Newyddion Natur Ceredigion News 06-10-2023
Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature News |
Mae’r hydref wedi dod a chydag ef mae’r dail yn disgyn, mae’r coed yn troi eu lliw a llythyr newyddion y mis hwn yn llawn gwybodaeth am :
| Autumn has arrived and brought with it falling leaves, amber trees and this month’s newsletter bursting with information on:
|
Cyfarfod Partneriaeth Natur Leol Ceredigion Cynhelir y cyfarfod ddydd Gwener 20 Hydref 9.30-4pm yn Theatr Byd Bach, Aberteifi. Manylion Trefnu a rhagor o wybodaeth yn y ddolen. Mae Agenda a Chofnodion y cyfarfod blaenorol wedi eu cysylltu.
| Ceredigion Local Nature Partnership Meeting The meeting will take place on Friday 20th October 9.30-4pm at the Small Worlds Theatre, Cardigan. Booking and further information in the link. Agenda and Minutes of previous meeting attached.
|
PARTNER PENODOL Bydd yna adran newydd y mis hwn yn rhoi proffil o aelod o Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion. Gweler y proffil sydd wedi ei gysylltu ar gyfer Dŵr Cymru Welsh Water. Os hoffech i’ch proffil chi gael ei gynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol, anfonwch e-bost i biodiversity@ceredigion.gov.uk
| FEATURED PARTNER This month we begin a new section featuring a profile of a member of Ceredigion Local Nature Partnership. Please see attached profile for Dŵr Cymru Welsh Water. If you would like to be featured in a future edition please email biodiversity@ceredigion.gov.uk |
ADRODDIAD AR GYFLWR NATUR
Mae ymdrechion glew wedi bod i adfer ecosystemau, achub rhywogaethau a cheisio defnyddio tir a môr yn fwy caredig i natur. Ond mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun enbyd ar gyfer rhywogaethau’r DG. | STATE OF NATURE REPORT
Great efforts have been made to restore ecosystems, save species and move towards nature-friendly land and sea use. However, this report reveals a dire picture for the UK's species.
|
POLISI Gwanhau’r Rheoliadau Cynefinoedd Darllenwch y blog hwn am y ffordd y bydd gwanhau’r Rheoliadau Cynefinoedd yn effeithio ar Gymru.
| POLICY Weakening the Habitats Regulations Read this blog on how weakening the Habitats Regulations will affect Wales.
|
ARIANNU
Ein Cartref, Ein Cynefin: Ceredigion PNLl Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Cynllun Grantiau Bach Gallwch gael hyd at £5000 ar gyfer prosiectau cyfalaf. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Iau 30 Tachwedd. Cysylltwch â CAVO ar 01570 423 232 neu grant@cavo.org.uk
Cronfa newydd i roi cyfleoedd i gyrff ddarparu gwasanaethau neu weithio gyda chymunedau gwledig i dreialu ffyrdd newydd o weithio gyda syniadau i ddelio â materion blaenoriaethau allweddol. Dyddiad cau dydd Mawrth 31 Hydref.
Ymddiriedolaeth Gymunedol Cefn Croes Cronfa ar gyfer cyrff cymunedol bach i ddarparu ychydig fudd economaidd, amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl yn byw yn yr ardal.
Webinar Cronfa Rhwydweithiau Natur Gwnewch gais am £50,000-£250,000 i wella a sefydlogi tir a mannau arfordirol Cymru sy’n cael eu gwarchod. Bydd y webinar ddydd Mawrth 10 Hydref 2-3pm.
Webinar Cronfa Gyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Bydd webinar Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ymgeiswyr ddydd Mercher 11 Hydref 2-3pm.
Pecynnau Gardd a Pherllan ar Ddim Ewch i #BacktoNature am becynnau cychwyn a datblygu perllannau gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd wedi helpu creu, adfer a thrawsnewid dros 1,000 o fannau gwyrdd yn y tair blynedd diwethaf.
