Fflach Newyddion Natur Ceredigion 12/06/26
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 12/06/26
Gŵyl Natur Ceredigion
Ymunwch â ni am ddiwrnod o fywyd gwyllt, creadigrwydd, darganfod a chymuned yng Ngŵyl Natur Ceredigion, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 10am–4pm, ar Dir y Castell, Aberystwyth.
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU
Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod y bywyd gwyllt lleol. 10am – 1pm.
Dydd Sadwrn 13 Mehefin - Bronheulog
Dydd Mercher 17 Mehefin – Aberystwyth
Dydd Mercher 24 Mehefin - Llandysul
Partneriaethau Dalgylch Gorllewin Cymru – Teifi (Ceredigion)
Partneriaeth Dalgylch Ceredigion – Cyfarfod Rhanddeiliaid
Dydd Mawrth 17 Mehefin 2026 13:00 – 14:30
Penmorfa, Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, SA46 0PA
Hyrbid. Ymuno ar-lein: Dolen y Cyfarfod
Cyfarfod rhanddeiliaid i drafod y posibiliadau a’r cyfleoedd ar gyfer datblygu Partneriaeth Dalgylch ar gyfer Afon Teifi (Ceredigion).
Arolwg Galwad am Syniadau – nawr ar agor
Mae Cronfa MARINE Cymru yn chwilio am syniadau a mewnwelediadau i helpu i lywio dyluniad a ffocws y Gronfa yn y dyfodol. Mae'r Alwad am Syniadau hon yn gam cynnar, archwiliol i'n helpu i ddeall pa waith sydd ei angen, pa weithgareddau sydd eisoes wedi'u cynllunio a ble mae rhwystrau neu fylchau cyllido yn bodoli ar hyn o bryd ledled amgylchedd morol ac arfordirol Cymru.
Gallwch lenwi'r ffurflen yma here.
Rhannwch yr arolwg hwn gyda'ch rhwydweithiau ac unrhyw fudiadau neu grwpiau perthnasol eraill – dyddiad cau 30 Gorffennaf.
Ysgrifennu Gwyllt 2026
Gweithdai ysgrifennu ar-lein gyda Clare Shaw a Miriam Darlington yn ystod mis Mehefin 9am-10am = £9+
Dydd Natur yn yr Ardd
Diwrnod o grefftau natur, chwilota, te a rhagor ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin am hanner dydd.
Saffari Cacwn
Teithiau cerdded o amgylch Gerddi Cae Hir gyda Siân Saunders, gwirfoddolwraig brofiadol gyda'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn. Dydd Sadwrn 13 Mehefin 11.30am neu 2pm = £12.58 (yn cynnwys rhodd.)
Clwb Gwyliau Môr-ladron y Coed - Tree Pirates Holiday Club - Cadwch le drwy Bookwhen
Diwrnodau gweithgareddau rheolaidd yn Llandysul trwy wyliau'r ysgol lle gallwch adael y plant. Mae’n hanfodol cadw lle.
Teithiau Cerdded Darganfod Natur
Bydd tegeirianau yn bendant ar yr agenda ar gyfer ein Teithiau Cerdded Darganfod Natur nesaf yn Ynyslas eleni, gan gynnwys Tegeirianau Gwenynog. Dydd Mercher am 10.30am.
Cwrdd ger y mosäig wrth ymyl yr Hwb Natur (Canolfan Groeso Ynyslas).
Awgrymir rhodd o £3.00.
Caru'ch Cymuned 2026
Gwobr i gydnabod a dathlu gwaith cymunedau trefi a phentrefi ledled Ceredigion wrth gadw eu cymuned yn daclus, trefnu digwyddiadau a darparu gwasanaethau i bobl yr ardal. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 30 Mehefin.