Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
January 10, 2025

Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsletter

 

 

10/01/25

 

Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature News

Helo a chroeso i’r rhifyn hwn o Newyddion Natur Ceredigion, y lle ichi gael y newyddion i gyd am fywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’r amgylchedd yn y sir.

 

  • CYFARFOD PARTNERIAETH NATUR LEOL CEREDIGION
  • Prosiect Coedwig Genedlaethol Graddfa Tirwedd
  • CYFRYNGAU
  • ADNODDAU
  • ARIANNU
  • GWEITHGAREDDAU
  • WEBINARAU
  • FFOTOGRAFFIAETH BYWYD GWYLLT
  • CYRSIAU
  • GWOBRAU
  • CYSTADLAETHAU
  • FFERM DENMARK
  • AROLYGON
  • SWYDDI A GWIRFODDOLI

 

Hello and welcome to this edition of Newyddion Natur Ceredigion, your one-stop-shop for news of wildlife, biodiversity and the environment around the county.

 

  • CEREDIGION LOCAL NATURE PARTNERSHIP MEETING
  • Landscape-scale National Forest Project
  • MEDIA
  • RESOURCES
  • FUNDING
  • ACTIVITIES
  • WEBINARS
  • WILDLIFE PHOTOGRAPHY
  • COURSES
  • AWARDS
  • COMPETITIONS
  • DENMARK FARM
  • SURVEYS
  • JOBS AND VOLUNTEERING

 

 

 

CYFARFOD PARTNERIAETH NATUR LEOL CEREDIGION

Cynhelir cyfarfod nesaf Partneriaeth Natur Leol Ceredigion Ddydd Gwener 17 Ionawr 10-5pm.

Bydd hwn yn gyfarfod ar-lein gan ddefnyddio Teams a bydd cyfieithydd ar gael. Gweler wedi ei atodi agenda.

 

 

CEREDIGION LOCAL NATURE PARTNERSHIP MEETING

The next meeting of the Ceredigion Local Nature Partnership will take place on Friday 17th January 10-5pm.

This will be an online meeting using Teams and there will be an interpreter available. Please find attached the agenda.

 

Prosiect Coedwig Genedlaethol Graddfa Tirwedd

Wrth baratoi ar gyfer unrhyw grantiau a all fod ar gael flwyddyn nesaf, byddai’n dda clywed am brosiectau mae aelodau/partneriaid Partneriaeth Natur Leol Ceredigion yn gweithio arnynt ac a allai fod yn rhan o brosiect Coedwig Genedlaethol ar raddfa tirwedd. Mae’n ymddangos mai natur yr ariannu ar hyn o bryd yw mai ychydig iawn o amser sydd rhwng lansio cronfa a gorfod cyflwyno cais. Dydyn ni ddim yn sicr eto pa grantiau fydd ar gael, ond hoffem gael syniad am beth mae pobl yn gweithio arnynt a sut y gallwn eich helpu i gyrraedd eich amcanion adfer natur drwy weithio gyda’n gilydd. Mae’n ymddangos y bydd canolbwyntio ar goedwigoedd yn 2025, felly os ydych yn gweithio ar greu, adfer neu reoli coetiroedd, ymgysylltu â chymunedau, ymchwilio i goedlannau a’u hadnewyddu, neu gysylltu am gynefinoedd coedlannau, yna byddem yn hoffi clywed gennych. biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

Landscape-scale National Forest Project

In preparation for any grants that may become available next year, it would be great to hear about projects that Ceredigion Local Nature Partnership members/partners are working on that could form part of a landscape-scale National Forest project.  The nature of funding at the moment seems to be that we have very little time between the launching of a fund and having to submit an application.  We aren’t sure what grants will be available in the next financial year yet but would like to have an idea of what people are working on and how we can help you achieve your nature recovery objectives by working together.  It seems likely that there will be a focus on forests in 2025 so if you are working on creating, restoring or managing woodlands, engaging communities, woodland research and innovation or on connecting woodland habitats then we would love to hear from you. biodiversity@ceredigion.gov.uk  

 

CYFRYNGAU

Podlediad Dangos a Dweud

Darganfod sut mae athrawon yn trawsnewid addysg drwy’r gyfres hon o bodlediadau.

