Newyddion Natur Ceredigion News 21-06-2022
Cylchllythyr dwyieithog: Cymraeg yn gyntaf, wedyn Saesneg.
Bilingual newsletter: Welsh above, English below.
Noswaith dda,
Cyfarchion Heuldro'r Haf i holl aelodau Partneriaeth Natur Leol Ceredigion!
Cynhelir ein cyfarfod aelodau Partneriaeth Natur Leol Ceredigion ar Fferm Denmark ddydd Iau 30ain Mehefin. Bydd y rhaglen fel a ganlyn:
11.15 Cyrraedd a choffi – Croeso a chadw tŷ – Mara Morris
11:30 Taith dywys o amgylch Fferm Denmark dan arweiniad Rheolwr Gwarchodfa Natur a Gwirfoddolwyr, Ryan Knight-Fox
12:15 Cinio – Os bydd y tywydd yn caniatáu byddwn yn cael picnic yn yr awyr agored. Dewch â'ch bwyd a'ch diod eich hun (a rhai i'w rhannu, os dymunwch).
13:00 Cyfarfod aelodau – bydd hwn yn sesiwn dal i fyny gyflym, anffurfiol ac yn gyfle i ofyn cwestiynau / gwneud cyhoeddiadau - gweler yr agenda atodedig
13:45 Egwyl
14:00 Gweithdy Dolydd / Glaswelltir / Blodau Gwyllt / Peillwyr
14:45 Gweithdy Cynllun Gweithredu Adfer Natur
15:30 Cau
Thema'r gweithdy: glaswelltir / dolydd / blodau gwyllt / peillwyr
• Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn anfon Bruce Langridge, y ffermwr Huw Jones a dau Swyddog Gwyddoniaeth, Dr Kevin McGinn a Dr Laura Jones i siarad am gynaeafu hadau blodau gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.
• Bydd Kathleen Carroll (Swyddog Polisi Llywodraeth Cymru) yn siarad am ffyrdd y gallwch gefnogi pryfed peillio ac ymgysylltu â chymunedau. Dyma ddolen i’r cynllun Caru Gwenyn y mae Kathleen yn ei weinyddu: Wales Biodiversity Partnership - Bee Friendly (biodiversitywales.org.uk)
• Bydd Alex Preston, Ceidwad Ardal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud wrthym am reoli dolydd ar warchodfeydd natur yng Ngheredigion.
• Bydd Doug Lloyd o’r Ymddiriedolaeth Natur yn cyhoeddi cynllun peilot newydd i gefnogi adfywio glaswelltir llawn rhywogaethau, a all fod o ddiddordeb i dirfeddianwyr.
• Bydd Laura Moss o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru yn siarad am y Chwiliad Dolydd Mawr
Gweithdy Cynllun Gweithredu Adfer Natur - Gweler y Matrics NRAP atodedig y byddwn yn ei ddefnyddio yn y gweithdy hwn. Y nodau fydd:
• codi ymwybyddiaeth o NRAP Cymru
• ddangos sut rydym yn ei gymhwyso ar lefel leol
• annog aelodau i gymryd rhan
Hwn fydd y cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf ers tro. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi ond os gwelwch yn dda, os ydych yn teimlo’n sâl ar y diwrnod, arhoswch gartref a gofalwch amdanoch eich hun. Os ydych yn derbyn yr e-bost hwn, rydych yn aelod ac mae croeso i chi fynychu. Os gwelwch yn dda RSVP i roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu mynychu, felly bydd gennym syniad o niferoedd. (Os ydych yn gwybod am unrhyw un arall a allai ymuno â’r Bartneriaeth Natur Leol a/neu fynychu’r cyfarfod, rhowch wybod i ni.)
