Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
Log in
27 May 2026

Cofio Mary Jones / Remembering Mary Jones

Cofio Mary Jones / Remembering Mary Jones

Cofio Mary Jones

Rydym wedi ein tristáu’n fawr gan farwolaeth Mary Jones yn ddiweddar, a fu’n cyfieithu cylchlythyr Partneriaeth Natur Leol Ceredigion o’r Saesneg i’r Gymraeg yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Yn ystod ei chyfnod gyda ni, cynyddodd nifer darllenwyr y cylchlythyr Cymraeg bedair gwaith — a doedd hynny ddim yn gyd-ddigwyddiad. Roedd ymroddiad Mary, ei hiaith sensitif a manwl gywir, a’i gwybodaeth drylwyr am fyd natur a’i hoffter mawr ohono i gyd yn amlwg yn ei gwaith. Roedd ei chyfieithiadau’n feddylgar, yn gain ac yn ddiddorol ac roeddent yn helpu i sicrhau bod ein cylchlythyr yn hygyrch ac yn groesawgar i siaradwyr Cymraeg ledled Ceredigion a thu hwnt.

Roedd llawer iawn o ofal a phroffesiynoldeb yn perthyn i bopeth yr oedd Mary yn ei wneud. Yn ogystal â deall y geiriau yr oedd yn eu cyfieithu, roedd Mary hefyd yn deall eu hysbryd a’u pwrpas. Gwnaeth gyfraniad aruthrol i waith Partneriaeth Natur Leol Ceredigion, ac mae ei gwaith hi wedi gadael ôl parhaol ar y cylchlythyr ac ar y gymuned ehangach sy’n ei ddarllen.

Ond ar wahân i’w sgiliau rhagorol, bydd Mary yn cael ei chofio’n gynnes am fod yn berson hyfryd. Roedd yn feddylgar ac roedd yn bleser cydweithio â hi. Gwnaeth ei chynhesrwydd a’i hiwmor gyffwrdd pawb a oedd yn ei hadnabod, a byddwn yn gweld ei cholli fel ffrind yn ogystal â chydweithiwr.

Rydym yn ddiolchgar dros ben am bopeth a roddodd Mary i Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion. Rydym yn meddwl am ei theulu a’i hanwyliaid ar adeg mor drist. Ni fydd ei chyfraniad, na’r cof amdani, fyth yn pylu.

Remembering Mary Jones

We are deeply saddened by the recent death of Mary Jones, who served as the English-to-Welsh translator for the Ceredigion Local Nature Partnership newsletter for the past four years.

During her time with us, the number of Welsh readers of the newsletter quadrupled — something that was certainly no coincidence. Mary’s dedication, her precision and sensitivity in language, and her deep knowledge and love of nature all shone through in her work. Her translations were thoughtful, elegant and engaging, helping to make the newsletter accessible and welcoming to Welsh speakers across Ceredigion and beyond.

Mary brought great care and professionalism to everything she did. She understood not only the words she was translating, but also the spirit and purpose behind them. Her contribution to the work of the Ceredigion Local Nature Partnership was immense, and her work has left a lasting mark on the newsletter and on the wider community it reaches.

But beyond her remarkable skills, Mary will be remembered most warmly as a lovely person. She was thoughtful and a pleasure to work with. Her warmth and good humour touched everyone who knew her, and she will be greatly missed not only as a colleague, but as a friend.

We are profoundly grateful for everything Mary gave to the Ceredigion Local Nature Partnership. Our thoughts are with her family and loved ones at this sad time. Her contribution, and her memory, will not be forgotten.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
Share this email:
Share on Facebook Share via email Share on Mastodon Share on Bluesky
naturceredigion.cymru
Facebook
pixelfed.social
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.