Newyddion Natur Ceredigion News 09-06-2022
Fel bob amser, cylchlythyr dwyieithog yw hwn gyda'r Gymraeg yn gyntaf ac yna'r Saesneg.
As always, this is a bilingual newsletter with Welsh first followed by English.
Noswaith dda,
Yn Newyddion Natur yr wythnos hon mae gennym ddwy swydd wag, tri digwyddiad, ymgynghoriad a chyfle i enwebu eich hoff barc. Mwynheuwch ddarllen!
Swydd ar gael
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rheoli ac yn gweithredu ystod o archwiliadau eiddo meddal, arolygon ecolegol, rhestr asedau amgylcheddol a gweithgareddau cynnal a chadw amgylcheddol ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Bydd y swydd hon hefyd yn addas ar gyfer graddedigion diweddar. Ar gyfer y swydd hon, mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ddymunol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol yn ymwneud â'r swydd uchod, cysylltwch â Hannah Jones ar 07773 616096 (Canolbarth Cymru) Dyddiad Cau: 10:00yb, Dydd Iau, 30 Mehefin 2022.
Swyddog Amgylcheddol Cefnffyrdd | Ceredigion County Council Careers
Swyddog Prosiect Di-blastic
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn hysbysebu swydd Swyddog Prosiect 2 flynedd ar gyfer prosiect cyffrous Yr Wyddfa Di-blastig. Rhannwch hwn mor eang â phosibl trwy eich rhwydweithiau a chyfeiriwch unrhyw gwestiynau at Angela.Jones@eryri.llyw.cymru
Eglwysi'n Cyfrif ar Natur / Carwch Eich Mynwent
Mae Grŵp Lleol Aberteifi / Aberteifi Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar gyfer dau ddigwyddiad yn Eglwys Sant Tygwydd, Llandygwydd, SA43 2QU
Noson Ystlumod a Gwyfynod, nos Wener 10fed Mehefin am 7.30-10yh,
Bio-blitz, bore Sadwrn 11 Mehefin 10.30yb-12.30yh
Gweler y poster atodedig am fwy o fanylion ac e-bostiwch paulandlesleytaylor@gmail.com os hoffech fynychu.
Taith Glaswelltir a Blodau Gwyllt
Mae'r Gymuned Garbon yn eich gwahodd i Daith Glaswelltir a Blodau Gwyllt a diwrnod gwyddoniaeth gymunedol, dydd Sadwrn 18 Mehefin 10yb-4yh yn Rhandir-mwyn ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin. Am fwy o fanylion ac i gofrestru dilynwch y ddolen Grassland & Wildflower Tours and Community Science Day Tickets, Sat 18 Jun 2022 at 10:00 | Eventbrite
Helfa Cacwn Llus
Mae Bumblebee Conservation yn gofyn i ni i gyd fynd allan i chwilio am y cacwn bendigedig hyn ac anfon cofnodion. Dilynwch y ddolen am fwy o fanylion. Helfa Cacwn y Llus Cymru Gyfan - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (wwbic.org.uk)
Ymgynghori
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion (BGC) yn datblygu Cynlluniau Llesiant Lleol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r cynlluniau’n cynnwys amcanion amgylcheddol, ond a ydynt yn bodloni ein hanghenion fel aelodau o Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion? Dilynwch y ddolen hon i ddarganfod mwy a chwblhewch yr arolwg i rannu eich barn. Dweud Eich Dweud Ceredigion
Enwebiad
Mae Fields in Trust yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Hoff Barciau’r DU. Gallwch enwebu eich ffefryn yma: UK's Favourite Parks 2022 | Fields in Trust
Anfonwch eitemau ar gyfer y rhifyn nesaf erbyn dydd Llun 20fed Mehefin. Diolch.
Rachel
**********
Good evening,
In this week’s Nature News we have two job vacancies, three events, a consultation and a chance to nominate your favourite park. Happy reading!
Job Vacancies
Highways Environmental Officer
The successful applicants will manage and implement a range of soft estate inspections, ecological surveys, environmental asset inventory and environmental maintenance activities for the trunk road network in accordance with Welsh Government requirements. This post will also be suitable for recent graduates. For this post, the ability to communicate in both English and Welsh is desirable. If you have any specific queries relating to the above post, please contact, Hannah Jones on 07773 616096 (Mid Wales) Closing Date: 10:00am, Thursday, 30 June 2022. Environmental Officer | Ceredigion County Council Careers
Plastic Free Project Officer
Snowdonia National Park are advertising a 2-year Project Officer post for the exciting project of Plastic Free Yr Wyddfa/Snowdon. Please share this as widely as possible through your networks and refer any questions to Angela.Jones@eryri.llyw.cymru
Events
Churches Count on Nature / Love Your Burial Ground
The Wildlife Trust of South and West Wales’ Cardigan / Aberteifi Local Group invite you to join them for two events at St Tygwydd Church, Llandygwydd, SA43 2QU
Bat and Moth evening, Friday evening 10th June at 7.30-10pm,
Bio-blitz, Saturday morning 11th June 10.30am-12.30pm
Please see attached poster for more details and email paulandlesleytaylor@gmail.com if you would like to attend.
Grassland and Wildflower Tour
The Carbon Community invite you to a Grassland and Wildflower Tour and community science day, Saturday 18th June 10am-4pm at Rhandirmwyn near Llandovery in Carmarthenshire. For more details and to register please follow the link. Grassland & Wildflower Tours and Community Science Day Tickets, Sat 18 Jun 2022 at 10:00 | Eventbrite
Bilberry Bumblebee Hunt
Bumblebee Conservation are asking us all to get out and look for these wonderful bumblebees and send in records. Follow the link for more details.
All Wales Bilberry Bumblebee Hunt - West Wales Biodiversity Information Centre (wwbic.org.uk)
Consultation
Ceredigion Public Service Board (PSB) are developing Local Wellbeing Plans for the coming five years. The plans include environmental objectives, but do they meet our needs as members of Ceredigion Local Nature Parntership? Follow this link to find out more and complete the survey to share your views. Have Your Say Ceredigion
Nomination
Fields in Trust are inviting nominations for the UK’s Favourite Parks. You can nominate your favourite here: UK's Favourite Parks 2022 | Fields in Trust
Please send items for the next edition by Monday 20th June.
Thank you.
Rachel Auckland BA (hons) MA
(hi / she)
Cydlynnydd / Coordinator
Partneriaeth Natur Lleol Ceredigion / Ceredigion Local Nature Partnership
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
Rhif ffôn / Phone number 01545 572282
Rhif ffôn symudol / Mobile Number 07971 951609
Cyfeiriad e-bost / E-mail address
rachel.auckland@ceredigion.gov.uk / biodiversity@ceredigion.gov.uk
Fy oriau gwaith arferol yw 10yb-4.30yh ddydd Llun i ddydd Iau /
My usual hours of work are 10am-4.30pm Monday to Thursday
Byddem wrth ein boddau o glywed gennych yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ymatebwn bob amser yn eich dewis iaith a chewch yr un gwasanaeth gennym ni waeth a ydych yn cysylltu yn Gymraeg neu’n Saesneg.
We’d love to hear from you in Welsh or English. We’ll always respond to you in your preferred language and you’ll get the same service from us whether you contact us in Welsh or English.
Llofnod-e-bost-Eisteddfod-2022-e-mail-signature.png (2050×780) (ceredigion.gov.uk)