Grant Ymarferoldeb Draenio Cynaliadwy Mae gan Cymorth Naturiol Cymru gronfa i gefnogi datbygu cynlluniau draenio trefol cynaliadwy bach lleol yng Nghymru.
Mae arian ar gael ar gyfer prosiectau’n para hyd at ddwy flynedd i gyrff nad ydynt yn gwneud elw.
Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Nod yr Ymddiriedolaeth yw gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw yng Nghymru, hyrwyddo addysg, hanes, iaith, diwylliant, cerddoriaeth a llên gwerin, yn enwedig y rheiny sy’n wynebu gwahaniaethu neu anfantais.
Diben y gronfa hon yw helpu sicrhau y gall cymunedau ledled y DG gefnogi a pharhau i elwa o gyfleusterau lleol, asedion ac amwynderau cymunedol. Dyddiad cau dydd Mercher 11 Hydref.
Cronfa ar gyfer ceisiadau gan grwpiau sydd am sefydlu coed, cloddiau neu berllannau. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Sul 3 Rhagfyr.
Cyngor ac ariannu ar gyfer prosiectau cloddiau newydd o 100 metr neu fwy.
Cronfa Gymunedol Achub Ein Hynysoedd Gwyllt Cael £550 i gychwyn eich prosiect a rhoi hwb i godi arian i’ch grŵp cymunedol.
Gallwch ddefnyddio’r gronfa hon i enwebu achosion da yr hoffech eu cefnogi. Mae’n agored i geisiadau gan grwpiau cymunedol, elusennau a chyrff nad ydynt yn gwneud elw sydd am wneud gwahaniaeth yn eu hardal leol.
| FUNDING
Ein Cartref, Ein Cynefin: Ceredigion LNP’s Local Places for Nature – Small Grants Scheme Get up to £5000 for capital projects. Closing date for applications Thursday 30th November. Contact CAVO on 01570 423 232 or grant@cavo.org.uk
A new fund to provide opportunities for organisations to deliver services or working with rural communities to pilot new ways of working to trial ideas that tackle issues aligned with key priorities. Closing date Tuesday 31st October.
A fund aimed at small community led organisations providing some measure of economic, environmental, educational, social or cultural benefit for people living in the area.
Apply for £50,000-£250,000 to improve and stabilise Wales' protected land and coastal sites. The webinar is on Tuesday 10th October 2-3pm.
Local Places for Nature Capital Fund Webinar There will be a Local Places for Nature webinar for applicants on Wednesday 11th October 2-3pm.
Free Garden and Orchard Packages Get #BacktoNature by browsing starter, development and orchard packs from Local Places for Nature which have helped to create, restore and transform over 1,000 green spaces in the past three years.
Sustainable Drainage Feasibility Grant Natural Resources Wales had got a fund for supporting the development of small, local sustainable urban drainage schemes in Wales.
Funding is available for projects lasting up to two years for not-for-profit organisations.
The Millennium Stadium Charitable Trust The aim of this trust is to improve the quality of life of people who live and work in Wales, promote education, history, language, culture, music and folklore, particularly for those who face discrimination or disadvantage.
This fund is designed to help ensure that communities across the UK can support and continue benefiting from the local facilities, community assets and amenities. Closing Date Wednesday 11th October.
This fund is for applications from groups wanting to establish trees, hedgerows, and orchards. The deadline for applications is Sunday 3rd December.
Advice and funding for new hedging projects of 100 metres or more.
Save Our Wild Isles Community Fund Get £500 to kick-start your project and a fundraising boost for your community group.
You can use this fund to nominate good causes you would like to see supported and is open to applications from community groups, charities and not-for-profit organisations wanting to make a difference in their local area.
|
HADAU
Cael gwybod ar-lein sut mae bioleg hadau coed yn effeithio ar eich tirlun coed yn lleol ac o ba goed y dylech gasglu hadau i gael coed iach yn y dyfodol. Dydd Mercher 11 Hydref 1-2pm.
