Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
March 8, 2024

Newyddion Natur Ceredigion News 03/08/2024

  

Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsletter

Helo a chroeso i’r rhifyn hwn o Newyddion Natur Ceredigion, y lle ichi gael y newyddion i gyd am fywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’r amgylchedd yn y sir.

  • Pryfed

  • Mamaliaid

  • Gwenoliaid Duon

  • Coed

  • Gweithgareddau

  • Merched a Natur

  • Webinarau

  • Garddio

  • Bwyd a Ffermio

  • Arianau

  • Cyrsiau

  • Help

  • Cyfleoedd am Swyddi

  • Plastig a Sbwriel

  • Dweud eich Barn

  • Natur Cymru

  • Newyddion

Hello and welcome to this edition of Newyddion Natur Ceredigion, your one-stop-shop for news of wildlife, biodiversity and the environment around the county.

  • Insects

  • Mammals

  • Swifts

  • Trees

  • Activities

  • Women and Nature

  • Webinars

  • Gardening

  • Food and Farming

  • Funding

  • Courses

  • Help Wanted

  • Job Opportunities

  • Plastic and Litter

  • Share Your Views

  • Welsh Nature

  • News

PRYFED

 

Garddio ar gyfer chwilod – Webinar

Ymunwch â’r webinar hwn am ddim i ddysgu am chwilod, a’u rhan allweddol wrth gadw ein planed yn iach i bawb ddydd Mercher 13 Mawrth 5-6pm.

 

Monitro Acwsteg Pryfed

Sgwrs ar-lein am ffyrdd y gallwn helpu ymchwilio i effaith llygredd sŵn ar bryfed ddydd Llun 18 Mawrth 1-2pm.

 

Cymru – Mapio pryfed

Sut bydd Cymru yn dod y wlad gyntaf i fapio ardaloedd pwysig ar gyfer pryfed.

 

Codi Arian ar gyfer Gwenyn

Yn y Bank Vault, Aberystwyth nos Wener 22 Mawrth 7.30pm. O leiaf £5 y tocyn (talwch fel y mynnwch) yn dechrau gyda sgwrs gan yr ecolegydd Naomi Davis.

 

Webinar ‘Plight of the Bumblebee’

Hanes Cacwn Byrwallt, eu diflaniad ym Mhrydain a’r rhaglen hir-dymor i’w hailgyflwyno ddydd Llun 25 Mawrth 1-2pm.

 

Cacwn sy’n Brysur yn y Gaeaf

Dysgu am y gwenyn hyn a sut i’w cofnodi.

 

Cardwenyn Meinlais yng Nghymru – Webinar

Dysgu sut i adnabod y rhai meinlais, ble i ddod o hyd iddynt a chael cyflwyniad i  Natur Am Byth: Prosiect Cardwenyn Meinlais. Nos Iau 4 Ebrill 6-7.30pm.

 

INSECTS

Gardening for Bugs – Webinar

Join this free webinar to learn about bugs, and how they play a key part in making our planet healthy for all on Wednesday 13th March 5-6pm.

 

Acoustic Monitoring for Insects

Online talk about how you can help investigate the impact of noise pollution on insects on Monday 18th March 1-2pm.

 

Wales – Mapping Insects

How Wales becomes first country to map important areas for insects.

 

Bee Friendly Fundraiser

At the Bank Vault Aberystwyth on Friday 22nd March 7.30pm. £5 min per ticket (pay what you feel) beginning with a talk from ecologist Naomi Davis.

 

The Plight of the Bumblebee Webinar

The story of the Short-haired Bumblebee, its extinction in Britain and the long-term reintroduction programme on Monday 25th March 1-2pm.

 

Winter Active Bumblebees

Learn about these bees and how to record them.

 

Shrill Carder Bee in Wales – Webinar

Learn how to identify the shrill, where to find it and get an introduction to the Natur Am Byth: Shrill Carder Project. Thursday 4th April 6-7.30pm.

 

MAMALIAID

 

Canlyniadau Arolwg Sylwi ar yr Afanc

Comisiynwyd yr adroddiad hwn i gael trosolwg o agweddau at ailgyflwyno’r afanc yng Nghymru.

 

Bod yn Arwr i’r Draenog

Darllenwch y canllaw hwn i weld sut i helpu draenog, neu helpu rhedeg llinell gymorth draenogod.

 

Beleod ar Daith

Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am y bele a gwella cynefinoedd iddo ehangu i ardaloedd newydd.

 

Arolwg Cenedlaethol o’r Ffwlbart

Os ydych wedi gweld ffwlbart neu anifail sy’n debyg i ffwlbart, yn fyw neu’n farw, rhowch wybod am hynny, os gwelwch yn dda. Gofynnir hefyd ichi gael samplau o flew a barf oddi ar sgwrbwd ffwlbart. Cysylltwch ag enquiries@vwt.org.uk am ragor o wybodaeth.

 

MAMMALS

 

Beaver Perception Survey Results

This report was commissioned to capture an overview of attitudes to beaver reintroduction in Wales.

 

Become a Hedgehog Hero

Read this guide for how to give a helping hand to a hedgehog, or assist running a hedgehog helpline.