 

Fideo 70fed Pen-blwydd y Gymdeithas Mamaliaid          

Gwylio dros 70 mlynedd o waith cadwraeth mamaliaid yn y DG, gan gynnwys yr uchelfannau a’r iselfannau, a swyddogaeth y Gymdeithas Mamaliaid yn y cyfan.

 

MEDIA

 

Show and Tell Podcast

Discover how teachers are transforming education through this podcast series.

 

Mammal Society 70th Year Anniversary Video

Watch 70 years in mammal conservation in the UK, including the lows, the highs, and the Mammal Society’s role throughout it all.

 

ADNODDAU

 

Adfer o Ddifodiant

Dilyn y ddolen am restr o anifeiliaid sy’n cael eu hadfer o fod bron wedi diflannu. Diolch i ymdrechion grwpiau cadwraeth ac unigolion.

 

Coed Nadolig

Dim yn siŵr beth i’w wneud â’ch coeden gan fod y Nadolig ar ben? Gallwch roi bywyd newydd iddi yn ein Lle Gwyllt fel hafan i ieir bach yr haf a gwyfynod.

 

Eich Coetir Chi y Gaeaf Hwn

Pump o awgrymiadau i reoli eich coetir y gaeaf hwn.

 

RESOURCES

 

Extinction Recovery

Follow the link for a list of animals making a comeback from the brink of extinction. Thanks to the tireless efforts of conservation groups, and individuals.

 

Christmas Trees

Not sure what to do with your tree now that Christmas is over? Give it new life in your Wild Space as a haven for butterflies and moths.

 

Your Woodland this Winter

Five tips for managing your woodland this winter.

 

ARIANNU

 

Cronfa Grantiau Cymunedol Ceredigion

I grwpiau cymunedol, eglwysi, capeli, cyrff gwirfoddol a rhai nad ydynt yn gwneud  elw sydd am wella a chynyddu’r amrywiaeth o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleusterau yng Ngheredigion.

 

Glanhau Traethau ar gyfer Morloi

Bydd Rosie Hemsley yn glanhau traethau 100 o weithiau eleni yn y sir i godi arian ar gyfer cyfarpar i helpu achub morloi yn lleol.

 

Tir Natur – Llan-non

Helpu sefydlu prosiect mwyaf Cymru i adfer yr ecosystem.

 

Perllannau i Ysgolion

Mae’r grant hwn yn darparu pecyn am ddim o lwyni perllan neu gloddiau sy’n rhoi ffrwythau, yn gwella bywyd gwyllt ac yn storio carbon ar gyfer eich ysgol.

 

Media Cymru a Ffilm

Cronfa newydd Cymru i gael ffyrdd arloesol i rannu storïau am yr hinsawdd. Dyddiad cau: Dydd Gwener 17 Ionawr.

 

FUNDING

 

Ceredigion's Community Grant Fund

Community groups, churches and chapels, voluntary and non-profit organisations that wish to improve and increase the range of facilities, activities and opportunities within Ceredigion.

 

Beach Cleans for Seals

Rosie Hemsley will be doing 100 beach cleans within the county this winter to raise money for equipment to help with local seal rescues.

 

Tir Natur – Llanon

Help establish Wales’ largest ecosystem restoration project.

 

Orchards for Schools

This grant provides a free pack of fruit-bearing, wildlife-enhancing, carbon-storing orchard or fruiting hedgerow for your school.

 

Media Cymru and Ffilm

Cymru Wales’ new fund to find innovative ways to share climate stories. Closing date: Friday 17th January.

