Newyddion Natur Ceredigion News 28-07-2022
Fel bob amser, mae hon yn neges ddwyieithog gyda'r Gymraeg uwchben, Saesneg isod. Ymdrechwn i ddarparu cynnwys dwyieithog lle bo hynny'n bosibl, ond mae rhai dolenni i wefan sy'n uniaith Saesneg.
As always, this is a bilingual message with Welsh above, English below.
We endeavour to provide bilingual content where possible, but some links are to website which are in English only.
*******************
Noswaith dda a chroeso i rifyn diweddaraf Newyddion Natur Ceredigion. Heddiw rydyn ni’n meddwl yn fyd-eang ac yn gweithredu’n lleol wrth i eitemau newyddion symud yn raddol o fudiadau byd-eang i ddigwyddiadau llai, yn nes adref. Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad Partneriaeth Natur Leol ddiweddar ar y thema Glaswelltir / Dolydd / Blodau Gwyllt / Peillwyr, mae gan y cylchlythyr hwn hefyd adran fawr ar Ddolydd a Peillwyr. Ond yn gyntaf, dyma rai newyddion am weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Nhregaron dros yr wythnos nesaf:
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer yr Eisteddfod ymlaen llaw yma neu ar y giât ar y diwrnod.
Dyma dri digwyddiad a allai fod o ddiddordeb i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ymhlith ein haelodau Partneriaeth Natur Leol:
Dydd Llun 1 Awst Mae’n bleser gan DAIR (Beth Celyn, Judith Musker Turner a Manon Awst) eich gwahodd i ymuno â nhw ar gyfer perfformiad barddoniaeth amlgyfrwng sy’n benllanw eu gwaith fel artistiaid preswyl ar gyfer y prosiect O’r Mynydd I’r Môr dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddant yn cynnal dau berfformiad yn ystod y dydd: 12.30 yn y Lle Celf a 5yh yn y Lloeren Gwyddoniaeth . Ar ôl y perfformiad, bydd cyfle i siarad â’r artistiaid a thrafod y prosiect O’r Copa i’r Môr a’i ddyfodol. Hoffent ddiolch i Siân Stacey, Swyddog Datblygu'r Prosiect; cyllidwyr, y Rhaglen Tirweddau Mewn Perygl a phawb sydd wedi rhannu eu lleisiau a’u straeon.
4pm Dydd Mercher 3ydd Awst ym Mhentre’ Ceredigion ar y Maes, bydd Iolo Williams yn siarad am Fywyd Gwyllt a’r Llwybr Arfordir Cymru. Gweler y poster atodeg.
2.30yh Dydd Iau 4ydd Awst Trafodaeth: Manteision hyrwyddo bioamrywiaeth trwy gynllunio gyda Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru. Wedi'i gadeirio gan Hywel Jones gyda'r panel yn cynnwys
• Alison Heal, Uwch Ecolegydd, Cyngor Sir Ceredigion
• Jonathan Cawley, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chadeirydd Grŵp Gogledd Cymru ar Ecoleg
• Rhys Jones, Ymgynghoriaeth LRM
fydd yn ystyried y cyfleoedd, y manteision a'r agweddau ymarferol ar hybu bioamrywiaeth mewn datblygiadau (o ddatblygiadau mawr i brosiectau bach gan ddeiliaid tai) drwy'r system gynllunio. Beth yw'r problemau a sut y gellir eu goresgyn?
