Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsletter
04/10/24
Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature News |
Helo a chroeso i’r rhifyn hwn o Newyddion Natur Ceredigion, y lle ichi gael y newyddion i gyd am fywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’r amgylchedd yn y sir.
| Hello and welcome to this edition of Newyddion Natur Ceredigion, your one-stop-shop for news of wildlife, biodiversity and the environment around the county.
|
CYFARFOD PARTNERIAETH NATUR LEOL CEREDIGION Mae croeso i bawb i gyfarfod nesaf PNLC ddydd Gwener 18 Hydref 10am-4pm yn Neuadd Tysul, Llandysul. Gwybodaeth am drefnu ar gael ar y ddolen.
YMUNWCH AR-LEIN YMA: Join the meeting Er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dymuno siarad yn cael cyfle, rydyn ni’n gofyn, os bydd eich cyfraniad yn cymryd mwy na 5-10 munud, am ichi roi crynodeb yn ystod y cyfarfod ac yna gall fersiwn lawn gael ei hanfon fel e-bost at bawb sy’n bresennol, ar ôl y digwyddiad. Nid yw’n ofynnol siarad os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Mae croeso i bobl ddod dim ond i wrando. | CEREDIGION LOCAL NATURE PARTNERSHIP MEETING All are welcome to the next CLNP meeting on Friday 18th October 10am-4.00pm at Neuadd Tysul Hall, Llandysul. Booking information available at the link.
JOIN ONLINE HERE: Join the meeting In order to ensure that everyone who wishes to speak has a chance, we are asking that if your update takes more than 5 – 10 minutes, you give a summary during the meeting and a full version can be emailed to attendees after the event. There is no requirement to speak if you don’t want to. People are welcome to just come and listen. |
CYFARFODYDD Cyfarfod personol i drafod y Cynllun Gweithredu ar Fioamrywiaeth i Geredigion ddydd Mercher 18 Hydref yn y Ceinewydd. Hanes Natur Ar-lein – Symposiwm Rhithwir Clywed gan arbenigwyr addysg bioamrywiaeth am wahanol ddulliau darparu hyfforddiant ar-lein, gan ymchwilio i’r heriau a’r buddiannau a gânt drwy ymgysylltu’n rhithiol â dysgwyr. Dydd Mercher 23 Hydref 10am-1pm. £25. CBC y Gymdeithas Mwydod/Pryfed Genwair Cyfarfod Cymdeithas Mwydod/Pryfed Genwair Prydain, gan gynnwys sgyrsiau amrywiol am brosiectau mwydod. Croeso hefyd i bobl nad ydynt yn aelodau. Nos Sul 27 Hydref 7-8.30pm. | An in-person meeting to discuss the Biosecurity Action Plan for Ceredigion on Wednesday 18th October in New Quay. Natural History Online – Virtual Symposium Hear from biodiversity education specialists about different online training delivery methods, delving into the challenges and benefits they have experienced through virtual engagement with learners. Wednesday 23rd October 10am-1pm. £25. The Annual General Meeting for the Earthworm Society of Britain, including various talks on earthworm projects. Non-members also welcome. Sunday 27th October 7-8.30pm. |
GWEITHGAREDDAU Dulliau Newydd o weithio cymunedol Bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn dangos rhai enghreifftiau lle bydd dinasyddion wedi ymgysylltu â'r sector cyhoeddus i newid pethau, a thrafod beth sy’n gweithio, beth nad yw’n gweithio a faint mwy y gallem ei wneud. Nos Fawrth 22 Hydref 8.30pm. Brecwast gyda Dolffin Trwynbwl Ymunwch yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion ddydd Sul 27 Hydref 9.30-11am yn y Ceinewydd i chwilio am fywyd gwyllt a chael paned o de a choffi. Rhaid trefnu. Cerdded yn yr Hydref er mwyn Lles Ewch allan i fwynhau natur gyda Biosffer Dyfi rhwng dydd Gwener 27 Medi a dydd Gwener 8 Tachwedd. Gweler ynghlwm. I weld sut gallwch helpu achub ein hafonydd a’n moroedd ac archebu eich capan nofio am ddim. Noson gyda Carwyn Gravesn Evening with Carwyn Graves Bydd Carwyn Graves yn trafod ei lyfr diweddaraf Tir: The Story of the