Trawsnewid Cymru | Transform Wales #1: 📣 crynodeb newyddion digidol mis Medi – September’s digital news roundup
Digital shake-ups, whistleblowing, and our report launch – September’s digital news roundup. Ysgwydiadau digidol, datgelu camarfer, a lansio ein hadroddiad – crynodeb newyddion digidol mis Medi.
This is a bilingual newsletter, English posted below the Cymraeg.
📣 #1: Ysgwydiadau digidol, datgelu camarfer, a lansio ein hadroddiad – crynodeb newyddion digidol mis Medi
Croeso i rifyn cyntaf cylchlythyr Trawsnewid Cymru.
Bob mis byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ochr yn ochr â'r straeon allweddol o’r maes digidol yng Nghymru.
Newyddion digidol y mis hwn yng Nghymru
CDPS i’w integreiddio gyda Llywodraeth Cymru
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cael ei hintegreiddio i'r llywodraeth ganolog. Mae'r symudiad hwn yn codi cwestiynau am annibyniaeth, capasiti, a cham nesaf trawsnewid digidol mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Darllenwch feddyliau Ann am y symudiad hwn ar LinkedIn.
--
Negeseuon e-bost y Senedd wedi'u rhwystro gan Rhif 10
Tynnodd Will Hayward sylw at rwystr anarferol mewn cylchlythyr diweddar: nid yw ffurflen gyswllt 10 Downing Street yn derbyn cyfeiriadau e-bost senedd.wales. Mae'n enghraifft fach ond arwyddocaol o sut y gall sefydliadau Cymru gael eu hanwybyddu mewn systemau ledled y DU. Gweler yr edau Bluesky hon i ddysgu mwy.
--
Chwythu’r chwiban yn Trafnidiaeth Cymru
Adroddodd Nation.Cymru am honiadau o orwariant mawr TG yn Trafnidiaeth Cymru. Mae datgelwr wedi honni methiannau difrifol, gyda chwestiynau pellach yn cael eu codi ynghylch tryloywder ac atebolrwydd mewn prosiectau digidol mawr.
--
Adroddiad y Senedd: Digidol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Cyhoeddwyd adroddiad gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai'r Senedd ar ryddhau cleifion o ysbytai, gan rybuddio bod cynnydd digidol yn rhy araf. Maent yn argymell y dylai "Llywodraeth Cymru yrru cyflawni'r agenda trawsnewid digidol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, gydag arweinyddiaeth gryfach a mwy o atebolrwydd." Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cynnydd digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig, mae'n ymwneud â'r bobl sy'n arwain y cynnydd hwnnw.
--
Archwilio anghenion defnyddwyr mewn cymunedau sy’n agos i domenni glo segur
Mae postiad blog Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gall gwasanaethau digidol ddiwallu anghenion cymunedau sy’n agos i domenni glo segur, gydag ymchwil defnyddwyr yn taflu goleuni ar yr hyn y mae pobl wir ei eisiau a'i angen.
--
Rhannu data ar gyfer buddion symlach
Rhannodd CDPS ganfyddiadau ar rannu data yn system buddion Cymru. Mae'r darn yn archwilio cyfleoedd i symleiddio ceisiadau, gan dynnu sylw hefyd at y bylchau hanfodol y mae angen mynd i’r afael â nhw.
--
Patrymau gwasanaeth ar waith
Mae postiad arall gan CDPS ar batrymau gwasanaeth yn rhannu sut mae dyluniadau prototeip yn cael eu profi mewn cyd-destunau go iawn. Mae'n rhan o waith parhaus i ddatblygu dulliau y gellir eu hailddefnyddio er mwyn arbed amser a gwella gwasanaethau ledled Cymru.
--
Gwasanaeth trwyddedu ar gyfer adar sy'n bwyta pysgod
Rhannodd Cyfoeth Naturiol Cymru sut y gwnaeth adeiladu gwasanaeth trwyddedu newydd ar gyfer adar sy'n bwyta pysgod mewn dim ond chwe mis. Mae'r blog yn esbonio sut y gwnaeth ymchwil defnyddwyr, dulliau ystwyth, a chydweithio traws-dimau eu helpu i ddisodli proses bapur gyda gwasanaeth digidol mwy effeithlon.
