Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
Log in
22 May 2026

Fflach Newyddion Natur Ceredigion 22/05/26

Fflach Newyddion Natur Ceredigion 22/05/26

GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU

Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt yn lleol.
Dydd Sadwrn 23ain Mai 10yb-1yp - Coedwig Pencoedtop. Gweler ynghlwm.

GWEITHGAREDDAU

Achub y Teifi – Cyfarfod Cyhoeddus

Siaradwr gwadd: Monica Feria-Tinta, a fydd yn siarad am ei gwaith byd-eang ar hawliau natur ac ar warchod tir ac afonydd rhag colli bioamrywiaeth. Theatr Mwldan Nos Fawrth 26 Mai am 7pm.

Anerchiad Water Explorers

Bydd y sesiwn ar-lein hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwarchod cefnforoedd ac ecosystemau dŵr croyw, a bydd hefyd yn rhannu enghreifftiau ysbrydoledig o weithredu ac ymgysylltu. Nos Fercher 27 Mai.

CYNNAL DIGWYDDIAD

Rhowch Gynnig ar Dyfu 2026

Ddydd Sadwrn 6 Mehefin, agorwch eich mannau tyfu er mwyn arddangos eich lleoedd bywiog a’u llenwi â chwerthin, cyfleoedd i ddysgu, a digon o wyrddni.

Y Cinio Mawr a’r Help Llaw Mawr

Ymunwch yn y dathliad hwn o gymuned o ddydd Gwener 5 Mehefin tan ddydd Llun 8 Mehefin am benwythnos o gyfeillgarwch, bwyd, hwyl a gweithredu. Mae adnodd ar gael drwy’r ddolen gyswllt i’ch helpu i ddechrau arni.

Pecyn Cymorth Imagine Action

Seminar hyfforddiant bob mis ar-lein yn ystod amser cinio er mwyn i chi gyflwyno eich neges mewn ffyrdd diddorol: Seminar awr o hyd ac opsiwn wedyn i aros ar gyfer gweithdy 30 munud o hyd er mwyn cymhwyso’r cymorth i’ch gwaith.

  • Dydd Mercher 27 Mai 1-2.30pm

  • Dydd Mercher 24 Mehefin 1-2.30pm

CYRSIAU

Rhyngweithio rhwng Planhigion a Pheillwyr

Cyfle i ddysgu pam y mae rhyngweithio rhwng planhigion a pheillwyr yn bwysig a sut y maent yn ategu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Dydd Mawrth 26 Mai = £12.50.

Anatomeg Fotanegol

Cyfle i feithrin eich dealltwriaeth o anatomeg fotanegol gan ystyried strwythur a swyddogaeth dail, blodau, ffrwythau a hadau. Dydd Mercher 27 Mai am dair wythnos = £60.

Darganfod Amffibiaid

Cyfle i ddysgu am brif nodweddion amffibiaid ac i ymchwilio’n fanwl i ddulliau o adnabod rhywogaethau’r DU ac ymchwilio i’w hecoleg. O ddydd Gwener 29 Mai am bythefnos = £20.

Cyrsiau Byr Canolfan y Dechnoleg Amgen

  • Dydd Sadwrn 30 Mai – Dydd Sul 31 Mai – Cyflwyniad i Gadw Gwenyn

  • Dydd Sadwrn 6 Mehefin – Dydd Sul 7 Mehefin – Adeiladu gan Ddefnyddio Pridd a Ffibrau Naturiol

Enillion Net Bioamrywiaeth ar gyfer Adolygwyr

Cyfle i feithrin dealltwriaeth well o Enillion Net Bioamrywiaeth, ac archwilio beth i’w ddisgwyl a sut mae dehongli’r metrig wrth adolygu. O ddydd Mawrth 2 Mehefin am bedair wythnos = £100.

SWYDDI A GWIRFODDOLI

Arweinydd Rheoli a Masnachu Maetholion
Cyngor Sir Caerfyrddin. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 26 Mai.

Cynorthwyydd Cefnogi
Ymddiriedolaeth y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Dyddiad cau: Dydd Iau 28 Mai.

Gweithiwr Datblygu yr Academi Amaethecoleg
The Agroecology Learning Collective. Dyddiad cau: Dydd Sul 31 Mai.

Rheolwr Prosiect Morol
Yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 2 Mehefin.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU.pdf
Download
Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
Share this email:
Share on Facebook Share via email Share on Mastodon Share on Bluesky
naturceredigion.cymru
Facebook
pixelfed.social
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.