Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
September 5, 2025

Newyddion Natur Ceredigion 05.09.25

Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsflash

Ein Cartref, Ein Cynefin

Lleoedd Lleol i Natur Cynllun Grantiau 25/26

Mae gan Bartneriaeth Natur Ceredigion £100,000 o gyllid ar gyfer prosiectau er mwyn creu, adfer neu wella asedau naturiol, a hefyd i gyflwyno natur i bobl ar garreg eu drws, lle maent yn byw, yn gweithio ac yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus.
Ariennir y cynllun gan gronfa Llywodraeth Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Pecyn cais yn bioamrywiaeth@ceredigion.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Gwener, 19 Medi am 12 canol dydd.

Ein Cartref, Ein Cynefin

Local Places for Nature Grants Scheme 25/26

Ceredigion Nature Partnership has £100,000 funding for projects to create, restore or enhance natural assets and to deliver nature on your doorstep where people live, work and access public services.
The scheme is funded by the Welsh Government’s Local Places for Nature fund.
Request an application pack at biodiversity@ceredigion.gov.uk
Closing date for applications: Friday 19th Sept 12noon.

EICH NEWYDDION A’CH STRAEON

CELF: stori am Afon Dyfi

Bydd Naomi Heath, Swyddog Ymgysylltu y prosiect Tir Canol, yn disgrifio sut bu’n gweithio gyda thri artist preswyl i roi golwg newydd ar waith amgylcheddol o gwmpas Afon Dyfi.

Buzz Club

Cylchlythyr yr haf

YOUR NEWS AND STORIES

CELF: a story of the Dyfi

Naomi Heath, Engagement Officer on the Tir Canol project, describes how she worked with three resident artists to bring a new angle to environmental work around the Dyfi.

Buzz Club

Summer newsletter

GWEITHGAREDDDAUS

Sgwrs am Fywyd Gwyllt Cymru

Sgwrs gan Rob Parry am y gwaith mae’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn ei wneud er mwyn bywyd gwyllt ar gyfer pobl Cymru. Nos Fercher 10 Medi 7.30pm yn Aberteifi = £3. Gweler ynghlwm.

Saffari’r Glannau

Ail-fyw eich hwyl ar lan y môr ac ailgysylltu â’r glannau ar sesiwn Saffari’r Glannau i oedolion yn unig (18+) ar draeth Cei Bach nos Wener 12 Medi 6.30-8pm = £4.

Diwrnod Agored yr Hydref

Straeon, sgyrsiau, gweithgareddau i blant a mwy yng Ngardd Goedwig Naturewise Dydd Sadwrn 20 Medi 1-6pm. Gweler ynghlwm.

Gŵyl Gerdded

Ail ŵyl gerdded flynyddol ddydd Sadwrn 20 a dydd Sul 21 Medi gan orffen mewn taith dywys at y Pererin.

Digwyddiadau oddi wrth Kara Moses

Gweler ynghlwm am holl fanylion yr eitemau cyffrous hyn.

  • Cwrs Fforio ar y Glannau -dydd Mercher 24 Medi 10am-4pm.

  • Gweithdy Dilyn Bywyd Gwyllt - Dydd Sadwrn 11 Hydref / dydd Sadwrn 29 Tachwedd.

  • Cwrs 6 wythnos ar-lein ar Ddilyn Bywyd Gwyllt. Dechrau nos Iau 23 Hydref 6-7.30pm. Sesiwn Flasu AM DDIM ddydd Iau 9 Hydref.

Taith Gymunedol

Ymunwch â’r daith hon i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Iau 25 Medi a’r bws yn codi o Synod am 9am. I gadw’ch lle cysylltwch â Sharon = £8.20.

Gweithdy Seianoteip Botanegol

Datblygu eich “print haul” eich hun gan ddefnyddio planhigion a defnyddiau yn Aberystwyth. Dydd Sul 27 Medi.

Diwrnod yr Amgylchedd

Taith o gwmpas gwaith trin dŵr gwastraff Llanina. Dydd Mercher 17 Medi 10am-12 canol dydd/

1-3pm. Gweler ynghlwm.

Lles i’r Iechyd yn y gwyllt

Meithrin eich meddwl, eich corff a’ch enaid ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

ACTIVITIES

Welsh Wildlife Talk

A talk by Rob Parry about the work the Wildlife Trust does to benefit wildlife for the people of Wales. Wednesday 10th September 7.30pm in Cardigan = £3. See attached.

Seashore Safari

Relive your seaside adventures and reconnect with the shore in this adults only (18+) Seashore Safari session at Cei Bach Beach on Friday 12th September 6.30-8pm = £4.