Welsh Landscape. Nos Fercher 16 Hydref 7:30-8:45pm. Gosodwch darged eich pellter ac ewch i gerdded o dydd Llun 21 Hydref i ddydd Sul 3 Tachwedd i ddiogelu’r bywyd gwyllt sy’n annwyl i chi. Dysgu am y beirdd sydd wedi canu am yr abaty o’r canol oesoedd tan heddiw. Dydd Sadwrn 26 Hydref 10am-4pm. £50. Diwrnod Blasu Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw Ydych chi rhwng 9 a 24 oed, a hoffech chi ymuno â’r Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw? Dewch i sesiwn flasu ddydd Iau 31 Hydref 10.30am-3.30pm. | This online event will show a few examples where citizens have engaged with the public sector to change things, and discuss what works, what doesn’t, and what more we could do. Tuesday 22nd October 8.30pm. Join the Cardigan Bay Marine Wildlife Centre on Sunday 27th October 9.30-11am in New Quay for wildlife spotting, tea and coffee. Booking essential. Autumn Walks for Wellbeing Step out and enjoy nature with Dyfi Biosphere between Friday 27th September – Friday 8th November. See attached. See how you can help save our rivers and seas and order your free swim cap. Carwyn Graves discusses his latest book Tir: The Story of the Welsh Landscape. Wednesday 16th October 7:30-8:45pm. Set your target distance and get walking from Monday 21st October – Sunday 3rd November to protect the wildlife you love. Learn about the poets who have sung about the abbey, from the medieval period to the modern day. Saturday 26th October 10am-4pm. £50. Living Seas Youth Forum Taster Day Are you aged 9-24 and interested in joining the #LivingSeas Youth Forum? Come along for a taster session. Thursday 31st October 10.30am-3.30pm. |
GWEITHGAREDDAU CALAN GAEAF Mwynhau hwyl Calan Gaeaf a chwrdd â’r anifeiliaid ar Fferm Lesiant Peaceful Pools, Llanbedr ddydd Sadwrn 26 i 31 Hydref. Gweler ynghlwm. Helpu diogelu Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi rhag ysbrydion drwg a chreaduriaid rhyfedd. Bydd y Cwestiynu ar gael wrth ddesg y siop rhwng 10am a 3pm dydd Sadwrn 26, dydd Sul 27, dydd Mercher 30 a dydd Iau 31 Hydref. £5. Gemau brawychus, teithiau gydag ysbrydion, cystadlaethau a rhagor yng Nghoetir Cymunedol Longwood ddydd Iau 31 Hydref 2-4pm. £4 y plentyn. Gweler ynghlwm. Adrodd storïau, helfa drysor, crefftau’r goedwig a chwarae am ddim yn siop Fferm Fêl Ceinewydd dydd Iau 31 Hydref 10.30-12 canol dydd. £6 y plentyn. Creaduriaid a Chrefftau’r Hydref Gweler ynghlwm am yr hyn fydd yn digwydd dros yr hanner tymor a Chalan Gaeaf yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru. | HALLOWEEN ACTIVITES Enjoy Halloween fun and meet the animals at Peaceful Pools Wellbeing Farm, Lampeter. Saturday 26th - 31st October. See attached. Nos Galan Gaeaf Quest Help protect the Teifi Marshes Nature Reserve from spooky spirits and creepy creatures. The Quest is available from shop desk between 10am-3pm on Saturday 26th, Sunday 27th, Wednesday 30th and Thursday 31st October. £5. Spooky games, ghost walk, competition and more at Longwood Community Woodland on Thursday 31st October 2-4pm. £4 per child. See attached. Storytime, treasure hunt, woodland crafts and free play at New Quay Honey Farm shop Thursday 31st October 10.30-12noon. £6 per child. See attached for what's coming up for half term and Halloween at The Welsh Wildlife Centre. |