 

Martens on the Move

This project seeks to increase knowledge and understanding of pine martens and to improve habitats for pine martens expanding into new areas.

 

National Polecat Survey

If you have seen a polecat or polecat-type animal, dead or alive, please report your sighting. You are also asked to collect hair and whisker samples from polecat carcasses. Please contact enquiries@vwt.org.uk for further information.

 

GWENOLIAID DUON

 

Arolwg o’r Wennol Ddu Gyffredin

Bydd y sesiwn arolygu hon nos Fawrth 19 Mawrth 7-9pm yn dangos ichi sut i weld nythod Gwenoliaid Duon yn eich tref neu’ch pentref a sut y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hanfodol bwysig sydd gennych i ddiogelu gwenoliaid duon ar gyfer y dyfodol. 

 

Dathlu’r Wennol Ddu

Dathlwch ddychweliad un o’n hymwelwyr haf mwyaf deinamig, y Wennol Ddu, i’r wlad hon ddydd Sadwrn 6 Ebrill 12-3pm ym Machynlleth.

 

SWIFTS

 

Common Swift Surveying

This online surveying session on Tuesday 19th March 7-9pm will show you how to spot active Swift nesting sites in your town or village and how you can use the vital information you have gathered to protect swifts for the future. 

 

Swift Celebration

Celebrate the imminent return to our shores of one of our most dynamic summer bird visitors the 'Common Swift' or 'Gwennol Ddu' on Saturday 6th April 12-3pm in Machynlleth.

 

COED

 

Cwrs Impio Coed Afalau

Mae Tir Coed yn cynnig y cwrs deuddydd hwn am ddim yn Yr Ardd am impio coed afalau ddydd Llun 4 Mawrth a dydd Llun 11 Mawrth 10am-4pm. Gweler y poster sydd ynghlwm.

 

Gweithdy impio coed afalau 

Gweithdy ichi ddysgu’r sgiliau i impio math o goeden afalau ar wreiddgyff ddydd Sadwrn 16 Mawrth 10.30am-1pm yn y lleoedd newydd ym Mhlas-crug yn Aberystwyth. Ffi gweithdy £10, i gynnwys mynd â’ch coeden afalau newydd ei himpio adref gyda chi. E-bost contact@bwyddyfihub.co.uk

 

Cyrsiau i Wardeiniaid / Meithrinfeydd Coed

Mae’r cyrsiau’n anelu at unrhyw un sy’n rhan o Feithrinfa Goed Gymunedol, neu bobl sy’n tyfu coed o had ond heb fod yn rhan o Feithrinfa Goed Gymunedol ffurfiol.

 

Diwrnod Rhwydweithio

Dysgu sut i grynhoi, prosesu, lluosogi a storio’ch hadau yn y Diwrnod Rhwydweithio Coed Cymunedol ddydd Mercher 20 Mawrrh 10.30-4pm yn y Ganolfan Technoleg Amgen.

 

Te a Sgwrs – Ar-lein

Ymunwch â’r Grŵp Perchnogion Coedlannau Bach ddydd Mercher 20 Mawrth 11-11.45am am sgwrs fyw am bopeth yn ymwneud â choedlannau. I gofrestru anfonwch e-bost i sarah@swog.org.uk

 

Adroddiad am Goetiroedd Bach

Dysgu am y buddiannau all ddeillio i gymunedau trefol drwy Goetiroedd Bach rhwng y tymor tyfu cyntaf a’r trydydd.

 

TREES

 

Grafting Apple Tree Course

Tir Coed are offering this free two-day course at Yr Ardd on grafting apple trees on Monday 4th March and Monday 11th March 10am-4pm. See attached poster.

 

Apple tree grafting Workshop

A workshop to give you the skills to graft an apple variety onto a rootstock on Saturday 16th March 10.30am-1pm at the newly created Plascrug growing spaces, Aberystwyth. Workshop fee £10, to include taking home your own newly grafted apple tree. Email contact@bwyddyfihub.co.uk

 

Tree Nursery/ Warden Courses

Courses are aimed at anyone who is part of a Community Tree Nursery, or those Tree Wardens who grow trees from seed but are not part of a formal CTN.

 

Networking Day

Learn how to gather, process, propagate and store your seeds at the CommuniTree Networking Day on Wednesday 20th March 10.30am-4pm at the Centre for Alternative Technology.

 

Tea and Talk – Online

Join the Small Woodlands Owners Group on Wednesday 20th March 11-11.45am for a virtual chat about all things woodland. To register email sarah@swog.org.uk

 

Tiny Forest Report

Learn about the benefits that a Tiny Forest can bring to urban communities between the first and third growing season.

 

GWEITHGAREDDAU

 

Sgwrs ddarluniadol – Rachel Auckland

Mae Tir Glas, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ar y cyd â Phartneriaeth Natur Leol Ceredigion yn cyflwyno:

Ein Sir – Ein Natur – Ein Dyfodol:Beth mae’r argyfwng natur yn ei olygu i ni a sut allwn ni helpu i adfer natur?

