Fflach Newyddion Natur Ceredigion 24/07/26
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 24/07/26
Gwylio Gwyllt Gorllewin Cymru
Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod y bywyd gwyllt lleol. 10am – 1pm.
Gorffennaf 10am - 1pm.
- Dydd Gwener 24fed yn Henllan, Gorsaf Henllan
Eich Llecyn Gwyllt – Awst
- Coed y Bont – Dydd Sadwrn 8 Awst 10am-1pm.
- Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark – Dydd Mercher 12 Awst 10am-1pm.
- Canolfan Natur Ynys-las, Y Borth – Dydd Mercher 19 Awst 9-11am.
Helpu Draenogod
Mae llwyth o ddraenogod bach yn cyrraedd Hedgely Hogspital ac mae’r cyfleuster yn chwilio am wirfoddolwyr. Byddant yn eich dysgu am bopeth y mae angen i chi ei wybod.
Maent hefyd yn gofyn am fwyd, papur cegin ac offer glanhau. Ydych chi’n dda am wneud gwaith crefft, ac a allech greu rhai eitemau i’w gwerthu? Ffoniwch 07792 676112.
Gweithgareddau
Sesiynau Teulu Haf Longwood
- Dydd Mercher 22ain Gorffennaf – Ymchwilwyr Pryfed
- Dydd Iau 30ain Gorffennaf – Argraffu Dail
- Dydd Llun 3ydd Awst – Actif-i-ti
- Dydd Iau 13eg Awst – Gwehyddu Helyg
- Dydd Iau 27ain Gorffennaf – Paentio Potiau Planhigion
£6 y plentyn
Cysylltwch i gadw lle
[email protected]
Arts for Wellbeing
Bore o weithgareddau creadigol i’r teulu i gyd. Dydd Gwener 31 Gorffennaf 10am-12.30pm.
Digwyddiadau Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion - Awst
- Gweithdy Syanoteipiau Gwymon (Oedolion) Dydd Sadwrn 1 Awst 10-11.30am = £9.38
- Dehongli Synau Dolffiniaid Dydd Mawrth 4 Awst 2.30-4.30pm = £4
- Cerfluniau Cregyn Dydd Iau 6 Awst = £4
- Brecwast gyda Dolffin Trwyn Potel Dydd Sadwrn 8 Awst 9.30-11am = £4+
Diwrnod Agored yr Haf yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen
Gweithdai ymarferol, teithiau addas i deuluoedd ynglŷn ag adeiladau gwyrdd, ynni adnewyddadwy, ecoleg, tyfu bwyd, a byw’n gynaliadwy. Dydd Sadwrn 1 Awst 10am-4pm.
Prynhawn Bywyd Gwyllt am Ddim i’r Teulu
Archwilio pyllau, chwilio am bryfed, a chrefftau’n ymwneud â phili-palod yn Yr Ardd ddydd Mercher 5 Awst.
Noson Wyllt
Cyfle i’r teulu cyfan brofi noson ryfeddol o chwilio am ystlumod, gweld gwyfynod, gwylio sêr gwib, a chael hwyl o gwmpas tân gwersyll yn Coedmor Camping ger Aberteifi nos Fawrth 11 Awst = £25. Mae’r manylion ynghlwm.
Cyllid
Cronfa Rhwydweithiau Natur
Grantiau gwerth rhwng £250,000 ac £1 filiwn, sy’n canolbwyntio ar ardaloedd yn y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig ac o’i gwmpas. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw dydd Mercher 5 Awst.
Ymgynghori
Ymgynghoriad am Ansawdd Dŵr
Mae Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru wedi lansio ail Alwad am Dystiolaeth, sy’n canolbwyntio ar lygredd amaethyddol ac sy’n gwahodd pobl i fynegi barn am iechyd afonydd Cymru. Mae hefyd yn croesawu tystiolaeth bellach am ddŵr gwastraff, carthion, gwaith monitro ansawdd dŵr, camau gorfodi a materion eraill yn ymwneud â dŵr croyw, ac yn rhoi cyfle i unigolion, mudiadau a sefydliadau helpu i lunio trefniadau yn y dyfodol ar gyfer diogelu’r amgylchedd. Dyddiad cau: Dydd Llun 27 Gorffennaf.
Cyfarwyddwr newydd a gwirfoddolwyr
Mae Child of the Earth wrthi’n recriwtio Cyfarwyddwr newydd a gwirfoddolwyr i helpu i lywio a thyfu’r cwmni.