--
Mae ein hadroddiad bron yn barod i'w gyhoeddi
Fe ddatgelon ni gipolwg o’n hadroddiad newydd, Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru fodern. Ynddo, rydym yn nodi dull ymarferol, sy'n seiliedig ar brofiadau a sgiliau modern - timau bach wedi'u grymuso, a chyflawni agored drwy brofi-a-dysgu. Nid ydym yn siarad am theori yn unig: mae'n cynnwys glasbrint ar gyfer y 1,000 diwrnod cyntaf i’r llywodraeth newydd trwy ddarparu 2 enghraifft bolisi fyw.
Arhoswch mewn cysylltiad
Dilynwch ni ar Bluesky am ddiweddariadau parhaus, a rhannwch y cylchlythyr hwn gydag unrhyw un sy’n angerddol am wasanaethau cyhoeddus digidol gwell yng Nghymru.
📣 #1: Digital shake-ups, whistleblowing, and our report launch – September’s digital news roundup
Croeso! Welcome to the first edition of the Transform Wales newsletter.
Each month we’ll share updates on our work alongside the key digital stories shaping Wales.
This month’s digital news in Wales
** CDPS integrated into Welsh Government**
The Welsh Government confirmed that the Centre for Digital Public Services (CDPS) is being integrated into the central government. This move raises questions about independence, capacity, and the next phase of digital transformation in Welsh public services. Read Ann’s thoughts about this move on LinkedIn.
--
Senedd emails blocked by Number 10
Will Hayward highlighted an unusual barrier in a recent newsletter: the 10 Downing Street contact form doesn’t accept senedd.wales email addresses. It’s a small but telling example of how Welsh institutions can get overlooked in UK-wide systems. See this Bluesky thread to learn more.
--
** Whistleblowing at Transport for Wales**
Nation.Cymru reported allegations of a major IT overspend at Transport for Wales. A whistleblower has claimed serious failings, with questions now being raised about transparency and accountability in large digital projects.
--
** Senedd report: Digital in health and social care**
The Senedd’s Local Government and Housing Committee published a report on hospital discharges, warning that digital progress is too slow. They recommend that “The Welsh Government should drive the delivery of the digital transformation agenda in health and social care, with stronger leadership and greater accountability.” The report highlights that digital progress isn’t just about technology, it’s about the people leading that progress.
--
** Exploring user needs in communities affected by disused coal tips **
A Welsh Government blog post looks at how digital services can meet the needs of communities affected by disused coal tips, with user research shedding light on what people really want and need.
--
** Data sharing for streamlined benefits**
CDPS shared findings on data sharing in the Welsh benefits system. The post explores opportunities to make applications simpler, while also highlighting the gaps that still hold services back.
--
** Service patterns in practice**
Another CDPS post on service patterns shares how prototype designs are being tested in real contexts. It’s part of ongoing work to develop reusable approaches that could save time and improve services across Wales.
--
** Licensing service for fish-eating birds**
Natural Resources Wales shared how it built a new licensing service for fish-eating birds in just six months. The blog explains how user research, agile delivery, and cross-team collaboration helped them replace a paper-based process with a more efficient digital service.
--
** Our report is almost ready to publish**
We unveiled a sneak peek of our new report, Transforming public services for a modern Wales. In it, we set out a practical, proven approach built on modern skills, small empowered teams, and open, test-and-learn delivery. And we don’t just talk theory: it includes a blueprint for a new government’s first 1,000 days in power through 2 live policy examples.
Stay connected
Follow us on Bluesky for ongoing updates, and share this newsletter with anyone who cares about better digital public services in Wales.
Follow us on Bluesky for ongoing updates, and share this newsletter with anyone who cares about better digital public services in Wales.