Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsletter
Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature News |
Helo a chroeso i’r rhifyn hwn o Newyddion Natur Ceredigion, y lle ichi gael y newyddion i gyd am fywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’r amgylchedd yn y sir.
| Hello and welcome to this edition of Newyddion Natur Ceredigion, your one-stop-shop for news of wildlife, biodiversity and the environment around the county.
|
WYTHNOS NATUR CYMRU – Dydd Sadwrn 29 Mehefin – dydd Gwener 7 Gorffennaf Mae Wythnos Natur Cymru yn ddathliad blynyddol sy’n brolio cynefinoedd a rhywogaethau rhyfeddol Cymru. Defnyddiwch y cylchlythyr hwn a’r dolenni isod i ddarganfod a mwynhau’r cyfoeth o blanhigion a chreaduriaid sydd o’n cwmpas. | WALES NATURE WEEK - Saturday 29th June – Friday 7th July Wales Nature Week is an annual celebration of nature showcasing the fantastic habitats and species of Wales. Please use this newsletter and the links below to discover and enjoy the wealth of flora and fauna that surrounds us. |
CYFARFOD CHWARTEROL PNLC Safle PNLC Yng nghyfarfod diwethaf Partneriaeth Natur Leol Ceredigion ymwelwyd â safle cynefin Britheg y Gors. Mae crynodeb o’r ymweliad hwnnw wedi ei gysylltu. Mae Paul Taylor, Cofnodwr Pilipalaod y Sir, yn diolch i bawb oedd yn bresennol gan iddo fwynhau’r cyfarfod a rhoi ei gyflwyniad yn fawr iawn. Cofnodion ac Adroddiad y Cydlynwyr Mae’r cofnodion o’r cyfarfod chwarterol a gynhaliwyd ddydd Gwener 19 Ebrill wedi eu cysylltu, ac adroddiad y Cydlynwyr oddi wrth Rachel Auckland. | CLNP Site At the last meeting of the Ceredigion Local Nature Partnership there was a Marsh Fritillary habitat site visit. A summary of this trip is attached. Paul Taylor the County Butterfly Recorder sends his thanks to attendees as he enjoyed the meeting and giving his presentation very much. Minutes and Coordinators Report Please find attached the minutes from the quarterly meeting which was held on Friday 19th April, and the Coordinators Report from Rachel Auckland. |
CYRSIAU Coetiroedd: Arolwg Botanegol – Ar-lein Cwrs yn dysgu am y prif blanhigion i edrych amdanynt mewn coetiroedd, ac awgrymiadau hawdd sut i’w hadnabod yn y maes. Dydd Llun 17 Mehefin. £60. Ystlumod Prydain – Ar-lein Mae’r cwrs hwn mewn chwe rhan, yn cychwyn ddydd Mercher 19 Mehefin, wedi ei lunio ar gyfer pobl sy’n newydd i ystlumod ac sydd eisiau datblygu dealltwriaeth ehangach o’r rhywogaeth sydd gennym yma yn y Deyrnas Gyfunol. £108 Rhywogaethau Dangosydd Cynefinoedd – Ar-lein Cwrs yn rhoi trosolwg i’r rhai sy’n bresennol o brif gynefinoedd iseldir a’r prif rywogaethau dangos sy’n eu diffinio. Dydd Mercher 19 Mehefin 9am. £102.22. Rhywogaethau Ymledol – Ar-lein Cwrs yn cynnwys y planhigion a’r anifeiliaid ymledol pwysicaf yn y DG. Dydd Llun 24 Mehefin 10am-1pm. £60. Mewn pum neges e-bost byddwch yn dysgu sut i adnabod gwahanol fathau o wenyn a chreu eich paradwys eich hun i wenyn. Cwrs Celf y Traethlin - (CA307) Mae’r traethlin yn fan diddorol lle mae tonnau, planhigion a chreaduriaid yn cyd-fyw. Byddwch yn dysgu sgiliau darlunio a pheintio yn y maes gyda stiwdio Arad Goch wrth gefn os bydd y tywydd yn anffafriol. Gallwch bwyso a mesur sut mae pobl wedi effeithio ar ein traethau. Mae hwn yn dechrau fel dysgu ar-lein yn eich pwysau a dau ddiwrnod yn bersonol gyda’ch tiwtor yn Aberystwyth. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: learning@aber.ac.uk £60 am 50 awr o ddysgu. Cynhyrchu gwaith gelf sy’n ymwneud â’r amgylchedd naturiol, drwy weithgareddau grŵp a’ch prosiectau eich hun yn Aberystwyth. Dydd Mawrth 9 – dydd Sul 12 Gorffennaf 10am-3.30pm. £120.00. | Woodlands: Botanical Survey – Online Course teaching the main plants to look for in woodlands, with tips for easy ID in the field. Monday 17th June. £60. British Bats – Online This six-part online course, beginning on Wednesday 19th June is designed for those new to bats and wanting to develop a broader understanding of the