Mewn newyddion eraill:
Digwyddiadau
Ddydd Mercher 22ain Mehefin, bydd Cymdeithas Fotaneg Aberystwyth yn ymuno â Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (CGBGC) ar gyfer sesiwn cofnodi bywyd gwyllt gyda grŵp o Gofiadurwyr Sirol a botanegwyr eraill. Fe'ch gwahoddir i ymuno â nhw ar gyfer arolwg o ddôl a mannau llaith ar safle preifat 5 milltir o Aberystwyth. Am fwy o fanylion ebostiwch aberystwythbotanicalsociety@gmail.com
Mae ymweliadau safle pellach yr Ymddiriedolaeth Natur wedi'u cynllunio ar gyfer 24ain Gorffennaf a 13eg Awst. Arbedwch y dyddiadau a byddaf yn rhannu manylion yn nes at yr amser.
Ddydd Sadwrn 25ain Mehefin, mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt yn cynnal digwyddiad Bywyd Gwyllt, Bioamrywiaeth ac Iechyd y Pridd ar fferm laeth yn Llanon. Codir tâl o £25 am y diwrnod. Dilynwch y ddolen hon i gadw lle: Wildlife, Biodiversity & Soil Health: a Dairy Farmer’s Perspective - Game and Wildlife Conservation Trust (gwct.org.uk)
Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn eich gwahodd i ymuno â nhw:
• Diwrnodau gwirfoddoli Rhywogaethau Goresgynnol yn Llechryd ar ddydd Mawrth 28ain a dydd Mercher 29ain Mehefin. Am ragor o fanylion, gweler y posteri atodedig ac i fynychu, e-bostiwch Emily.Powell@ramblers.org.uk
• Cyfres o deithiau cerdded Glöynnod Byw ledled y rhanbarth, gan gynnwys un yn Llanybydder ar 27ain Gorffennaf. Gweler y posteri atodedig am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, e-bostiwch Zoë.Richards@ramblers.org.uk
Dydd Gwener yma, mae Maint Cymru yn gofyn i ni i gyd Fynd yn Wyrdd i'r Blaned. Gweler yr e-bost atodedig am fanylion pellach.
Cyfleoedd Coetir
Mae'r Grŵp Perchnogion Coetir Bach (SWOG) eisiau rhywun (neu efallai ddau o bobl) a all: ysgrifennu cylchlythyrau ysbrydoledig ar gyfer perchnogion coetiroedd bach; rheoli'r rhestr e-bostio ac ychwanegu aelodau newydd bob wythnos; cyfrannu at gyfryngau cymdeithasol, gwefan SWOG a thrin unrhyw gyswllt â'r cyfryngau; cynnig cymorth ffôn i berchnogion sydd angen arweiniad; trefnu seminar Zoom misol gyda siaradwr a thrafodaeth - ar gyfer perchnogion coetiroedd bach; cwrdd â pherchnogion coetiroedd, ac eraill, unwaith y flwyddyn mewn sioe goetiroedd; cysylltu â sefydliadau eraill sy'n ymwneud â choetiroedd; Mae SWOG, sy'n gwbl ddielw, yn talu'r holl dreuliau ynghyd â ffi o tua £6,000 y flwyddyn. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch: melanie@woodlands.co.uk gan roi: eich manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn, ac unrhyw wefannau neu Instagrams yr ydych yn eu rhedeg (os o gwbl); lleoliad eich coetir a lle rydych chi'n byw; unrhyw brofiad perthnasol; eich gweledigaeth ar gyfer grŵp cymorth i berchnogion coetiroedd.