Cadw Hadau Coed Dysgu sut i gasglu, prosesu ac egino eich hadau ddydd Sadwrn 14 Hydref 10.30am-3.30pm ym Machynlleth. Poster gwybodaeth wedi ei gysylltu.
Gofynnir i grwpiau addysg a dysgu gasglu mes, ac nid yn unig gael eu talu am y mes ond hefyd i allu cystadlu am ddwy wobr. Bydd y digwyddiad yn dod i ben ddydd Mercher 18 Hydref.
Gweithdy Cadw Hadau Cynhelir y gweithdy hwn yn y Pwerdy a’r Ardd (ym Mhont Tyweli, Llandysul) ddydd Sadwrn 21 Hydref 10am-3pm. Y gost fydd £10 a nifer cyfyngedig o leoedd sydd. Am ragor o wybodaeth ac i drefnu lle, cysylltwch ag Andrea ar
Mae hadau blodau gwylltion a phorfeydd cymysg ar gael cyn eu gwerthu oddi wrth Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
| SEEDS
The Science of Tree Seeds Course Discover, online how the biology of tree seeds impacts on your local treescape and from which trees should you collect seed, to ensure healthy trees for the future on Wednesday 11th October 1-2pm.
Tree Seed Saving Learn how to gather, process and propagate your seeds on Saturday 14th October 10.30am-3.30pm in Machynlleth. Information poster attached.
Education and learning groups are being asked to collect acorns. They will not only be paid for their acorns; they’ll also be able to compete for two awards. Event finishes Wednesday 18th October.
Seed Saving Workshop This workshop will be held at Y Pwerdy and Yr Ardd (in Pont Tyweli, Llandysul) on Saturday 21st October 10am-3pm.The cost is £10 and places are limited. For further information and to book your place, please contact Andrea on andrea@yrardd.org
Native wildflower and grass seed mixes available for pre-sale from the National Botanic Garden of Wales.
|
AROLYGON AC YMGYNGHORI
Holiadur am fwydo adar ar gyfer traethawd MA ar Trichomonas gallinae yn y gylfinbraff. Gallwch gymryd rhan hyd yn oed os nad yw’r gylfinbraff yn dod i’ch gardd chi.
Mae’r arolwg hwn yn rhan o draethawd gradd MsC mewn Bwyd, Ffermio a Mentrau Atgynhyrchiol gan Goleg Schumacher.
Parc Cenedlaethol Newydd – Digwyddiadau Ymgysylltu Dweud eich dweud am fap Ardal Chwilio cychwynnol ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cymerwch ran mewn arolwg i helpu llunio dyfodol yr Hafod.
Arolwg Rhanddeiliaid Strategaeth Hamdden Awyr Agored Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n datblygu strategaeth i greu gweledigaeth tymor hir ar gyfer mynediad i’r tir maen nhw’n gofalu amdano. Cliciwch ar y ddolen uchod i roi eich barn. Dyddiad cau: Dydd Sul 15 Hydref.
Ymgynghoriad gan Defra am Gloddiau Helpu llunio pa ofynion ddylid eu cael a sut gallai gwarchod cloddiau edrych yn y dyfodol. | SURVEYS AND CONSULTATIONS
A questionnaire about bird feeding for a Master’s thesis on Trichomonas gallinae in hawfinches. You can participate even if you do not have hawfinches visiting your garden.
Dissertation – Farming Education This survey is part of a dissertation for MSc Regenerative Food, Farming and Enterprise at Schumacher College.
New National Park -Engagement Events Have your say on an initial Area of Search map for a proposed new National Park in North East Wales.
Please take part in a survey to help shape the future of Hafod.