species we have here in the UK. £108 Habitat Indicator Species – Online A course giving participants an overview of terrestrial lowland habitats and the key indicator species which define them. Wednesday 19th June 9am. £102.22. Invasive Species – Online Course covering the most important invasive plants and animals in the UK. Monday 24th June 10am-1pm. £60. In five emails, you’ll learn how to identify different bee species and create a bee paradise of your own. Strandline Art Course - (CA307) The strandline is a fascinating area where waves, plants and creatures co-inhabit. Learn drawing and painting skills in the field with Arad Goch studio as a back-up if the weather is unkind. You will be able to evaluate how humans have an impact on our beaches. This starts as online self-paced learning with two days in person with your tutor in Aberystwyth. For more information contact: learning@aber.ac.uk £60 for 50 hours learning Lifelong Learning Land Art Course Produce artwork that relates to the natural environment, through group activities and self-generated projects in Aberystwyth. Tuesday 9th – Sunday 12th July 10am-3.30pm. £120.00. |
Nawr gall yr holl enwadau yng Nghymru a Lloegr gofrestru i gymryd rhan yn Eglwysi yn Cyfrif ar Natur, sef cynllun blynyddol lle bydd pobl yn ymweld â mynwentydd ac yn cofnodi’r mathau o blanhigion ac anifeiliaid maent yn dod ar eu traws. Mae’r erthygl hon yn archwilio sut gall eglwysi ymateb i’r argyfwng mewn bioamrywiaeth. Arwyddion am Ddim ar Reoli Dolydd Arwyddion am ddim wedi eu llunio’n benodol ar gyfer mynwentydd a mannau claddu. Gwneud yr Eglwys yn Las - Webinar Bydd David Curry yn annog eglwysi i feddwl a siarad am ein cefnforoedd a gwybodaeth am wyddor y môr a ffydd, gan gynnwys y pecyn cymorth Our Blue Planet. Dydd Gwener 14 Mehefin 12 canol dydd. | CHURCHES AND NATURE All denominations in England and Wales can now register to participate in Churches Count on Nature, an annual scheme where people visit churchyards and record the plant and animal species they encounter. This article examines how churches can respond to the biodiversity crisis. Free signs specifically tailored for churchyards, cemeteries, and burial grounds. Blueing the Church - Webinar David Curry will encourage churches to think and talk about our oceans and information about marine science and faith including the Our Blue Planet toolkit. Friday June 14th 12noon. |
LLYSYWOD PENDOLL Safleoedd Magu Llysywod Pendoll Helpwch nodi safleoedd magu llysywod pendoll ar afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch drwy e-bost â 4RiversforLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Mae mwy o wybodaeth am llysywod pendoll i’w chael yma. Taflen Adnabod Llysywod Pendoll Mae Pedair Afon ar gyfer LIFE wedi creu’r daflen hon i adnabod nythod a mannau claddu Llysywod Pendoll. Mae’n cynnwys gwybodaeth sut a ble i edrych amdanynt a ble gallwch anfon y wybodaeth honno. Gweler ynghlwm. Mae Sophie Gott, Swyddog Monitro Pedair Afon ar gyfer LIFE gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn siarad am y creadur rhyfedd hwn a beth sydd arno’i angen ar gyfer siwrnai fudo lwyddiannus. | Lamprey Breeding Sites Help identify lamprey breeding sites on the Teifi, Tywi, Cleddau and Usk rivers. If you’re interested, please get in touch by email 4RiversforLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk More Lamprey information can be found here. Lamprey Identification Sheet Four Rivers for Life have created this Lamprey Spawning and nest identification sheet which contains information on how and where to spot them and where you can send this information. See attached. Sophie Gott, Four Rivers for LIFE Monitoring Officer at Natural Resources Wales talks about this fascinating creature and what it needs for its successful migration journey. |