Mae Llais y Goedwig yn gwahodd grwpiau a sefydliadau cymunedol i wneud cais i fod yn ganolbwynt ar gyfer rhoddion coed Llywodraeth Willes. Ceir manylion llawn ar eu gwefan drwy glicio ar y ddolen hon: Take part in the My Tree Our Forest – Tree Giveaway Hubs – Llais y Goedwig | Community Woodlands
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol i ymarferwyr ar Rwydweithiau Ecolegol Gwydn: Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw i ymarferwyr ar rwydweithiau ecolegol cadarn (naturalresources.wales)
Yn galw ar bob awdur Mae Cymdeithas Edward Llwyd, sef Cymdeithas Naturiaethwyr Cymru, yn gwahodd Cymry Cymraeg a dysgwyr i gyfrannu at eu cylchgrawn Naturiaethwr. Gellir cyflwyno erthyglau ar unrhyw bwnc yn ymwneud â natur erbyn 1af Gorffennaf a bydd yr un gorau yn ennill gwobr o £150. Am fwy o fanylion gweler y canllawiau yma: Canllawiau – Cymdeithas Edward Llwyd
Hefyd mae grŵp lleol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Ceredigion yn gwahodd cyfraniadau i'w cylchlythyr. Os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau bywyd gwyllt yr hoffech eu rhannu, ysgrifennwch at Naomi ar y cyfeiriad ebost canlynol: n.walton@welshwildlife.org
Y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau i rifyn nesaf Newyddion Natur Ceredigion News fydd dydd Llun 18fed Gorffennaf.
Yn y cyfamser edrychaf ymlaen at gyfarfod yn Fferm Denmark ar 30 Mehefin.
Hwyl am y tro
Rachel
***************************
Good evening,
Summer Solstice greetings to all members of Ceredigion Local Nature Partnership!
Our Ceredigion Local Nature Partnership members meeting takes place at Denmark Farm on Thursday 30th June. The programme will be as follows:
11.15 Arrivals and coffee – Welcome and housekeeping – Mara Morris
11:30 Guided tour of Denmark Farm led by Nature Reserve and Volunteer Manager, Ryan Knight-Fox
12:15 Lunch – Weather permitting we will have a picnic lunch outdoors. Please bring your own food and drink (plus some to share, if you wish).
13:00 Members meeting – this will be a quick, informal catch-up and chance to ask questions / make announcements - please see attached agenda
13:45 break
14:00 Meadows / Grassland / Wildflower / Pollinator workshop
14:45 Nature Recovery Action Plan workshop
15:30 Close
Workshop theme: grassland / meadows / wildflowers / pollinators
- National Botanic Garden of Wales, Bruce Langridge, farmer Huw Jones and two Science Officers, Dr Kevin McGinn and Dr Laura Jones will talk about wild flower seed harvesting at the Waun Las National Nature Reserve.
- Kathleen Carroll (Welsh Government Policy Officer) will talk about ways you can support pollinators and engage with communities. Here’s a link to the Bee Friendly scheme which Kathleen administers: Wales Biodiversity Partnership - Bee Friendly (biodiversitywales.org.uk)
- Alex Preston, Area Ranger for the National Trust will tell us about meadows management on nature reserves in Ceredigion.
- Doug Lloyd from the Wildlife Trust will announce a new pilot scheme to support regeneration of species-rich grassland, which may be of interest to landowners
- Laura Moss from West Wales Biodiversity Information Centre will speak about the Big Meadows Search
Nature Recovery Action Plan workshop - Please see the attached NRAP Matrix which we’ll be using in this workshop.
The aims will be:
- to raise awareness of the NRAP Cymru
- to show how we’re applying it at local level
- to encourage members to participate
This will be the first face to face meeting in a while. We’re looking forward to meeting you but please, if you feel unwell on the day, stay at home and look after yourself.
If you’re receiving this email, you are a member and are welcome to attend. Please RSVP to let us know if you plan to attend, so we’ll have an idea of numbers.
(If you know of anyone else who might to join the LNP and/or attend the meeting, please let us know.)
In other news,
Events
On Wednesday 22nd June, Aberystwyth Botanical Society and join forces with the West Wales Biodiversity Information Centre (WWBIC) for a wildlife recording session with a group of County Recorders and other botanists. You are invited to join them for a survey of a meadow and damp areas on a private site 5 miles from Aberystwyth. For more details please email aberystwythbotanicalsociety@gmail.com
Further Wildlife Trust site visits are planned for 24th July and 13th August. Save the dates and I’ll share details nearer the time.