ALLWCH CHI HELPU? SWEPT: Galw ar bobl sy’n wyddonwyr i brofi ansawdd dŵr Mae’r prosiect Surveying the Waterway Environment for Pollution Threats (SWEPT) yn gweld bod angen pobl sy’n wyddonwyr i brofi lefelau nitradau a ffosffad mewn cyrsiau dŵr croyw. Mae angen gwirfoddolwyr i fonitro nentydd yr arfordir sy’n llifo i mewn i Fae Ceredigion. Gweler ynghlwm. Prosiect Gwaredu Rhywogaethau Ymledol Mae angen eich help ar Oxygen Conservation i ddiogelu Afon Arth. Gweler ynghlwm am ragor o wybodaeth. Ymunwch â Bwrdd Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur. Mae’r dyddiad cau ddydd Gwener 18 Hydref. Maent yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth leol ac ysfa i yrru prosiectau’r Ymddiriedolaeth ymlaen. Mae Afonydd Cymru yn chwilio am Ymddiriedolwyr gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd, sgiliau a phrofiad. Nodi draenogod ac anifeiliaid eraill mewn lluniau camera fel rhan o’r Rhaglen Genedlaethol Monitro Draenogod. | CAN YOU HELP? SWEPT: Callout for citizen scientists to test water quality The Surveying the Waterway Environment for Pollution Threats (SWEPT) project sees citizen scientists testing nitrate and phosphate levels of freshwater watercourses. Volunteers are needed to monitor coastal streams flowing into Cardigan Bay SAC. See attached. Invasive Species Removal Project Oxygen Conservation need your help to protect the Afon Arth. Please see attached for more information. Join Strata Florida Trust’s Board of Trustees. The deadline is Friday the 18th October. They are looking for someone with local knowledge and a passion to drive projects within the Trust forward. Afonydd Cymru are looking for Trustees with a wide range of backgrounds, skills and experience. Spot hedgehogs and other animals in camera images as part of the National Hedgehog Monitoring Programme. |
GWOBRAU A CHYSTADLAETHAU Pencampwyr Ieuenctid Newid Hinsawdd Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion yn falch cael cyhoeddi bod eu Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw wedi ennill y wobr ‘Pencampwyr Ieuenctid Newid Hinsawdd’ yng ngwobrau Cadw Cymru’n Daclus yn gynharach yr wythnos hon. Ennill copi o Seeds: Time Capsules of Life Dilynwch y ddolen ac ateb cwestiwn i ennill y llyfr hwn. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 22 Hydref. Ffotograffydd Mamaliaid y Flwyddyn 2025 Y thema eleni yw: British Mammals: Extraordinary Perspectives. Darlunydd Mamaliaid y Flwyddyn 2025 Hon yw blwyddyn gyntaf y Gymdeithas Mamaliaid i drefnu’r gystadleuaeth arlunio. Bydd pleidleisio dros Wobr Dewis y Bobl yn rhedeg tan ddydd Iau 31 Hydref. | AWARDS AND COMPETITIONS Youth Climate Change Champions Cardigan Bay Marine Wildlife Centre are pleased to announce that their Living Seas Youth Forum won the 'Youth Climate Change Champions' award at the Keep Wales Tidy - Cadwch Gymru'n Daclus Awards earlier this week. Win a copy of Seeds: Time Capsules of Life Follow the link and answer a question to win this book. Closing date: Tuesday 22nd October. Mammal Photographer of the Year 2025 This year, the theme is: British Mammals: Extraordinary Perspectives. Mammal Illustrator of the Year 2025 This is the Mammal Society’s first year hosting an art competition. Voting for the People's Choice Award runs from until Thursday 31st October. |
WEBINARAU A Ellir Adnabod Mwydod/Pryfed Genwair gan Ddefnyddio Ffotograffau ac AI? Adroddiad am wersi, llwyddiannau a chyfyngiadau peilot y Prosiect Adnabod Lluniau o Fwydod/Bryfed Genwair. Dydd Llun 14 Hydref 3-4.30pm. Archwilio addasiadau yn ymddygiad corynnod yr ogof dydd Mawrth 15 Hydref 1-2pm. Dysgu am y math o gelod dŵr croyw sydd i’w cael ledled Prydain nos Iau 24 Hydref 6.30-8pm. Dysgu am y mursennod glas a'r rhai cynffon las sy’n magu ym Mhrydain nos Fercher 30 Hydref 6.30-8pm. | Can Earthworms Be Identified Using Photos and AI? A report on the lessons, successes and limitations of the Earthworm Image Recognition Project pilot. Monday 14th October 3-4.30pm. Exploring behavioural adaptations in cave spiders on Tuesday 15th October 1-2pm. Learn about the species of freshwater leech that occur across the United Kingdom on Thursday 24th October 6.30-8pm. Learn about blue and blue-tailed species of damselfly breeding in the UK on Wednesday 30th October 6.30-8pm. |