MATERION BYD-EANG
Ôl Troed Byd-eang
Heddiw yw Diwrnod Goresgyn y Ddaear – y dyddiad pan fydd galw dynolryw am adnoddau a gwasanaethau ecolegol mewn blwyddyn benodol yn fwy na’r hyn y gall y Ddaear ei adfywio yn y flwyddyn honno. Mae gweddill y flwyddyn yn cyfateb i orwariant byd-eang. Dilynwch y ddolen i ddarganfod sut y gallwch chi ein helpu i leihau ein hôl troed byd-eang. About Earth Overshoot Day - #MoveTheDate of Earth Overshoot Day
Diwrnod Gweithredu Byd-eang i Ysgolion
Dylai pobl ifanc sy’n pryderu am newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, ac athrawon sy’n dymuno eu cefnogi, ddilyn y ddolen hon i gael manylion am ras gyfnewid hiraf y byd yn y cyfnod cyn COP27. One Run Schools (running-out-of-time.com)
YMATEBION LLEOL
Gwrychoedd a Charbon ym Mhrydain
Ydych chi’n gwybod faint o garbon sy’n cael ei storio yng ngwrychoedd Prydain? Neu sut i gyfrifo'r swm sydd wedi'i storio yn eich gwrychoedd? Mae’r blog hwn gan GWCT yn esbonio sut mae’r carbon yn cael ei storio a sut y gallwch ddod â buddion i’r hinsawdd a bioamrywiaeth drwy wella eich rheolaeth o wrychoedd.
Carbon Storage Potential - Game and Wildlife Conservation Trust (gwct.org.uk)
Cyfle Swydd yng Nghymru
Dyma swydd wych i'r person iawn. Helpwch i ddosbarthu hwn i unrhyw un a allai fod yn gymwys. Gellir ei leoli unrhyw le yng Nghymru.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Maethynnau (naturalresources.wales)
Baner Werdd Ynys Las
Mae CNC yn falch o gyhoeddi bod canolfan ymwelwyr Ynys Las wedi derbyn y wobr fawreddog hon fel arwydd o’r safonau amgylcheddol uchaf posibl a chyfleustwrau rhagorol i ymwelwyr.
Potsion ar y Teifi
Gofynoch am y newyddion diweddaraf am y gosb i'r rhai a chafodd eu dal yn potsio Eog ar Afon Teifi. Dyma ddiweddaraid gan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / £61,000 i'w atafaelu oddi wrth arweinydd ymgyrch potsio 20 mlynedd yn yr Afon Teifi (naturalresources.wales)
Crefft y coed yng Nghoed y Bont
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored yn cynnal cyfres Haf o Hwyl o weithgareddau antur i'r teulu, gan gynnwys sesiwn Crefft y Coed yng Nghoed y Bont ger Tregaron am 10.30yb – 2.30yh ar 2ail o Fis Awst (rhaid archebu lle yma erbyn dydd Gwener 29ain Gorffennaf). Oed leiaf 4 oed, rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn. Croeso i aelodau'r teulu, archebwch le i bawb sy'n mynychu. Mae cwrs dringo hefyd yn Llangors yn ddiweddarach ym mis Awst. Gweler y poster atodedig am amlinelliad o’r cyrsiau sydd ar gael ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch â bethan.logan@partneriaethawyragored.co.uk
<![if !vml]><![endif]>Bwlch Nant yr Arian
Mae grwpiau lleol yr Ymddiriedolaeth Natur yn eich gwahodd i ddau ddigwyddiad ym Mwlch Nant yr Arian yn yr wythnosau nesaf:
Gweithdy ffotograffiaeth gyda Janet Baxter, tynnu lluniau o'r Barcudiaid Coch 12.30 – 4yh ddydd Iau 4 Awst
Noson Ystlumod gyda grwp Ystlumod Gogledd Ceredigion. Sgwrs ar Ystlumod a mynd am dro o amgylch y ganolfan yn gwrando ar ystlumod drwy'r cyfarwyddwr ystlumod. Cychwyn am 7.45yh nos Iau 25ain Awst.
DOLAU A PHEILLWYR
Big Meadows Search Cymru
Peidiwch ag anghofio bod y Big Meadows Search yn dal i rhedeg ledled Cymru. Gweler y poster atodedig am fanylion y digwyddiad hwn sy’n rhedeg tan 31 Awst.
