Newyddion Natur Ceredigion News 07-11-2023
Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature News |
Helo a chroeso i’r rhifyn hydrefol hwn o Newyddion Natur Ceredigion. Mae gennym newyddion y mis hwn am swyddi gwag; gweithdai ymgysylltu; ariannu; natur yng Ngheredigion, Cymru a’r DG/Prydain; cyfarfodydd; gweithgareddau; arolygon ac ymgynghori; adnoddau; dŵr, coed, Rhywogaethau An-frodorol Ymledol, garddio, bwyd a ffermio; ymgyrchoedd; a dyddiadau i’ch dyddiadur. Mwynhewch y darllen! | Hello and welcome to this Autumnal edition of Ceredigion Nature News. This month we have news of job vacancies; engagement workshops; funding; nature in Ceredigion, Wales and the UK / Great Britain; meetings; activities; webinars; surveys and consultations; resources; water, trees, Invasive Non-Native Species, gardening, food and farming; campaigns; and dates for your diary. Happy reading! |
SWYDDI GWAG Cynorthwyydd Bioamrywiaeth, Cyngor Sir Ceredigion Rydyn ni’n dymuno penodi Cynorthwyydd Bioamrywiaeth i ymuno â’n Tîm Cadwraeth am gyfnod penodol o 08.01.24 i 31.03.25, yn rhan amser 3 diwrnod neu 22.2 awr yr wythnos, i gynnwys ychydig waith gyda’r hwyr a’r penwythnosau. Byddwch yn gweithio gartref neu gallwch weithio yn un o’n swyddfeydd . Diben y swydd hon yw cynorthwyo wrth hyrwyddo a datblygu Partneriaeth Natur Leol Ceredigion (PNL) a hwyluso Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a phrosiectau cysylltiedig eraill, a recriwtio a threfnu gwirfoddolwyr. Pwyswch ar y ddolen uchod am ragor o fanylion ac i wneud cais. Dyddiad cau 27 Tachwedd. Bydd yr Ecolegydd yn gyfrifol am gynorthwyo Ecolegydd Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a’r Tîm Amgylcheddol. Dyddiad cau dydd Iau 23 Tachwedd. Mae Cyngor Gwynedd yn dymuno cyflogi Swyddog Amgylchedd - Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru gyda swyddfeydd mewn amrywiol fannau gan gynnwys Aberaeron. Dyddiad cau dydd Iau 16 Tachwedd | Biodiversity Assistant, Ceredigion County Council We wish to recruit a Biodiversity Assistant to join our Conservation Team on a fixed term basis from 08.01.24 to 31.03.25, part time 3 days or 22.2 hours per week, to include some evenings and weekend working. The post will be based at home, or you may work from one of our offices. The purpose of this post is to assist in promoting and developing the Ceredigion Local Nature Partnership (LNP) and facilitating Local Places for Nature and other related projects and recruiting and organising volunteers. Please click the link above for more details and to apply. Closing date 27th November. The Assistant Ecologist will be responsible for assisting the North and Mid Wales Trunk Road Agency Ecologist, and the Environmental Team. Closing date Thursday 23rd November. Gwynedd Council would like to employ an Environmental Officer – North and Mid Wales Trunk Road Agent with various office locations including Aberaeron. Closing date Thursday 16th November. |
GWEITHDAI Rydym yn creu Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Ceredigion a fydd yn helpu i wella bioamrywiaeth, diogelu ein bywyd gwyllt ac adfer ein mannau gwyrdd. Mae angen eich help arnom. Ymunwch â ni yn un o’n gweithdai neu ar-lein i rannu eich barn am yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi byd natur a’r hyn y dylid ei gynnwys yn y cynllun. Mae croeso i bawb, ac mae pob barn yn bwysig. Darperir lluniaeth. Gweithdai wyneb yn wyneb: Llanbedr Pont Steffan Dydd Iau 09 Tachwedd 2:00yp – 4:30yp Canolfan