CYRSIAU Diwrnod hyfforddiant sgiliau coetir rhad ac am ddim i wirfoddolwyr Fel rhan o gynlluniau i wella Coedwig Rhosmaen Crug ar gyfer bioamrywiaeth, pobl a'r gymuned, rydym yn gyffrous fod Ryan Knight-Fox Wild about Learning yn dod i arwain diwrnod hyfforddi coetir i wirfoddolwyr. Dydd Mercher 9fed Hydref, 10yb-5yp yn goedwig Rhosmaen Crug. Dysgu sut i adnabod Adar Hela, Rhydwyr, Gwylanod ac adar eraill ar y dŵr neu ynddo. Mae Cynllun Dileu’r Ffi ar gael i bobl gymwys sy’n cymryd rhan. Dydd Mawrth 22 Hydref. £130. Cymryd rhan uniongyrchol yng ngwaith ORCA a helpu gwarchod dyfodol morfilod a dolffiniaid Cyrsiau Prifysgol Aberystwyth Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau byr mewn Ecoleg, Gwyddoniaeth a Chadwraeth sydd ar gael i bawb. Gweler ynghlwm. | Free Woodland Skills Training Day for Volunteers As part of plans to enhance Rhosmaen Crug Wood for biodiversity, people and the future, we are excited to bring in Ryan Knight-Fox Wild about Learning for a woodland volunteer training day. Wednesday 9th October, 10am-5pm at Rhosmaen Crug Wood. Learn how to identify Wildfowl, Waders, Gulls and other birds that are found on or near water. There is a Fee Waiver Scheme available for eligible participants. Tuesday 22nd October – 26th November. £130. Become directly involved in the work of Orca and help safeguard the future of whales and dolphins. Aberystwyth University Courses Lifelong Learning at Aberystwyth University offer a wide range of short courses in Ecology, Science and Conservation that are available to everyone. See attached. |
YR AFANC Rheoli Ailgyflwyno’r Afanc yng Nghymru Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rheoli ailgyflwyno’r afanc Ewropeaidd yng Nghymru. Dysgu mwy am brosiect yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ‘Vision for the Return of Beavers to England and Wales’. Diweddariad am y gwaith sy’n cael ei wneud i baratoi lle ar gyfer yr Afanc. | Managed Reintroduction of Beavers in Wales Welsh Government supports the managed re-introduction of European beaver in Wales. Find out more in The Wildlife Trusts ‘Vision for the Return of Beavers to England and Wales. Update on the work being done to prepare a Beaver enclosure. |
COED Canllaw yn darparu gwybodaeth fanwl am gynllunio, dylunio a rheoli coetiroedd ar y glannau i helpu perchnogion coetiroedd i gydymffurfio â’r Gofynion a’r Canllawiau UKFS UK Forestry Standard – 5th Edition. Dosbarth Meistr ar Gasglu Hadau – Ar-lein Dysgu sut i gasglu a phrosesu hadau i dyfu eich coed eich hun am ddim. Dydd Mercher 9 Hydref 1-2pm. Dysgu sut i gofnodi Coed Hynafol, Hŷn a Nodedig ar yr Rhestr ym Machynlleth ddydd Mercher 23 Hydref 10.15am-3pm. Mae gan y Cyngor Coed becynnau Our Trees and More Project i roi ichi’r coed, y dechnoleg, y gefnogaeth a’r hyfforddiant angenrheidiol ichi ddatblygu eich cwricwlwm dysgu eich hun yn yr awyr agored. Dyddiad cau: Dydd Iau 31 Hydref. | A guide providing detailed information on planning, designing, and managing riparian woodland to help woodland owners comply with UKFS Requirements and Guidelines. UK Forestry Standard – 5th Edition. Seed Gathering Masterclass - Online Learn how to collect and process seeds to grow your own free trees. Wednesday 9th October 1-2pm. Learn how to record Ancient, Veteran and Notable Trees on the ATI in Machynlleth on Wednesday 23rd October 10.15am-3pm. The Tree Council have Our Trees and More Project Packs to give you the trees, technology, support and training you need to develop your outdoor learning curriculum. Closing date Thursday 31st October. |
AROLYGON AC YMGYNGHORI Ymgynghori am y Parc Cenedlaethol Newydd Bydd y cyfnod ymgynghori o 10 wythnos yn para o ddydd Llun 7 Hydref i ddydd Llun 16 Rhagfyr. Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, hwn fydd y Parc Cenedlaethol newydd cyntaf yng Nghymru ac yn agos i 70 mlynedd O ddydd Sadwrn 12 i ddydd Sul 20 Hydref. Arolwg syml yn mesur ac adnabod y coed yn y 250+ o goetiroedd bach ledled Prydain. Arolwg o Feithrinfeydd Coed Cymunedol Dewch i gymryd rhan yn y rhaglen Trees Outside Woodlands, i gyfrannu at y gwaith ymchwil gwerthfawr. Caiff pawb sy’n cymryd rhan gyfle i ennill Taleb Rhodd Gerddi Cenedlaethol gwerth £100. | SURVEYS AND CONSULTATION New National Park Consultation The 10-week consultation will run from Monday 7th October to Monday 16th December. If the plans are approved the new National Park would be the first in Wales in almost 70 years. Taking place Saturday 12th – Sunday 20th October. It is a simple survey, measuring and identifying trees at the 250+ Tiny Forests across the UK. Community Tree Nurseries Survey Take part in this, part of the Trees Outside Woodlands programme, to contribute to valuable research. Every participant has the chance to win £100 National Garden Gift Voucher. |
ADNODDAU Ym mis Medi Afon Teifi oedd afon y mis gan Afonydd Cymru. Awgrymiadau gorau i reoli cloddiau. Creu Clawdd ar gyfer Bywyd Gwyllt Adnodd i ddarparu lloches a diogelwch pwysig i fywyd gwyllt, yn enwedig i adar nythu a phryfed sy’n cysgu yn y gaeaf. Cael gwybod mwy am y creaduriaid môr rhyfeddol drwy’r ffeithiau anarferol hyn. Cynllun misol i greu eich gŵyl eich hun. Y lle i chwilio am adnoddau natur yn Gymraeg sy’n addas i wahanol grwpiau oed. | September saw the River Teifi as river of the month by Afonydd Cymru. Top tips for managing hedgerows. Resource on provide important shelter and protection for wildlife, particularly nesting birds and hibernating insects. Find out more about these fascinating cetaceans with these fintastic facts. A monthly planner for a home-grown festive season. Cronfa Adnoddau / Nature Resources Database The place to search for nature resources in Cymraeg suitable for different age groups. |
CAPIAU CWYR Does dim angen sgiliau ID mewn ffyngau na bod yn fycolegydd i wneud arolwg o gapiau cwyr. Mae’n hawdd, a’r cyfan sydd eisiau yw ffôn glyfar neu ddefnyddio cyfrifiadur. Capiau Cwyr a Ffyngau Tir Porfa Canllaw i’w hadnabod a’u rheoli. | You don’t need any fungi ID skills or to be a mycologist for do a waxcap survey. It’s easy and all you need is a smart phone or access to a computer. A guide to identification and management. |
IEIR BACH YR HAF Tir Ar Werth ym Mronant (Cae-Rhos) Gweler yr ymholiad sydd ynghlwm oddi wrth Paul Taylor, Cofnodwr Ieir Bach yr Haf yn yn Sir ynglŷn â darn o dir. Canlyniadau’r Prosiect Cyfrif Ieir Bach yr Haf Mae canlyniadau’r cyfrif yn dangos dirywiad sicr a phryderus iawn yn nifer ieir bach yr haf. Cymaint felly bod Butterfly Conservation yn cyhoeddi Argyfwng Ieir Bach yr Haf. | Land for Sale in Bronant (Cae-Rhos) Please see the attached query from Paul Taylor, County Butterfly Recorder regarding a piece of land. Results of the count show a marked and hugely concerning decline in butterfly numbers. So much so that Butterfly Conservation are declaring a national Butterfly Emergency. |
Y MÔR Mae Cymdeithas Cadwraeth y Môr am glywed am y bywyd gwyllt a welwch ar yr arfordir ac ar y môr, yn enwedig crwbanod môr a sglefrod môr. Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw Ydych chi rhwng 9 a 24 oed? Ydych chi’n byw ar hyd arfordir Ceredigion? Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion yn chwilio am bobl ifanc i ymuno. Cysylltwch â cbmwc@welshwildlife.org | Marine Conservation Society want to hear about the wildlife you spot at the coast and at sea, especially marine turtles and jellyfish. Living Seas Youth Forum Are you aged 9-24? Do you live in coastal Ceredigion? Cardigan Bay Marine Wildlife Centre are looking for young people to join. Contact cbmwc@welshwildlife.org |
