
Newyddion Natur Ceredigion
Fflach Newydd — dydd Gwener 6 Tachwedd 2026

Gweithgareddau
Dying and Rising
Dying and Rising gan Celyn o Went yn berfformiad clyweledol unigol byw sy'n cyfuno cerddoriaeth electronig, llais byw nefolaidd, elfennau gweledol sy'n ymateb i sain a monologau barddonol.
Mae Dying and Rising yn ymateb artistig brys i fyw trwy'r argyfwng hinsawdd ym Mhrydain yn yr 21ain ganrif. Dyma'r ddolen gyda gwybodaeth lawn a thocynnau:
aberystwythartscentre.co.uk/event/celyn-of-gwent-dying-and-rising/
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ddydd Gwener 6 Tachwedd 7.45pm
Diwrnod Natur Biosffer Dyfi
Gweithgareddau ymarferol: celf, natur a theithiau cerdded. Byddwn yn creu 'adar lwcus' a llyfrynnau bioamrywiaeth, yn archwilio'r gerddi ac yn trafod bywyd gwyllt dros baned.
Y Plas, Machynlleth, dydd Sadwrn 7 Tachwedd, 12 - 3pm
Digwyddiad rhannu sgiliau Dysgu yn yr Awyr Agored Ceredigion
Os ydych chi'n ymarferydd Dysgu yn yr Awyr Agored sy'n gweithio yn yr awyr agored yng Ngheredigion, dewch draw i'r digwyddiad rhannu sgiliau hwn.
Taith o’r safle, rhannu rhai o'n hoff gemau (dewch ag un neu ddwy i'w rhannu) ac yna sgwrs a phaned (a chacen) wrth y tân - i gyd yn anffurfiol iawn ac yn gyfle da i ddal i fyny â'n gilydd ac efallai cwrdd â rhywun newydd hyd yn oed!
Cofiwch gadw lle cyn gynted â phosibl os ydych chi'n meddwl am ddod.
Glaspwll ddydd Llun 9 Tachwedd 1-3pm.
Sgyrsiau Bywyd Gwyllt
Gwylio a Modrwyo Adar yng Ngorllewin Cymru
Sgwrs ddarluniadol sy'n archwilio'r safleoedd gwylio adar gorau yng Ngorllewin Cymru, yr hyn y gallech ei weld a modrwyo adar. £3, gan gynnwys te, coffi a bisgedi.
Y Stiwdios, Theatr Mwldan, Aberteifi. Dydd Mercher 11 Tachwedd 7.15pm.
Lluniau




Fiona Moran
Cynorthwyydd Bioamrywiaeth / Biodiversity Assistant
Partneriaeth Natur Ceredigion
Ceredigion Nature Partnership
Ar ran y tîm cyfan / On behalf of the whole team
You just read issue #203 of Newyddion Natur Ceredigion News. You can also browse the full archives of this newsletter.