SWYDDI GWAG A GWIRFODDOLI Swyddog Cymru (Grwpiau Ystlumod) Cefnogi a gwella’r rhwydwaith grwpiau ystlumod gwirfoddol yng Nghymru; cyfuno cynllunio prosiectau’n wych â sgiliau trefnu a’ch gwybodaeth am ystlumod a’u cadwraeth. Dyddiad cau: Dydd Mercher 12 Mehefin. Mae hon yn swydd weinyddol a chysylltu â’r cyhoedd, yn gweithio mewn canolfan ymwelwyr brysur ac amgylchedd swyddfa gydag amrywiaeth eang o bobl. Dyddiad cau: Dydd Llun 17 Mehefin. Mae RSK yn hysbysebu’r swydd hon i weithio gartref ac mewn swyddfa. Mae un o’u prif swyddfeydd yn Aberystwyth. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru amrywiaeth o gyfleoedd i’ch galluogi i hyrwyddo rheoli cynaliadwy, buddiannau a gwerth adnoddau ac ecosystemau naturiol. Gwirfoddolwr Rhwydwaith Siaradwyr Fel Siaradwr WaterAid, byddwch yn rhoi o leiaf bedair sgwrs neu weithdy bob blwyddyn, naill ai ar-lein a/neu wyneb yn wyneb. Cyfarwyddwr An-Weithredol Sŵ y Bobl Gallwch fod yn Gyfarwyddwr an-weithredol yn Sŵ y Bobl, sy’n chwilio am rywun sy’n teimlo’n angerddol am natur ac ail-wylltio. Bod yn Llysgennad i Geredigion Cwrs ar-lein am ddim i gael gwybod sut i ymuno â mwy na 3,755 o bobl eraill ledled Cymru sydd nawr yn llysgenhadon balch dros eu hardal. Gweler ynghlwm. Swydd Fewnol Hyfforddiant a Digwyddiadau Mae’r Gymdeithas Mamaliaid yn cynnig swydd fewnol ran-amser am dâl am 9 mis i rywun yn dechrau ar yrfa neu fyfyriwr rhan-amser 18-24 oed o gefndir ethnig lleiafrifol sydd am gael profiad mewn elusen gadwraeth fach. Dyddiad cau: Dydd Sul 30 Mehefin. | JOB VACANCIES AND VOLUNTEERING Support and enhance the network of voluntary bat groups in Wales; combining excellent project planning and organisation skills with your knowledge of bats and their conservation. Closing date: Wednesday 12th June. This is an administrative and public facing role, working in a busy visitor centre and office environment with a wide range of people. Closing date: Monday 17th June. RSK are advertising this hybrid home and office-based position. One of their main offices is located in Aberystwyth. Natural Resources Wales have a range of opportunities to enable you to promote the sustainable management, benefits and value of natural resources and ecosystems. As a WaterAid Speaker you will deliver at least four talks or workshops a year, either online and/or face to face. Citizen Zoo Non-Executive Director Become a non-executive Director at Citizen Zoo who are looking for someone who is passionate about nature and rewilding. Become a Ceredigion Ambassador A free, online course to find out more about how to join over 3,755 others across Wales who are now proud Ambassadors for their area. See attached. Training and Events Internship The Mammal Society is offering a paid 9-month part-time internship for a career starter or part-time student aged 18-24 from a minority ethnic background looking to gain experience in a small conservation charity. Closing date: Sunday 30th June. |
CYFRYNGAU Cysylltiad: Fideo Dogfennol am Natur a Phobl Fideo byr yw hwn am natur a phobl sy’n archwilio straeon o Gymru am Obaith, Natur a Chysylltiad. Fideo am Brosiect Pyped y Gylfinir Drwy ddefnyddio pypedau, nod Nico Venables yw addysgu plant am natur ac ysgogi eu diddordeb mewn cadwraeth. Mae difodiant y GyIfinir yng Nghymru yn rym sy’n gyrru ei waith ymlaen. Safleoedd Natura 2000 Britheg y Gors Gwyliwch y ffilm fer hon i ddysgu am raglen LIFE Natura 2000, sydd wedi cynhyrchu cynlluniau manwl ar gyfer pobl safle Natura 2000 ar gyfer Britheg y Gors yng Nghymru.. Fideo am Fyd Rhyfeddol Cen y Goedwig Archwilio fforest law dymherus yn Dartmoor lle mae’r coetir hynafol, glaw trwm ac awyr lân yn rhoi’r amodau perffaith ar gyfer amrywiaeth ryfeddol o gen a bryoffydau. | Cysylltiad: Welsh Human-Nature Documentary This is a short nature-documentary exploring Welsh stories of Hope, Nature and Connection. Curlew Marionette Project Video Through puppetry, Nico Venables aims to educate children about nature and spark their interest in conservation. The looming extinction of Curlew in Wales serves as a driving force behind his work. Marsh Fritillary Natura 2000 Sites Watch this short film to learn about The LIFE Natura 2000 programme which has produced costed action plans for every Marsh Fritillary Natura 2000 site in Wales. The Amazing World of Woodland Lichen Video Exploring a temperate rainforest on Dartmoor, where the ancient woodland, high rainfall and clean air provide the perfect conditions for an incredible array of lichen and bryophytes. |