Autumn Open Day

Stories, talks, kids’ activities and more at Naturewise Community Forest Garden Saturday 20th September 1-6pm. See attached.

Walking Festival

Second annual walking festival on Saturday 20th and Sunday 21st September, culminating in a guided walk up to the Pilgrim.

Events from Kara Moses

See attached for full details of these exciting items.

  • Coastal Foraging Course - Wednesday 24th September 10am-4pm.

  • Wildlife Tracking Workshop - Saturday 11th October / Saturday 29th November.

  • 6-week Wildlife Tracking Course Online. Starting Thursday 23rd October 6-7.30pm. FREE taster session Thursday 9th October.

Community Trip

Join this trip to the National Botanical Garden of Wales on Thursday 25th September with bus pick up from Synod Inn at 9am. To book your space contact Sharon = £8.20.

Botanical Cyanotype Workshop

Develop your own “sunprint” using plants and fabric in Aberystwyth. Sunday 27th September.

Environment Day

Behind the scenes tour of Llanina Wastewater treatment works. Wednesday 17th September 10am-12noon/ 1-3pm. See attached.

Wild Wellness

Nourish your mind, body and soul along the Wales Coast Path.

WEBINARAU

Syrthio Drwy’r Tyllau - Webinar

Prosiect Ymchwil MSc yn ymchwilio i ansawdd data cofnodion Prydain o greaduriaid di-asgwrn-cefn ar iNaturalist. Dydd Mawrth 16 Medi.

Rhestr o Goed Hynafol (ATI)

Dysgu sut i gofnodi Coed Hynafol, Hen a Nodedig ar yr ATI. Dydd Mercher 17 Medi 10am-3.30pm.

Fforio am Liwiau

Siarad am y lliwiau sylfaenol o’n cwmpas gan nodi rhywogaethau i’w bwyta. Moddion traddodiadol gwyllt o erddi i goedlannau. Nos Fawrth 23 Medi 6-7pm.

Chwilio am Was y Neidr

Offer, awgrymiadau a thechnegau ar gyfer pob lefel. Nos Fawrth 23 Medi 6.30-8pm: £12.50.

Bioleg Ryfeddol Bdelloid Rotifers

Golwg ar atgynhyrchu, afiechydon a gwrthfiotigau ymhlith yr anifeiliaid meicrosgopaidd hyn. Dydd Mawrth 23 Medi 1-2pm.

Diogelu Morwellt

Dysgu sut mae diogelu morwellt yn chwarae rhan hanfodol yn cynnal iechyd y blaned. Nos Fawrth 30 Medi 7-8pm.

WEBINARS

Falling through the Cracks - Webinar

MSc Research Project investigating the data quality of UK invertebrate records on iNaturalist. Tuesday 16th September.

Ancient Tree Inventory (ATI)

Learn how to record Ancient, Veteran and Notable Trees on the ATI. Wednesday 17th September 10am-3.30pm.

Forage for Colours

Talk about the basic colours around us identifying edible species. Wild remedies from garden to woodland. Tuesday 23rd September 6-7pm.

Surveying For Dragonflies

Tools, tips, and techniques for all skill levels. Tuesday 23rd September 6.30-8pm: £12.50.

Bizarre Biology of Bdelloid Rotifers

Insights on reproduction, disease and antibiotics from these microscopic animals. Tuesday 23rd September 1-2pm.

Seagrass Conservation

Learn how Seagrass conservation plays a critical role in maintaining planetary health. Tuesday 30th September 7-8pm.

CYRSIAU

Cyrsiau Dysgu Gydol Oes

Mae’r rhaglen newydd o gyrsiau yn dechrau ym Medi/Hydref nawr ar gael ar-lein. Gweler ynghlwm.

Darganfod Ecoleg y Môr

Cwrs ar lefel dechreuwyr wedi ei lunio’n ofalus i roi gwybodaeth sylfaenol ichi am ecoleg y môr. Ar ddydd Mercher 17 Medi - 29 Hydref = £40.

Cwrs Arolygu ac Archwilio Coed

Cwrs undydd sylfaenol i roi ichi’r wybodaeth i allu adnabod peryglon posibl. Dydd Llun 29 Medi 9am-4.30pm = £285.

COURSES

Lifelong Learning Courses

The new programme of courses starting in September / October is now available online. See attached.

Discovering Marine Ecology

Beginner-level course, which has been carefully designed to provide you with a grounding knowledge in marine ecology. Wednesdays 17th September – 29 October = £40.

Tree Survey & Inspection Course

A basic one-day course to give you the knowledge to be able to identify potential hazards. Monday 29th September 9am-4.30pm = £285.