Sgwrs ddarluniadol gan Rachel Auckland ac yna trafodaeth a rhwydweithio.

5.30 – 7yh ar Nos Fercher 20fed Mawrth 2024, Neuadd y Celfyddydau, campws Llambed

Mynediad am ddim. Croeso cynnes i bawb. Stondinau am ddim ar gael i aelodau a chefnogwyr Partneriaeth Natur Leol. Cysylltwch â Hazel Thomas am fwy o fanylion hazel.thomas@uwtsd.ac.uk Poster wedi ei gysylltu.

 

Bywyd Gwyllt ym Mae Ceredigion

Sgwrs gyda darluniau am flwyddyn o weld pethau cyffrous gan Josh Pedley yn y Stiwdio, Theatr Mwldan, Aberteifi nos Fercher 13 Mawrth 7.15pm. Drysau ar agor.  £3. Poster wedi ei gysylltu.

 

Grŵp Gwylio Bywyd Gwyllt  

Ydych chi’n adnabod rhywun 7-12 oed sy’n hoff o natur? Ddydd Sadwrn 16 Mawrth 11am-12.30pm yng Nghilgerran, bydd gweithgareddau natur yn y warchodfa natur. Rhaid ichi gofrestru ymlaen llaw. Cysylltwch â Gretchen ar 01239 621600 neu g.taylor@welshwildlife.org

 

Cloddio am Fwynau a’r Effaith Amgylcheddol

Dechrau cloddio a thoddi mwynau yn gynnar yn yr hen fyd ac effaith barhaus hynny ar yr amgylchedd. Nos Lun 18 Mawrth 7.30-9pm yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

 

Llwybr Arfordir Cymru Ar-lein

Dewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a thrwy chwe ardal o ddysgu a phrofi. Dydd Mawrth 19 Mawrth 4:15-5:45pm.

 

Gweithdy Celf

Creu celf gan ddefnyddio defnyddiau naturiol Coed Blaenigau ddydd Gwener 22 Mawrth 12 canol dydd-1.50pm. I deuluoedd o bob oed sy’n cael eu haddysgu gartref. Gweler y poster.

 

Seremoni Ostara

Croesawu’r Gwanwyn yn y seremoni Ostara hon o adnewyddu a geni ddydd Gwener 29 Mawrth 11am-3pm yn Llanbedr Pont Steffan. 

 

Codi Arian mewn Ras Berfa

Ymunwch â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth yn y ras hon nos Lun 18 Mawrth 5-7pm i gefnogi Gardd Gymunedol Pen-glais.

 

Hela Wyau Pasg

I helpu Ymdiriedolaeth Lles Ieir Prydain ddydd Gwener 29 Mawrth 11am-2.30pm: Hela wyau, arddangosfa gelf, taith o gwmpas y fferm, coffi, teisen, stondinau crefftau a chynnyrch gyda chawl a bara yn Fferm Gofal Clynfyw.

 

 

ACTIVITIES

 

Illustrated Talk – Rachel Auckland

Tir Glas UWTSD in association with Ceredigion Local Nature Partnership presents:

Our County – Our Nature – Our Future: What does the nature emergency mean to us and how can we help nature recovery?

An illustrated talk by Rachel Auckland followed by discussion and networking.

5.30pm – 7pm on Wednesday 20th March 2024, Arts Hall, UWTSD Lampeter Campus. Free entry. All welcome. Free stalls available to Local Nature Partnership members and supporters. Please contact Hazel Thomas for further details. hazel.thomas@uwtsd.ac.uk Poster attached.

 

Wildlife of Cardigan Bay

An illustrated talk on a year of exciting sightings by Josh Pedley at The Studios, Theatre Mwldan, Cardigan on Wednesday 13th March 7.15pm doors open. £3. Poster attached.

 

Wildlife Watch Group

Know someone aged 7-12 years that loves nature? On Saturday 16th March 11am-12.30pm at Cilgerran, there will be nature themed activities on the nature reserve.

You must register in advance. Contact Gretchen on 01239 621600 or g.taylor@welshwildlife.org

 

Metal Mining and Environmental Impact

The emergence of early metal mining and smelting in the ancient world and its ongoing environmental impact. Monday 18th March 7.30-9pm at Aberystwyth Arts Centre.

 

Wales Coast Path Online

Go on a virtual stroll along the Wales Coast Path and through six areas of learning and experience. Tuesday 19th March 4:15-5:45pm.

 

Art Workshop

Make art using the natural materials of Coed Blaenigau on Friday 22nd March 12noon-1.50pm. For families of all ages who are home educated. See poster.

 

Ostara Ceremony

Welcome Spring with this Ostara ceremony of renewal and birth on Friday 29th March 11am-3pm in Lampeter.

 

Wheelbarrow Race Fundraiser

Join Aberystwyth Conservation Volunteers for this race on Monday 18th March 5-7pm in support of Penglais Community Garden.

 

Easter Egg Hunt

In aid of the British Hen Welfare Trust Friday 29th March 11am-2.30pm: Egg hunt, art exhibition, farm tour, coffee, cake, craft and produce stands with soup and bread. At Clynfyw Care Farm.