CEGIN NATUR Medd Dant y Llew a Ffynidwydd Douglas Dysgu sut i wneud Medd o Ddant y Llew a Ffynidwydd Douglas gyda’r fideo defnyddiol hwn. Diod ysgafn befriog sy’n wych i rywun sy’n dechrau gwneud cwrw cartref. Mae’r liqueur melys hwn a’i flas cnau ar sail gin yn barod i’w yfed dair wythnos ar ôl ei baratoi. Ketchup Draenen Ddu Darllenwch am fanteision y Ddraenen Ddu, gan gynnwys rysáit i wneud Ketchup Draenen Ddu. | Dandelion and Douglas Fir Mead Learn how to make Dandelion and Douglas Fir Mead using this informative video. A light and fizzy tipple that is a great start for any budding home-brewer. This sweet, nutty, gin-based liqueur can be drunk just three weeks after preparation. Read about the benefits of the Hawthorn tree, including a recipe for Hawthorn Ketchup. |
NEWYDDION Newyddion Partneriaeth Fwyd Leol Ceredigion Dyma wybodaeth am y grŵp hwn, newyddion, canlyniadau eu harolwg a’r heriau maent wedi eu hwynebu. Gardd Fioamrywiol yn Ennill Medal Aur Mae’r ardd a gredir y fwyaf bioamrywiol yn Sioe Flodau Chelsea wedi creu hanes drwy ennill y fedal aur arobryn. Cyfarfodydd Maes Cymdeithas Fotanegol Aberystwyth Darllenwch y cylchlythyr hwn gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru i gael dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd. Mae holl lywodraethau’r Deyrnas Gyfunol wedi gwahardd cyflenwi a gwerthu ‘wetwipes’ untro sy’n cynnwys plastig. Mae’r Tîm yng Nghefn Garthenor wedi bod wrthi’n ddyfal ac mae ganddynt newyddion cyffrous am yr ailgyflwyno. Gadewch i’ch Gardd Dyfu – Pilipala Mae astudiaeth yn rhoi’r dystiolaeth wyddonol gyntaf fod cael porfa dal yn eich gardd yn cynyddu nifer ac amrywiaeth pilipalaod | Ceredigion Local Food Partnership News Please find attached information on this group, news, the results of their survey and the challenges they have faced. A garden thought to be the most biodiverse entry in the Chelsea Flower Show's history has been awarded a coveted gold medal. Aberystwyth Botanical Society Field Meetings See this newsletter from The Wildlife Trust of South and West Wales for meeting dates and locations. All governments across the UK have banned the supply and sale of single-use wet wipes containing plastic. The Team at Cefn Garthenor have been beavering away and have some exciting news on a re-introduction. Let Your Garden Grow – Butterflies A study provides the first scientific evidence that having long grass in your garden increases butterfly abundance and diversity. |
AROLYGON, ADRODDIAD AC YMGYNGHORI Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg hwn ar-lein i archwilio ymwybyddiaeth, gwybodaeth ac agweddau at ailgyflwyno’r Eryr Tinwyn yn aber Afon Hafren yng Nghymru. Llenwch yr arolwg dwy-funud hwn i weld a yw eich darn tir chi yn helpu bywyd gwyllt. Gallwch helpu sefydlu a yw ceirw ifanc yn y DG yn cael eu geni ynghynt ynte’n ddiweddarach yn y flwyddyn nag a ddisgwylid. Casglu recordiadau awdio a sylwi ar bryfed er mwyn deall yn well sut mae sŵn ffyrdd yn effeithio ar bryfed. Arolwg o Agweddau’r Cyhoedd at Fannau Glas a Morloi Gwyllt Helpu casglu data ar gyfer gradd meistr gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Hull drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Gweler ynghlwm am wybodaeth sut i gymryd rhan. Hwn yw 29fed adroddiad blynyddol yr Arolwg o Adar Magu a’r Arolwg o Adar Magu Dyfrffyrdd, sy’n dogfennu tueddiadau poblogaethau o adar ledled y DG yn ystod y cyfnodau 1994–2023 ac 1998–2023 yn y drefn honno. Ymgynghori am Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar bobl sydd â diddordeb yn iechyd