ARIANNU

Pecyn Perllan Gymunedol

Mae Cadw Cymru’n Daclus yn cynnig Pecynnau Perllannau Cymunedol AM DDIM i sefydliadau sy’n ystyried creu perllan gymunedol fach, lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd.

Arian ar gyfer Cadwraeth

Symposiwm rhithwir yn archwilio’r amrywiol ffrydiau incwm sydd ar gael. Dydd Mercher 17 Medi 10am-1pm.

Cymorth Ariannol ar gyfer Gwirfoddoli i Bobl Ifanc

Arian i bobl ifanc 14-25 oed yng Ngheredigion ar gyfer prosiectau sy’n cael eu creu a’u rhedeg ganddyn nhw. Dydd Llun 29 Medi.

Grant Pobl Ifanc

Ydych chi’n 14–25 oed a chennych syniad ar gyfer prosiect sy’n cefnogi pobl ifanc yng Ngheredigion ac yn hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith eich cyfoedion? Dyddiad cau: Dydd Mawrth 30 Medi.

FUNDING

Community Orchard Package

Keep Wales Tidy are offering FREE Community Orchard Packages for organisations who are looking to create a small community orchard, where people of all ages can come together.

Funding For Conservation

A virtual symposium exploring the diversification of income streams. Wednesday 17th September 10am-1pm.

Financial Support for Youth Volunteering

Funding for young people aged 14-25 in Ceredigion for projects created and run by them. Closing date: Monday 29th September.

Youth-Led Grant

Are you aged 14–25 and have an idea for a project that supports young people in Ceredigion and promotes volunteering to your peers? Closing date: Tuesday 30th September.

HADAU

Gweithdy ar Gadw Hadau Blodau

Dysgu sut i gadw hadau a bod yn gynhaliol ddydd Sadwrn 20 Medi 10am-12 canol dydd yn y Weirglodd Flodau ym Mhenrhiwpâl = £35.50.

Hadau Cymru ar gyfer Coed Cymru - Ar-lein

Dysgu am gofrestru clystyrau o goed, casglu hadau coed a sefydlu eich meithrinfeydd eich hunain i ddarparu coed ifanc ar gyfer prosiectau coed lleol. Dydd Llun 22 Medi 10-11.30am.

Cwrs Casglu Hadau

Sylfaen gynhwysfawr am egwyddorion a thechnegau ymarferol trin hadau. Dydd Mawrth 30 Medi 10-11.30am yn Llais y Goedwig.

Dosbarth Meistr ar Gasglu Hadau - Ar-lein

Sut i dyfu eich coed eich hun o had. Dydd Mercher 8 Hydref 1-2pm.

SEEDS

Flower Seed Saving Workshop

Learn to save seeds and grow resilience on Saturday 20th September 10am- 12noon at The Flower Meadow, Penrhiwpal = £35.50.

Welsh Seed for Welsh Trees - Online

Learn about registering tree seed clusters, collecting tree seeds and setting up your own tree nurseries to provide saplings for local tree planting projects. Monday 22nd September 10-11.30am.

Seed Collecting Course

A comprehensive foundation in the principles and practical techniques of seed handling. Tuesday 30th September 10-11.30am at Llais y Goedwig.

Seed Gathering Masterclass - Online

How to grow your own trees from seeds. Wednesday 8th October 1-2pm.

YR YSTLUM

Ystlumod a Gweithwyr Treftadaeth Proffesiynol

Cwrs ar-lein mewn dwy ran ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gydag adeiladau treftadaeth yn eu hadnewyddu, eu datblygu a’u cynnal. Dydd Mawrth 16 a 23 Medi 1-5pm = £105.

Arolwg o Ystlumod wrth iddi Nosi

Canllaw ar wneud eich arolwg eich hun a darganfod ystlumod a bywyd gwyllt yn eich ardal chi.

BATS

Bats for Heritage Professionals

Two-part online course designed for anyone working with heritage buildings and their renovation, development and maintenance. Tuesdays 16th and 23rd September 1-5pm = £105.

Bats Sunset Survey

Guidance on how to conduct your own survey and discover bats and wildlife in your area.

AROLYGON

Arolwg Green Me

Mae’r arolwg hwn yn archwilio effaith mannau gwyrdd ac amgylchedd naturiol ar iechyd meddwl. Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yn Sir Benfro neu Geredigion, llenwch yr arolwg byr am gyfle i ennill taleb gwerth £30.

Ffilmio Draenogod

Ydych chi ar hyn o bryd yn bwydo’ch draenogod lleol ac yn eu ffilmio? Llenwch eich arolygon ac anfonwch eich fideo i gyfrannu at eu diogelu.

Yr Arolwg Natur Mawr

Mae’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt am glywed eich barn am rai o’r cwestiynau mwyaf sy’n wynebu natur a’n swyddogaeth ni gyda’n gilydd yn gofalu amdani.

Arolwg Troseddau Cefn Gwlad

Mae Ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cynnal arolwg o Droseddau ar Ffermydd a Chefn Gwlad.

Arolwg o Reoli Coetiroedd

Byddai’r prosiect Woods for Tomorrow yn hoffi clywed pa gefnogaeth fyddai’n fuddiol i chi. Cysylltwch â mary@swog.org.uk

Arolwg o Adar y Gaeaf

Mae angen eich help i lenwi bylchau mewn data am boblogaethau adar y tu allan i’r tymor magu, gan ddechrau ym mis Medi.

SURVEYS

Green ME Survey

This project investigates the impact of green spaces and natural environments on mental wellbeing. If you are 18 years of age or older and reside in Pembrokeshire or Cardigan, fill out this short survey to be in with a chance of winning a £30 voucher.

Hogs on Film

Do you currently film and feed your local hedgehogs? Sign up and submit your surveys and video footage to contribute towards their conservation.

The Great Big Nature Survey

The Wildlife Trusts want to hear your opinions on some of the biggest questions surrounding nature and our collective role in caring for it.

Rural Crime Survey

Researchers from Aberystwyth University are conducting a survey into Farm and Rural Crime.

Woodland Management Survey

The Woods for Tomorrow Project would like to hear about what support you would find useful. Please contact mary@swog.org.uk

Winter Bird Survey

Your help is needed to fill data gaps for bird populations outside the breeding season starting in September.

LLYWODRAETH CYMRU

Cloddiau yng Nghymru

Mae adroddiad ar ddiogelu cloddiau yng Nghymru ac ymateb gan Lywodraeth Cymru i’w cael yma.

Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae manylion am ddatblygiad Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd i ddechrau yn 2026 wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

WELSH GOVERNMENT

Hedgerows in Wales

A report on the protection of hedgerows in Wales and a response from Welsh Government here.

Sustainable Farming Scheme

Details of the development of a new Sustainable Farming Scheme commencing in 2026 have been released by Welsh Government.

SWYDDI A GWIRFODDOLI

Cyfle i Wirfoddoli

Mae Hyb Cymunedol Borth yn gwahodd gwirfoddolwyr i’w Hyb Natur yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynys-las. Cysylltwch â volunteerwithus@borthcommunityhub.co.uk

Swyddog Polisi’r Môr

Arwain polisi ac ymgysylltu eiriolaeth yr Angling Trust â’r sector pysgota yng Nghymru. Dyddiad cau: Dydd Gwener 12 Medi.

Swyddi CNC

Swyddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Dyddiad cau**: dydd Sul 21 Medi**

  • Cynghorydd Adareg Arbenigol- Darparu cyngor arbenigol am adar tir.

  • Cynghorydd Rhywogaethau Arbenigol - Arwain ar ddatblygu arweiniad, cyfarpar ac arfer da ar gyfer rhywogaethau tir sy’n cael eu gwarchod.

Hyfforddwr Swyddi

Darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith am dâl, Lleoliadau Mewnol Gyrfa Werdd, a lleoliadau gwirfoddoli. Gweler ynghlwm.

Gweithiwr Cefn Gwlad

Darparu prosiectau cadwraeth, rheoli cynefinoedd a thirweddu.

JOBS AND VOLUNTEERING

Volunteer Opportunity

Borth Community Hub would like volunteers at their Nature Hub at Ynyslas Visitor Centre. Please contact volunteerwithus@borthcommunityhub.co.uk

Marine Policy Officer

Lead the Angling Trust’s policy and advocacy engagement with the recreational fishing sector in Wales. Closing date: Friday 12th September.

NRW Jobs

Jobs from Natural Resources Wales – Closing date**: Sunday 21st September**

  • Ornithology Specialist Advisor - Provide expert advice on terrestrial birds.

  • Species Specialist Advisor - Lead on the development of guidance, tools and best practice for approaches to terrestrial protected species.

Job Coach

Provide support to young people participating in paid work placements, Green Career Internships, and volunteering placements. See attached.

Countryside Operative

Deliver conservation, habitat management, and landscaping projects.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Wildlife Talk.pdf
Download
Courses.pdf
Download
Environment day poster_Llanina.pdf
Download
Kara Moses.pdf
Download
open Day Sep 20 poster.pdf
Download
Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
https://naturceredi… Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.