 

MERCHED A NATUR

 

Grŵp Cerdded Meddwlgarwch Merched

Bydd y teithiau cerdded meddwlgarwch hwn am natur tua 3 i 4 milltir o hyd. Yn dechrau ddydd Sul 21 Ebrill 2.30-4.30pm. Man cyfarfod i gael ei gadarnhau. Cysylltwch â lucyforestbathing@gmail.com

 

Merched Cymru mewn Bywyd Gwyllt

Dathlu naturiaethwyr arloesol y gorffennol a’r merched sy’n sicr o ddod yn wyddonwyr y dyfodol.

 

WOMEN AND NATURE

 

Women’s Mindfulness Walking Group

These nature focused mindfulness walks will be roughly 3 to 4 miles in distance. Starting Sunday 21st April 2.30-4.30pm. Meeting place to be confirmed. Contact lucyforestbathing@gmail.com

 

Welsh Women in Wildlife

Celebrate pioneering naturalists of the past and the women who are set to be the scientists of the future.

 

WEBINARAU

 

Darganfod QGIS - Webinarau

Bydd y cwrs QCIS ar-lein hwn i ddechreuwyr  yn eich dysgu sut i ddefnyddio’r rhyngwyneb QGIS a dechrau adeiladu, dylunio a chyflwyno mapiau. Bydd y webinarau’n digwydd ar nos Wener 5.30 pm – 6:15pm ym mis Mawrth. £75.

 

Webinar Chwilio am Lŷg

Webinar cofnodi am ddim i gyflwyno’r prosiect Chwilio am Lŷg a sut y gall gwirfoddolwyr fod yn rhan.

 

Webinar ar Dywydd Poeth yn Ninasoedd Cymru

Mae Webinar Fforwm Seilwaith Gwyrdd Cymru nawr ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Bydd y ddolen uchod yn dod i ben ddydd Iau 14 Mawrth.

 

Cofnodi Biolegol 101 i Goedwigwyr

Mae’r webinar hwn yn esbonio sut gall coedwigwyr cefn gwlad droi’r bywyd gwyllt maen nhw ei weld yn ddata digwyddiadau rhywogaeth o safon uchel. Dydd Iau 14 Mawrth 12.30-2pm.

 

iRecord101 i Goedwigwyr y Dyfodol         

Webinar i gyflwyno’r system iRecord i gofnodi bywyd gwyllt ar-lein a sut i’w defnyddio i grynhoi data bioamrywiaeth safleoedd ddydd Iau 21 Mawrth 12.30-2pm.

 

WEBINARS

 

Discovering QGIS - Webinars

This beginner online QGIS course will teach you how to use the QGIS interface and begin to build, style, and present maps. The webinars will take place on Fridays 5.30 pm – 6:15pm in March. £75.

 

Searching for Shrews Webinar

Free webinar recording introducing the Searching for Shrews project and how volunteers can get involved.

 

Heatwaves in Welsh Cities Webinar

Wales Green Infrastructure Forum Webinar is now available to download for free. The link above will expire on Thursday 14th March.

 

Biological Recording 101 for Rangers

This webinar explains how countryside rangers can convert their wildlife observations into high-quality species occurrence data. Thursday 14th March 12.30-2pm.

 

iRecord101 for Future Rangers

Webinar introducing the iRecord online wildlife recording application and how to use it to collate site biodiversity data on Thursday 21st March 12.30-2pm.

 

GARDDIO

 

Prosiect Salad Mewn Blwch

Gwneud, plannu a chael blwch salad yng Ngardd Gymunedol Enfys. Dechrau ddydd Sul 17 Mawrth. Gweler y poster am fwy o ddyddiadau ac i drefnu.

 

Ffram Helyg i Gynnal Planhigion

Dysgu sut i wneud ffrâm helyg gynaliadwy hardd  ar gyfer eich pys, ffa neu ffa melys ddydd Mawrth 26 Mawrth 10am-1pm. £35.

 

GARDENING

 

Salad in a Box Project

Make, plant and take away a salad box at Gard Enfys Community Garden. Starting Sunday 17th March. See poster for more dates and booking.

 

Weave a Willow Plant Support

Learn how to make a beautiful sustainable plant support for your peas, beans or sweet peas on Tuesday 26th March 10am-1pm. £35.

 

BWYD A FFERMIO

 

Canlyniadau Ffermio er Mwyn Natur

Canlyniadau o waith ymchwil Rhwydwaith a Chynnal Ffermio er Mwyn Natur am farn pobl am y ffordd y dylai llywodraeth fod yn cefnogi ac yn ariannu ffermio.

 

Arolwg Darpariaeth Bwyd

Mae’r arolwg hwn gan wyddoniaeth y bobl yn ystyried agweddau’r cyhoedd at ddarpariaeth bwyd bywyd gwyllt yn y Deyrnas Gyfunol fel rhan o brosiect ymchwil gan raddedigion. Gweler yr hyn sydd wedi’i gysylltu.

 

Lansio Prosiect Cychwyn Ffermio

Bydd  y digwyddiad hwn i’r teulu cyfan ddydd Gwener 29 Mawrth 12.30pm ym Moncath. Bydd gweithgareddau, sgyrsiau ac arddangosiadau gan gyrff cymunedol lleol a gwybodaeth am y fenter Cychwyn Ffermio newydd a’r prosiectau cymunedol.

 

FOOD AND FARMING

 

Nature Friendly Farming Results

Results from the Nature Friendly Farming Network and Sustain research into people’s views on how the government should be supporting and funding farming.

 

Food Provisioning Survey

This citizen science survey considers public attitudes towards food provisioning of wildlife in the UK as part of a postgraduate research project. See attached.

 

Farm Start Project Launch

This event for the whole family is on Friday 29th March 12.30pm in Boncath. There will be activities, talks and demos from local community organisations as well as information on the new Farm Start initiative and the community projects.

 

ARIANNU

 

Hwb i Ddiwydiannau’r Môr, Pysgota a Dyframaethu

Mae £1 filiwn o arian gan Lywodraeth Cymru’n cael ei ddarparu i roi hwb i’r diwydiannau  hyn.

 

Grant Tyfu’n Wyllt

Ydych chi’n 14-25 oed? Gwnewch gais am grant Tyfu’n Wyllt o £500 i ddod â’ch prosiect natur yn fyw yr haf hwn. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 19 Mawrth.

 

Grantiau Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol

Mae grantiau o £10,000 i £10m ar gael.

 

Mae cyllid Coetiroedd Bach ar agor!  21 Chwefror – 8 Mai

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y rownd ariannu ddiweddaraf ar gyfer Coetiroedd Bach yng Nghymru bellach ar agor.

 

  • Bydd y cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £10,000 a £40,000 ar gyfer pob safle coedwig (hyd at £250,000 ar gyfer mwy nag un safle mewn un cais).

  • Mae'n addas ar gyfer sefydliadau, cymunedau ac unigolion sydd am greu coetiroedd bach newydd a fydd yn cael eu rheoli mewn cydweithrediad â'r gymuned leol.

  • Mae'r gwaith plannu, y gwaith paratoi tir a'r hyfforddiant yn cael eu hariannu ac, wedi hynny, mae angen i'r sefydliad/grŵp cymunedol gynnal a monitro eu Coetir Bach yn barhaus.

  • Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru.  

 

FUNDING

 

Marine, Fisheries and Aquaculture Boost

£1 million of Welsh Government funding is being made available to boost these industries in Wales.

 

Grow Wild Grant

Are you aged 14–25? Apply for a £500 Grow Wild grant to bring your nature project to life this summer. Closing date: Tuesday 19th March.

 

National Lottery Heritage Grants

Grants from £10,000 up to £10m are available.

 

Coetiroedd Bach, Tiny Forest funding is open!  21st Feb – 8th May

We are pleased to announce the latest funding round for Coetiroedd Bach, Tiny Forests in Wales is now open.

 

  • The scheme will be offering grants of between £10k and £40K for each forest site (up to £250k for multiple sites).

  • It is suitable for organisations, communities and individuals who want to create new small woodlands managed in collaboration with the local community.

  • The planting, ground works and training are funded then an organisation/community group need to maintain and monitor their Coetir Bach on an on-going basis.

  • The scheme will be administered on Welsh Government’s behalf by the National Lottery Heritage Fund. 

 

 

CYRSIAU

 

Bod yn Arweinydd Cadwraeth  

Cwrs ar-lein am ddim am chwe wythnos ar gyfer pobl 18-25 oed.

 

Cwrs Cyflwyno Gwaith Saer Coed

Bydd y cwrs deuddeg wythnos yn dechrau ddydd Mawrth 14 Mai yn Nhir Coed, Llanfarian. Gweler y poster.

 

Darganfod Ecoleg y Môr – Ar-lein

Mae’r cwrs pedair wythnos hwn ar lefel dechreuwyr wedi ei lunio’n ofalus i roi ichi wybodaeth gefndir am ecoleg y môr. Dechrau dydd Mercher 27 Mawrth 1-1.45pm.

 

COURSES

 

Becoming A Conservation Leader

Free six-week online course aimed at those age 18-35.

 

Introductory Carpentry Course

Twelve-week course starts on Tuesday 14th May at Tir Coed, Llanfarian. See poster.

 

Discovering Marine Ecology – Online

This four-week, beginner-level course has been carefully designed to provide you with a grounding knowledge in marine ecology. £60. Starting Wednesday 27th March 1-1.45pm.

 

HELP

 

Mae Angen Help - Laudato Si

Mae Laudato Si yn tyfu bwyd organig sy’n cael ei roi i bobl mewn angen. Gweler y rhestr sydd wedi’i chysylltu am ffyrdd ichi helpu.

 

Aelodau Panel Ieuenctid

Mae Gwarchod Ieir Bach yr Haf yn chwilio am ddeg o bobl ifanc ysbrydoledig sy’n teimlo’n frwd  dros warchod ieir bach yr haf a gwyfynod. Dyddiad cau: Dydd Mercher 13 Mawrth.