Homepage (bigmeadowsearch.co.uk)
Yr Eglwys yng Nghymru, Capeli a mynwentydd eraill
Mae Esgobaeth Tyddewi wedi ymrwymo i ddod yn Eco-esgobaeth. Gallwch ddysgu mwy am beth mae hynny'n ei olygu yma: Gofal am y Greadigaeth - St. David's Diocese (churchinwales.org.uk)
Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, trefnodd Eglwys Llandygwydd ger Aberteifi Bio-blitz yn ddiweddar. Cymerodd Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion ran a chafodd amser gwych! Dyma linc i ffilm fer am y diwrnod: . BIO BLITZ! - YouTube
Os hoffech ddysgu mwy am pam mae claddfeydd mor gyfoethog o ran bioamrywiaeth, a sut y gallwch eu cadw felly, edrychwch ar y wefan wych hon am fanylion gweminarau, cyfarfodydd a chymorth arall i'ch helpu i greu cynllun rheoli ar gyfer eich tir claddu. Biodiversity Hotspots across Wales Project – Caring For God's Acre (caringforgodsacre.org.uk)
Rwyf wedi cofrestru Cyngor Sir Ceredigion i geisio cymorth, ond yn canolbwyntio ar fy Mynwent leol, sy'n gyforiog o ffyngau cap cwyr. Anogir holl aelodau’r LNP (waeth beth fo’u ffydd neu fel arall) i gofrestru eu man claddu agosaf i dderbyn cymorth gan y prosiect hwn a ariennir gan CNC.
Monitro Dolydd yn Llanymddyfri a thu hwnt
Mae Plantlife yn cynnig hyfforddiant mewn Asesu Glaswelltir Cyflym yn Blaentir Meadows, Llanymddyfri ar yr amser a’r dyddiad diwygiedig o 9.45yb – 1yh ddydd Llun 1af Awst. Bydd y sesiwn yn eich helpu i nodi planhigion dangosol cadarnhaol a negyddol a newidynnau ecolegol, treialu techneg Asesu Glaswelltir Cyflym a dehongli'r canlyniadau. Mwy o wybodaeth am gynnwys y sesiwn ac archebu lle yn y poster atodedig neu yma: https://tixoom.app/plantlife/joh7kdeh
Dolydd ym Machynlleth a’i cyffinau
I ddathlu diwedd Prosiect Dolau Dyfi mai digwyddiad dathlu yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn y 24ain o Fedi yn Y Plas ym Machynlleth. Bydd yn ddiwrnod o ddathlu’r prosiect a’r natur o’n cwmpas! Gyda theithiau cerdded yn arwain o, a phob math o weithgareddau yn digwydd ar dir Y Plas o 11yb. Mae croeso mawr i bawb. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal stondin bach yn y digwyddiad cysylltwch â louisa.lloyd@pontcymru.org mailto:louisa.lloyd@pontcymru.org
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop.
Dolydd yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
Gofynnir i berchnogion dolydd yng Ngheredigion a Gogledd Sir Gaerfyrddin i weld poster atodedig gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Maen nhw’n cynnal prosiect peilot mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac ADAS i asesu cynllun taliadau amaethyddol yn seiliedig ar ganlyniadau ar gyfer ei effeithiau ar fioamrywiaeth glaswelltir lled-naturiol. Os oes gennych chi ddôl sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau ac yr hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect ymchwil taledig hwn, a dysgu mwy am ddulliau monitro, yna cysylltwch â Josie ar J.Bridges@welshwildlife.org
Dolydd i Bryfed ger Llanbedr Pont Steffan
Mae’r Bumblebee Conservation Trust a Buglife yn cynnig sesiwn cerdded a siarad gyda’r arbenigwr Liam Olds ar Fferm Denmark ger Llanbedr Pont Steffan 10yb-2yh ddydd Gwener 12 Awst. Manylion archebu yn y poster atodedig neu yma: https://tixoom.app/plantlife/5i5gtzt0
Cacwn ledled Cymru ac yn Ynys Las
