Nature Knowledge Share & BioBlitz/Bioblitz & Rhannu Gwybodeath Natur
Coetir Anian
On Saturday the 4th of July we invite anyone interested in nature, wildlife, ecology, or anything in between to join us at Bwlch Corog for a day of sharing knowledge.
For the early risers, we’ll be starting at 8 am with a guided bird walk led by Ben Porter, Nature Officer at Tir Canol, and his amazing parabolic microphone. We’ll need to know how many people to expect for this early morning walk, so if you’re planning to join please let us know by emailing us at post@coetiranian.org. Diolch!
For those of us who prefer a lie-in, we’ll start the main part of the day at 10 am with hot drinks and cake around the fire, and an introduction to wildlife recording – the important process of recording what species are present in different areas – with Carys of West Wales Biodiversity Information Centre.
Then, we’ll head off and visit different parts of the land, led by staff and local expert ecologists, recording any interesting species we find as we go, and learning from each other’s specialisms and interests.
Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Orffennaf rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn natur, bywyd gwyllt, ecoleg, neu unrhyw beth rhyngddynt i ymuno â ni ym Mwlch Corog am ddiwrnod o rannu gwybodaeth.
I’r rhai sy’n codi’n gynnar, byddwn yn dechrau am 8 y bore gyda thaith gerdded adar dan arweiniad Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, a’i feicroffon parabolig anhygoel. Bydd angen i ni wybod faint o bobl i’w disgwyl ar gyfer y daith gerdded fore gynnar hon, felly os ydych chi’n bwriadu ymuno, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn post@coetiranian.org. Diolch!
I’r rhai ohonom sy’n well ganddynt aros yn y gwely ychydig yn hirach, byddwn yn dechrau prif ran y dydd am 10 y bore gyda diodydd poeth a chacennau o gwmpas y tân, a chyflwyniad i gofnodi bywyd gwyllt – y broses bwysig o gofnodi pa rywogaethau sy’n bresennol mewn gwahanol ardaloedd – gyda Carys o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.
Yna, byddwn yn mynd ati i ymweld â gwahanol rannau o’r tir, dan arweiniad staff ac ecolegwyr arbenigol lleol, gan gofnodi unrhyw rywogaethau diddorol a ddarganfyddwn wrth fynd, a dysgu o arbenigeddau a diddordebau ein gilydd.