 

GWEITHGAREDDAU

 

PlastOff 2025

Helpu’r Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw i fynd i’r afael a sbwriel môr, a gwneud rhywbeth cadarnhaol dros fywyd y môr yn y Flwyddyn Newydd ar draeth Cei bach. Dydd Sadwrn 11 Ionawr 10am-1pm.

 

Grŵp Gwylio Bywyd Gwyllt Corsydd Teifi

Grŵp misol i blant 7-12 oed sy’n ymddiddori mewn natur a bywyd gwyllt. Dydd Sadwrn 18 Ionawr 11am-12.30pm.

 

Sgrinio Perfformiad Amgylcheddol

Can I Live? Perfformiad ysgogol i godi’r galon am y diffyg cynrychiolaeth wrth wraidd y mudiad hinsawdd ym Mhrydain, a thrafodaethau wedyn gyda grwpiau amgylcheddol lleol a pherfformiad gan gôr. Dydd Gwener 24 Ionawr 6.45-9pm. Theatr Byd Bychan, Aberteifi: £10.

 

Fforwm Ieuenctid

Digwyddiad cymdeithasol yn llawn crefftau, gemau a heriau tîm ar thema forwrol ddydd Sadwrn 25 Ionawr 10am-4pm. Canolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion.

 

Chwisgi a Mamaliaid – Ar-lein

Nodi Noson Burns yn grand drwy ddysgu am greu chwisgi yr Alban ac ychydig o fywyd gwyllt eiconig yr Alban o’ch ystafell fyw eich hun. Nos Sadwrn 25 Ionawr

6-8pm. £30+.

ACTIVITIES

 

PlastOff 2025

Help the Living Seas Youth Forum to tackle marine litter and do something positive for marine life this New Year at Cei Bach beach. Saturday 11th January 10am-1pm.

 

Teifi Marshes Wildlife Watch Group

Monthly group for 7-12 year olds that are interested in nature and wildlife. Saturday 18th January 11am-12.30pm.

 

Environmental Performance Screening

Can I Live? is an uplifting and energising performance about the lack of representation at the heart of the British climate movement, followed by discussions with local environmental groups and a choir performance. Friday 24th January 6.45-9pm. Small World Theatre Cardigan: £10.

 

Youth Forum

Social event packed with marine themed crafts, games and team challenges on Saturday 25th January 10am-4pm. Cardigan Bay Marine Wildlife Centre.

 

Malts and Mammals - Online

Mark Burns Night in style by learning about Scottish whisky making and some of Scotland’s iconic wildlife from the comfort of your own home. Saturday 25th January 6-8pm. £30+.

 

WEBINARAU

 

Pryfed Genwair Prydain Rhan 3

Dysgu am 10 rhywogaeth o bryfed genwair (mwydod) prin mewn cynefinoedd naturiol ledled y Deyrnas Gyfunol nos Lun 13 Ionawr 7-8.30pm.

 

Cyflwyniad ar gyfer Gofalwyr Coed

Webinar hyfforddiant ar-lein i bobl sy’n frwd dros natur a rhai sydd am ofalu am goed  ac eisiau cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Nos Lun 13 Ionawr 5-6pm.

 

Y Pathew mewn Coetiroedd

Dysgu beth allwn ni ei wneud i ddod â’r pathew yn ôl i goetiroedd. Nos Fawrth 14 Ionawr 6-7pm.

 

Had Cymreig i Goed Cymru

Dysgu ar-lein sut i ddewis coetiroedd a choed addas i gasglu ohonynt. Nos Fercher 15 Ionawr 5.30-7pm.

 

Webinar am y Wennol Ddu

Dysgu am y Wennol Ddu eiconig, beth sy’n bygwth yr adar rhyfeddol hyn a beth allwch chi ei wneud i helpu. Dydd Iau 16 Ionawr 12.30-2pm.

 

Dronau 2: Arolygon gan Bobl

Dysgu am ddefnyddio dronau gan bobl i arolygu cynefinoedd a thirweddau ar gyfer prosiectau ecolegol ddydd Gwener 17 Ionawr 10.30am-12noon.

 

Cacwn y DG Rhan 2

Dysgu am y mathau prin a lleol o gacwn sydd i’w gweld yn y DG nos Lun 20 Ionawr 6.30-8pm.

 

Molysgiaid ar Droed – Ar-lein

Taith drwy fyd molysgiaid gyda straeon o gasgliadau Amgueddfa Prifysgol Rhydychen nos Fawrth 21 Ionawr 7-8pm.

 

Biochar ar gyfer Meithrinfeydd Coed Cymunedol

Archwilio buddiannau biochar i feithrinfeydd coed cymunedol nos Fawrth 21 Ionawr 6.30-8pm.

 

Ecoleg Drydanol

Sut mae creaduriaid di-asgwrn-cefn yn elwa o Drydan Statig. Dydd Iau 23 Ionawr.

 

Rheoli’r Wiwer Lwyd

Beth yw’r heriau a’r problemau a sut gallwn ni eu rheoli mewn ardaloedd lle mae’r wiwer lwyd i’w chael? Nos Iau 23 Ionawr 5-6pm.

 

Cimwch yr Afon 1: Cynllunio Eich Arolwg

Dysgu am gynllunio arolygon o gimychiaid yr afon sy’n frodorol ac yn ymledol gyda’r Dr Nicky Green ddydd Gwener 24 Ionawr 10.30am-12noon.

 

Llygredd Microplastig a’r Atebion

Ugain mlynedd ar ôl defnyddio’r term “microblastigion” gyntaf, beth wyddom ni am eu presenoldeb yn yr amgylchedd? Dydd Mawrth 25 Chwefror.

 

Webinar am Ddraenogod

Dysgu am un o hoff anifeiliaid Prydain, beth sy’n ei fygwth a beth allwch chi ei wneud i helpu. Nos Iau 30 Ionawr 6.30-8pm. 

 

WEBINARS

 

Earthworms of the UK Part 3

Learn about 10 species of rare earthworm occurring in natural habitats across the United Kingdom. Monday 13th January 7-8.30pm.

 

Tree Keeper Induction

Online training webinar for nature enthusiasts and aspiring tree keepers who want to make a positive impact on the environment. Monday 13th January 5-6pm.

 

Dormice in Woodlands

Learn what we can do to return Dormice to woodlands on Tuesday 14th January 6-7pm.

 

Welsh Seed for Welsh Trees

Learn online how to select suitable woodlands and trees to collect from. Wednesday 15th January 5.30-7pm.

 

Swifts Webinar

Learn about the iconic Swift, threats to these incredible birds and what you can do to help. Thursday 16th January 12.30-2pm.

 

Drones 2: Manned Surveys

Learn about using manned drone flights to survey habitats and landscapes for ecological projects on Friday 17th January 25 10.30am-12noon.

 

Bumblebees of the UK Part 2

Learn about the rare and localised species of bumblebee occurring in the UK on Monday 20th January 6.30-8pm.

 

Molluscs on the March – Online

Journey into the world of molluscs with tales from the Oxford University Museum collections on Tuesday 21st January 7-8pm.

 

Biochar for Community Tree Nurseries

Explore biochar's benefits for community tree nurseries Tuesday 21st January 6.30-8pm.

 

Electric Ecology

How Invertebrates Capitalise on Static Electricity. Thursday 23rd January.

 

Grey Squirrel Management

What are the challenges and problems and how can we manage them in Red Squirrel areas? Thursday 23rd January 5-6pm.

 

Crayfish 1: Planning Your Survey

Learn about planning surveys for native and invasive crayfish with Dr Nicky Green on Friday 24th January 25 10.30am-12noon.

 

Microplastic Pollution and Solutions

Twenty years after the term “microplastics” was first used, what do we know about their presence in the environment? Tuesday 25th February.

 

Hedgehogs Webinar

Learn about one of Britain’s most loved animals, the threats it faces and what you can do to help. Thursday 30th January 6.30-8pm. 

 

FFOTOGRAFFIAETH BYWYD GWYLLT

 

Awgrymiadau gorau ar gyfer ffotograffau o Fywyd Gwyllt: YouTube video

Enillydd Ffotograffau Bywyd Gwyllt Digrif: Stuck Squirrel

 

WILDLIFE PHOTOGRAPHY

 

Top Tips for Photographing Wildlife: YouTube video

Comedy Wildlife Photography Winner: Stuck Squirrel

 

CYRSIAU

 

Symposiwm am Arddio Bywyd Gwyllt

Dysgu am y gwaith ymchwil diweddaraf am arddio sy’n garedig i natur i’ch helpu i wneud penderfyniadau garddio ar gyfer bywyd gwyllt ar sail tystiolaeth ddydd Mercher 15 Ionawr 10am-1pm. Pobl nad ydynt yn broffesiynol, am ddim. Pobl broffesiynol, £25.

 

Darganfod dyfrgwn y DG

Bydd y cwrs ar-lein hwn i ddechreuwyr yn archwilio bioleg, ecoleg a chadwraeth dyfrgwn. Dydd Mawrth 14 Ionawr – 18 Chwefror. £45.

 

Cynllun Llysgennad Cymru

Cyfres o gyrsiau ar-lein am ddim i bawb ddarganfod mwy am nodweddion arbennig Cymru.

 

Cyrsiau Ecoleg, Cadwraeth a Gwyddoniaeth

Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau byr sydd ar gael i bawb.

 

Cwrs Dylunio Paramaethu

Gweler y nodyn ynghlwm am fanylion y cwrs poblogaidd hwn a chael gwybod sut y gallwch ennill cymhwyster craidd mewn dylunio paramaethu. Manteisiwch ar eu prisiau Earlybird Prices.

 

COURSES

 

Wildlife Gardening Symposium

Learn about the latest research related to nature-friendly gardening to help you undertake evidence-based wildlife gardening decisions on Wednesday 15th January 10am-1pm. Non-Professionals, Free. Professionals, £25.

 

Discovering UK Otters

This online beginner course will explore Otter biology, ecology, and conservation. Tuesday 14th January – 18th February. £45.

 

The Wales Ambassador Scheme

A series of free online courses for everyone to discover more about the special qualities of Wales.

 

Ecology, Conservation and Science Courses

Lifelong Learning at Aberystwyth University offer a wide range of short courses in that are available to everyone.

 

Permaculture Design Course

See attached for details of this popular course and find out how you can gain a core qualification in permaculture design. Take advantage of their Earlybird Prices.

 

GWOBRAU

 

Enwebiadau ar gyfer Hyrwyddwr Mamaliaid

Enwebu rhywun rydych yn teimlo sy’n haeddu cydnabyddiaeth am ei ymdrechion ef neu hi i helpu monitro, gwarchod ac adfer mamaliaid yn y DG. Dyddiad cau: Dydd Llun 20 Ionawr.

 

Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd

Mae pob man gwyrdd cymunedol yn gymwys i wneud cais cyn belled â’i fod ar gael yn hawdd i bawb ac yn agored gymaint â phosibl. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Gwener 31 Ionawr. Cysylltwch â lucy.prisk@keepwalestidy.cymru am ragor o wybodaeth.

 

AWARDS

 

Mammal Champion Nominations

Nominate someone you feel deserves recognition for their efforts to help monitor, protect and restore mammals in the UK. Clopsing date: Monday 20th January.

 

Green Flag Community Awards

All community green spaces are eligible to enter as long as they are

freely accessible to all and unlocked as much as possible. Closing date for applications: Friday 31st January. Contact lucy.prisk@keepwalestidy.cymru for more information.