Gweler y llun atodedig a dynnwyd mewn digwyddiad diweddar yn Ynys Las a drefnwyd gan Bumblebees Conservation, ynghyd â chanllaw y gellir ei lawrlwytho i'r Common 8 bumbles a hefyd canllaw y gellir ei lawrlwytho i'r 6 rhywogaeth o gog. Dyma ddolen i Aderyn :: Hafan (lercwales.org.uk) lle gallwch chi archwilio cofnodion Cymreig o wahanol rywogaethau ac ardaloedd – darganfyddwch beth sydd yn agos atoch chi! Gall pawb gymryd rhan yn Helfa Cacwn Llus – dyma ddolen i’r dudalen we Helfa Cacwn y Llus Cymru Gyfan - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (wwbic.org.uk) Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Beewalk, e-bostiwch Clare Flynn yn beewalk@bumblebeeconservation.org
Glöynnod Byw Ceredigion ar FaceBook
Efallai eich bod yn cofio cyfarfod â Paul Taylor, Cofiadur Glöynnod Byw Ceredigion, yn ein cyfarfod diweddar ar Fferm Denmark. Os nad ydych wedi cyfarfod ag ef, gwyliwch y fideo o’r Bioblitz yn Llandygwydd a arweiniwyd yn garedig gan Paul. Mae Paul yn bwriadu lansio tudalen FaceBook ar gyfer gweld glöynnod byw yng Ngheredigion ac mae’n gofyn a fyddai gan unrhyw un o aelodau’r Bartneriaeth Natur Leol ddiddordeb mewn helpu i’w gymedroli. Os ydych chi'n fodlon helpu Paul gyda'r dasg bwysig a hynod ddiddorol hon, anfonwch e-bost ato ar paulandlesleytaylor@gmail.com
Yn olaf, os ydych chi allan yn trapio gwyfynod neu’n recordio ystlumod heno neu yfory, cadwch lygad am gawod meteor Delta Aquariids.
Y dyddiad cau ar gyfer rhifyn nesaf Newyddion Natur Ceredigion yw dydd Llun 8 Awst.
************
Good afternoon and welcome to the latest edition of Newyddion Natur Ceredigion. Today we’re thinking globally and acting locally as news items move gradually from world-wide movements to smaller events, closer to home. Following the success of our recent Local Nature Partnership event on the theme of Grassland / Meadows / Wildflowers / Pollinators, this newsletter also has a big section on Meadows and Pollinators. But first, here’s some news of activities taking place over the coming week in Tregaron:
NATIONAL EISTEDDFOD
You can purchase tickets for the Eisteddfod in advance here or on the gate on the day.
Here are three events which may interest Welsh speakers and learners among our Local Nature Partnership members:
Monday 1 August at the National Eisteddfod in Tregaron TAIR (Beth Celyn, Judith Musker Turner and Manon Awst) are delighted to invite you to join them for a multimedia poetry performance which is the culmination of their work as artists in residence for Summit to Sea over the past year. They will be holding two performances during the day: 12.30 in the Arts Place and 5pm in the Science Satellite. After the performance, there will be a chance to speak to the artists and discuss the Summit to Sea project and its future. They would like to thank Siân Stacey the Project Development Officer; funders, the Endangered Landscapes Programme and all those who have shared their voices and stories.
4pm Wednesday 3rd August in Pentre Ceredigion, Iolo Williams will speak about Wildlife and the Wales Coast Path. Please see attached poster.
2.30pm Thursday 4th August A discussion: The benefits of promoting biodiversity through planning with Royal Town Planning Institute Cymru. Chaired by Hywel Jones with panel including
- Alison Heal, Senior Ecologist, Ceredigion County Council
- Jonathan Cawley, Snowdonia National Park Authority and Chair of the North Wales Group on Ecology
- Rhys Jones, LRM Consultancy
Who will consider the opportunities, benefits and practicalities of promoting biodiversity in developments (from large developments to small householder projects) through the planning system. What are the issues and how can these be overcome?
THINK GLOBAL
Global Footprint
Today is Earth Overshoot Day – the date when humanity’s demand for ecological resources and services in a given year exceeds what Earth can regenerate in that year. The remainder of the year corresponds to global overshoot. Follow the link to find out how you can help to reduce our global footprint.
Global Day of Action for Schools
Young people concerned about climate change and biodiversity loss, and teachers wishing to support them, should follow this link for details of the world’s longest relay race in the run up to COP27. One Run Schools (running-out-of-time.com)
ACT LOCAL
Hedgerows and Carbon in Britain
Do you know how much carbon is stored in Britain’s hedgerows? Or how to calculate the amount stored in your hedgerows? This blog from GWCT explains how the carbon is stored and how you can bring benefits to the climate and biodiversity by improving your hedgerow management.
Carbon Storage Potential - Game and Wildlife Conservation Trust (gwct.org.uk)
Job Opportunity in Wales
Here’s a great job for the right person. Please help to circulate this to anyone who may be eligible. Can be based anywhere in Wales.
Natural Resources Wales / Lead Specialist Nutrient Advisor
Green Flag for Ynys Las
NRW are proud to announce that the Ynys Las visitor centre has been granted this prestigious award as a sign of highest possible environmental standards and excellent visitor facilities.
Natural Resources Wales / Ynyslas Visitor Centre awarded the Green Flag Award
Poaching on the Teifi
You asked for a news update on the penalty for those caught poaching Salmon on the Afon Teifi. Here’s an update from Natural Resources Wales: £61,000 to be confiscated from ringleader of 20-year Teifi poaching operation
Bushcraft at Coed y Bont
The Outdoor Partnership are holding a Summer of Fun series of family adventure activities, including a Bushcraft session at Coed y Bont near Tregaron at 10.30am – 2.30pm on 2nd August (must be booked here by Friday 29th July). Minimum age 4 years, under 8s must be accompanied by an adult. Family members welcome, book a place for every person who is attending. There is also a climbing course at Llangors later in August. Please see attached poster for an outline of the courses on offer and for more info, contact bethan.logan@outdoorpartnership.co.uk
<![if !vml]>
<![endif]>Bwlch Nant yr Arian
The Wildlife Trust local groups invite you to two events at Bwlch Nant yr Arian in the coming weeks:
Photography workshop with Janet Baxter, photographing the red kites 12.30pm - 4pm on Thursday 4th August
Bat evening with North Ceredigion Bat group. A talk on bats and taking a walk around the centre listening to bats through the bat director. Starts at 7.45pm on Thursday August 25th
MEADOWS and POLLINATORS
Big Meadows Search Cymru
Don’t forget that the Big Meadows Search is still running across Wales. Please see the attached poster for details of this event which runs until 31st August.
The Church in Wales, Chapels and other burial grounds
The Diocese of St David’s is committed to becoming an Eco-diocese. You can learn more about what that means here: Creation Care - St. David's Diocese (churchinwales.org.uk)
As part of this commitment, the Church of Llandygwydd near Cardigan recently organised a Bio-blitz. Ceredigion’s Local Nature Partnership Coordinator took part and had a great time! Here’s a link to a short film about the day. BIO BLITZ! - YouTube
If you’d like to learn more about why burial grounds are so rich I biodiversity, and how you can keep them that way, please check out this wonderful website for details of webinars, meetings and other support to help you create a management plan for your burial ground. Biodiversity Hotspots across Wales Project – Caring For God's Acre (caringforgodsacre.org.uk)
I have registered Ceredigion County Council to seek support, but focussing on my local Churchyard, which is rich in wax cap fungi. All LNP members (regardless of faith or otherwise) are encouraged to register their nearest burial ground to receive support from this NRW funded project.
Meadows Monitoring in Llandovery and further afield
Plantlife are offering training in Rapid Grassland Assessment in Blaentir Meadows, Llandovery on the revised time and date of 9.45am – 1pm on Monday 1st August. The session will help you to identify positive and negative indicator plants and ecological variables, trial Rapid Grassland Assessment technique and interpret the results. More info on the session content and booking in the attached poster or here: https://tixoom.app/plantlife/joh7kdeh
Meadows in and around Machynlleth
To celebrate the end of the Dolau Dyfi Project a celebratory event is being held on Saturday the 24th of September in Y Plas in Machynlleth. It will be a day of celebrating the project and the nature that surrounds us! With walks leading from, and all sorts of activities happening on, the grounds of Y Plas from 11am. All are welcome! If you are interested in hosting a small stand at the event please contact louisa.lloyd@pontcymru.org
This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund.
Meadows in North Carmarthenshire and Ceredigion
Meadows owners in Ceredigion and North Carmarthenshire are asked to please see attached poster from the Wildlife Trust of South and West Wales. They are running a pilot project in partnership with the Welsh Government and ADAS to assess a results-based agricultural payments scheme for its impacts on the biodiversity of semi-natural grassland. If you have a species-rich meadow and would like to take part in this paid research project, and learn more about monitoring methods, then please contact Josie on J.Bridges@welshwildlife.org
Meadows for Insects near Lampeter
The Bumblebee Conservation Trust and Buglife are offering a walk and talk session with expert Liam Olds at Denmark Farm near Lampeter 10am-2pm on Friday 12th August. Booking details in attached poster or here: https://tixoom.app/plantlife/5i5gtzt0
Bumblebees across Wales and at Ynys Las
Please see attached photograph taken at a recent event at Ynys Las organised by Bumblebees Conservation, together with a downloadable guide to the Common 8 bumbles and also a downloadable guide to the 6 cuckoo species.
Here’s a link to Aderyn :: Home (lercwales.org.uk)where you can explore Welsh records of different species and areas – find out what is near you!
Everyone can get involved with the Bilberry Bumblebee Hunt – here’s a link to the webpage All Wales Bilberry Bumblebee Hunt - West Wales Biodiversity Information Centre (wwbic.org.uk)
If you are interested in setting up a Beewalk, please email Clare Flynn at beewalk@bumblebeeconservation.org
Ceredigion Butterflies on FaceBook
You may recall meeting Paul Taylor, Ceredigion’s County Butterfly Recorder, at our recent meeting at Denmark Farm. If you haven’t met him, please watch the video of the Bioblitz in Llandygwydd which Paul kindly led. Paul is planning to launch a FaceBook page dedicated to sightings of butterflies in Ceredigion and he’s asking if any Local Nature Partnership members would be interested in helping moderate it. If you are willing to help Paul with this important and fascinating task, please email him on paulandlesleytaylor@gmail.com
Finally, if you’re out trapping moths or recording bats tonight or tomorrow, look out for the Delta Aquariids meteor shower.
Deadline for the next edition of Newyddion Natur Ceredigion is Monday 8th August.
Rachel Auckland BA (hons) MA
(hi / she)
Cydlynnydd / Coordinator
Partneriaeth Natur Lleol Ceredigion / Ceredigion Local Nature Partnership
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
Rhif ffôn / Phone number 01545 572282
Rhif ffôn symudol / Mobile Number 07971 951609
Cyfeiriad e-bost / E-mail address
rachel.auckland@ceredigion.gov.uk / biodiversity@ceredigion.gov.uk
Fy oriau gwaith arferol yw 10yb-4.30yh ddydd Llun i ddydd Iau /
My usual hours of work are 10am-4.30pm Monday to Thursday
Byddem wrth ein boddau o glywed gennych yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ymatebwn bob amser yn eich dewis iaith a chewch yr un gwasanaeth gennym ni waeth a ydych yn cysylltu yn Gymraeg neu’n Saesneg.
We’d love to hear from you in Welsh or English. We’ll always respond to you in your preferred language and you’ll get the same service from us whether you contact us in Welsh or English.
Llofnod-e-bost-Eisteddfod-2022-e-mail-signature.png (2050×780) (ceredigion.gov.uk)