Outdoor Recreation Strategy Stakeholder survey Natural Resources Wales are developing a strategy to set a long-term vision for recreation access on the land cared for by them click the link above to be heard. Closing date: Sunday 15th October.
Help shape what requirements there should be and what the future of hedgerow protections could look like.
|
PLEIDLEISIO
Pleidleisiwch dros eich hoff goeden o’r rhestr fer.
Pleidleisiwch dros eich hoff brosiect cyn dydd Llun 9 Hydref. Mae’r ymgeiswyr yn cynnwys y Prosiect SIARC (Inspiring Action and Research with Communities) i hwyluso mynediad i’r amgylchedd danddwr yng Nghymru. | VOTING
Vote for your favourite tree from the shortlist.
Vote for your favourite project before Monday 9th October. Entrants include Project (SIARC) Sharks Inspiring Action and Research with Communities which is about opening-up access to the underwater environment in Wales.
|
SWYDDI A GWIRFODDOLWYR
Swyddog Afonydd Arbenigol Mae prosiect newydd wedi ei lansio i wella cynefinoedd yn nalgylch Afon Teifi. Mae arian wedi dod i recriwtio swyddog arbenigol a hefyd i osod dulliau monitro yn yr afon i ddatblygu dulliau lliniaru maetholion a darparu data am lwyth maetholion yn yr afon. Os hoffech gael gwybod rhagor, cysylltwch ag LDP@Ceredigion.gov.uk
Arweinydd Prosiect Mannau Gleision er mwyn Iechyd Gweitho gartref yn bennaf a theithio bob mis i Rydychen, yn arwain y prosiect Trees Call to Action. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Llun 9 Hydref.
Diwrnodau Ymwelwyr a Gwirfoddolwyr Bydd Gardd Goedwig Gymunedol Naturewise yn cynnal diwrnodau i ymwelwyr a gwirfoddolwyr ar ddydd Mawrth 10am-4pm a bob trydydd dydd Sadwrn yn y mis. Poster a dogfen wybodaeth wedi eu cysylltu.
| JOBS AND VOLUNTEERS
Specialist River Officer A new project has launched to improve riverine habitat in the Teifi River catchment. Funding has been received to recruit a specialist officer and also to install in-river monitors in the River Teifi to develop nutrient mitigations and deliver nutrient load data. If you would like to find out more, get in touch with LDP@Ceredigion.gov.uk
Green Space for Health Project Lead Home-based with monthly travel to Oxford, leading the Trees Call to Action project. Closing date for applications Monday 9th October.
Visitor and Volunteer Days Naturewise Community Forest Garden are holding visitor and volunteer days on Tuesdays 10am-4pm and every third Saturday of the month. Poster and information document attached. |
BWYD A FFERMIO
Cyfarwyddwr Materion Gwledig yn ymweld â Fferm yng Ngheredigion Mae Cyfarwyddwr materion gwledig Llywodraeth Cymru wedi ymweld â fferm yng Ngheredigion.
Prosiect 4 Afon – Help i Ffermwyr Os ydych yn ffermio ar hyd un o bedair afon y dalgylch, gallwch gael help, ariannu a chefnogaeth o’r prosiect hwn. Mae poster wedi ei gysylltu.
Symud systemau bwyd amaeth tuag at sero net a bod yn fwy cynaliadwy yw thema’r gweithdy hwn ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddydd Iau 12 Hydref 9am-5pm.
Trafodaeth Genedlaethol am Fwyd Darllenwch y casgliadau o’r Drafodaeth Genedlaethol am Fwyd.
Mae angen Tyfwyr Bwyd yng Ngheredigion Byddai cydlynydd y Bartneriaeth Fwyd Leol i Geredigion yn hoffi clywed gan unrhyw dyfwyr yng Ngheredigion a hoffai helpu creu Strategaeth Bwyd Da i’r sir. Yn enwedig cynhyrchwyr cychwynnol, ysgolion a cholegau, a busnesau/ sefydliadau twristiaeth gynaliadwy. Cysylltwch ag Ann Owen
Cyfarfod Partneriaeth Fwyd Leol Bydd Cyfarfod Partneriaeth Fwyd Leol ddydd Llun 9 Hydref 3.30pm-5pm drwy GoogleMeet.
Mae Fferm Gofal Clynfyw wedi helpu ailgartrefu dros 3,000 o ieir batri yn y pum mlynedd diwethaf. Bydd eu diwrnod nesaf ar gyfer ailgartrefu ar gyfer British Hen Welfare Trust ddydd Sadwrn 21 Hydref. Os ydych chi’n hoffi cael wyau da, ac os hoffech gael ychydig ieir, trefnwch gyda’r Fferm.
Cynnig Cyfranddaliadau Cymunedol Mae Fferm Gofal Clynfyw, Aber-cuch, sydd hefyd yn rheoli Kinora, y Ganolfan Adfer Iechyd Meddwl yn Aberteifi, yn cynnig cyfle i bobl brynu rhai o’u cyfranddaliadau i greu ased gymunedol ar gyfer y gymuned ehangach. Mae rhagor o wybodaeth a fideo yn y ddolen.
The Need tio GROW – Ffilm am Ddim ar Gynaliadwyedd Mae hon yn dilyn tri arweinydd gwrthwynebus wrth iddyn nhw frwydro i wella ein system fwyd sydd wedi methu. Ar gael am ddim am gyfnod byr yn unig.
Amrywiaeth Rhywedd yn y System Fwyd Erthygl yn dadansoddi sut mae brwydr pobl LGBTTIQ yn cael ei thawelu yn y mudiad hawliau dynol, ac yn y frwydr am sofraniaeth bwyd a hawliau pobl i fwyd a maeth digonol.
Erthygl am chwalu stereoteipiau traddodiadol am gefn gwlad, cwmpasu ieithoedd cynhwysol, a chydnabod bod natur ei hun yn amrywiol ac yn rhyfedd, a sut y bydd hyn yn helpu wrth drawsnewid y system fwyd.
| FOOD AND FARMING
Rural Affairs Director's Ceredigion Farm Visit The Welsh Government’s director for rural affairs has paid a visit to a Ceredigion
4RiversforLife – Help for Farmers If you farm along one of the four catchment rivers you can get help, funding and support from this project. Poster attached.
Moving agrifood systems towards greater sustainability & net zero is the theme of this workshop at University of Wales Trinity Saint David on Thursday 12th October 9am-5pm.
National Conversation about Food Read the findings from the National Conversation about Food.
Food Growers in Ceredigion Wanted. The Local Food Partnership coordinator for Ceredigion, would like to hear from any growers in Ceredigion who would like to help create a Good Food Strategy for the county. Particularly primary producers, schools and colleges, and sustainable tourism businesses/organisations. Please contact Ann Owen ann.owen@menterabusnes.co.uk
Local Food Partnership Meeting There will be a Local Food Partnership Meeting on Monday 9th October 3.30-5pm via GoogleMeet.
Clynfyw Care Farm have helped to rehouse over 3,000 ex-battery hens in the last five years. They have their next rehousing day for the British Hen Welfare Trust on Saturday 21st October. If you like good eggs, and would like some hens, please book in with them.
Clynfyw Care Farm, Abercych who also manage the Kinora Mental Health Recovery Centre in Cardigan are giving people the opportunity to purchase some of their shares to create a community asset for the wider community. Further information and video in the link.
The Need to GROW – Free Sustainability Film This follows three renegade leaders as they fight to heal our broken food system. Free for a limited time only.
Gender Diversity in the Food System An article analysing how the struggle for the rights of LGBTTIQ persons is largely silenced in the broader human rights movement, and in the struggle for food sovereignty and the human right to adequate food and nutrition.