FFERMIO Prosiect Gwrteithiau Gwyrdd Parhaol Lluosflwydd Canlyniadau prosiect cyffrous yn edrych ar ffyrdd newydd o gynhyrchu ffrwythlondeb ar ffermydd heb ddefnyddio tanwydd ffosilau na da byw. Archwilio’r Berthynas Rhwng Ffermio yng Nghymru a Natur Bydd yr awdur Carwyn Graves yn archwilio’r berthynas rhwng ffermio yng Nghymru a natur, gan ddatgelu’r hyn y gallwn ei ddysgu o’r gorffennol i helpu diogelu’r dyfodol. Theatr Mwldan – Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2pm. £5. Offeryn ar-lein i helpu pobl i gyfathrebu’n hawdd am gynaliadwyedd, dangos buddiannau arferion atgynhyrchu a gwahanu carbon, a rhoi gwybod am dargedau lleihau a chynnydd. | Perennial Green Manures Project The results of an exciting project looking at a new way to generate fertility on farms without using fossil fuel or livestock. Exploring The Relationship Between Welsh Farming & Nature Writer Carwyn Graves’ will explore the relationship between Welsh farming and nature, unearthing what we can learn from the past to help protect the future. Theatre Mwldan - Saturday 16th November 2pm. £5. Online tool to help people easily communicate about sustainability, showcase the benefits of regenerative practices and carbon sequestration, and report on reduction targets and progress. |
ADRODDIADAU Tyfu Cymunedol a Rhandiroedd yng Ngheredigion 2024 Comisiynwyd arolwg gan Bartneriaeth Bwyd Ceredigion o dyfu cymunedol yng Ngheredion. Dyma’r adroddiad terfynol gan Eco Hub Aber a Jane Powell ar gyfer Partneriaeth Bwyd Ceredigion. Astudiaeth Genedlaethol o Gwlferti Roedd yr astudiaeth yn golygu adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael o amrywiol gyrsiau dŵr sy’n croesi Ystâd Coedlannau Llywodraeth Cymru. Mae copi o’r Adroddiad Tystiolaeth ar gael oddi wrth CNC drwy anfon e-bost i: adferafonydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Adroddiad ac argymhellion gan yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, WWF ac RSPB. | Community Growing & Allotments Ceredigion 2024 Ceredigion Food Partnership commissioned a survey of community growing in Ceredigion. This is the final report by Eco Hub Aber and Jane Powell for Ceredigion Food Partnership. The National Culvert Study The study involved reviewing available evidence on a range of watercourse crossings on the Welsh Government Woodland Estate. A copy of the Evidence Report is available from NRW on request by emailing: adferafonydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk A report and recommendations by The Wildlife Trusts, WWF and RSPB. |
LLIFOGYDD Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanw yn Aberteifi Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu cynllun rheoli perygl llifogydd i leihau llifogydd llanw yn ardal y Strand yn Aberteifi. Adfer Cilfach – Lleddfu Llifogydd Bu adfer cilfach yn Vienna yn gyfrifol am leihau effaith llifogydd a achoswyd gan Storm Boris. Gweirgloddiau Gorlifdir yn Ffynnu - Webinar Archwilio cynefin prin a rhyfeddol gweirgloddiau gorlifdir nos Lun 7 Hydref 7-8pm. | Cardigan Tidal Flood Risk Management Scheme Natural Resources Wales is developing a flood risk management scheme to reduce the risk of tidal flooding in The Strand area of Cardigan. Creek Restoration – Flood Mitigation The restoration of a creek in Vienna reduced the impact of flooding caused by Storm Boris. Flourishing Floodplain Meadows - Webinar Explore the rare and extraordinary habitat of floodplain meadows on Monday 7th October 7-8pm. |