amgylchedd dŵr Cymru i gymryd rhan yn y cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau am gynlluniau’r dyfodol i ddiogelu a gwella ansawdd dŵr ledled Cymru. | SURVEYS, REPORT AND CONSULTATION Take part in this online survey exploring the awareness, knowledge and attitudes of White-tailed Eagle reintroduction to the Severn Estuary in Wales. Take this two-minute survey to find out how your patch shapes up for wildlife. Help establish if baby deer in the UK are being born earlier or later in the year than expected. Collect audio recordings and insect observations to better understand how road noise affects insects. Public Attitudes on Blue Spaces and Wild Seals Survey Helping to collect data for a student’s master’s degree at the University of Hull by participating in this survey. See attached for information on how to take part. This is the 29th annual report of the Breeding Bird Survey and Waterways Breeding Bird Survey, documenting the population trends of widespread UK breeding bird species during the periods 1994–2023 and 1998–2023 respectively. River Basin Management Plans Consultation Natural Resources Wales is calling for people with an interest in the health of Wales’s water environment to participate in the first of a series of consultations about future plans to protect and improve water quality across Wales. |
FFERMIO Gwyliwch y fideo hwn i weld sut gallwn ni helpu ffermwyr i rag-weld y tywydd a ffermio’n fwy cynaliadwy. Ffilm a blog sy’n tynnu sylw ar bwysigrwydd llunio polisi wedi ei seilio ar brofiadau a gwybodaeth ffermwyr eu hunain. Mae ffermio yn cysylltu â'r pethau sy’n bwysig i bobl. Ar yr un pryd, mae ffermio yn y DG ar groesffordd – a bwyd iach a dyfodol ffermio yn y fantol. Mae’r gyfres hon yn gofyn i ffermwyr beth yn wir yw eu barn. Mae Nature Friendly Farming Network wedi rhyddhau fideo sy’n datgelu eu maniffesto ar gyfer Llywodraeth nesaf y DG. Mae’r erthygl hon yn ystyried yr heriau anferth i bob ffermwr wrth geisio dibynnu llai ar blastig. Mae’n cynnig rhai enghreifftiau addawol o ddewisiadau eraill sy’n effeithiol iawn. Mae Tesco a NatWest wedi lansio cynllun cyllid newydd cynaliadwy ar sail hinsawdd ar gyfer 1,500 o ffermwyr yr adwerthwr, gan gynnig cyfraddau cyllid ffafriol iddynt i’w helpu i newid i ddulliau ffermio cynaliadwy. | Watch this video to find out how we can help farmers predict the weather and farm more sustainably. A film and blog that highlight the importance of policymaking grounded in the experiences and knowledge of farmers themselves. Farming connects to the things people care about. At the same time, farming in the UK is at a crossroads – with a healthy food and farming future in the balance. This series asks farmers what they really think. The Nature Friendly Farming Network have released a video unveiling their manifesto for the next UK Government. This article considers the huge challenges for all farmers when it comes to reducing their reliance on plastics, while offering some promising examples of highly effective alternatives. Tesco and NatWest have launched a new incentivised climate and sustainable finance scheme for 1,500 of the retailer’s farmers, providing them with preferential rates on finance to help them switch to sustainable farming methods. |
CYLLIDO Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth Grŵp yw hwn o fwy na 70 o bobl frwd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r holl aelodau’n talu ffi tanysgrifio blynyddol. Mae mwyafrif eu teithiau’n golygu benthyca bws mini. Erbyn hyn mae’r grŵp yn gweld nad yw eu tanysgrifiadau rheolaidd yn ddigon i dalu eu costau teithio, ac o’r herwydd maent yn bwriadu gofyn i bobl gyfrannu £500 ychwanegol tuag at y £1500 angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn. Gweler ynghlwm. Ydy cyllid eich elusen chi wedi ei gwtogi a chithau’n dal i wynebu cynnydd yn y galw am wasanaethau? Mae’r canllaw hwn yn darparu cynllun ymarferol 10 pwynt i gefnogi arweinwyr elusennau ar unwaith wrth ymladd yr argyfwng ariannol hwn. Cyllid gan Ymddiriedolaeth Naturesave Cyllid ar gyfer prosiectau bach i elusennau, mentrau cymdeithasol a chyrff cymunedol llawr gwlad sydd â’u gweithgareddau yn y DG. Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol Cyllid ar gyfer prosiectau treftadaeth o £10,000 hyd at £10miliwn. Cymorth ariannol ar gyfer prosiectau a fydd yn llesol i fioamrywiaeth ac yn ei gwella mewn safleoedd Dŵr Cymru neu gerllaw. Llwyfan chwilio am gyllid wedi ei greu gan Cymorth Trydydd Sector Cymru. Gallwch ddefnyddio’r grantiau i’ch helpu i gynllunio a datblygu eich coetir newydd. Mae’r grantiau ar gael drwy'r flwyddyn. | Aberystwyth Conservation Volunteers This is a group of over 70 nature enthusiasts based at Aberystwyth University, with all of its members paying an annual subscription fee. Most of their trips involve borrowing a minibus. The group are finding that their regular subs are no longer covering their travel costs. Because of this, they're looking to crowdfund an extra £500 towards the £1500 they will need for the year. See attached. Has your charity funding been cut yet you are experiencing an increased demand for services? This guide provides a 10-point practical plan to immediately support charity leaders to fight this finance crisis. Funding for small projects for charities, social enterprises and grassroots community organisations whose activities are based within the UK. National Lottery Heritage Fund Funding for heritage projects from £10,000 up to £10million. Financial support to projects that will benefit and enhance biodiversity at or near Welsh Water sites. A funding search platform created by Third Sector Support Wales. You can use the grants to help you plan and develop your new woodland. The grants are available throughout the year. |
GWEITHGAREDDAU Stondin Syniadau Garddio Stondin o Wybodaeth a Syniadau am Arddio gyda phlanhigion ac egin blanhigion i’w rhoi am ddim ddydd Mercher 12 Mehefin 1am-1pm yn Neuadd y Dref, Aberteifi. Ymholiadau cardiganxr@protonmail.com neu 07787 197630. Sesiwn o ganu difyfyr i fynegi eich cariad a’ch diolch i bopeth byw sydd ar y ddaear am gynnal ein bywyd ni. Nos Wener 14 Mehefin 7 - 9pm yn Neuadd y Dref, Aberteifi. Prosiect creu stori am ddim yn Aberteifi i blant 7-12 oed ddydd Sadwrn 8 Mehefin a 15 Mehefin 11-2.30pm. Yn y diwrnod agored ddydd Sadwrn 22 Mehefin 1.30 a 3pm bydd y plant yn adrodd eu storiau. Os ydych yn byw yn Cross Inn neu'r ardal o gwmpas, beth am gystadlu yn un o’r categoriau yn y ddogfen sydd wedi’i chysylltu? Mae yna rubanau am bob dosbarth a thaleb garddio i bob ymgeisydd buddugol. Mae categori newydd hefyd nawr: Gardd Flaen/Tu Blaen Gorau (gan gynnwys potiau a basgedi crog). Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Sadwrn 15 Mehefin. Noson o fwyd, cerddoriaeth, haul a môr yn Aberystwyth nos Iau 20, Mehefin 6.30-10pm. £20 a’r £5 cyntaf o’ch taliad at brosiect bywyd gwyllt lleol o’ch dewis chi. Diwrnod Agored Gardd Goedwig Gymunedol Bydd Naturewise yn cynnal diwrnod agored Gardd Goedwig ddydd Sadwrn 22 Mehefin 1-6.30pm yn Aberteifi. Bydd storïau, sgyrsiau, gweithgareddau i blant a mwy. Gwinllan Llaethliw Cyfle i glywed am y datblygiadau yng Ngwinllan Llaethliw ddydd Mawrth 25 Mehefin 5.30pm ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – Campws Llambedr. Gweler ynghlwm. Clwb llyfrau rhithwir yw hwn lle gallwch siarad am lyfrau natur gyda phobl eraill sy’n caru natur. | Garden Ideas stall An Information and Garden Ideas stall with plant and seedling give-away on Wednesday 12th June 11am-1pm at Cardigan Guildhall. Enquiries cardiganxr@protonmail.com or 07787 197630. A session of improvised spontaneous singing to express our love and gratitude to all of life on earth for supporting our own lives. Friday 14th June 7 - 9pm at Cardigan Guildhall. A free story making project in Cardigan for children 7-12 years on Saturday June 8th and June 15th 11-2.30pm. At the Open Day on