Newyddion Natur Ceredigion News 26-05-2022
Yn ôl yr arfer, cylchlythyr dwyieithog yw hwn gyda'r Gymraeg uwchben a'r Saesneg isod.
As usual, this is a bilingual newsletter with Welsh above and English below.
Dyma fflach newyddion cyflym i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rai digwyddiadau sy'n dod yn y dyfodol agos. Rwyf wedi eu trefnu yn nhrefn dyddiad.
Mae Chwiliad y Ddôl Fawr yn dechrau ar 1 Mehefin ac mae pawb yn cael eu hannog i roi cynnig ar adnabod planhigion a rhannu’r wybodaeth. Mae'n hawdd i'w wneud. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ddogfen Word atodedig. Hefyd, dyma rywfaint o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am newidiadau i reolaeth glaswelltir ar ymylon ffyrdd a mannau cyhoeddus eraill ledled y wlad, a fydd o fudd nid yn unig i flodau gwyllt a pheillwyr ond i bob bywyd gwyllt. Ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder sy'n cynnal bywyd gwyllt | LLYW.CYMRU
Mae Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ceredigion yn archwilio themâu creu gofod ar gyfer byd natur, siapio mannau cyhoeddus ffyniannus, creu cymunedau hapus iach a chryfhau gwytnwch i newid hinsawdd ar draws 6 thref: Aberteifi, Llandysul, Aberaeron, Aberystwyth, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan. Mae Strategaethau GBI pob tref yn adeiladu ar y Cynlluniau Lle i nodi heriau a chyfleoedd allweddol er mwyn bod yn barod i ymateb gyda phrosiectau hyfyw pe bai cyllid yn codi. I ddweud eich dweud ar sut y gallem ailgysylltu cynefinoedd, sicrhau afonydd a moroedd iach neu adfer gorchudd coetir, ewch i'r hyb ymgynghori ar y ddolen hon erbyn dydd Gwener 3ydd Mehefin: Ceredigion Green and Blue Infrastructure Strategy - Wal (arcgis.com)
Amser stori ar y Gors Ddydd Sadwrn 4ydd Mehefin
Mae Storïwr Peter Stevenson a Rheolwr y Warchodfa Justin Lyons yn eich gwahodd i ymuno â nhw yng Nghors Fochno ar Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ar gyfer taith gerdded stori a gweithgareddau crefft. Mae'r teithiau cerdded yn rhai ar dir gwastad ac yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 8 oed a hŷn. Bydd sesiynau bore a phrynhawn. Dilynwch y dolenni am fanylion.
Gweminar Masnachu Hadau “Coed Dewis Gwyllt” (Zoom) Dydd Mercher, yr 8fed o fis Mehefin am 7-8yh
Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i ddod o hyd i hadau coed brodorol lleol i gyfrannu at blannu coed ac hoffech chi hefyd wneud incwm bach o gasglu hadau? Mae profiad y llynedd gan grŵp coetir cymunedol Coetir Mynydd yng Ngogledd-orllewin Cymru yn dangos bod cyfleoedd masnachu hadau hyfyw, hygyrch yn bodoli ar hyn o bryd i grwpiau, a dangosodd yr angen i weithredu nawr i gynyddu cyflenwadau o goed o darddiad lleol. Mae Coetir Mynydd/Wild Resources Ltd yn cynnal noson o ddysgu gyda Dewis Gwyllt. Bydd y gweminar yn ymdrin â: Dod o hyd i goed o werth cadwraeth uchel; Sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlu Coedwigoedd (FRM); Dod o hyd i brynwr; Holi ac Ateb / Trafodaeth agored. I gadw lle e-bostiwch cara@llaisygoedwig.org.uk erbyn dydd Sul 5ed o fis Mehefin. Bydd gwybodaeth ymuno yn cael ei anfon allan ddydd Llun y 6ed o fis Mehefin. I gael adnoddau a mwy o wybodaeth am waith hadau coed Dewis Gwyllt a chydweithrediadau gyda’r Woodland Trust, a gefnogir gan y People’s Postcode Lottery, cliciwch yma: Dewis Gwyllt – Llais y Goedwig | Community Woodlands Neu ewch i www.dewisgwyllt.co.uk i ddod o hyd i amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth yn ymwneud â thros dair blynedd o ymchwil a threialon i gadwyni cyflenwi cynnyrch coedwig cynaliadwy nad ydynt yn bren yng Nghymru.