 

Gardd Gymunedol - Help

Os hoffech gael sgwrs am gymryd rhan yn Yr Ardd, Llandysul, cysylltwch ag Elizabeth ar 07579 849805 neu e-bostiwch elizabeth@yrardd.org.

 

HELP WANTED

 

Help Wanted - Laudato Si

Laudato Si grows organic food which is donated to those in need. Please see the attached list for ways you can help.

 

Youth Panel Members

Butterfly Conservation are looking for ten inspiring young people who are passionate about the conservation of butterflies and moths. Closing date Wednesday 13th March.

 

Community Garden - Help

If you’d like to have a chat about getting involved in Yr Ardd, Llandysul, please contact Elizabeth on 07579 849805 or email elizabeth@yrardd.org.

 

CYFLEOEDD AM SWYDDI

 

Cynorthwyydd Gwerthu ar y Lan

Mae Teithiau Cychod Arolwg Dolphin yn chwilio am gynorthwywyr gwerthu ac arweinwyr/criwiau cychod yng Ngheinewydd. I wneud cais gweler y poster.

 

Gweithwyr Amgylcheddol

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddwy swydd ar gyfer pobl sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored ac eisiau cadw Ceredigion yn lân. Dyddiad cau: Dydd Gwener 15 Mawrth.

 

Gweithiwr Cynnal a Chadw’r Tiroedd

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – Campysau Llambed ac Abertawe. I wneud cais gweler y poster.

 

Pennaeth Cyflawni

Mae RSPB yn chwilio am Bennaeth Cyflawni profiadol ac ysbrydoledig iawn i ymuno â’r tîm Masnachol.  Dyddiad cau: Dydd Sul 10 Mawrth.

 

Uwch Swyddog Addysg

Mae Beaver Trust yn chwilio am rywun i ddatblygu ymhellach a gweithredu rhaglen addysgol allestyn sy’n cyrraedd plant yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Dyddiad cau: Dydd Mercher 13 Mawrth.  

 

Swyddog Amaethyddiaeth a Chadwraeth

Mae’r swydd hon ar gyfer Swyddog Amaethyddiaeth a Chadwraeth yn gweithio o fewn tîm GWCT Cymru am gyfnod penodol o 12 mis. Dyddiad cau: Dydd Llun 18 Mawrth.

 

Rheolwr Codi Arian

Mae Cambrian Wildwood yn chwilio am rywun i weithio o bell. O fewn pellter  rhesymol i allu teithio i safle’r prosiect ger Machynlleth o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Swyddfa ar gael yn Aberystwyth os bydd angen. Dyddiad cau: Dydd Llun 1 Ebrill.

 

JOB OPPORTUNITIES

 

Shoreside Sales Assistant

Dolphin Survey Boat Trips are looking for sales assistants and boat guides/crew in New Quay. To apply see poster.

 

Environmental Operatives

Ceredigion County Council have two positions available for people who enjoy working outdoors, and want to help keep Ceredigion clean. Closing date: Friday 15th March.

 

Grounds Operative

University of Wales Trinity Saint David – Lampeter and Swansea Campuses. To apply see poster.

 

Head of Fulfilment

RSPB are looking for a highly motivated and experienced Head of Fulfilment to join the Commercial team. Closing date: Sunday 10th March.

 

Senior Education Officer

Beaver Trust are looking for someone to further develop and implement an educational outreach programme which reaches children in Wales, Scotland and England. Closing date: Wednesday 13th March.

 

Agricultural and Conservation Officer

This post is for an Agriculture and Conservation Officer working within the GWCT Wales team for a fixed period of 12 months. Closing date: Monday 18th March.

 

Fundraising Manager

Cambrian Wildwood are looking for a person for remote working, within reasonable distance to enable travel to project site near Machynlleth, at least four times per year. Office available in Aberystwyth if required. Closing date: Monday 1st April.

 

PLASTIG A SBWRIEL

 

Y Cyfrif Plastig Mawr

Rhwng dydd Llun 11 a dydd Sul 17 Mawrth, bydd miloedd o ysgolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a busnesau’n dod ynghyd i gyfrif eu gwastraff plastig.

 

Glanhau Gwanwyn yn y Ceinewydd

Mae croeso i bawb ddod i’r Glanhau Gwanwyn a drefnir gan Gyngor Tref y Ceinewydd ddydd Sul 17 Mawrth 9am-2pm.

 

Glanhau Gwanwyn yng Nghymru

Beth am fod yn #Arwr Sbwriel ac addo codi cymaint o sbwriel ag y gallwch rhwng dydd Gwener 15 a dydd Sul 31 Mawrth.

 

Ymgyrch Fawri Lanhau Ysgolion

Y llynedd cymerodd dros 5,000 o ddisgyblion ran yn yr #YmgyrchFawriLanhauYsgolion!

Allwn ni gydweithio i guro hyn yn 2024? Rydym ni’n credu hynny! Cofrestrwch am ddim ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus nawr > https://bit.ly/3KARCF5

Mae’r amgylchedd yn eiddo i bawb a nid oes unrhyw un yn rhy fach i wneud gwahaniaeth mawr! #GwanwynGlânCymru

 

PLASTIC AND LITTER

 

The Big Plastic Count

Between Monday 11th – Sunday 17th March, thousands of schools, households, community groups and businesses will be coming together to count their plastic waste.

