Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
January 5, 2024

Newyddion Natur Ceredigion Newsletter 05/01/2024

Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsletter

 

Blwyddyn Newydd Dda dda i chi bobl sy’n caru natur. Dechreuwch y flwyddyn yn gadarnhaol drwy lawrlwytho neu argraffu’r atodiad hwn, Calendr #NaturCeredigion am ddim drwy garedigrwydd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion, a’i rannu hefyd gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

 

 

Happy New Year nature lovers. Start the year with a positive step by downloading or printing the attached, free #NaturCeredigion Calendar courtesy of The Ceredigion Local Nature Partnership. Please feel free to share with friends, family and colleagues.

 

 

Cyfarfod PNLC - Timau Ar-lein

Bydd cyfarfod nesaf Partneriaeth Natur Leol Ceredigion ar ddydd Gwener 19fed Ionawr 10am-1pm. Gweler wedi ei atodi agenda ar gyfer y cyfarfod hwn a chofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

 

CLNP Meeting - Online Teams

The next meeting of the Ceredigion Local Nature Partnership will be on Friday 19th January 10am-1pm. Please find attached the agenda for this meeting and the minutes of the previous.

 

  • Bioamrywiaeth

  • Bwyd a Ffermio

  • Yr Afanc

  • Gwirfoddolwyr a Swyddi

  • Ffotograffau

  • Rhywogaethau Ymledol

  • Cyrsiau a Gweithdai

  • Adroddiadau

  • Y Cyfryngau

  • Adnoddau

  • Blogiau Afonydd

  • Ymgynghori

  • Diweddariad ac Arolwg

 

 

  • Biodiversity

  • Food and Farming

  • Beavers

  • Volunteers and Job Opportunity.

  • Photographs Wanted

  • Invasive Species

  • Courses and Workshops

  • Reports

  • Media

  • Resources

  • River Blogs

  • Consultations

  • Update and Review

 

Holiadur a Chynllun Gweithredu i Adfer Natur yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn lle arbennig. Hi yw’r bedwaredd sir fwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd tir, ac mae’n cynnwys nifer o ecosystemau rhyfeddol. Y Cynllun Gweithredu ar Adfer Natur (NRAP) yw’r ymdrech gyntaf i greu strategaeth  gynhwysfawr ond hygyrch i helpu adfer natur yn y sir. Er bod dogfennau a chynlluniau blaenorol wedi eu cyhoeddi, nod yr NRAP hwn yw cynrychioli gweledigaeth newydd ar gyfer adfer natur, un sy’n agored i bawb yn y sir sy’n dymuno cymryd rhan. Dim ond drwy ddull cydweithredol gwirioneddol gynhwysol y gall yr NRAP hwn gael ei weithredu a sicrhau adferiad natur. Gwahoddir pawb sydd  â diddordeb mewn cyflawni’r weledigaeth hon i ddarllen y drafft cyntaf hwn a rhannu eu syniadau a’u hymateb drwy lenwi’r arolwg hwn.  Gweler yr atodiad.

 

Strategaethau Lleol Adfer Natur

Gallwch archwilio Strategaethau Lleol Adfer Natur , gan gynnwys rhai o’r heriau sy’n wynebu’r bobl sy’n gweithio arnynt, ddydd Iau 8 Chwefror 10.30-12pm.  Mae hyn yn gymwys i Loegr, ond gall yr egwyddorion gael eu trosglwyddo i gyd-destun Cymru.

 

Ceredigion Nature Recovery Action Plan and Questionnaire

Ceredigion is a special place. Wales’ fourth largest county by land area, Ceredigion is home to many fascinating ecosystems. The Nature Recovery Action Plan (NRAP) represents the first attempt to create a comprehensive yet accessible strategy for helping nature recovery in the county. Whilst previous documents and plans have been published, this NRAP seeks to represent a new vision for nature recovery, one that is open to all those in the county who wish to participate. It is only through a truly cross-society, collaborative approach that this NRAP can be implemented, and nature recovery achieved. All those interested in achieving this vision are invited to read the first draft and share thoughts and feedback by completing this survey. See attached.

 

Local Nature Recovery Strategies

Explore Local Nature Recovery Strategies, including some of the challenges faced by those working on them on Thursday 8th February 10.30am-12pm. This applies to England, but the principles may be transferable to the Welsh context.

 

 

Bioamrywiaeth

 

Gwefan Cymru a Ni

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn falch rhannu’r wefan Natur a Ni sydd wedi ei diweddaru, lle gallwch weld  gweledigaeth Natur a Ni ar gyfer 2050, a’r data a’r adroddiadau sylfaenol am yr holl welliannau a’r sgyrsiau sydd wedi helpu llunio’r weledigaeth.

 

Dangosyddion Bioamrywiaeth y Deyrnas Gyfunol 2023

Mae dangosyddion bioamrywiaeth diweddaraf y DG wedi eu cyhoeddi.

 

Symposiwm Rhithwir ar Ddata Bioamrywiaeth Leol

Digwyddiad  i rannu gwybodaeth am wahanol ffyrdd y gellir defnyddio data bioamrywiaeth sy’n cael eu cadw gan ganolfannau Cofnodion  Amgylcheddol Lleol ddydd Mercher 17 Ionawr 10am-1pm.

 

‘Biodiversity Deep Dive’ – Adroddiad am y Cynnydd

Diweddariad i dynnu sylw at y cynnydd a’r cerrig milltir o fis Hydref 2022 i fis Ebrill 2023 yn erbyn pob un o’r argymhellion.

 

Biodiversity

 

Wales and Us Website

The Wales Biodiversity Partnership is proud to share the updated Nature and Us website where you can find the Nature and Us vision for 2050, and the underlying data and reports on all the involvement and conversations that have helped shape the vision.

 

UK Biodiversity Indicators 2023

The latest update of the UK Biodiversity indicators has been published.

 

Local Biodiversity Data Virtual Symposium

A knowledge-sharing event about different ways that biodiversity data held by Local Environmental Record centres can be used on Wednesday 17th January 10am-1pm.

 

Biodiversity Deep Dive - Progress Report

An update to highlight the progress and milestones from October 2022 to April 2023 achieved against each of the recommendations.

 

Bwyd a Ffermio

 

Noson Blasu Cig Hela

Dathlu a hyrwyddo defnyddio cig hela o ffynonellau cynaliadwy gyda bwyd wedi ei baratoi gan fyfyrwyr Coleg Ceredigion yn Aberteifi nos Fercher 31 Ionawr 6pm.

 

Ymgynghori ar Ffermio Cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn am y rhaglen faith i gefnogi’r diwydiant  amaethyddiaeth. Ymgynghori’n gorffen dydd Iau 7 Mawrth.

 

Anelu at Sero Net - Webinar Bwyd a Ffermio

Beth sy’n digwydd pan fydd prif nod trawsnewid y system bwyd yn sero net? Beth fydd y manteision a beth fydd yn newid? Dydd Mercher 17 Ionawr 10-11am.

 

Prosiect Cael Ffermio i Oeri’r Blaned

Prosiect i ymgysylltu â phobl ifanc yn y mudiad bwyd a ffermio drwy eu diddordeb i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

 

Cyflwyniad y Panel Coedlannau Cydweithredol

Meddai Jerry Langford, Coed Cadw:

Yn ychwanegol at ein digwyddiad  yn y Senedd ar 7 Tachwedd, rwy’n amgau copi o gyflwyniadau’r panelwyr  yn y digwyddiad gan gynnwys rhai pwyntiau allweddol o araith y Gweinidog. Wrth inni nesau at yr ymgynghori ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r Mesur Natur Gadarnhaol, gobeithio y bydd hyn o ddiddordeb ichi. Byddwn yn croesawu eich sylwadau a’ch trafodaeth. Mae ein dogfen bolisi Trees and Woodland: at the Heart of Nature Recovery in Wales nawr wedi ei chyhoeddi ac ar gael ar ein gwefan yn Saesneg ac yn Gymraeg. Gallwch anfon e-bost at Jerry ar JerryLangford@woodlandtrust.org.uk

 

Food and Farming

 

A Taste of Game Evening

Celebrate and promote the consumption of sustainably sourced game meats with food prepared and served by students at Coleg Ceredigion, Cardigan on Wednesday 31st January 6pm.

 

 

Sustainable Farming Consultation

The Welsh Government want your views on the long-term programme to support the agricultural industry. Consultation ends Thursday 7th March.

 

Aiming for Net Zero - Food and Farming Webinar

What happens when the main aim of food system transformation is net zero? What are the win-wins and trade-offs? Wednesday 17th January 10-11am.

 

How Farming Can Cool the Planet project

A project that aims to engage young people in the food and farming movement through their existing passion to tackle the climate crisis.

 

Collaborative Treescapes Panels Presentation

Jerry Langford of Coed Cadw:

“Further to our event at the Senedd on 7th November please find attached a copy of the panellist presentations at the event including some key points from the Minister’s speech.  As we approach consultations on the Sustainable Farming Scheme and the Nature Positive Bill, I do hope you will find this content of interest.  I would welcome comments and discussion. Our policy document Trees and Woodland: at the Heart of Nature Recovery in Wales is now published on our website, in English and in Welsh. You can email Jerry on JerryLangford@woodlandtrust.org.uk

 

Yr Afanc

 

Newyddion am yr Afanc

Yr afanc yn dychwelyd i’r Cairngorms ar ôl 40 mlynedd.

 

Yr Afanc yng Nghymru

Cewch wybod popeth am yr afanc yng Nghymru gyda’r pecyn gwybodaeth a’r adnodd dysgu dwyieithog hwn i ysgolion cynradd.

 

Beavers

 

Beaver News

Beavers to return to Cairngorms after 400 years

 

Beavers in Wales

Learn all about beavers in Wales with this free bilingual information pack and learning resource for primary schools.

 

Gwirfoddolwyr a Swyddi

 

Gwirfoddolwyr Canolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion

Mae croeso i wirfoddolwyr Lleol Moroedd Byw yn ein tîm drwy’r flwyddyn. Does        dim angen cefndir  mewn gwyddoniaeth i gymryd rhan oherwydd caiff hyfforddiant llawn ei ddarparu.

 

Gwirfoddolwyr Garddio

Fel aelod o’r Tîm Garddio yn y Ganolfan Technoleg Amgen, byddwch yn helpu cadw’r gerddi arddangos  o gwmpas y ganolfan yn ddiddorol, yn hardd ac yn dwt..

 

Trysorydd ac Ymddiriedolwyr  

Mae Plantlife yn dymuno denu staff brwdfrydig i arwain y sector i helpu gwneud gwahaniaeth mewn cadwraeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd wrth warchod planhigion.

 

Gwirfoddolwyr Banciau Bwyd

Ymunwch â’r tîm o wirfoddolwyr yn Stordy’r Jiwbilî i helpu gyda thasgau Banciau Bwyd.

 

Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned

Cysylltu pobl â’u hafonydd a’u bywyd  gwyllt yn lleol fel rhan o brosiect ymgysylltu cyffrous. Dyddiad cau dydd Llun 15 Ionawr.

 

Volunteers and Job Opportunity.

 

Cardigan Bay Marine Wildlife Centre Volunteers

Living Seas Local Volunteers are welcomed to our team all year round. You don’t need a background in science to become involved as full training is provided.

 

Gardens Volunteer

As a member of the Gardening Team at the Centre for Alternative Technology, you will help to keep the display gardens around the visitor centre interesting, beautiful and well looked after.

 

Treasurer and Trustees

Plantlife wish to engage highly motivated and sector-leading staff to help deliver tangible conservation impact and engage the public in plant conservation.

