Newyddion Natur Ceredigion News 05-09-2023
Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature News |
Helo, a chroeso i rifyn arall o Newyddion Natur Ceredigion.
Y mis hwn mae gennym adrannau ar ariannu, dŵr, garddio, môr a thir, gwybodaeth am forloi, mamaliaid a’r baedd gwyllt. Mae Diwrnod Rhyngwladol yr Ystlum wedi bod, ond mae gwaith yn parhau gyda digwyddiadau yn yr adran ystlumod. Mae yna adrannau ar goed, rhywogaethau ymledol ac ail- gyflwyniadau; cerdded ac olwynion, webinarau ar bryfed a pheillwyr, cyfleoedd i wirfoddolwyr, deiseb, arolwg ac enwebiadau am wobrau; swyddi gwag gan Tir Coed, adroddiad ar reoli tir, gofalu am natur a chi’ch hun; ac yn olaf, dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau, ac anogwn bawb i anfon eu newyddion a’u digwyddiadau i biodiversity@ceredigion.gov.uk
| Hello and welcome to another edition of Ceredigion Nature News.
This month we have sections on funding, water, gardening, surf and turf for information on seals, mammals and wild boar. International Bat Day has passed but the work carries on with the events in the bat section. There are sections on trees, invasive species and reintroductions; walking and wheels, webinars on insects and pollinators; volunteer opportunities, a petition, survey and awards nominations; job vacancies from Tir Coed, a report on land management, looking after nature and yourself; and finally, dates for your diary.
We thank everyone for their contributions and encourage people to send in their news and events to biodiversity@ceredigion.gov.uk |
Ariannu
Cynllun Adeiladu Capasiti ar yr Arfordir Mae’r gronfa hon ar gyfer prosiectau mewn ardaloedd ar hyd arfordir Cymru, ac mae’n dod â pharteriaid ynghyd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Y nod yw adeiladu cymhwyster i bartneriaid cymunedol, eu helpu i drefnu gweithredu cynaliadwy sy’n cefnogi twf ac adferiad mewn ardaloedd lleol ar y môr a’r arfodir.
Cronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 23-25 Mae arian ychwanegol wedi ei gyhoeddi i gefnogi Partneriaethau Natur Lleol yng Nghymru. Mae’r Gronfa Her yn edrych am brosiectau ar raddfa fawr a mwyafrif y symiau rhwng £100,000 a £250,000. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Medi.
Cysylltwch â Rachel Auckland yn biodiversity@ceredigion.gov.uk am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am y naill gronfa neu’r llall.
Cronfa Gymunedol Arbed Ein Hynysoedd Gwyllt Darllenwch y poster sydd wedi’i gysylltu am wybodaeth am yr ariannu ychwanegol ac addewid o £500 ar gyfer eich prosiect drwy fynd ar-lein.
| Funding
Coastal Capacity Building Scheme This fund is for local projects in coastal areas in Wales and brings together partners to tackle the climate emergency. The aim is to build capacity for community partners, helping them to deliver sustainable action that supports growth and recovery in local marine and coastal areas.
Local Places for Nature Challenge Fund 23-25 Additional funding has been announced to support Local Nature Partnerships in Wales. The Challenge Fund is looking for larger-scale projects with most awards between £100,000 and £250,000. The deadline for applications is the deadline is Friday 22nd September.
Please contact Rachel Auckland at biodiversity@ceredigion.gov.uk for further information and to apply for either of these funds.
Save Our Wild Isles Community Fund Read the attached information poster for information on the funding increase and a £500 pledge for your project when you go live. |
Dŵr
App Gwasanaeth Moroedd ac Afonydd Mwy Diogel Mae’r unig wasanaeth ansawdd dŵr uniongyrchol wedi ei ail-lansio a’r hen app yn dod i ben.
Canu dros Water Aid Dewch i ganu gyda dros gant o bobl ar y Prom yn Aberystwyth dydd Sadwrn 14 Hydref 9.30am-4pm a’r arian i gyd yn mynd i Water Aid. Cysylltwch â Hilary yn hammondroise123@gmail.com am wybodaeth ac i drefnu.
Bob mis bydd Afonydd Cymru’n sôn am afon wahanol ym mhob rhan o Gymru gan dynnu sylw at ei harddwch a’r bygythion sy’n ei hwynebu. Gwahoddir chi i awgrymu afonydd yng Ngheredigion yr hoffech eu gweld yn cael eu dathlu naill ai gennych chi eich hun yn biodiversity@Cerddigion.gov.uk neu drwy Afonydd Cymru’n uniongyrchol.
