer 90 o gartrefi ac adeiladau yn Aberteifi. Ymgynghoriad yn gorffen: Dydd Llun 18 Mai. Ymgynghori Cyhoeddus RAY CeredigionMae RAY Ceredigion yn gofyn am eich syniadau beth ellir ei wneud yn eu hadeilad yn Aberaeron, a syniadau ar gyfer gweithgaredddau, digwyddiadau, cyrsiau, ac ati. |
ADNODDAUCynllun Adfer Natur ar gyfer CymruStrategaeth i adfer ein hamgylchedd naturiol a’i gwneud yn fyw gwydn. Mai Di-dorAddewid i gael eich copi AM DDIM o’r canllaw Mai Di-dor gydag awgrymiadau a thriciau a’r blodau gwylltion a’r peillwyr i gadw llygad amdanynt. |
TÂN A DŴRCarthion – Afon TeifiYstadegau o’r wefan Top of the Poops yn dangos bod afon Teifi wedi gweld y nifer mwyaf o oriau o arllwys carthion heb eu trin yn 2025 yng Nghymru a Lloegr. Gwarchod Rhag Tanau GwylltCyngor diogelwch syml, ymarferol i warchod ein cefn gwlad gwerthfawr a chadw cymunedau’n ddiogel rhag effaith arswydus tanau gwyllt. Gwirio, Glanhau, SychuHelpu atal planhigion ac anifeiliaid ymledol rhag lledu yn ein dyfroedd. |
CYLCHLYTHYRON |
SWYDDI A GWIRFODDOLIYmosod ar Chwyn Defnyddiwch eich sgiliau botaneg i helpu asesu cyflwr gwarchodfeydd natur yr haf hwn. Therapydd Galwedigaethol (Natur ac Ymarfer Llesiant) Codi Arian at Roddion MawrYr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Dyddiad cau: Dydd Sul 10 Mai. Cyd-Gyfarwyddwr |