 

Food Bank Volunteers

Join the team of volunteers at Jubilee Storehouse with helping with Food Bank tasks.

 

Community Engagement Officer

Connect people with their local river and wildlife as part of an exciting engagement project. Closing date Monday 15th January.

 

 

Ffotograffau

 

Ffotograffau o Longwood

Oes yna ffotograffwyr addawol sy’n ymweld â Longwood ac yn tynnu lluniau? Hoffech chi ddangos eich gwaith? Gall eich llun fod ar y clawr blaen, a chewch y  credyd a dolen i’ch tudalen neu eich gwefan. I gymryd rhan anfonwch neges ar Facebook gyda’ch llun. Bydd i’w weld am ddau fis.

 

Ffotograffau Gwefannau

Oes gennych chi ardd sy’n garedig i fywyd gwyllt? Dywedwch pa nodweddion sydd ynddi a chyflwynwch eich ffotograffau i fod ar wefan The People’s Trust o Rywogaethau sydd mewn Perygl.

 

Photographs Wanted

 

Longwood Photos

Are there any budding photographers who visit Longwood and take pictures? Do you want to showcase your work? Feature on their cover photo and they will credit you and tag to your page or website. To take part just message on Facebook with your picture. They will display for two months.

 

Website Photographs

Have a wildlife-friendly garden? Say what features you have and submit your photos to feature on The People’s Trust for Endangered Species website.

 

Rhywogaethau Ymledol

 

Blog Rhywogaethau Ymledol

Mae Leila Thornton, Uwch Swyddog Adfer Afonydd Four Rivers for LIFE, yn siarad am y dull mae’r prosiect yn ei dreialu i reoli’r ffromlys chwarennog (Jac y Neidiwr) yn arbennig.

 

Dadansoddi Tail Tylluanod

Mae’r Gymdeithas Mamaliaid yn archwilio peledi tail y Dylluan Wen i ddod o hyd i rywogaeth ymledol – y Llyg Wen Fwyaf. Pwyswch ar ddalen y teitl i weld sut allwch chi helpu.  Mae canllawiau i’w cael yma.

 

Cylchlythyr Rhywogaethau An-frodorol

Mae’n llawn diweddariadau difyr am amrywiaeth o blanhigion  INNS.

 

Invasive Species

 

Invasive Species Blog

Four Rivers for LIFE Senior River Restoration Officer, Leila Thornton talks about the project’s method they are trialling to control Himalayan balsam in particular.

 

Owl Pellet Dissection

The Mammal Society are using the examination of Barn Owl pellets in order to detect an invasive species - the Greater White Toothed Shrew, please press the title link to find out how you can help. Guidelines can be found here.

 

Non-Native Species Newsletter

Packed with interesting updates on a range of INNS.

 

Cyrsiau a Gweithdai

Ar ran Partneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru hoffem eich gwahodd i un o ddau ddigwyddiad ymgysylltu yr ydym yn eu cynnal ar gyfer “Y Môr a Ni”, strategaeth a chynllun gweithredu i gefnogi’r cysylltiad rhwng pobl ac arfordiroedd a moroedd Cymru. Mae’r strategaeth yn cefnogi dealltwriaeth o’n dylanwad ar y môr, a dylanwad y môr arnom ni, gan ein galluogi i fynd i’r afael yn fwy effeithiol â’r cyfleoedd a’r heriau o amgylch ein harfordiroedd a’n moroedd.

Esblygodd y gwaith hwn yn dilyn gweithdy o bartneriaid â diddordeb ym mis Mehefin 2022, a alwodd am weledigaeth, strategaeth a chynllun gweithredu i gydlynu’r gwaith hwn a’i yrru yn ei flaen yng Nghymru. Ers hynny, mae gweithgor bychan wedi bod yn datblygu hyn, a hoffem ei rannu gyda chi a rhoi cyfle i chi gyfrannu.