An article about breaking traditional rural stereotypes, embracing inclusive languages, and acknowledging that nature itself is diverse and queer and how this will help in the transformation of the food system. |
FFYNGAU
Chwilio am y Cap Cŵyr Ymunwch â Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau i chwilio am y cap cwŷr ddydd Sul 22 Hydref 10.30am. Cyfarfod wrth y man troi ar ddiwedd Melin y Môr (Tip Road) lle mae Siediau Spenser’s. Lleoliad: Pwynt B yma. Cyfeirnod Grid: SN 58120 80266. What3words: inflamed.stick.troll
Chwilio am Fadarch Sgwrs gyda lluniau yn Theatr Mwldan nos Fercher 11 Hydref 7.30pm Mae poster wedi ei gysylltu.
| FUNGI
Waxcap Foray Join Penparcau Wildlife Group for a waxcap foray on Sunday 22nd October 10.30am. Meet at the turning circle at the end of Felin-y-Mor, (aka Tip Road) where Spenser's Sheds are. Location: Point B here. Grid Reference: SN 58120 80266. What3Words : inflamed.stick.troll
Mushroom Foraging An illustrated talk at Theatre Mwldan Wednesday 11th October 7.30pm. Poster attached |
RHYWOGAETHAU YMLEDOL
Rhoi gwybod am y bicwnen ffug Asiaidd Ni wyddom a yw’r Bicwnen Ffug Asiaidd wedi cyrraedd Cymru eto. Rhowch wybod ar y ddolen uchod os gwelwch un.
Dysgwch sut i adnabod a chofnodi Llŷg Mawr Dannedd Gwynion, sy’n rhywogaeth ymledol. | INVASIVE SPECIES
It is not yet known if the Asian Hornet has reached Wales. Please report sightings to the link above.
Learn how to spot and record sightings of The Greater White-toothed Shrew, an invasive species.
|
CANLLAWIAU AM DDIM
Canllaw Garddio Heb Blaladdwyr Gallwch lawrlwytho’r canllaw hwn am ddim am arddio’r organaidd a bod yn garedig i natur.
Dewiswch blanhigion i’ch gardd a fydd yn denu peillwyr.
Llawlyfr Bioleg ac Ecoleg Dŵr Croyw Lawrlwythwch am ddim am drosolwg o’r dulliau biolegol ac ecolegol a ddefnyddir i asesu statws yr amgylchedd dŵr croyw.
Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio Canllawiau gyda gwybodaeth ar sail tystiolaeth, cyngor ymarferol ac astudiaethau achos i helpu wrth wneud penderfyniadau am goed trefol.
| FREE GUIDES
Download this free guide on how to garden organically and make it nature friendly.
Choose plants for your garden that will attract pollinators.
Freshwater Biology and Ecology Handbook Free download providing an overview of the biological and ecological methods used to assess the status of the freshwater environment.
Trees and Designs Action Group Guides with evidence-based information, practical advice and case studies to inform decision-making on urban trees.
|
WEBINARAU
Webinar Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Moesegol Dysgwch yr arferion gorau wrth dynnu lluniau o’n bywyd gwyllt. Dydd Gwener 13 Hydref 12-1pm.
Webinar Cysylltiadau Mamaliaid Archwiliwch arwyddocâd gwarchod mamaliaid Prydain. Dydd Mercher 11 Hydref 12-1pm.
Webinar Awyr Dywyll mewn Dinasoedd Archwiliwch yr arferion cynllunio a dylunio awyr dywyll mae dinasoedd ledled y byd yn eu gweithredu, a buddiannau dynol ac an-nynol dinasoedd awyr dywyll. Dydd Mercher 25 Hydref 5pm. | WEBINARS
Ethical Wildlife Photography Webinar Learn the best practices when photographing our wildlife. Friday 13th October 12-1pm.
Explore the significance of conserving British mammals. Wednesday 11th October 12-1pm.
