Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 26/06/26
Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 26/06/26
Angen Gyrrwr Bws Mini sydd wedi cael Hyfforddiant MiDAS – Gŵyl Natur (dydd Sadwrn 11 Gorffennaf)
Rydym yn chwilio am yrrwr sydd wedi cael hyfforddiant MiDAS i yrru bws mini 13 sedd ar gyfer Gŵyl Natur yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 9:00am – 5:00pm.
Mae’r dyletswyddau’n cynnwys:
Casglu’r bws mini o safle Trafnidiaeth Dolen Teifi, Aberystwyth.
Gweithredu gwasanaeth gwennol rhwng Canolfan Rheidol a Maes Parcio Eglwys Sant Mihangel drwy gydol y dydd.
Dychwelyd y bws mini i safle Trafnidiaeth Dolen Teifi ar ddiwedd y shifft.
Byddem hefyd yn croesawu dyfynbrisiau gan yrwyr sydd ar gael am yr oriau canlynol yn unig:
9:00am – 10:00am, a/neu
4:00pm – 5:00pm
Gofynion Hanfodol:
Gyrrwr sydd wedi cael hyfforddiant MiDAS (hanfodol).
Nid yw Trwydded D1 yn Ofynnol.
Dibynadwy, prydlon, a hyderus yn gyrru bws mini 13 sedd.
Os ydych ar gael, cysylltwch gyda’ch pris naill ai am y diwrnod llawn (9:00am–5:00pm) neu shifftiau’r bore/gyda’r nos.
Gŵyl Natur Ceredigion
Ymunwch â ni am ddiwrnod o fywyd gwyllt, creadigrwydd, darganfod a chymuned yng Ngŵyl Natur Ceredigion, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 10am–4pm, ar Dir y Castell, Aberystwyth.
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU
Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod y bywyd gwyllt lleol. 10am – 1pm.
Gorffennaf 10am - 1pm.
Dydd Sul 5fed yng Nghoed Pencoedtop, Ffrostrasol.
Dydd Mercher 8fed ym Mhendinas, Aberystwyth
Dydd Mercher 15fed yn Rhosmaencrug.
Dydd Mercher 22ain yng Nghoed, Ffordd Penglais Aberystwyth
BioBlitz yn Fferm Denmarc, Llanbedr Pont Steffan
Helpwch i gofnodi cynifer o wahanol rywogaethau â phosibl — o löynnod byw a blodau gwyllt i frogaod ac adar. Ni waeth a ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu’n hen law ar fyd natur, mae croeso i bawb gymryd rhan. Dydd Sadwrn 27 Mehefin.
Gweithdy Compost
Dysgwch sut i droi gwastraff pob dydd yn gompost bras, iach i’r ardd. Dydd Gwener 10 Gorffennaf 10am – 4pm. I gadw lle, gweler ynghlwm.
Am Ferlod, Gwaith Papur a Gwybedogion Brith
Sgwrs am ddim am y ffordd y mae tîm Ynyshir yn sicrhau enillion i fywyd gwyllt ledled y warchodfa. Cewch wybod ar ddydd Llun 2 Gorffennaf 7pm yn Ystafell C22 Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth. Yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb.
Bioblitz & Rhannu Gwybodeath Natur
Ymunwch â ni ym Mwlch Corog ger Machynlleth i rannu gwybodaeth, dysgu gan eraill, a'n helpu i ddod o hyd i'r rhywogaethau sydd yma a'u cofnodi. Coetir Anian. Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf. Gweler ynghlwm.
Gwirfoddolwr y Gwenyn
Gŵr a hoffai wirfoddoli gyda gwenyn yn ardal Aberystwyth trwy helpu a gwirfoddoli ei amser gyda thasgau ym myd gwenyn a chadw gwenyn. Os oes gennych unrhyw gyfleoedd, cysylltwch â: Biodiversity@ceredigion.gov.uk