 

Spring Clean New Quay

All are welcome to attend the Spring Clean arranged by New Quay Town Council on Sunday 17th March 9am-2pm.

 

Spring Clean Cymru

Become a #LitterHero and pledge to pick up as much litter as you can between Friday 15th – Sunday 31st March.

 

Big School Clean.

Last year over 5,000 pupils took part in the #GreatBigSchoolClean!

Can we work together to beat this in 2024? We think so! Register on the Keep Wales Tidy website now > https://bit.ly/3ItcNXb

The environment belongs to everyone and no one is too small to make a big difference! #SpringCleanCymru

 

DWEUD EICH BARN

Seminar THINK: Dylunio arolwg trafnidiaeth ar gyfer grwpiau cymunedol a llawr gwlad

Dydd Mercher,20 Mawrth, 2024

13:30 – 15:00 GMT, ar-lein

https://THINKTransportSurveyDesignSeminar.eventbrite.co.uk

Cyngor arbenigol ar ddylunio a dadansoddi arolygon a chyfweliadau ar gyfer pobl nad ydynt yn academyddion sydd â diddordeb mewn arolygu eu cymuned am drafnidiaeth.

Yn y seminar hwn a ariennir yn llawn, bydd ymchwilwyr o dîm cyflwyno THINK yn darparu eu hawgrymiadau arbenigol ar sut i ysgrifennu arolygon a chyfweliadau trafnidiaeth, eu profi a dadansoddi'r canlyniadau, gyda sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Mae hyn wedi'i anelu'n benodol at lawr gwlad, grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector a'r rhai mewn cynghorau plwyf a thref. Nid oes angen i chi fod yn academydd nac yn meddu ar sgiliau penodol i fanteisio i’r eithaf ar y seminar hwn.

Mae'r seminar hwn wedi'i lywio gan y gwaith y mae tîm cyflwyno THINK wedi bod yn ei wneud i gefnogi ymchwil Gwobr Prosiectau Bach am Faterion Trafnidiaeth mewn Cymunedau .

 

Ymgynghori gan Lywodraeth Cymru

Mae angen eich barn am y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cryfhau llywodraethiant amgylcheddol a mynd i’r afael ymhellach â’r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yng Nghymru. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 30 Ebrill.

 

Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Arolwg Teithio Cenedlaethol i Gymru.

Bydd yr arolwg yn casglu data ar agweddau ac ymddygiad teithio pobl sy’n byw yng Nghymru. Bydd yn cynnwys holiadur arolwg a dyddiadur teithio. Bydd yr Arolwg Teithio Cenedlaethol yn gynrychioliadol ac yn hygyrch i bobl Cymru ac yn cael ei ddarparu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd y data a gesglir yn golygu bod modd mesur y cynnydd at dargedau Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Cymru Sero Net. Bydd yn cyfrannu at benderfyniadau ac yn gwella’r sylfaen dystiolaeth trafnidiaeth yng Nghymru, er mwyn i ni allu deall anghenion ein defnyddwyr yn well.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi comisiynu’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i helpu i ddylunio ac i ddatblygu’r arolwg. Dechreuodd y profion yn Hydref 2023, a bwriedir dechrau casglu data’n llawn ddiwedd 2024.Bydd tîm prosiect yr Arolwg Teithio Cenedlaethol yn cynnal sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid ar-lein drwy Microsoft Teams ym mis Mawrth 2024 i roi gwybodaeth am ddatblygiad yr arolwg, y data a fydd yn cael ei gasglu a’i gyhoeddi ac amserlen y prosiect. Cynulleidfa Darged

Bydd y sesiynau hyn ar gyfer rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn natblygiad yr arolwg a’r data a fydd yn cael ei gasglu a’i gyhoeddi yn y pen draw. 

Cofrestru

I gofrestru i fynd i un o’r sesiynau hyn, cliciwch yma a llenwi’r ffurflen gofrestru fer.

Mae croeso i chi rannu’r gwahoddiad hwn ag unrhyw unigolion neu sefydliadau eraill a allai fod eisiau bod yn bresennol.

 

Holiadur Cyffredinol Ymwelwyr

Mae Canolfan Bywyd Gwyllt a Gwarchodfa Corsydd Teifi wedi cael grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i lunio gwelliannau ar gyfer y Ganolfan Ymwelwyr. Byddwch cystal â llenwi’r holiadur i rannu eich profiad fel ymwelydd, a bydd cyfle ichi ennill taleb siopa neu bryd o fwyd gwerth £50 yn y caffe.

 

SHARE YOUR VIEWS

THINK Seminar: Transport survey design for communities & grass roots groups

Wednesday, 20th March, 2024

13:30 – 15:00 GMT, online

https://THINKTransportSurveyDesignSeminar.eventbrite.co.uk

 Expert advice on survey and interview design and analysis for non-academics interested in surveying their community about transport

In this fully funded seminar, researchers from the THINK delivery team will provide their expert tips on how to write transport surveys and interviews, test them and analyse the results, with Q&A at the end.

This is specifically aimed at grass roots, community groups and third sector organisations and those in parish and town councils. You do not need to be an academic or have specific skills to get the most from this seminar.This seminar has been informed by the work that the THINK delivery team has been doing to support the Transport Issues in Communities and Rural Communities small project award research.

 

Welsh Government Consultation

Your views are wanted on how the Welsh Government intend to strengthen environmental governance and further address climate change and biodiversity loss in Wales. Closing date: Tuesday 30th April.

 

Wales National Travel Survey: Stakeholder Engagement

Transport for Wales is working with Welsh Government to develop a National Travel Survey for Wales.

The survey will collect data on travel attitudes and behaviour from people living in Wales. It will comprise a survey questionnaire and a travel diary. The National Travel Survey will be representative of and accessible to the people of Wales and be delivered bilingually in Welsh and English.

The data collected will allow progress towards targets set out in Llwybr Newydd: The Wales Transport Strategy and Net Zero Wales to be tracked. It will inform decision making and improve the transport evidence base in Wales, enabling us to have a better understanding of our users’ needs.

Transport for Wales has engaged the National Centre for Social Research (NatCen) to provide support with survey design and development. Testing started in Autumn 2023, with full data collection planned to commence in late 2024.

The National Travel Survey project team will be holding online stakeholder engagement sessions via Microsoft Teams during March 2024 where information will be provided on the survey development, data that will be collected and published and the project timetable.

Target Audience

These sessions will be aimed at stakeholders who have an interest in the development of the survey and the data that will be collected and ultimately published. 

Registration

To register to attend one of these sessions please click here and complete the short registration form.

Please feel free to share this invite with any other individuals or organisations who you think may be interested in attending.

 

General Visitor Questionnaire

Welsh Wildlife Centre and Teifi Marshes Reserve has been awarded a National Lottery Heritage Fund grant to design improvements for the Visitor Centre. Please complete the questionnaire to share your visitor experience and to be in with a chance of winning a £50 shopping voucher or meal in the café.

 

NATUR Cymru

 

Cyfrinachau Cen y Tân

Dysgu sut mae Natur am Byth, prosiect gwyrdd blaengar Cymru i adfer natur, yn helpu datrys ecoleg ryfeddol cen syn diflannu. 

 

Bio-fflwroleuedd Cymru

Erthygl am fyd anweledig y fforest law Geltaidd mewn golau uwchfioled.

 

Fforestydd Glaw Cymru a Llên Gwerin

Sut mae fforestydd glaw hynafol Cymru wedi ysbrydoli chwedlau gwerin.

 

Cennin Gwyllt

Dysgwch am y Cennin Gwyllt a’u lle yn niwylliant Cymru.

 

WELSH NATURE

 

Secrets of the Fire Lichen

Learn how Wales’ flagship green recovery project Natur am Byth! is helping to unravel the mysterious ecology of a vanishing lichen.

 

Biofluorescence in Wales

Article on the unseen world of the Celtic rainforest revealed by ultraviolet light.

 

Welsh Rainforests and Folklore

How Wales' ancient rainforests inspired folklore.

 

Wild Leek

Learn about the Wild Leek and it’s place in Welsh culture.

 

NEWYDDION

 

Newyddion Biosffer Dyfi

Mae Llanbadarn Fawr a’r Faenor yng Ngheredigion, Bryncrug a Thywyn yng Ngwynedd, a Charno ym Mhowys wedi ymuno ym Miosffer Dyfi UNESCO.

 

Newyddion Esgair Arth

Mae cynlluniau amgylcheddol cyffrous ar gyfer Esgair Arth eleni, gan gynnwys plannu miloedd o goed llydanddail brodorol gan Oxygen Conservation.  Gweler yr hyn sydd wedi’i gysylltu.

 

Perchnogaeth Glannau Afonydd: Cynnal Cyrsiau Dŵr

Datganiad Ysgrifenedig gan Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

Ymgyrch Dychmygu Gweithredu

Mae Hinsawdd Cymru yn dechrau’r ymgyrch hon drwy lansio’r Hyb Cyfathrebu, cyfle i gyfathrebwyr ledled Cymru gysylltu. Os hoffech ychwanegu’ch enw, cysylltwch â communications@climate.cymru 

 

NEWS

 

Dyfi Biosphere News

Llanbadarn Fawr and Faenor in Ceredigion, Bryncrug and Tywyn in Gwynedd, and Carno in Powys have joined the UNESCO Dyfi Biosphere.

 

Esgair Arth News

Exciting environmental plans for Esgair Arth this year, including the planting of thousands of native broadleaf trees by Oxygen Conservation. See attached.

Riparian Ownership: Maintaining Watercourses

Written statement from Julie James, Minister for Climate Change.

 

Imagine Action Campaign

Climate Cymru are starting this campaign with the launch of the Communications Hub, a chance for communicators across Wales to connect. If you would like to be added, contact communications@climate.cymru 

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.