On Saturday 25th June, the Game and Wildlife Conservation Trust are holding a Wildlife, Biodiversity and Soil Health event on a dairy farm in Llanon. There is a £25 charge for the day. Please follow this link to book a place. Wildlife, Biodiversity & Soil Health: a Dairy Farmer’s Perspective - Game and Wildlife Conservation Trust (gwct.org.uk)
The Ramblers Association invite you to join them for
- Invasive Species volunteering days in Llechryd on Tuesday 28th and Wednesday 29th June. For more details, please see attached posters and to attend, please email Emily.Powell@ramblers.org.uk
- A series of Butterfly walks throughout the region, including one in Llanybydder on 27th July. Please see attached posters for more information and book a place, please email Zoë.Richards@ramblers.org.uk
This Friday, the Size of Wales are asking us all to Go Green for the Planet. Please see attached email for further details.
Woodland Opportunities
The Small Woodland Owners Group (SWOG) want someone (or maybe two people) who can: write inspirational newsletters for owners of small woodlands; manage the e-mailing list and add new members each week; contribute to SWOG's social media, website and handle any media contact; offer phone support to owners needing guidance; organise a monthly Zoom seminar with a speaker and a discussion - for owners of small woodlands; meet woodland owners, and others, once a year at a woodlands show; liaise with other woodland-related organisations; SWOG, which is totally not-for-profit, pays all expenses plus a fee of about £6,000 pa. If you are interested, please email: melanie@woodlands.co.uk giving: your contact details including phone number, and any websites or Instagrams which you run (if any); the location of your woodland and of where you live; any relevant experience; your vision for a support group for woodland owners.
Llais y Goedwig are inviting community groups and organisations to apply to become hubs for the Willes Government’s tree giveaway. Full details can be found on their website by clicking this link: Take part in the My Tree Our Forest – Tree Giveaway Hubs – Llais y Goedwig | Community Woodlands
Resources
Natural Resources Wales have published a useful practitioners’ guide to Resilient Ecological Networks. Natural Resources Wales / Practitioners’ guide to Resilient Ecological Networks
Calling all authors
Cymdeithas Edward Llwyd, which is the Association of Welsh Naturalists, invite Welsh speakers and Welsh learners to contribute to their magazine Naturiaethwr. Articles on any subject related to nature may be submitted by 1st July and the best one will win a prize of £150. For more details please see the guidelines here: Canllawiau – Cymdeithas Edward Llwyd
Also the Wildlife Trust North Ceredigion local group are inviting contributions to their newsletter. If you have any wildlife encounters you’d like to share, please write to Naomi care of n.walton@welshwildlife.org
The deadline for contributions to the next edition of Newyddion Natur Ceredigion Nature News will be Monday 18th July.
Meanwhile I look forward to meeting you at Denmark Farm on 30th June.
Rachel Auckland BA (hons) MA
(hi / she)
Cydlynnydd / Coordinator
Partneriaeth Natur Lleol Ceredigion / Ceredigion Local Nature Partnership
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
Rhif ffôn / Phone number 01545 572282
Rhif ffôn symudol / Mobile Number 07971 951609
Cyfeiriad e-bost / E-mail address
rachel.auckland@ceredigion.gov.uk / biodiversity@ceredigion.gov.uk
Fy oriau gwaith arferol yw 10yb-4.30yh ddydd Llun i ddydd Iau /
My usual hours of work are 10am-4.30pm Monday to Thursday
Byddem wrth ein boddau o glywed gennych yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ymatebwn bob amser yn eich dewis iaith a chewch yr un gwasanaeth gennym ni waeth a ydych yn cysylltu yn Gymraeg neu’n Saesneg.
We’d love to hear from you in Welsh or English. We’ll always respond to you in your preferred language and you’ll get the same service from us whether you contact us in Welsh or English.
Llofnod-e-bost-Eisteddfod-2022-e-mail-signature.png (2050×780) (ceredigion.gov.uk)