Blog – Sut Gall Ffermwyr Helpu Afonydd Blog am y prosiect The Four Rivers for LIFE a’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda help ffermwyr.
Webinar Recordio Chwilod Dŵr Dysgu am hanes a dyfodol recordio chwilod dŵr ym Mhrydain ac Iwerddon gyda’r Athro Garth Foster ddydd Iau 14 Medi 1-2pm.
Cyfle i glywed am astudiaethau achos ddydd Llun 18 Medi 1-2pm gan y Fenter Monitro Pryfed Dŵr a sut gallwch helpu monitro afonydd y Deyrnas Gyfunol.
| Water
Safer Seas & Rivers Service App The only national real-time water quality alert service has been relaunched with new features with the old app being discontinued.
Sing for Water International Sing with over one hundred people at Aberystwyth prom on Saturday 14th October 9.30am – 4pm with all proceeds going to Water Aid. Please contact Hilary at hammondrose123@gmail.com for info and booking.
Every month Afonydd Cymru will be featuring a different river across Wales, showcasing their beauty and the threats they face. You are invited to suggest Ceredigion rivers that you would like to see celebrated either through ourselves at biodiversity@Ceredigion.gov.uk or to Afonydd Cymru directly.
Blog – How Can Farmers Help Rivers? Blog regarding The Four Rivers for LIFE project and work being done with the help of farmers.
Recording Water Beetles Webinar Learn about the history and future of recording water beetles in Britain & Ireland with Prof Garth Foster on Thursday 14th September 1-2pm.
This is an opportunity to hear about case studies on Monday 18th September 1-2pm from the Riverfly Monitoring Initiative and how you can get involved in helping to monitor UK rivers. |
Garddio
Gallwch lawrlwytho’r llyfryn hwn am ddim i gael gwybodaeth am fawndiroedd a sut i brynu neu wneud eich compost eich hun heb fawn.
Dysgu sut i dyfu’ch bwyd gartref drwy’r flwyddyn heb balu, bod yn garedig i’r blaned ac yn gynaliadwy ddydd Sadwrn 9 Medi 11am- 3.30pm yn Llanbedr Pont Steffan.
Os hoffech wybod sut mae gwyddonwyr wedi helpu gwella’n gwybodaeth am wlithod yng ngerddi Prydain, yna ymuwch â’r webinar hwn ddydd Llun 9 Hydref 1-2pm.
Webinar ar arddio sy’n garedig wrth fwydod/pryfed genwair Gallwch ddysgu sut gallwch wella amrywiaeth a nifer y mwydod yn eich gardd ddydd Llun 16 Hydref 7-8pm.
| Gardening
This free downloadable booklet gives free booklet information on peatlands, and how to buy, or make your own, peat-free compost.
Learn how to harvest homegrown food all year round, using sustainable, planet friendly, no dig gardening on Saturday 9th September 11am – 3.30pm in Lampeter.
If you would like to learn about how citizen scientists have helped further our knowledge of slugs in British gardens then join this webinar on Monday 9th October 1-2 pm.
Earthworm-friendly Gardening Webinar Learn how you can improve the earthworm diversity and abundance within your garden on Monday 16th October 7-8 pm. |
Cyrsiau Blodau
Cwrs Trefnu Blodau’n Gynaliadwy Dysgu am Drefnu Blodau’n Gynaliadwy drwy greu trefniant hardd ac unigryw o flodau yn eich llestr eich hun ddydd Sadwrn 2 Medi 1-4pm yn Fferm Denmarc.
Gweithdy Blodau Cynaliadwy Defnyddio blodau o The Flower Meadow, Penrhiwpâl i greu trefniant heb sbwng i fynd ag e gartre gyda chi ddydd Sadwrn 9 Medi 10am-12.30pm. Blodau ac offer i gyd wedi’u cynnwys.
| Flower Courses
Sustainable Floristry Course Learn about Sustainable Floristry by creating a beautiful and unique arrangement of blooms in your own vase on Saturday 2nd September 1- 4pm at Denmark Farm.
Use flowers from The Flower Meadow, Penrhiwpal to create a foam free arrangement to take home with you on Saturday 9th September 10am- 12.30pm. All flowers and equipment included
|
Surf and Turf
Tymor Morloi Bach Os byddwch yn mynd tua’r arfordir yn yr wythnosau nesaf, gallwch helpu cadw’r morloi, y rhai bach a chi’ch hun yn ddiogel drwy ddarllen a dosbarthu’r poster sydd wedi’i gysylltu. Mae’n dweud â phwy i gysylltu os byddwch yn pryderu am les morloi. Peidiwch byth â cheisio ymyrryd eich hun a chadwch draw bob amser.
Webinar am Ymddygiad a Gwarchod yr Orca Edrychwch ar recordiad o’r webinar hwn am Ymddygiad a Gwarchod yr Orca. Os cewch anogaeth, defnyddiwch y cod:34BnY#F7
Wythnos Gwylio Morfilod a Dolffiniaid Mae’r gwaith ymchwil hwn gan ddinasyddion yn casglu data am ddosbarthiad morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion o gwmpas y Deyrnas Gyfunol. Dewch i un o’r sesiynau cefndir a fydd yn digwydd bob dydd am 11am dydd Llun 31 Gorffennaf – dydd Gwener 4 Awst yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynys-las. Dewch â dillad ac esgidiau addas, sbectol haul, hufen haul, sbienddrych a chamera lens ffoto os gallwch. Lawrlwythwch Seawatcher app ar eich ffôn cyn dod.
Gweithdy Ar-lein am y Baedd Gwyllt Cewch weld hanes y baedd, ei ymddygiad, ei ecoleg, ei effeithiau, syniadau’r cyhoedd amdano a’i reolaeth ddydd Sul 3 Medi 9.30am-3.30pm.
| Surf and Turf
Seal Pupping Season If you’re heading out to the coast over the coming weeks, help to keep mums, pups, and yourself safe by reading and distributing the attached poster which gives information on who to contact if you have concerns for their wellbeing. Never attempt to intervene yourself and keep your distance at all times.
Orca Behaviour and Conservation Webinar Have a look at a recording of this webinar on Orca Behaviour and Conservation. If prompted please use the code: 34BnY#F7
Whale and Dolphin Watch Week This citizen science event collects vital data on the distribution of whales, dolphins, and porpoises around the UK. Come along for one of the briefing sessions which will be running daily at 11am, Monday 31st July – Friday 4th August in the Ynyslas Visitor Centre. Please bring suitable clothing and footwear, sunglasses, sunscreen, binoculars and a telephoto lens camera if you have one. Please download the Seawatcher app on your phone before arrival.
Examine the boar’s history, behaviour, ecology, impacts, public perception and management on Sunday 3rd September 9.30am-3.30pm. |
Ystlumod
Cwrs ar Ecoleg Ystlumod – Ar-lein Mae’r Cwrs hwn ar Ecoleg Ystlumod ddydd Gwener 2 Medi 9.30am-3.30pm yn drosolwg o rywogaethau’r DG, ei ecoleg gyffredinol, ei gynefinoedd, ei fannau clwydo, ei fwyd a’i brif fygythiadau.
Cynhadledd Genedlaethol ar yr Ystlum Ymunwch â’r gynhadledd hybrid hon ddydd Gwener 15 Medi - dydd Sul 27 Medi i gysylltu â gweithwyr ystlumod o bob rhan o’r wlad i ddatblygu eich sgiliau.
Yn newydd i ystlumod neu am ddysgu rhagor? Mae cynnwys y cwrs ar-lein hwn yn sôn am ystlumod yn gyffredinol a’u gwarchod yn gyfreithiol. Cost £35— £55 i gael tystysgrif. Dydd Gwener 22 Medi 9.30am-3.30pm.
Ystlumod – Corsydd Teifi Defnyddiwch declynnau i adnabod ystlumod a gwrando arnyn. Cwrdd yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran ar y prif barc ceir nos Wener 15 Medi 7.30pm.
| Bats
This Bat Ecology Course on Friday 22nd September 9.30am-3.30pm is an overview of UK species, general ecology, habitats, roosts, diets and main threats.
Join this hybrid conference Friday 15th September - Sunday 27th September to connect with bat workers from across the country and develop your skills.
Whether you are new to bats or looking to learn more, this online course has content covering bats in general including their legal protection. Cost £35-£55 to gain certificate. On Friday 22nd September 9.30am-3.30pm.
Use bat detectors to listen to and identify bats meet at The Welsh Wildlife Centre, Cilgerran on the main car park on Friday 15th September 7.30pm.
|
Coed
Statws Coedwig Genedlaethol Cymru Mae’r cynllun yn galluogi coedlannau rhagorol i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru. Cliciwch ar y ddolen i wneud cais.
Dosbarthiad Meistr Bach Ysgol y Goedwig Cyflwyniad hyfforddiant am ddim i addysg ar sail natur.
Dechrau Cwrs Meithrinfa Goed Ymunwch â meithrinfa goed Purple Trees am gwrs hanner diwrnod a thaith o gwmpas y feithrinfa. Gweler y poster gwybodaeth.
| Trees
National Forest for Wales Status The scheme enables exemplary woodlands to join the National Forest for Wales network. Click the link above to apply.
Forest School Mini-Masterclass Free training presentation for nature- based education.
Start a Tree Nursery Course Join Purple Trees plant nursery for a half day course and nursery tour. See information poster. |
Rhywogaethau Ymledol ac Ail- gyflwyno
Mapio Rhywogaethau Ymledol An- frodorol Mae app newydd yr INNS Mapper wedi ei lansio i bobl wneud gwaith a phawb sy’n ceisio mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol an-frodorol.
Pecyn Cymorth ar Gyfer Balsam Adnodd am ddim i’ch helpu i adnabod balsam, ateb cwestiynau hollbwysig, sefydlu grŵp, mapio a rhoi gwybod am balsam.
Webinar ar Rywogaethau Ymledol Mewn Coedlannau Bach Dysgu sut gallwn helpu atal rhywogaethau ymledol rhag trechu coedlannau bach ddydd Iau 14 Medi 1-2pm.
Sgwrs ddarluniadol nos Fercher 13 Medi 7.30pm yn y Stiwdios yn Theatr Mwldan am ailgyflwyno’r bele a’r afanc yng Nghymru. £3.00 gan gynnwys te a choffi.
| Invasive Species and Reintroductions
Invasive Non-Native Species Mapper The new INNS Mapper app has been launched for citizen scientists and everyone trying to tackle invasive non- native species.
A free resource consisting to help you identify balsam, answer critical questions, set up a group, map and report balsam.
Invasive Species in Small Woodlands Webinar Learn how we can help to prevent invasive species taking over small woodlands on Thursday 14th September 1–2pm.
An illustrated talk on Wednesday 13th September 7.30pm at The Studios at Theatre Mwldan about the re- introduction in Wales of pine martens and beavers. £3.00 including tea and coffee. |
Cerdded ac Olwynion
Croeso i Benwythnos Gerdded Rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer Penwythnos Gerdded Llandysul a Phont-tyweli. Croeso i Gerddwyr. Dydd Gwener 22 Medi – dydd Sul 24 Medi.
Antur Anifeiliaid i Blant Cerdded am hwyl o gwmpas Parc Coffa Llandysul i ryngweithio gyda’r bywyd gwyllt a rhai anifeiliaid wedi eu gwahodd yn arbennig ddydd Sadwrn 23 Medi gan ddechrau ym mharc ceir Llandysul am 10am. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Cysylltwch â Rhodri am fwy o fanylion ar 01559 362202.
Taith gerdded bywyd gwyllt a dathliad Hon fydd y sesiwn olaf yn ein prosiect Our Nature Was. Dewch i ddathlu ddydd Mercher 13 Medi 2pm. Bydd arddangosiad newydd o’r bywyd gwyllt, arolwg o bryfed a chodi sbwriel ar hyd y llwybr. Gwybodaeth wedi ei chysylltu. Anfonwch e-bost at Phil Jones yn phj5@aber.ac.uk
Bydd Sophie Gordon, Swyddog Ymgyrchoedd Cycling UK, yn siarad am Traws Eryri, llwybr beicio 130 milltir newydd oddi ar y ffordd yn cysylltu Machynlleth a Chonwy, a sut gall annog pobl i gysylltu â byd natur ddydd Mawrth 12 Medi 1-2pm.
| Walking and Wheels
A program of events for the Llandysul and Pont-Tyweli Walking Weekend Welcome to Walkers. Friday 22nd September – Sunday 24th September.
Children’s Animal Adventure Walk A fun walk around Llandysul’s Memorial Park interacting with the natural wildlife and some special animal guests on Saturday 23rd September starting in Llandysul car park at 10am. Children must be accompanied by a parent. Contact Rhodri for more details on 01559 362202.
Wildlife walk & celebration This is the last session of the Our Nature Was project. Go and celebrate on Wednesday 13th September 2pm, there will be a new display of the wildlife, an insect survey and a litter pick along the path. Information attached. Please email Phil Jones at phj5@aber.ac.uk
Sophie Gordon, Campaigns Officer for Cycling UK will talk about Traws Eryri, a new 130-mile off-road cycling trail which will connect Machynlleth to Conwy, and how it can encourage people to connect with nature on Tuesday 12th September 1–2pm. |
Webinarau
Ymunwch â’r Athro Paul Graham i ddysgu am fecanweithiau nerfol a synhwyraidd morgrug ddydd Iau 7 Medi 1-2pm.
Webinar ar Arolwg Pryfed Rothamsted Bydd Dr James Bell yn trafod yr arolwg hwn a’r ffordd mae eu cronfeydd data 50 oed ar bryfed glas a gwyfynod yn cael eu defnyddio, ddydd Iau 21 Medi 1pm-2pm.
Mae hwn yn gyfle i ddysgu am brosiect gan bobl yn archwilio peillio a chynhyrchu bwyd mewn trefi, ddydd Iau 5 Hydref 1pm-2pm. | Webinars
Join Prof Paul Graham and learn about the neural and sensory mechanisms of ants on Thursday 7th September 1-2pm.
Rothamsted Insect Survey Webinar Dr James Bell will discuss this survey and how their 50-year aphid and moth datasets are used, on Thursday 21st September 1pm-2pm.
This is an opportunity to learn about a citizen science project that investigated pollination and urban food production and takes place on Thursday 5th October 1pm-2pm.
|
Angen Gwirfoddolwyr
Gwirfoddolwr Llinell Gymorth Gofal Ystlumod Ateb galwadau gan y cyhoedd sydd wedi dod o hyd i ystlumod ar y llawr, wedi cael anaf neu ar goll a rhoi cyngor a’u cysylltu â gwirfoddolwyr gofal ystlumod yn lleol.
Gwirfoddolwyr i Godi Cuddfan Adar Bydd cuddfan adar newydd yn cael ei hadeiladu ar Gorsydd Teifi. Os hoffech ddysgu sgiliau newydd a threulio ychydig amser mewn gwarchodfa natur hardd yn adeiladu’r man cyhoeddus newydd gwych hwn, cysylltwch â John ar 07739 904003.
Gwirfoddolwr Cadwraeth y Môr Bod yn wirfoddolwr yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion ddydd Sul 3 Medi – dydd Llun 6 Tachwedd a gwneud gwaith ymchwil ar y môr.
Mae Grŵp Achub Afon Teifi yn chwilio am wirfoddolwyr dwyieithog a all helpu cyfleu neges yr ymgyrch yn Gymraeg.
| Volunteers Wanted
Bat Care Helpline Volunteer Answer calls from members of the public who have found grounded, injured or lost bats and give advice and put them in touch with local bat care volunteers.
Bird Hide Volunteers Wanted A new bird hide will be built in Teifi Marshes. If you’d like to learn some new skills and spend some time in a beautiful nature reserve constructing this wonderful new public space then please contact John on 07739 904003.
Marine Conservation Volunteer Become a volunteer at Cardigan Bay Marine Wildlife Centre Sunday 3rd September – Monday 6th November and carry out marine research.
The Save The Teifi River Group are looking for volunteers who are bilingual and can assist in communicating the campaign’s message in Welsh. |
Deiseb, arolwg ac enwebiadau
Os hoffech enwebu prosiect tyfu cymunedol ar gyfer Gwobr Rheoli Cymunedol y Gwasanaeth Cynghori Tir Cymunedol yng Nghymru CLAS, dilynwch y ddolen.
Un o’r gerddi ar y rhestr fer ar gyfer rhanbarth “Cymru a’r Gororau” yw un o’n gerddi ni yng Ngheredigon, Bwlch Geufffordd.
Ymunwch â mwy nag 80 o elusennau a Steve Backshall a Chris Packham i fynnu cael pleidlais dros natur yn yr etholiad nesaf. Gofynnir i bleidiau gwleidyddol fabwysiadu polisi pwysig i adfer natur cyn Etholiad Cyffredinol 2024.
Cofiwch gymryd rhan yn yr arolwg byr hwn i bwyso a mesur yr ymgyrch a sut gellir ei gwella yn y dyfodol. | Petition, survey and nominations.
If you would like to nominate a community growing project for The Community Land Advisory Service Cymru Community Management Award then follow the link.
Nation’s Favourites Gardens Vote One of the shortlisted gardens for the region “Wales and the Borders” is one of our Ceredigion gardens, Bwlch y Geuffordd.
Join more than 80 charities and celebrities like Steve Backshall and Chris Packham in demanding a vote for nature at the next election. Political parties are being asked to adopt five landmark policies for nature’s recovery ahead of the 2024 General Election.
Wales Nature Week Evaluation Please take part in this short survey to evaluate the campaign and how it can be improved in future years.
|
Swydd Wag
· Mae angen ymddiriedolwyr
| Job Vacancy
· Training and Accreditation Co- ordinator – Aberystwyth and home based. Closing date for applications Sunday 17th September · Freelance activity leaders and support workers. · Trustees wanted · Placements |
Adroddiad
Adroddiad Tirweddau Aml-bwrpas Mae’r adroddiad hwn gan y Gymdeithas Frenhinol yn cynghori ar ddefnyddio gwyddoniaeth i wneud tir yn y Deyrnas Gyfunol yn fwy cynhyrchiol. Mae’n gwneud argymhellion i greu tirweddau sy’n bodloni anghenion niferus cymdeithas yn effeithlon a chynaliadwy.
| Report
Multifunctional Landscapes Report This report by the Royal Society advises on the use of science to increase the productivity of land in the UK and makes recommendations to create landscapes which meet society’s many needs efficiently and sustainably. |
Gofalu am Natur a Chi’ch Hun
Grŵp Gerddi Cymunedol y GIG Os ydych chi’n teimlo’n unig neu bod gennych broblemau iechyd meddwl, ymunwch â’r grŵp naw wythnos hwn gan y GIG i gael help a gwneud ffrindiau. Mae poster gwybodaeth wedi ei gysylltu.
Gweithdai Darganfod Natur Chwe gweithdy awyr agored yn archwilio ecoleg a datblygu eich perthynas â natur a chi’ch hun. Ar ddydd Sul 10am-1pm yn dechrau 17 Medi tan 22 Hydref. £30 am y chwe sesiwn. Cysylltwch â Yusef Samari gydag ymholiadau ac i drefnu. yjsamari@hotmail.com neu 07539 318893. Poster gwybodaeth wedi ei gysylltu.
| Look after Nature and Yourself.
NHS Community Garden Group If you are experiencing loneliness or mental health issues then join this NHS funded, nine-week group to help and make friends. Information poster attached.
Finding Nature Workshops Six outdoor workshops exploring ecology and developing your relationship with nature and yourself. On Sundays 10am–1pm. starting 17th September - 22nd October. £30 for all six sessions. Contact Yusef Samari for booking and queries yjsamari@hotmail.com or 07539 318893. Information poster attached. |
Dyddiadau i’ch Dyddiadur
Medi Organig – Dydd Gwener 1 – dydd Sadwrn 30 Medi
Medi Ail Law - 1af – dydd Sadwrn 30 Medi
Diwrnod Dolffiniaid y Byd – dydd Mawrth 12 Medi
Glanhau Holl Draethau Prydain – dydd Gwener 15 – dydd Sul 24 Medi
Diwrnod Rhyngwladol Diogelu’r Haen Osôn – dydd Sadwrn 16 Medi
Diwrnod Glanhau Byd-eang – dydd Sadwrn 16 Medi
Diwrnod i’r Byd Fod Heb Gar – dydd Sadwrn 22 Medi
Tymor Casglu Hadau – dydd Sadwrn 23 Medi – dydd Llun 23 Hydref
Diwrnod Afonydd y Byd - dydd Sadwrn 24 Medi
Diwrnod Ffyngau y Byd – dydd Sul 1 Hydref | Dates for your Dairy
Organic September – Friday 1st - Saturday 30th September
Second Hand September - 1st - Saturday 30th September
World Dolphin Day - Tuesday 12th September
Great British Beach Clean - Friday 15th - Sunday 24th September.
International Day for the Preservation of the Ozone Layer - Saturday 16th September
World Clean Up Day - Saturday 16th September
World Car Free Day - Friday 22nd September
Seed Gathering Season - Saturday 23rd September – Monday 23rd October
World River’s Day - Sunday 24th September
Wales Fungus Day - Sunday 1st October
|
Os hoffech ychwanegu’ch enw neu ei dynnu oddi ar y rhestr bostio ar gyfer Newyddion Natur Ceredigion, anfonwch neges e-bost i | If you would like to be added to, or removed from, the mailing list for Ceredigion Nature News, please email biodiversity@ceredigion.gov.uk |
|
|