Bydd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion yn cwrdd ar 30ain o fis Mehefin ar Fferm Denmark
Bydd taith dywys o amgylch y warchodfa natur am 11.30yb ac yna am 1yh bydd cyfarfod aelodau ac yna am 2yh gweithdy ar Ddolydd / Glaswelltir / Blodau Gwyllt / Peillwyr, a gorffen gyda sesiwn ar gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Adfer Natur lleol. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Bruce Langridge o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ymuno â ni i roi sgwrs fer am sut maent yn cynaeafu a dosbarthu hadau blodau gwyllt o’u dolydd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Mae croeso i bob aelod ymuno am y diwrnod cyfan neu ran o’r diwrnod (os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn, rydych ar restr bostio’r BNL ac yn aelod o’r BNL!) Darperir lluniaeth ysgafn. Dewch â'ch pecyn bwyd eich hun. I gadw lle, e-bostiwch bioamrywiaeth@ceredigion.gov.uk
Diwrnod Dyfrgwn y Byd
Roedd ddoe yn Ddiwrnod Dyfrgwn y Byd. Mynychais weminar a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Mamaliaid gyda chyflwyniadau gan Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd. Dyma ddolen i Arolwg Dyfrgwn Cymru, ac un arall i wefan prosiect Caerdydd lle gallwch ddysgu mwy am eu gwaith i ddeall a cheisio mynd i’r afael ag achosion marwolaeth mewn Dyfrgwn. Gallwch weld o ganlyniadau’r arolwg fod dyfrgwn ar Afon Teifi naill ai’n gostwng mewn niferoedd, neu efallai mai dim ond bod nifer y cofnodion yn lleihau oherwydd diffyg cyfranogiad. Mae gwefan y prosiect yn esbonio beth i’w wneud os byddwch chi’n dod o hyd i Ddyfrgi marw ac mae’r ffilm (rhybudd – mae’n graffig) yn dangos post mortem ac yn egluro beth allwn ni ei ddysgu o hyn. Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i helpu gyda’r gwaith hwn neu ymuno â’r tîm ymchwil i gysylltu â ni.
Prifysgol Caerdydd yn nodi Diwrnod Dyfrgwn y Byd - Newyddion - Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)
Otter Survey Wales 2015-2018 (cyfoethnaturiol.cymru)
Gobeithio byddwch yn mwynhau’r gwyliau.
Y dyddiad cau ar gyfer rhifyn nesaf Newyddion Natur Ceredigion News fydd dydd Mawrth 7fed Mehefin.
*************************************************************************************************************************************************************************
This is a quick newsflash to update you on some events coming soon. I’ve arranged them in date order.
The Big Meadow Search starts on 1st June and everyone is encouraged to have a go at identifying plants and sharing the information. It’s easy to do. Just follow the instructions in the attached Word document. Also, here’s some information from the Welsh Government about changes to grassland management on road verges and other public areas across the country, which will benefit not just wild flowers and pollinators but all wildlife. Road verges and amenity grasslands supporting wildlife | GOV.WALES
Ceredigion Green and Blue Infrastructure Strategy explores themes of making space for nature, shaping thriving public spaces, creating happy healthy communities and strengthening resilience to climate change across 6 towns: Cardigan, Llandysul, Aberaeron, Aberystwyth, Tregaron and Lampeter. The GBI Strategies for each town build on the Place Plans to identify key challenges and opportunities in order to be ready to respond with viable projects should funding arise. To have your say on how we might reconnect habitats, ensure healthy rives and seas or restore woodland cover, please go to the consultation hub on this link by Friday 3rd June: Ceredigion Green and Blue Infrastructure Strategy - Eng (arcgis.com)
Story time on the Bog On Saturday 4th June
Storyteller Peter Stevenson and Reserve Manager Justin Lyons invite you to join them at Cors Fochno on the Dyfi National Nature Reserve for a story walk and craft activities. The walks are level access and suitable for families of children 8 years and above. There are morning and afternoon sessions. Please follow the links for details.