 

Nod y gweithdai:

Dod ag ymarferwyr morol ac arfordirol yng Nghymru at ei gilydd i gefnogi datblygiad Y Môr a Ni

 

Amcanion:

  • Hysbysu grŵp ehangach am waith y gweithgor Llythrennedd Morol a chyflwyno strategaeth ddrafft Y Môr a Ni

  • Annog trafodaeth a mewnbwn egnïol er mwyn mireinio’r strategaeth a’r cynllun gweithredu

  • Ceisio ymrwymiad ehangach i wireddu’r cynllun gweithredu

Dyddiadau:

  • Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2024: Venue Cymru, Llandudno 10:30 - 3:30pm (te/coffi am 10am)

  • Dydd Iau, 18 Ionawr 2024: Gwesty’r Mercure, Caerdydd 10:30 - 3:30pm (te/coffi am 10am)

COFRESTRWCH YMA

 

 

Gweithdy Bywyd Gwyllt

Yma yn Fferm Denmark, mae gennym lawer o Weithdai Bywyd Gwyllt newydd a rhai sy'n dychwelyd wedi'u cynllunio ar gyfer 2024. Hoffem ddiolch i’r Postcode Community Trust, am ddarparu grant o £25,000 i gefnogi ein gwaith cadwraeth. Mae hyn yn caniatáu i'n Rheolwr Gwarchodfa Natur, Ryan, gynnig y gweithdai arbennig hyn:

  • 17eg Chwefror – Adnabod Coed yn y Gaeaf: Adnabod Coed yn y Gaeaf

  • 24ain a 25ain Chwefror – Bondocio ar gyfer Rheoli Coetir: Bondocio ar gyfer Rheoli Coetir

  • 24ain Mawrth – Cyflwyniad i Fywyd Gwyllt yn Fferm Denmark: Cyflwyniad i Fywyd Gwyllt yn Fferm Denmark

  • 4ydd Mai – Cyflwyniad i Adnabod Blodau Gwyllt:  Cyflwyniad i Adnabod Blodau Gwyllt

  • 11eg Mehefin – Adnabod Coed yn yr Haf: Adnabod Coed yn yr Haf 

  • 14eg Medi – Adnabod Coed yn yr Hydref: Adnabod Coed yn yr Hydref

Mae'r gweithdai hyn AM DDIM i'n haelodau a'n gwirfoddolwyr rheolaidd, gyda thâl bach i eraill. Os nad ydych wedi gwirfoddoli gyda ni eto, beth am ddechrau? Mae gennym ddau grŵp rheolaidd, ein gwirfoddolwyr cadwraeth: Diwrnodau Gwirfoddolwyr Cadwraeth a'n gwirfoddolwyr garddio mannau tyfu: Grŵp Gwirfoddolwyr: Mannau Tyfu

 

 

 

Cyrsiau’r Ymddiriedolaeth Adfer Rhywogaethau

Bydd nifer o gyrsiau am dâl yn dechrau yn y flwyddyn newydd ar amrywiaeth o bynciau.

 

Beth yw QGIS? Cwrs Ar-lein

Bydd y cwrs hwn ar-lein yn cyflwyno QGIS a’r ffordd mae’n gweithio, yn ogystal â chyflwyno QGIS fel dewis meddalwedd agored. Dechrau ddydd Gwener 12 Ionawr.

 

Courses and Workshops

 

Y Môr a Ni

On behalf of Coast and Seas Partnership (CaSP Cymru) we would like to invite you to one of two engagement events we are hosting for “Y Môr a Ni”: a strategy and action plan to support the connection between people and Welsh coasts and seas.

Aim of the workshops: To bring marine and coastal practitioners in Wales together to support the development of Y Môr a Ni.

Objectives:

  • Inform a wider group about progress of the working group and present the draft Y Môr a Ni

  • Encourage active discussion and input to refine the strategy and action plan

  • Seek wider buy-in and commitment to delivering the action plan

Dates:

  • Tuesday January 16th 2024: Venue Cymru, Llandudno 10:30 - 3:30pm (tea/coffee at 10am)

  • Thursday January 18th 2024: Mercure Hotel, Cardiff 10:30 - 3:30pm (tea/coffee at 10am)

 REGISTER HERE

 

Wildlife Workshops

Here at Denmark Farm, we have lots of new and returning Wildlife Workshops planned for 2024. We would like to thank the Postcode Community Trust, for providing a grant of £25,000 to support our conservation work. This allows our Nature Reserve Manager, Ryan, to offer these special workshops:

•         17th Feb – Identifying Trees in Winter: Identifying Trees in Winter

•         24th & 25th Feb – Coppicing for Woodland Management: Coppicing for Woodland Management

•         24th March – Intro to Wildlife at Denmark Farm: Intro to Wildlife at Denmark Farm

•         4th May – An Introduction to Wildflower Identification:  An Introduction to Wildflower Identification

•         11th June – Identifying Trees in Summer: Identifying Trees in Summer

•         14th Sept – Identifying Trees in Autumn: Identifying Trees in Autumn

These workshops are FREE to our members and our regular volunteers, with a small charge for others. If you haven’t volunteered with us yet then why not start? We have two regular groups, our conservation volunteers: Conservation Volunteer Days and our growing spaces gardening volunteers: Volunteer Group: Growing Spaces.

 

The Species Recovery Trust Courses

There are a number of paid courses starting in the new year on a large variety of topics.

 

What is QGIS? Online Course

This introductory online QGIS course will introduce GIS and how it works, as well as an introduction to QGIS as an open software option. Starting Friday 12th January.

 

Adroddiadau

 

Adroddiad BugLife

Mae adroddiad newydd gan Buglife wedi gweld bod hanner creaduriaid di-asgwrn- cefn endemig y DG mewn perygl o ddiflannu o’r byd.

 

Ein Coed a’n Coedydd

Cyfres o adroddiadau gan The Woodland Trust yn dangos swyddogaeth ganolog y mae’n rhaid i goed a choedydd brodorol naturiol a lled naturiol ei chwarae wrth adfer natur.

 

Adroddiad ar Gyfrifiad Adar Môr

Y canlyniadau o’r Cyfrifiad Adar  Môr, y pedwerydd cyfrifiad o boblogaethau adar môr sy’n magu ym Mhrydain ac Iwerddon ac sy’n bwysig yn rhyngwladol.

 

Reports

 

BugLife Report

A new report by Buglife has found that half of the UK’s endemic invertebrate species are at risk of global extinction.

 

Our Trees and Woods

A series of reports from The Woodland Trust demonstrating the central role that native natural and semi-natural woods and trees must play in restoring nature.

 

Seabird Census Report

The results from Seabirds Count, the fourth census of Britain and Ireland’s internationally important populations of breeding seabirds.

 

Y Cyfryngau

 

Fideo Ymchwil y Gylfinir

Mae Elli Rivers, myfyrwrig PhD, wedi bod yn astudio’r gylfinir ym Mharc Cenedlaethol New Forest. Mae poblogaeth y gylfinir sy’n magu yn lleihau’n gyflym, ac mae perygl y bydd wedi diflannu ymhen deng mlynedd.  Edrychwch ar y fideo byr hwn i ddysgu am waith difyr Elli.

 

Our Beautiful Wild - Ffilm

Mae ffilm fer gan Youth Voices for Nature ar gael nawr.

 

Media

 

Curlew Research Video

Elli Rivers, a PhD student has been studying curlew in the New Forest National Park. The breeding population of curlew is declining rapidly, and they are at risk of extinction within a decade. Watch the short video above to learn about Elli's fascinating work.

 

Our Beautiful Wild - Film

A short film made by Youth Voices for Nature is out now.

 

Adnoddau

 

Gwylio Adar Mewn Ysgolion

Dewch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn gan RSPB o ddydd Llun 8 Ionawr i ddydd Llun 19 Chwefror a lawrlwytho’ch pecyn adnoddau am ddim.