Saturday 22nd June 1.30 and 3pm the children will tell their stories. If you live in Cross Inn and the surrounding area then why not enter one of the categories listed in the attached document? There are rosettes for each class and a gardening voucher for each first place. Also added is a new category: Best Front Garden/Frontage (including pots and hanging baskets.) Closing date for entries Saturday 15th June. An evening of food, music, sunshine and sea in Aberystwyth on Thursday 20th June 6.30-10pm. £20 and the first £5 of your payment goes to a local wildlife project of your choosing. Community Forest Garden Open Day Naturewise will be holding a Forest Garden open day on Saturday 22nd June 1-6.30pm in Cardigan. There will be stories, talks, children’s activities and more. Llaethliw Vineyard An opportunity to hear about the developments at Llaethliw Vineyard on Tuesday 25th June 5.30pm at University of Wales Trinity Saint David – Lampeter Campus. See attached. This is a virtual book club where you can talk about nature books with other wildlife-lovers. |
DIGWYDDIADAU FFERM DENMARK Mae gan Fferm Denmark nifer o ddiwrnodau gwirfoddolwyr lle gallwch gwrdd â phobl o’r un duedd â chi, dysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd gwyllt.
Gweithdai Mae lleoedd ar gael o hyd ar y gweithdai hyn 11-2.30pm, sy’n rhad ac am ddim i wirfoddolwyr ac aelodau neu £25.
| Denmark Farm have a number of volunteer days where you can meet like-minded people, learn new skills and make a positive difference for wildlife.
Workshops There are still spaces available on these workshops 11-2.30pm, which are free to volunteers and members or £25.
|
CYSTADLAETHAU Cystadleuaeth i Adeiladwyr Biomau Anogwch eich disgyblion i greu Biom mewn Blwch fel dosbarth neu’n unigol gan ddefnyddio defnyddiau wedi eu hailgylchu i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Dyddiad cau: Dydd Gwener 21 Mehefin. Cymerwch ran yn hon am gyfle i ennill gwobrau garddio arbennig iawn. Cofrestrwch eich gwesty gwenyn gyda'r Buzz Club ac anfonwch ffoto unwaith y mis tan fis Medi am gyfle i ennill taleb gwerth £250. | Encourage your pupils to create a Biome in a Box as a class or individually using recycled and natural materials to enter this competition. Closing date: Friday 21st June. Enter this free prize draw to be in with the chance to win some amazing gardening prizes. Register your bee hotel with Buzz Club and send a photo once a month until September for a chance to win a £250 voucher prize draw. |
ADNODDAU Defnyddiwch y Canllawiau Garddio Bywyd Gwyllt misol hyn i drawsnewid eich lle yn hafan i fywyd gwyllt. Gwlyptiroedd Os nad ydych yn gwybod am yr Ymddiriedolaeth Adar Hela a Gwlyptiroedd, mae angen ichi wneud hynny nawr. Dechreuwch Yma Gallwch wneud eich gardd yn hafan i ddraenogod gyda'r canllaw defnyddiol hwn. Canllaw i’ch helpu i wybod am effaith amgylcheddol y bwyd môr rydych yn ei brynu. Mae hefyd yn rhoi dewisiadau cyfnewid cyfleus ar gyfer pysgod graddfa goch, er mwyn ichi allu dewis yn fwy cynaliadwy. Mae’r wefan Planhigion Fasgwlaidd yng Nghymru yn amlinellu planhigion y dewch ar eu traws mewn gwahanol gynefinoedd, ac mae adrannau ar gael hefyd am gadwraeth planhigion fasgwlaidd a’u cofnodi. Mae angen pryfed peillio i gynhyrchu cynhaeaf da. Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i weld faint y byddai eich cynhaeaf wedi ei gostio ichi ei brynu mewn archfarchnad, a pha gyfran o hynny sy’n ganlyniad uniongyrchol o beillio gan bryfed. | Use these monthly Wildlife Gardening Guides to transform your space into a haven for wildlife. Wetlands If you don’t know about the Wildfowl and Wetlands Trust yet, you need to, now. Start Here Make your garden a hedgehog haven with this useful guide. A guide to help you find out the environmental impact of the seafood you buy. It also provides handy swap options for red-rated fish, so you can make more sustainable choices. The Vascular Plants in Wales web page gives an outline of plants you will encounter in different habitats and sections covering vascular plant conservation and recording are also available. Pollinating insects are needed to produce a good harvest. Use this calculator to find out; how much your harvest would have cost you to buy in a supermarket, what proportion of that is directly a result of insect pollination. |