Examine the dark sky planning and design practices that global cities are implementing and the human and non-human benefits of dark sky cities. Wednesday 25th October 5pm.
|
CWRS CERDDED A CHYMORTH CYNTAF
Mwynhewch daith gerdded natur a thirwedd gydag arweinwyr lleol ddydd Sul 8 Hydref 10am-4pm.
Cwrs Cymorth Cyntaf Awyr Agored Mewn dau ddiwrnod dysgwch am anafiadau awyr agored mewn gwahanol sefyllfaoedd a’r driniaeth cymorth cyntaf sy’n briodol. Dydd Iau 5 - dydd Gwener 6 Hydref 8.45am-5pm. Cost £150.
| WALK AND FIRST AID COURSE
Enjoy a nature and landscape walk with local guides on Sunday 8th October 10am-4pm.
Over two days learn about outdoor injuries through various settings and the appropriate first aid treatment. Thursday 5th - Friday 6th October 8.45am-5pm. Cost £150.
|
CYNADLEDDAU
WWF yng Nghynhadledd Ymylol Plaid Cymru Ymunwch â WWF i glywed mwy am Ymgyrch Achub ein Hynysoedd Gwyllt ddydd Gwener 6 Hydref 12-1pm yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.
Cynhadledd Cynllun Gwella’r Amgylchedd Clywed gan siaradwyr arbenigol o fri a phanelwyr yn Llundain ddydd Gwener 3 Tachwedd 9.30am-3.30pm.
| CONFERENCES
WWF Cymru Fringe at Plaid Cymru Conference Join WWF Cymru to hear more about the Save our Wild Isles Campaign on Friday 6th October 12-1.30pm at Aberystwyth Arts Centre.
Environmental Improvement Plan Conference Hear from a senior line-up of expert speakers and panellists in London on Friday 3rd November 9.30am-3.30pm.
|
I’W RHOI YN EICH DYDDIADUR
Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Wiwer Goch Dydd Llun 2 - dydd Gwener 8 Hydref Diwrnod Rhyngwladol E-wastraff Dydd Sadwrn 14 Hydref. Wythnos ’Environmenstrual’ Dydd Llun 16 Hydref - dydd Gwener 20 Hydref. Wythnos Ailgylchu 16 – 22 Hydref Diwrnod Bwyd y Byd Dydd Llun 16 Hydref. Diwrnod Cenedlaethol Mwsogl Dydd Sadwrn 21 Hydref Taith Gerdded Fawr Wyllt Dydd Llun 16 – dydd Llun 30 Hydref Wythnos Genedlaethol Mamaliaid Dydd Mawrth 24 – 30 Hydref | DATES FOR YOUR DIARY
Red Squirrel Awareness Week Monday 2nd- Friday 8th October International E-Waste Day – Saturday 14th October Environmenstrual Week - Monday, October 16th until Friday October 20th Recycle Week – 16th- 22nd October World Food Day – Monday 16th October National Moss Day – Saturday 21st October Big Wild Walk - Monday 16th - Monday 30th October National Mammal Week – Tuesday 24th-30th October
|
Diolch i bawb a anfonodd eu digwyddiadau a’u newyddion i greu’r cylchlythyr hwn. Ni fyddai’n digwydd heb eich cyfraniad chi. Anfonwch eich gwybodaeth mor fuan â phosibl i sicrhau bod cynifer â phosibl o ddarllenwyr yn cael cyfle i ymgysylltu â’ch cyfraniad. Caiff y prif gylchlythyr ei gyhoeddi ar y dydd Gwener cyntaf yn y mis a fflachiadau newyddion ar ddydd Gwener os bydd angen. | Thank you to everyone who submitted their events and news to create this newsletter, it would not happen without your input. Please send us your information as soon as possible to ensure that as many readers as possible get the opportunity to engage with your contribution. The main newsletter is published on the first Friday of every month and newsflashes on Fridays if necessary.
|