Creuddyn, Heol Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BN Aberteifi Dydd Gwener 10 Tachwedd 10:00yb – 2:30yp Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cilgerran, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 2TB I gynnwys taith gerdded a sgwrs ar draws Gororau Teifi gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Aberystwyth Dydd Llun 13 Tachwedd 1:30yp – 4:00yp Penparcau Hwb Cymunedol, y Parc, Heol Penparcau, Penparcau, Aberystwyth SY23 1RU Gweithdai ar-lein Dydd Iau 16 Tachwedd 5:00yp - 7:00yh Dydd Gwener 17 Tachwedd 2:00yp - 4:00yp Cysylltwch ag lnpengagement@gmail.com am fwy o wybodaeth | Ceredigion Local Nature Partnership are creating a Nature Recovery Action Plan for the county that will improve biodiversity, protect our wildlife and restore our green spaces. We need your help. Join us at one of our workshops or online to share your views about what we can do to support nature and what should be included in the plan. Everyone is welcome, and all views are important. Refreshments will be provided. In person workshops: Lampeter Thursday 09th November 2:00 – 4:30pm Canolfan Creuddyn, Pontfaen Rd, Lampeter, SA48 7BN Aberteifi (Cardigan) Friday 10th November 10:00am – 2:30pm Welsh Wildlife Centre Cilgerran, Cardigan, Pembrokeshire, SA43 2TB To include a walk and talk across the Teifi Marches with the Wildlife Trust of south and west Wales. Aberystwyth Monday 13th November 1:30 – 4:00pm Penparcau Community Hub, The Park, Penparcau Rd, Penparcau, Aberystwyth SY23 1RU Online workshops: Thursday 16th November 5:00 – 7:00pm Friday 17th November 2:00 – 4:00pm For more information and to book your place please email: lnpengagement@gmail.com |
ARIANNU Cronfa Gyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Gwnewch gais am £10,000-£250,000 i wella mannau natur trefol, datblygu prosiectau tyfu bwyd cymunedol neu helpu amrywiol gymunedau ethnig i ymgysylltu â threftadaeth naturiol. Ceredigion: Ein Cartref, Ein Cynefin Mae Partneriaeth Natur Ceredigion yn cynnig cynllun Grantiau Bach Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i adfer a gwella asedau naturiol, ac i ddarparu natur wrth y drws lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau mynediad cyhoeddus. Hyd at £5,000 ar gyfer pob cais. I wneud cais neu i ddarllen ymhellach ewch i wefan CMGC (CAVO) ar y ddolen uchod neu cysylltwch â CMGC ar 01570 423 232 neu grant@cavo.org.uk. Dyddiad cau 30 Tachwedd 2023. Grantiau ariannu llawn rhwng £500 a £5000 ar gyfer prosiectau cydweithredol i geisio darparu bwyd iach a chynaliadwy i bawb ac economi fwyd leol lwyddiannus. Darllenwch y ddalen Facebook hon i gysylltu â phobl ar draws llawer rhan o’r system fwyd yng Ngheredigion, neu ewch i ddigwyddiad ariannu a rhwydweithio yn yr Arad Goch, Aberystwyth 11am-3pm 7 Tachwedd. I gofrestru darllenwch y poster sydd wedi ei gysylltu neu cysylltwch ag ann.owen@menterabusnes.co.uk Mae’n cynnig grantiau i sefydliadau ac achosion sy’n darparu newidiadau trawsnewidiol i gymunedau yng Nghymru. | Local Places for Nature Capital Fund Apply for £10,000-£250,000 to improve urban nature spaces, develop community food-growing projects or help diverse ethnic communities engage with natural heritage. Ceredigion: Ein Cartref, Ein Cynefin Ceredigion Nature Partnership is offering A Local Places for Nature Small Grants scheme to restore and enhance natural assets and deliver nature on your doorstep where people live, work and access public services. Up to £5,000 per application. To apply or read more visit CAVO’s website on the link above or contact CAVO on 01570 423 232 or grant@cavo.org.uk. Closing date 30th November 2023. Fully funded grants between £500 and £5000 for collaborative projects aimed at achieving healthy and sustainable food for all and a thriving local food economy. Please see this Facebook page to connect people across the many parts of Ceredigion food system, or attend a funding and networking event at Arad Goch, Aberystwyth 11am-3pm 7th November. To register please see attached poster or contact ann.owen@menterabusnes.co.uk Offers grants to organisations and causes that provide transformational changes in communities in Wales. |
NEWYDDION NATUR Ceredigion Erthygl o Nation Cymru a gyflwynwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru am waith sy’n helpu Britheg y Gors i ffynnu yng Ngheredigion. Cynnig Prosiect Mae Cynnig Prosiect Torri Gwair wedi ei gysylltu oddi wrth Michele Presacane i sefydlu rhwydwaith gwirfoddol yng Ngheredigion gyda’r nod o nodi/mapio unrhyw fan gwyrdd lle mae’r gwair yn cael ei dorri’n rheolaidd. Cymru Podlediad Cyfoeth Naturiol Cymru Mae’r podlediadau hyn yn canolbwyntio ar amgylchedd Cymru gan roi ichi olwg ar eu gwaith y tu ôl i’r llenni. Y Deyrnas Gyfunol a Phrydain Dewch i glywed am y Big Green Vision gan Rocha UK a’u strategaeth bum mlynedd ddydd Mawrth 21 Tachwedd 2pm-3pm. Adroddiad Blynyddol Taith y Gwenyn Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y tueddiadau cyfnod hir i’n poblogaethau o gacwn, ac yn rhoi trosolwg lawn o dymor y maes y llynedd. | Ceredigion An article from Nation Cymru submitted by Natural Resources Wales about work that is helping Marsh Fritillary Butterflies to thrive in Ceredigion. Project Proposal Attached is a Mowing Project Proposal from Michele Presacane to set up a volunteering network in Ceredigion whose aim will be to identify/map any green space which gets mowed on a regular basis. Wales Natural Resources Wales Podcast These podcasts focus on the Welsh environment, giving you a behind the scenes look at their work. UK and GB Hear about A Rocha UK's Big Green Vision and their five-year strategy on Tuesday 21st November 2pm-3pm. This report looks at the long-term population trends for our bumblebee species and the full overview of last years' field season. |
CYFARFODYDD CCB Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru Ymunwch â 21fed CCB Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ddydd Iau 16 Tachwedd. Croeso i’r holl aelodau. I lofnodi anfonwch eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif aelodaeth i d.clark@welshwildlife.org | The Wildlife Trust of South and West Wales AGM Join in this 21st AGM of The Wildlife Trust of South and West Wales on Thursday 16th November. All members are welcome. To sign up, please email your name, address, and membership number to Diana Clark d.clark@welshwildlife.org |
GWEITHGAREDDAU Cyrsiau Natur Ar-lein am Ddim Mae’r rhain yn dechrau ddydd Mawrth 7 Tachwedd ac yn cynnwys Tracio Bywyd Gwyllt y Gaeaf, Crefftau Natur, Bwyd yr Ŵyl ac Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae poster wedi ei gysylltu. Dosbarth darlunio’r llygoden ddŵr Noson ar-lein o gelfyddyd a sgwrsio yn canolbwyntio ar y llygoden ddŵr. Nos Fawrth 14 Tachwedd, 7-8.30pm. Sgwrs am Ffyngau Cap Cŵyr Cymru Archwilio amrywiaeth y teulu lliwgar hwn hwn o ffyngau gyda’r arbenigwr byd-enwog yr Athro Gareth Griffith nos Lun 6 Tachwedd 7pm yn Theatr C22, Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth. Taith Natur Cerdded yn hamddenol o gwmpas Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi ddydd Sadwrn 18 Tachwedd 10am-12pm. Poster wedi ei gysylltu. | Free Online Nature Courses These begin on Tuesday 7th November and include Winter Wildlife Tracking, Nature Crafts, Festive Food and Mindfulness. Poster attached. This is an online evening of art and conservation focusing on the water vole. Tuesday 14th November 7-8.30pm. Welsh Waxcap Fungi Talk Explore the diversity of this colourful family of fungi with world-class waxcap expert Professor Gareth Griffith on Monday 6th November 7pm at Theatre C22, Hugh Owen Building, Aberystwyth University. Nature Walk Have a stroll around the Teifi Marshes Nature reserve on Saturday 18th November 10am-12pm. Poster attached. |
WEBINARAU Seremoni Rithwir y Faner Werdd Ymunwch â’r digwyddiad YouTube hwn i ddathlu Gwobrau Baner Werdd y DG eleni, enillwyr ‘y gorau o’r goreuon’ a Dewis y Bobl ddydd Mawrth 7 Tachwedd 3pm. Webinar DNA Ffyngau a’r Amgylchedd Bydd yr Athro Gareth Griffith o Brifysgol Aberystwyth yn siarad am ffyngau a’r dechneg e-DNA mae wedi ei datblygu ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2-3.30pm. Dewch i glywed tair barn am ailgyflwyno’r afanc nos Fercher 15, 7-8.15pm. Webinar Prosiect Chwilod y Dom Darganfod yr hanes sut arweiniodd adfer darn mawr o dir isel at gadwraeth un math penodol o chwilen y dom ddydd Llun 20 Tachwedd 1-2 pm. Sgwrs gan yr ymgyrchydd amgylchedd, Chris Baines yn hyrwyddo’r syniad o weithio gyda natur a sut y gall nawr gael ei ddarparu ar draws y wlad yn ehangach, o gefn gwlad anghysbell drwy Brydain drefol at ddyfroedd ein harfordir. Nos Fawrth 21 Tachwedd 7-9pm. Webinar Gwarchod Ieir Bach yr Haf Clywed am y wybodaeth ddiweddaraf am waith monitro ieir bach yr haf ym Mhrydain ac a yw ymdrechion cadwraeth yn gweithio ddydd Llun 27 Tachwedd 1-2pm. Mynwentydd – Webinar Teithau Tywys Dysgu sut i drefnu a hyrwyddo teithiau tywys mewn mynwentydd. Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2-3.30pm. Webinar Llên Gwerin Mynwentydd Dysgu am lên gwerin coed a phlanhigion mewn mynwentydd. Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2-3.30pm. | Join this YouTube Premiere event to celebrate this year's UK Green Flag Award 'best of the best' and People's Choice vote winners on Tuesday 7th November 3pm. Fungi and Environmental DNA Webinar Professor Gareth Griffith of Aberystwyth University will be talking about fungi and the e-DNA technique he has developed on Tuesday 14th November 2-3.30pm. Hear three perspectives on beaver reintroduction on Wednesday 15th November 7-8.15pm. Discover the story of how the accidental restoration of a large area of downland led to the conservation of one particular species of dung beetle on Monday, November 20th 1-2 pm. A talk from environmental campaigner, Chris Baines promoting the idea of working with nature and how it can now be rolled out across the wider landscape, from remote rural countryside, through urban Britain and on into our coastal waters. Tuesday 21st November 7-9pm. Butterfly Conservation Webinar Hear about the latest information coming from monitoring the UK's butterfly populations and whether conservation efforts are working on Monday, November 27th 1-2 pm. Burial Grounds - Running Guided Walks Webinar Learn how to organise and promote guided walks in burial grounds. Tuesday 28th November 2-3.30pm. Folklore in Burial Grounds Webinar Learn the folklore of trees and plants found in burial grounds. Tuesday 5th December 2-3.30pm. |
AROLYGON Mae gwirfoddolwyr yn cael eu gwahodd i helpu casglu gwybodaeth am boblogaethau gwylanod dros y gaeaf. Rhannu Data y Prosiect Dyfrgwn Cynllun cofnodi dros gyfnod hir yw hwn gan defnyddio dyfrgwn marw ar gyfer ymchwil ecolegol. Mae ffurflen adborth ar gyfer y porthol newydd ar gael yma. Gofynnir ichi gysylltu ag otters@cardiff.ac.uk neu lenwi’r ffurflen hon i drefnu cyflwyno’r dyfrgwn. | Volunteers are being asked to help collect information about wintering gull populations The Otter Project Data Sharing This is a long-term surveillance scheme using dead otters for the benefit of ecological research. A feedback form for the new portal is available here. You are asked to contact otters@cardiff.ac.uk or complete this form to arrange the delivery of otters. |
YMGYNGHORI Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am newidiadau arfaethedig yn y cod ymarfer i atal a rheoli’r creulys rhag lledu. | CONSULTATIONS The Welsh Government want your views on proposed changes to the code of practice to prevent and control the spread of ragwort. |
ADNODDAU Llawlyfr i Sefydliadau sy’n Cysylltu â Natur Canllaw ar gyfer sefydliadau sy’n cysylltu â natur am eitemau cynaliadwy a llesiant mannau gwaith. Cyfrifiannell Effaith Carbon Cymunedol Offeryn sy’n eich helpu i ddeall ôl-troed carbon eich cymuned. Gweithgareddau Arbed Ynni i Ysgolion Cefnogaeth i athrawon a disgyblion wrth ddysgu am ynni a newid yn yr hinsawdd yng nghyd-destun eu hysgol eu hunain. Pecyn Dadansoddi Peledi Tylluanod Cael pecyn i wirfoddolwyr i ddadansoddi’r peledi a welwch a’u hanfon i gael eu dadansoddi. | Nature Connected Organisations Handbook A guide for connecting organisations with nature for sustainable futures and workplace wellbeing. Impact Community Carbon Calculator Tool that helps you understand your community’s carbon footprint. Energy Saving Activities for Schools Support for teachers and pupils when learning about energy and climate change within the context of their own school. Receive a volunteer pack to dissect the pellets you find out or send them off for analysis. |
DŴR Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 9 Tachwedd 7yp ym Mwldan 6 yn Aberteifi. Adroddiad ar Fethiant Dŵr Croyw Mae adroddiad wedi dangos methiannau niferus a maith gan Ddŵr Cymru i gydymffurfio ag amodau ei drwydded weithredu. Mae datganiad i’r wasg gan Ddŵr Cymru ar y mater hwn wedi ei gysylltu. Digwyddiad ‘Eich Dŵr Chi, eich Barn Chi' Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno’i gynllun manwl ar gyfer 2025 i 2030 i Ofwat i’w asesu. Bydd y cyfarfod hwn ddydd Gwener 17 Tachwedd 5-7pm yn gyfle i chi glywed am y cynllun a gofyn cwestiynau amdano. Y dyddiad olaf i gofrestru yw dydd Mercher 15 Tachwedd. Monitro Iechyd Afonydd – Webinar Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Dysgu sut mae’r Rhaglen SmartRivers yn defnyddio arolygon o boblogaethau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn dŵr croyw dydd Llun, 4 Rhagfyr, 1-2 pm. | The next meeting will be on Thursday 9th November 7pm at Mwldan 6 in Cardigan. A report has revealed extensive and long-term failures by Welsh Water to comply with their operational permit conditions. Attached is a press release from Welsh Water regarding this issue. Welsh Water has submitted its detailed plan for 2025 to 2030 to Ofwat for assessment. This meeting on Friday 17th November 5-7pm will allow you to hear about the plan and ask questions about it. Deadline for registration is Wednesday 15th November. Monitor River Health – Invertebrates Webinar Learn about how the SmartRivers Programme is using surveys of freshwater invertebrate populations Monday, December 4th from 1-2 pm. |
COED Wythnos Genedlaethol Coed – dydd Sadwrn 25 Tachwedd - dydd Sul 3 Rhagfyr. Mae’r digwyddiad hwn yn sôn am ddelio ag anghenion gwahanol goedlannau a buddiannau rheoli coedlannau’n dda. Nos Fawrth 7 Tachwedd 6pm. Gweithio yn y Coed Cwrs cyflwyno pum diwrnod am ddim ar weithio yn y coed gan ddechrau ddydd Mawrth 7 Tachwedd ac yna Gwrs Rheoli Coedlannau Cynaliadwy o ddeuddeg wythnos yn dechrau ddydd Mawrth 28 Tachwedd. Poster wedi ei gysylltu. Canllaw i ddechreuwyr ar nodi a thyfu coed o had a chychwyn Meithrinfa Goed Gymunedol. Hyfforddiant Ysgol yn y Goedwig – Lefel 3 Cwrs i Arweinwyr Ysgol yn y Goedwig yng Ngheredigion gyda’r hyfforddwr lleol Jo Dainty. Mae dyddiadau yn 2024 wedi eu cysylltu wrth y cylchlythyr hwn. Ydych chi eisiau cynnwys mwy o goed ar eich safle ond am i’r ardal honno ddal i fod yn gynhyrchiol? Ydych chi wedi ystyried ymgorffori coed ffrwythau a chnau brodorol i wella’ch cloddiau neu ymylon eich caeau? Gallwch ddysgu egwyddorion sylfaenol dylunio perllan, rheoli a gwyddoniaeth tocio gyda Merched y Berllan ddydd Mawrth 21 Tachwedd 10am-3pm yn IBERS, Aberystwyth. Poster wedi ei gysylltu. Mae cwympo coed ar frys wedi cychwyn yng Nghoedwig Hafod i waredu coed sydd ag afiechyd. Gofynnir i berchnogion lenwi’r arolwg hwn ar gyfer ymchwiliad gan y Royal Forestry Society i fynediad addysgol i goedlannau preifat, a’r gefnogaeth a all fod yn ofynnol i hwyluso hyn. I ddathlu lansio’i llyfr newydd Treetime, mae’r Gymdeithas Coedyddiaeth yn trefnu seminar byw am ddim gyda Ted Green a gwesteion arbennig nos Fercher 22 Tachwedd 6pm. Darllenwch am waith yr elusen hon sy’n gweithio gyda brodorion a phobl leol ledled y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol - tua maint Cymru. | National Tree Week - Saturday 25th November - Sunday 3rd December. This event talks about tackling the needs of different woodlands, and the benefits that are gained from good woodland management. Tuesday 7th November 6pm. Working in the Woods Free five-day introductory course to working in the woods starting Tuesday 7th November followed by a twelve-week Sustainable Woodland Management Course starting on Tuesday 28th November. Poster attached. A beginner’s guide to identifying and growing trees from seed and starting a Community Tree Nursery. Forest School Training – Level 3 Forest School Leader course based in Ceredigion with local trainer Jo Dainty. Dates for 2024 are attached to this newsletter. Orchard Management Introduction Are you looking to include more tree cover to your site, but would you still like that area to be productive? Have you considered incorporating native fruit and nut trees to enhance your hedgerows or field margins? Learn the basics of orchard design, management and the science of pruning with Merched Y Berllan on Tuesday 21st November 10am-3pm at IBERS Aberystwyth. Poster attached. Urgent tree-felling has begun at Hafod Forest to remove trees that are diseased. Owners are being asked to complete this survey for a Royal Forestry Society investigation into educational access in privately owned woodlands, and the support that may be needed to facilitate this. To celebrate the launch of his new book Treetime, the Arboricultural Association is hosting a free live seminar featuring Ted Green and some special guests on Wednesday 22nd November 6pm. Read about the work of this charity who work with Indigenous and local people worldwide to grow trees and protect at least 2 million hectares of tropical forests – an area the size of Wales. |
RHYWOGAETHAU AN-FRODOROL YMLEDOL Cimwch yr Afon (American Signal Crayfish) – Webinar INNS Dysgu am yr ymdrechion a’r technegau a ddefnyddir i reoli’r rhywogaeth ymledol hon ddydd Iau 23 Tachwedd,1-2 pm. Gweithdai ar Rywogaethau An-frodorol Ymledol Gwahoddir chi i’r gweithdy cyntaf ar INNS a bioddiogelwch ar gyfer y prosiect cynllunio bioddiogelwch y môr, yn cael ei ariannu gan Gyfoeth Naturiol Cymru gan ddechrau ddydd Iau 23 Tachwedd 10am neu 6pm. Holiadur Rhywogaethau An-frodorol Ymledol Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar brosiect i leihau’r perygl i INNS y môr gyrraedd Cymru ac ymledu, a gofynnir ichi lenwi’r holiadur hwn i’w helpu i gael gwybodaeth leol ac ymgysylltu â defnyddwyr. | American Signal Crayfish – INNS Webinar Learn about the efforts and techniques being used to control this invasive species on Thursday, November 23rd 1-2 pm. You are invited to attend the first INNS and biosecurity workshop for the marine biosecurity planning project, funded by Natural Resources Wales, starting Thursday 23rd November 10am or 6pm. Invasive Non-Native Species Questionnaire Natural Resources Wales are working on a project to reduce the risk of marine INNS arriving and spreading in Wales and ask you fill out this questionnaire to help them access local knowledge and engage users. |
GARDDIO Mae Cyfeillion y Ddaear a’r Co-operative Bank wedi cyfuno i greu Garddwyr Cod Post i wneud strydoedd yn wyrddach mewn un ardal cod post, a dod â chymdogion at ei gilydd. Ymunwch â Stephanie Hafferty i ddysgu sut i dyfu ein bwyd ein hunain, gan gael bwyd cartref iach drwy’r flwyddyn, drwy ddefnyddio dulliau garddio cynaliadwy sy’n garedig i’r blaned, yn fforddiadwy ac yn wydn. Webinar i drafod sut gall y system weithio orau i dyfwyr nos Fercher 15 Tachwedd 7.30-8.30pm. Dileu’r Drwydded Gwasgaru Tail Erthygl am roi’r gorau i’r cynllun trwyddedu gan Lywodraeth Cymru. Dyddiadau Tachwedd yn yr Ardd Bob dydd Iau – Bore gwirfoddolwyr yn Yr Ardd, 10am12:30pm Dydd Sadwrn 4 Tachwedd – Gweithdy Anrhegion Nadolig, 10am-1pm, Y Pwerdy Nos Fawrth 7 Tachwedd, Yr Ardd Cyfarfod Agored, 7pm-8:30pm, Y Pwerdy Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, Clwb Garddio yn Yr Ardd, 11am-1pm Nos Fawrth 28 Tachwedd, Dylunio Safle – Bwydo ein cymuned, 5pm - 7pm, Y Pwerdy Am ragor o wybodaeth gweler isod neu cysylltwch ag elizabeth@yrardd.org | Friends of the Earth and the Co-operative Bank have teamed up to create Postcode Gardeners to green up streets in one postcode area and bring neighbours together. Join Stephanie Hafferty and learn how to grow your own food, harvest healthy, homegrown food year-round, using sustainable, planet friendly, affordable and resilient gardening methods. Perennial Green Manures Webinar Webinar to discuss how the system can work best for growers on Wednesday 15th November 7.30-8.30pm. Ditching The Manure Spreading Licence An article about the dropping of the licensing scheme by the Welsh Government. Yr Ardd November Dates Every Thursday - Volunteer morning at Yr Ardd, 10am12:30pm Saturday 4th November - Christmas Gifts Workshop, 10am-1pm, The Powerhouse Tuesday 7th November, Yr Ardd Open Meeting, 7pm-8:30pm, The Powerhouse Saturday 11th November, Club Garddio at Yr Ardd, 11am-1pm Tuesday 28th November, Site Design - Feeding our community, 5pm - 7pm, The Powerhouse For more information see below or contact elizabeth@yrardd.org |
BWYD A FFERMIO Bord Gron Economi Werdd Ranbarthol: Bwyd Ymunwch â phanel o arbenigwyr o gwmpas y bwrdd i archwilio cynaliadwyedd a’r system fwyd yn ne orllewin Cymru ddydd Mawrth 7 Tachwedd November 1.30-3pm. Gweler y ddalen Facebook hon i gysylltu pobl dros lawer rhan o’r system fwyd yng Ngheredigion, i adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth, dysgu a chydweithio. Mae poster wedi ei gysylltu. Darllenwch y wybodaeth hon gan yr Woodland Trust am y ffordd i fforio’n gyfrifol.. Cymorth Bwyd (Food Aid) Taflen Gymorth I bobl sy’n ariannu a grwpiau cymdeithasau sifil sydd am greu sicrwydd bwyd dros gyfnod hirach yn eu cymunedau. Dysgu am y cyrsiau sydd ar gael lle caiff ffermwyr ddysgu am ddefnyddio homeopathi’r fferm yn gyfrifol nos Iau 23 Tachwedd 7pm. | Regional Green Economy Roundtable: Food Join a panel of experts for a roundtable to explore sustainability and the food system in Southwest Wales on Tuesday 7th November 1.30-3pm. Please see this Facebook page to connect people across the many parts of the Ceredigion food system, to build a network of support, learning and collaboration. Poster attached. Responsible Foraging Guidelines Read this information from The Woodland Trust about how to forage responsibly. For funders and civil society groups who want to build longer-term food security in their communities. Learn about the courses available, where farmers are taught about the responsible use of farm homeopathy on Thursday 23rd November 7pm. |
YMGYRCHOEDD Mae Climate Cymru yn cefnogi Climate Justice Coalition Global Day of Action ar 9 Rhagfyr sy’n digwydd yn ystod COP28. Bwriedir gorymdeithio yng Nghaerdydd a bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn am weithgareddau yng ngorllewin a gogledd Cymru. Cysylltwch â clare@climate.cymru os hoffech drefnu rhywbeth yn eich ardal chi neu gysylltu ag eraill sy’n gwneud hynny. | Climate Cymru is supporting the Climate Justice Coalition Global Day of Action on 9th December which takes place during COP28. A march is planned for Cardiff, with further information to follow on activities in West and North Wales. Please get in touch with clare@climate.cymru if you’d like to organise something in your area or connect with others who do. |
DYDDIADAU I’CH DYDDIADUR: Global Day of Action for Climate Justice – Dydd Llun 6 Tachwedd World Vegan Month – Dydd Mercher 1 – dydd Iau 30 Tachwedd World Kindness Day – Dydd Llun 13 Tachwedd One World Week – Dydd Mawrth 14 – dydd Llun 20 Tachwedd Buy Nothing Day – Dydd Gwener 24 Tachwedd Giving Tuesday – Dydd Mawrth 28 Tachwedd World Soil Day– Dydd Mawrth 5 Rhagfyr | DATES FOR YOUR DIARY: Global Day of Action for Climate Justice – Monday November 6th World Vegan Month – Wednesday 1st - Thursday 30th November World Kindness Day – Monday 13th November One World Week – Tuesday 14th – Monday 20th November Buy Nothing Day – Friday 24th November Giving Tuesday – Tuesday 28th November World Soil Day– Tuesday 5th December |
Fel bob amser, diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y cylchlythyr hwn. Daliwch i anfon gwybodaeth ar gyfer y rhifyn nesaf a’n fflach newyddion wythnosol. Os hoffech lofnodi i gael y cylchlythyr neu gyfrannu, anfonwch e-bost i biodiversity@ceredigion.gov.uk | As always, thank you very much to everyone who has contributed to this newsletter and please keep the information coming for the next edition and our weekly newsflashes. If you would like to sign up to the newsletter or contribute, please email biodiversity@ceredigion.gov.uk |