APAU NATUR Mae ap ar-lein technegol iawn yn debygol o drawsnewid y ffordd mae perchnogion tir, rheolwyr ac ecolegwyr ledled y DG yn gwneud arolygon o goetiroedd. Mae’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol wedi creu ap i’ch helpu i adnabod planhigion, cadw llygad ar y planhigion sydd gennych, a chael awgrymiadau a chymorth a chyngor. | A newly launched high-tech online application is set to transform the way landowners, managers and ecologists across the UK carry out woodland surveys. The Royal Horticultural Society have created an app to help you identify plants, keep track of the plants you have, receive tips and get help and advice. |
COED Mae Coed Cadw yn rhoi cannoedd o filoedd o goed am ddim i ysgolion a chymunedau+. Blog oddi wrth y Comisiwn Coedwigaeth ynglŷn ag asesu eich risg a'r hyn y gallwch ei wneud. Bydd y webinar hwn yn eich cyflwyno i rai o’r pethau mae angen inni feddwl amdanynt wrth gadw ein coed ifanc yn fyw ac yn ffynnu yn ystod misoedd anodd yr haf ddydd Mawrth 25 Mehefin 1-2.30pm. | Woodland Trust are giving away hundreds of thousands of trees to schools and communities. Blog from the Forestry Commission about assessing your risk and what you can do. This webinar will introduce you to some of the main things we need to think about when keeping our young trees alive and thriving over the difficult summer months on Tuesday 25th June 1-2.30pm. |
POBL A NATUR Bod yn Hwylusydd Lleol Ydych chi’n rhedeg grŵp cymunedol yn eich ardal? Byddai Buzz Club yn hoffi crynhoi grŵp o hwyluswyr lleol i hyrwyddo a darparu prosiectau i grwpiau yn eich ardal chi. Webinar hyfforddi fydd hwn am y ffordd i ddarparu’r prosiectau i’ch grwpiau a Phecynnau Prosiect. Cysylltwch â buzzclub@sussex.ac.uk Atebion ar Sail Natur ac Ymgysylltu – Webinar Mae’r recordiad hwn o webinar yn dangos i ymarferwyr sydd â diddordeb mewn adfer natur sut i ddarparu prosiectau mwy cydweithredol a chynhwysol ar gyfer buddiannau niferus, integredig i bobl, natur a’r hinsawdd. Cipolwg ar Wyddoniaeth y Bobol Darllenwch y blog hwn oddi wrth The Vincent Wildlife Trust am Wyddoniaeth y Bobl a’i fuddiannau Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud ei eithaf i wneud Cymru yn lle hardd i fyw? Tîm sydd wedi creu cymuned lanach a gwyrddach? Enwebwch nhw am Wobr Cadw Cymru’n Daclus. Dyddiad cau: Dydd Gwener 21 Mehefin. Mae’r podlediad hwn yn dathlu ac yn ymchwilio i’r ffyrdd niferus y gallwn weithio ar y cyd â natur yn ein gerddi | Become a Local Facilitator Do you run a community group in your area? Buzz Club would like to put together a group of local facilitators to promote and deliver projects to groups in your area. This will be a training webinar on how to deliver the projects to your groups and Project Packs. Please contact buzzclub@sussex.ac.uk Nature-based Solutions and Engagement – Webinar This webinar recording shows practitioners who are interested in nature recovery how to deliver more collaborative and inclusive processes for multiple, integrated benefits for people, nature and climate. An Insight into Citizen Science Read this blog from The Vincent Wildlife Trust on Citizen Science and its benefits. Do you know someone who puts everything into making Wales a beautiful place to live? A team who has created a cleaner, greener community? Nominate them for a prestigious Tidy Wales Award. Closing date: Friday 21st June. This new podcast investigates and celebrates the many ways we can work in harmony with nature in our gardens. |
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk | Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk |