Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
6 February 2026

Newyddion Natur Ceredigion 06.02.26 MARY

Newyddion Natur Ceredigion

Cylchlythyr Natur Ceredigion

Fe sylwch fod y Cylchlythyr y mis hwn yn cael ei anfon fel dwy neges e-bost ar wahân, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’n well gennym bob amser osod y ddwy iaith ochr yn ochr er mwyn rhoi cyfle i bobl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg ddysgu ac adnabod geiriau’n ymwneud â natur.
Yn anffodus, mae problemau fformadu yn gwneud y cylchlythyr yn gul ar yr ochr dde. Yr unig ffordd i osgoi hyn yw newid y testun Cymraeg i fod yn fyrrach, a dydyn ni ddim yn barod i wneud hynny oherwydd byddai’n mynd yn groes i’n polisi o beidio â rhoi blaenoriaeth i’r naill iaith na’r llall.

Rydym yn ymddiheuro tra byddwn yn ymdrechu i gynhyrchu cylchlythyr sy’n hawdd ac yn hwylus i bawb ei ddarllen.

Gŵyl Natur Ceredigion

Mae Partneriaeth Natur Leol Ceredigion yn cynnal gŵyl natur yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Rydym yn chwilio am unigolion, grwpiau a sefydliadau brwdfrydig a fyddai’n hoffi cael stondin yn y digwyddiad. Oes gennych chi rywbeth i’w ddangos, neges i’w chyhoeddi, gweithgaredd yr hoffech ei rannu neu rywbeth i’w werthu? Cysylltwch ar biodiversity@ceredigion.gov.uk

Gwylio’r Gwyllt yng Ngorllewin Cymru - Chwefror.

Sesiynau recordio bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Addas i bawb a’r holl adnoddau’n cael eu darparu. Gweler ynghlwm.

  • Hyb Natur Ynys-las – Dydd Mercher 18 11:30am-2:30pm.

  • Cwmtydu - Dydd Sadwrn 21 10-1pm.

  • Llanilar- Dydd Sadwrn 28 10-1pm.

GWEITHGAREDDAU

Bioamrywiaeth: Clwb Ieuenctid Coetiroedd

Clwb ar ôl yr ysgol sy’n darparu lle diogel, cyfeillgar a llawn hwyl i blant 8-13 oed gyda bioamrywiaeth.

Fforwm Ymgynghorwyr

Clywed am waith yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod a chymryd rhan mewn trafodaethau deinamig am bynciau’r dydd sy’n codi mewn gwaith ymgynghorol ecolegol ar gyfer ystlumod. Dydd Mawrth 10 Chwefror 10am – 12.30pm.

Cerdded, Coffi a Chlonc

Dysgu Cymraeg? Ewch i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru i ymarfer a dysgu am fyd natur yn y warchodfa natur. Ymunwch am daith gerdded neu baned neu'r ddau. Dydd Gwener 13 Chwefror 11am-12.30pm.

Hwb Cymenedol Borth

Beth sy'n digwydd: Dydd Llun 16 Chwefror - Dydd Sadwrn 21 Chwefror? Gweler ynghlwm.

Saffari’r Glannau

Archwilio pyllau’r creigiau a chwilio am grancod, pysgod, pysgod anemoni, malwod môr a mwy. Dydd Iau 19 Chwefror 2.30pm-4pm = £5.

Gwylio Adar a Gwneud Bwydwr Adar

Gwylio ac adnabod adar sy’n dod at y bwydwr adar yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru, wedyn dod i mewn i greu bwydwr adar syml i fynd adre gyda chi. Dydd Iau 19 Chwefror 11.30am-12.30pm.

Creu Blwch Adar

Ewch i RSPB Ynys-hir i greu eich blwch adar eich hun. Bydd y staff yn darparu’r defnyddiau, a gallwch greu’r blwch gyda’u cymorth nhw. Dydd Sadwrn 21 Chwefror 1.30 – 2.30pm = £11.

Diwrnod Rhwydweithio Coed Cymunedol

Dysgu sut i roi hwb i’ch busnes a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac ati. Yn y Ganolfan Technoleg Amgen ddydd Mawrth 24 Chwefror 10.30-3pm.

Rhedeg ym mis Chwefror

Dechrau her newydd i godi arian drwy redeg 47 milltir yn ystod mis Chwefror gan godi arian hanfodol i arbed y moroedd.

Her Gardd Draenogod

Ymunwch â’r her i weld a yw eich gardd chi yn llwyddo.

PERFFORMIADAU GYDA NATUR

Yn ôl i’r Coed

Dathlu’r baw, yr ystlumod, y pydredd a’r tywyllwch rydyn ni’n draddodiadol yn eu hofni mewn noson o ffilm a cherddoriaeth. Nos Wener 13 Chwefror 6.8pm. Theatr Byd Bach, Aberteifi = £3.

PERFFORMIADAU NATUR

Derwen Hynafol Baldor

Profiad i’r synhwyrau ar gyfer cynulleidfaoedd sydd ag anableddau’r synhwyrau dwys a niferus a’u cymdeithion. Dydd Llun 16 - dydd Mawrth 17 Mawrth, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth = £10.

Côr Teifi – Requiem for the Living

Cyngerdd ar gyfer ein hoes gythryblus a Rhannu’r Ddaear yn Rhosygilwen, Sir Benfro. Nos Sadwrn 7 Mawrth 7.30-10pm = £15

CYRSIAU

Cwrs Tocio Gaeaf

Dysgu tocio planhigion yn y gaeaf yn eich gardd, gan gynnwys coed ffrwythau ym Mhont Tyweli. Dydd Gwener 20 Chwefror. Dydd Gwener 20 Chwefror 10.30am-2.30pm = £20. Rhaid trefnu ymlaen llaw.

Cyrsiau yn Fferm Demark

  • Cerfio Llwyau - Popeth y mae angen ichi ei wybod a’i wneud i greu llwy bren ddefnyddiol ond hardd i fynd adre gyda chi. Dydd Sadwrn 28 Chwefror 10:30am-3:00 pm.

  • Gweithdy Creu Pwrs Lledr ar gyfer Taniwr a Golosged - Treulio’r dydd yn cerfio eich pwrs lledr eich hun i gadw taniwr a golosged. Dydd Sul 1 Mawrth 10:30am-3:00 pm.

Cyrsiau’r Cyngor Astudiaethau Maes

  • Darganfod Chwilod

  • Cyflwyno Teulu’r Carlwm

  • Darganfod Adar Môr

  • Darganfod Llwybrau ac Arwyddion

BLOG

Blog Ysgol Plas-crug

Blog yn rhoi manylion am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud dros natur a phobl gan Ysgol Plasg—crug, a’r ffordd maent wedi defnyddio’r Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i gyrraedd eu nod.

AROLYGON A GWYDDONIAETH Y BOBL

Arolwg o Godi Arian

Helpu Naturesave Trust i baratoi adroddiad am yr heriau sy’n wynebu grwpiau amgylcheddol a chymunedol bach heddiw.

Baw Anifeiliaid Anwes

Mae Buzz Club yn gofyn ichi gofrestru eich chi fel gwyddonydd y bobl a chofnodi ei faw wrth i’r baw bydru, i weld sut mae hyn yn cysylltu â thriniaethau lladd pryfed. Bydd llawer o hwyl ar hyd y daith, gan gynnwys cystadleuaeth tynnu llun ‘Cŵn fel Gwyddonwyr’.

WEBINARAU

Botaneg i Syrfewyr

Gweld sut i adnabod 70 o blanhigion mae gwir angen ichi eu hadnabod ar gyfer arolygon botanegol. Dydd Iau 26 Chwefror 9am-4pm = O £105.

GWYLYPTIROEDD

Hwb i’r Afanc

Mae gwlyptiroedd wedi eu creu er mwyn yr afanc yn cynyddu nifer y peillwyr, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Cynllun Gweithredu ar Fawndir Cymru

Menter bwysig i adfer mawndiroedd a chydlynu’r gweithredu - mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth ynghyd â gwella iechyd y cynefinoedd hyn.

ADNODDAU

Busnes Gwyrdd

Gallwch gael hyd at 4 awr o gymorth am ddim gan ymgynghorydd i helpu eich busnes i gael effaith amgylcheddol a chymdeithasol gadarnhaol, a chefnogi’r newid i economi carbon isel.

Calendr Awgrymiadau Eco 2026

Syniadau ffres bob mis i helpu meithrin ymrwymiad parhaus i ffordd o fyw sy’n fwy gwyrdd.

Pecyn Gwyrddio Trefol

Pecyn cymorth i awdurdodau lleol, cynghorwyr ac arweinwyr cymunedau.

Planhigion i Beillwyr

Dysgu popeth am y planhigion sydd orau i beillwyr.

CYLLID

Cronfa Gymunedol Aberteifi

Gall grwpiau cymunedol, elusennau a chyrff nad ydynt yn gwneud elw wneud cais am £250–£5,000 i gefnogi prosiectau sydd o les i’r ardal leol. Dyddiad cau: Dydd Sadwrn 28 Chwefror.

Grantiau’r Iaith Gymraeg

Mae hyd at £5,000 ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol newydd neu anffurfiol yng Ngheredigion sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Grant Profiadau’r Awyr Agored

Grantiau hyd at £500 ar gyfer gweithgareddau a phrofiadau yn y Deyrnas Gyfunol.

Cynllun y Môr a Physgodfeydd

Mae cyllid hyd at £1.85m gan Lywodraeth Cymru ar gael nawr i roi hwb i’r diwydiant môr, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru.

ASESIADAU

Rhywogaethau a Chynefinoedd Cymru - Asesiad Newydd

Mae adroddiad diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi dealltwriaeth lawer gwell o gyflwr gwael yr amgylchedd naturiol yng Nghymru, gan gynnwys ein hafonydd.

Asesiad Diogelwch Natur

Mae’r asesiad strategol hwn yn archwilio’r ffordd y gallai colli bioamrywiaeth ledled y byd a dirywiad ecosystemau hollbwysig effeithio ar wytnwch, diogelwch a ffyniant y Deyrnas Gyfunol.

YMGYNGHORI

Ymgynghori ar Ddiwygio’r Sector Dŵr

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar ddiwygio’r sector dŵr yng Nghymru. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 7 Ebrill.

Pont Droed Plas-crug

Cynigion ar gyfer pont i groesi’r rheilffordd ym Mhlas-crug. Aberystwyth. Dyddiad cau: Dydd Mercher 25 Chwefror.

Llandysul

Cartref gofal Awel Deg a chaeau chwarae’r hen ysgol.

COED

Cynllun Mentora CTNC

Mae’r Cynllun Meithrin Coed Cymunedol wedi’i lunio i hyrwyddo cydweithredu a chefnogaeth o fewn y sector drwy gysylltu meithrinfeydd ar wahanol lefelau o brofiad.

Wythnos Hoffi Coed Yw

Pobl sy’n gwarchod coed yw hynafol a hen yn edrych ar y tir dan eu coed yw. Dydd Llun 9 - dydd Sul 15 Chwefror.

SWYDDI A GWIRFODDOLI

Cyfarwyddwr Gwirfoddol

Mae Plentyn y Ddaear yn recriwtio ar gyfer Cyfarwyddwr Gwirfoddol newydd i helpu llunio a thyfu’r cwmni. Cysylltwch drwy’r ddolen.

Swyddi Cyfoeth Naturiol Cymru

Arweinydd Trwyddedu Morol – Dyddiad cau: Dydd Llun 9 Chwefor.
Swyddog Caniatau Rhywogaethau – Dyddiad cau: Dydd Sul 1 Mawrth.

Arweinydd Ymgyrchu

Plantlife. Dyddiad cau: Dydd Iau 19 Chwefror.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Gwylio Gwyllt Gorllewin Cymru_Dyddiad_Chwefror.pdf
Download
YsgolPlascrug_CY.pdf
Download
Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
Share this email:
Share on Facebook Share via email Share on Mastodon Share on Bluesky
https://naturce...
Facebook
https://pixelfe...
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.