 

CYSTADLAETHAU

 

Cystadleuaeth Stori Natur

Ysgrifennu stori neu gerdd a fydd yn ysbrydoli eraill i gefnogi coed a natur. 7– 16 oed. Dyddiad cau: Dydd Mercher 8 Ionawr.

 

Cystadleuaeth Coed yn y Gaeaf

Ennill copi o Trees in Winter gan Richard Shimell. Atebwch y cwestiwn yn y ddolen. Dyddiad cau: Dydd Sul 19 Ionawr.

 

Dylunydd Mamaliaid y Flwyddyn 2025

Thema: Mamaliaid Prydain: Golwg Eithriadol. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau Dydd Llun 20 Ionawr.

  • Cystadleuaeth Oedolion
  • Cystadleuaeth Ieuenctid

 

Her Mamaliaid mewn Prifysgolion

Cystadleuaeth flynyddol lle bydd timau o fyfyrwyr yn monitro mamaliaid ar eu campws ac yn cystadlu am wobrau. Cychwyn dydd Sadwrn 1 Chwefror.

 

COMPETITIONS

 

Nature’s Story Competition

Write a story or poem that will inspire others to support trees and nature. Ages 7-16 years. Closing date: Wednesday 8th January.

 

Trees in Winter Competition

Win a copy of Trees in Winter by Richard Shimell. Answer the question in the link. Closing date: Sunday 19th January.

 

Mammal Illustrator of the Year 2025

Theme: British Mammals: Extraordinary Perspectives. Closing date for submissions: Monday 20th January.

  • Adult Competition
  • Youth Competition

 

University Mammal Challenge

An annual competition where student teams monitor mammals on their campuses, and compete for prizes. Starts Saturday 1st February.

 

 

FFERM DENMARK

Gweler ynghlwm am yr alwad am gymorth i wirfoddolwyr ar ôl Storm Darragh ac am amrywiaeth o gyrsiau Ecoleg, Adnabod Bywyd Gwyllt, Cadwraeth, Crefftau Naturiol a Byw’n Gynaliadwy.

 

DENMARK FARM

See attached for a call for help for volunteers after Storm Darragh and a selection of Ecology, Wildlife Identification, Conservation, Natural Crafts and Sustainable Living courses.

AROLYGON

 

Bod yn Wyddonydd y Bobl yn 2025

Ydych chi’n caru bywyd gwyllt ac eisiau bod yn rhan o’i helpu? Gallwch gymryd rhan yn y prosiectau hyn yng ngwyddoniaeth y bobl yn 2025 a gwneud gwahaniaeth er mwyn natur.

 

Arolwg Grawn Pondnet 2025

Ymuno yn y gwaith o gofnodi grawn y Broga Cyffredin a’r Llyffant Cyffredin a welwch.

 

Arolwg o Adborth INNS Mapper

Cyflwynwch eich adborth erbyn dydd Sul 12 Ionawr.

 

SURVEYS

 

Big Garden Birdwatch

Join the world's largest garden wildlife survey Friday 24th and Sunday 26th January by recording the birds that land in your patch.

 

PondNet Spawn Survey 2025

Get involved by recording Common Frog and Common Toad spawn you have spotted.

 

INNS Mapper Feedback Survey

Please submit your response by Sunday 12th January.

 

SWYDDI A GWIRFODDOLI

 

Gwirfoddoli yn Yr Ardd

Ydych chi’n hoffi siarad â phobl, yn mwynhau rhoi negeseuau ar y cyfryngau cymdeithasol, tynnu lluniau, gwylio/cofnodi byd natur? Cysylltwch ag elizabeth@yrardd.org

 

Arweinydd Cyfathrebu Mewnol

Datblygu a gweithredu strategaethau a mentrau cyfathrebu mewnol effeithiol o fewn yr Ymddiriedolaeth Afonydd a’r mudiad ehangach. Dyddiad cau: Dydd Mercher

8 Ionawr.

 

Peiriannydd Datrysiadau Cloud

Bod yn arweinydd technegol Woodland Trust ar seilwaith a systemau Cloud. Dyddiad cau: Dydd Sul 12 Ionawr.

 

Swyddog Codi Arian

Chwarae rhan weinyddol hollbwysig yn y Ganolfan Technoleg Amgen. Dydd Llun 13 Ionawr.

 

Ecolegydd

Darparu ystod eang o wasanaethau i gynefinoedd a rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod at ddibenion cynllunio, datblygu a chadwraeth. Dyddiad cau: Dydd Llun 13 Ionawr.

 

Ar Sail Gysegredig

Rhaglen flwyddyn yw hon ar gyfer 12 o eco-ddiwinyddion neu arweinwyr crefyddol sy’n frwd dros y rhyngberthynas rhwng crefydd a chyfiawnder i’r hinsawdd. Dyddiad cau: Dydd Mercher 15 Ionawr.

 

Rheolwr Rhaglen Forol

Chwarae rhan hollbwysig yn llunio a gyrru Cronfa MARINE Cymru, menter arloesol sydd wedi ymroi i wella iechyd moroedd Cymru. Dyddiad cau: Dydd Mercher 15 Ionawr.

 

Sesiynau Gwirfoddolwyr CAVO

Hoffech chi wirfoddoli?  Dewch i sesiwn galw i mewn.

  • Canolfan Byd Gwaith Aberystwyth – Dydd Mercher 15 Ionawr, 19 Chwefror 10am - 4pm
  • Canolfan Byd Gwaith Aberteifi – Dydd Gwener 10 Ionawr, 14 Chwefror,      14 Mawrth 10am - 4pm

 

Rheolwr Codi Arian Cymunedol

Datblygu cynnyrch codi arian ac ehangu cronfa cefnogwyr Cymdeithas Cadwraeth y Môr. Dyddiad cau: Dydd Sul 19 Ionawr.

 

Pennaeth Plantlife Cymru

Rhwydweithio, cydweithio ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol ar lefel uchel mewn fforymau allanol. Dyddiad cau: Dydd Mercher 22 Ionawr.

 

JOBS AND VOLUNTEERING

 

Volunteer for Yr Ardd

Do you like talking to people, enjoy posting on social media, taking photographs, watching/recording nature? Contact elizabeth@yrardd.org

 

Internal Communications Lead

Develop and implement effective internal communication strategies and initiatives within The Rivers Trust and with the wider movement. Closing date: Wednesday 8th January.

 

Cloud Solutions Engineer

Be the Woodland Trust’s technical lead on cloud infrastructure and systems to. Closing date: Sunday 12th January.

 

Fundraising Officer

Play a crucial administrative role at the Centre for Alternative Technology. Monday 13th January.

 

Ecologist

Provide a wide range of habitat and protected species services for planning, development and conservation purposes. Closing date: Monday 13th January.

 

Sacredly Grounded

This is a year-long program for 12 eco-theologians or religious leaders who are passionate about the intersection between religion and climate justice. Closing date: Wednesday 15th January.

 

Marine Programme Manager

Play a pivotal role in shaping and driving MARINE Fund Cymru, an innovative initiative dedicated to enhancing the health of Welsh seas. Closing date: Wednesday 15th January.

 

 

CAVO Volunteer Sessions.

Interested in volunteering?  Come to a drop-in session.

  • Aberystwyth Job Centre Plus – Wednesday: 15th January, 19th February, 10am - 4pm
  • Cardigan Job Centre Plus - Friday 10th January, 14th February, 14th March, 10am - 4pm

 

Community Fundraising Manager

Develop innovative fundraising products and grow the Marine Conservation Society’s supporter base. Closing date: Sunday 19th January.

 

Head of Plantlife Cymru

Network, collaborate and engage diverse and high- level audiences in external fora. Closing date: Wednesday 22nd January.

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.