 

Canllaw i Dwyni Tywod

 

Codi Sbwriel a Glanhau Traethau

Darllenwch y canllaw hwn  i drefnu eich digwyddiad glanhau eich hun.

 

Llethr Gwenyn

Mae BugLife wedi creu’r llyfryn hwn i ddangos sut gallwch chi helpu peillwyr yn eich ardal.

 

Pecyn Cymorth Mannau Gwyrdd

Pecyn cymorth i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a gwella mannau gwyrdd naturiol i bobl mewn trefi a dinasoedd.

 

Resources

 

Big Schools’ Birdwatch

Take part in this RSPB event from Monday 8th January - Monday 19th February and download your free resource pack.

 

Guide to Sand Dunes

 

Litter Pick or Beach Clean

Read this guidance to organise your own clean up event.

 

Bee Bank

BugLife have created this booklet to show you how you can help pollinators in your area.

 

Green Space Toolkit

A toolkit to help local authorities plan and improve natural green spaces for people in towns and cities.

 

Blogiau Afonydd

 

Blog Afonydd Cymru

Edrych yn ôl ar flwyddyn o gynnydd affwysol o araf i afonydd Cymru, ac mae’n dadlau yn 2024 fod rhaid i sectorau heblaw’r diwydiant dŵr ddechrau mynd i’r afael â’u heffeithiau.

 

Blog Mynd i’r Afael ag Afon Teifi

Blog gan Gyfoeth Naturiol Cymru am brosiect i fynd i’r afael â phroblemau  ansawdd dŵr yn Afon Teifi.

 

River Blogs

 

Afonydd Cymru Blog

A look back on a year of frustratingly slow progress for Welsh rivers and argues that in 2024, sectors other than the water industry must start resolving their impacts

 

Tackling the Teifi Blog

Blog from Natural Resources Wales on a project to tackle water quality issues on the Afon Teifi.

 

Ymgynghori

 

Ymgynghoriad y Creulys

Mae Llywodraeth Cymru’n gwahodd barn am newidiadau a awgrymir yn y cod ymarfer i atal lledaeniad y creulys. Ymgynghori’r dod i ben ddydd Llun 15 Ionawr.

 

Ymgynghoriad y Gronfa Asedau Cwsg   

Rhoi eich barn sut y dylid defnyddio cronfeydd  sydd heb eu hawlio i wella bywydau pobl yng Nghymru.

 

Consultations

 

Ragwort Consultation

The Welsh Government are seeking views on proposed changes to the code of practice to prevent and control the spread of ragwort. Consultation ends Monday 15th January.

 

Dormant Assets Fund Consultation

Have your say in how unclaimed funds should be used to improve the lives of people in Wales.

 

Diweddariad ac Arolwg

 

Esgair Arth

Mae Oxygen Conservation yn dymuno rhannu eu cynlluniau ar gyfer 2024 yn Esgair Arth, gan gynnwys menter i blannu coed helaeth, er mwyn atgyfnerthu coedlannau darniog a hybu rhywogaethau brodorol fel y gerddinen wyllt, sy’n unigryw i’r safle hwn.

 

Arolwg o Ganiatadau Dŵr Gwastraff

Mae prosiect ar droed gan Gyfoeth Naturiol Cymru i adolygu 171 o ganiatadau amgylcheddol cwmniau dŵr mewn gweithfeydd trin dŵr  gwastraff mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, er mwyn lleihau llygredd ffosfforws.

 

Update and Review

 

Esgair Arth

Oxygen Conservation would like to share their plans for 2024 at Esgair Arth including an expansive tree planting initiative, aimed at fortifying fragmented woodlands and nurturing native species such as the rare Wild Service Tree unique to this site.

 

Review of Wastewater Permits

A project is underway by Natural Resources Wales to review 171 water company environmental permits of wastewater treatment works in Special Area of Conservation rivers to reduce phosphorus pollution.

 

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.