“Dewis Gwyllt Tree” Seed Trading Webinar (Zoom) Wednesday, 8th June at 7-8pm
Are you interested in helping source local native tree seed to contribute to tree planting and would you like to make a small income from seed collection? The experience of Coetir Mynydd community woodland group in Northwest Wales last year suggests viable, accessible seed trading opportunities do currently exist for groups, and highlighted the need to act now to increase supplies of local provenance trees. Coetir Mynydd/Wild Resources Ltd are hosting an evening of learning with Dewis Gwyllt. The webinar will cover: Finding high conservation value trees; Making sure you comply with the Forest Reproductive Materials (FRM) regulations; Finding a buyer; Q&A / Open discussion. To reserve a place please email cara@llaisygoedwig.org.uk by Sunday 5th June. Joining information will be sent out on Monday 6th June. For resources and more information on Dewis Gwyllt tree seed work and collaborations with The Woodland Trust, supported by the People’s Postcode Lottery, please click here. Or visit www.dewisgwyllt.co.uk to find a range of resources and information relating to over three years’ research and trials into sustainable non-timber forest product supply chains in Wales.
Ceredigion Local Nature Partnership will meet on 30th June at Denmark Farm
There will be a guided tour of the nature reserve at 11.30am followed at 1pm by a members meeting then at 2pm a workshop on Meadows / Grassland / Wildflowers / Pollinators, and ending with a session on contributing to the local Nature Recovery Action Plan. We are very pleased to announce that Bruce Langridge from the National Botanic Garden of Wales will join us to give a short talk about how they harvest and distribute wild flower seed from their meadows at the Waun Las National Nature Reserve. All members are welcome to join for all or part of the day (if you’ve received this email, you’re on the LNP mailing list and are a member of the LNP!) Light refreshments will be provided. Please bring your own packed lunch. To book a place, please email biodiversity@ceredigion.gov.uk
World Otter Day
Yesterday was World Otter Day. I attended a webinar hosted by the Mammal Society with presentations from Cardiff University’s Otter Project. Here is a link to the Otter Survey for Wales, and another to the Cardiff project’s website where you can learn more about their work to understand and try to address causes of death in Otters. You can see from the survey results that Otters on the River Teifi are either declining in numbers, or perhaps it’s just that the number of records is declining due to lack of participation. The project’s website explains what to do if you find a dead Otter and the film (warning – it is graphic) shows a post mortem and explains what we can learn from this. Anyone interested in volunteering to help this work or joining the research team is urged to get in touch.
Cardiff University marks World Otter Day - News - Cardiff University
Otter Survey Wales 2015-2018 (cyfoethnaturiol.cymru)
Enjoy the holidays. The deadline for the next edition of Newyddion Natur Ceredigion Nature News will be Tuesday 7th June.
Rachel Auckland BA (hons) MA
(hi / she)
Cydlynnydd / Coordinator
Partneriaeth Natur Lleol Ceredigion / Ceredigion Local Nature Partnership
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
Rhif ffôn / Phone number 01545 572282
Rhif ffôn symudol / Mobile Number 07971 951609
Cyfeiriad e-bost / E-mail address
rachel.auckland@ceredigion.gov.uk / biodiversity@ceredigion.gov.uk
Fy oriau gwaith arferol yw 10yb-4.30yh ddydd Llun i ddydd Iau /
My usual hours of work are 10am-4.30pm Monday to Thursday
Byddem wrth ein boddau o glywed gennych yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ymatebwn bob amser yn eich dewis iaith a chewch yr un gwasanaeth gennym ni waeth a ydych yn cysylltu yn Gymraeg neu’n Saesneg.
We’d love to hear from you in Welsh or English. We’ll always respond to you in your preferred language and you’ll get the same service from us whether you contact us in Welsh or English.
Llofnod-e-bost-Eisteddfod-2022-e-mail-signature.png (2050×780) (ceredigion.gov.uk)