SWYDDI A GWIRFODDOLI Codi Arian ar gyfer Bywyd Gwyllt Teithio i wahano fannau a chysylltu â’r cyhoedd i ledu ymwybyddiaeth am aelodaeth o RSPB. Dyddiad cau: Dydd Sul 13 Hydref. Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu y Rhaglen Mawndiroedd Bod yn ganolog wrth ddarparu amcanion y Rhaglen Mawndiroedd a hyrwyddo gwerthoedd mawndiroedd. Dyddiad cau: Dydd Sul 13 Hydref. Bod yn rhan o dîm o archwilwyr sy’n archwilio cyfuniad o gyfleusterau bwy organaidd a ffermio ledled Prydain. Dyddiad cau: Dydd Sul 13 Hydref. Bod yn rhan o’r Tîm Arolygwyr Uwch gyda'r Ymddiriedolaeth Coedlannau, yn gyfrifol am ddefnyddio’i adnoddau a’i weithgareddau yn unol â blaenoriaethau a gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth. Dyddiad cau: Dydd Mercher 16 Hydref. Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau Darparu cyfathrebu effeithiol i ysbrydoli pobl i fyd sy’n fwy cyfoethog mewn natur. Dyddiad cau: Dydd Mercher 16 Hydref. Arweinydd wrth ddarparu mewnwelediad trefniadaeth Cyfeillion y Ddaear. Dyddiad cau: Dydd Mercher 16 Hydref Swyddog Draenogod yn Nghefn Gwlad Helpu lansio a gweithredu’r Strategaeth Genedlaethol Cadwraeth Draenogod, gweithio gyda ffermwyr a darparu cefnogaeth gwaith ymchwil. Dydd Sul 20 Hydref. Swydd Fewnol i Ddadansoddydd Data a Meddalwedd Mae Scriptoria Sustainable Development Solutions yn chwilio am aelod staff mewnol sy’n ddadansoddydd i ymuno â’u tîm ymgynghorol. Dyddiad cau: Dydd Sul 20 Hydref. Mae gan RSPB gyfle cyffrous i Reolwr Prosiect i ddatblygu a rheoli set o brosiectau amrywiol. Dyddiad cau: Dydd Sul 20 Hydref. Tyfu rhwydwaith yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt o unigolion cefnog i Gymru i gefnogi ein gwaith o drawsnewid yr argyfyngau ym myd natur a’r hinsawdd. Dyddiad cau: Dydd Sul 20 Hydref.. Swyddog Diogelu Safleoedd Rhyngwladol Gweithio gydag RSPB i eiriol yn rhyngwladol dros ddiogelu safleoedd pwysig sydd dan fygythiad. | JOBS AND VOLUNTEERING Travel to different venues and actively engage with members of the public, spreading awareness about RSPB memberships. Closing date: Sunday 13th October. Peatland Programme Communications and Engagement Lead Be pivotal in the delivery of the Peatland Programme’s objectives to champion peatland values. Closing date: Sunday 13th October. Be part of a management team of auditors who inspect a combination of organic food and farming facilities across the UK. Closing date: Sunday 13th October. Be part of the Senior Leadership Team at Woodland Trust, responsible for deploying its resources and activities in line with Trust priorities. Closing date: Wednesday, 16th October. Communications and Events Officer Deliver effective communications to inspire people to a world richer in nature. Closing date: Wednesday 16th October. Lead the delivery of Friends of the Earth’s organisational insight. Closing date: Wednesday 16th October. Help launch and implement the new National Hedgehog Conservation Strategy, work with farmers and provide research support. Sunday 20th October. Data and Software Analyst Internship Scriptoria Sustainable Development Solutions are looking for an analytical intern to join their consulting team. Closing date: Sunday 20th October. RSPB have an exciting opportunity for a Project Manager to develop and manage a set of diverse projects. Closing date: Sunday 20th October. Grow The Wildlife Trusts’ network of high-net-worth individuals for Wales supporting our work in turning around the nature and climate emergencies. Closing date: Sunday 20th October. International Site Protection Officer Work with the RSPB to advocate internationally for the protection of important sites under threat. |
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk | Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk |