Newyddion Natur Ceredigion 04/09/26
Newyddion Natur Ceredigion 04/09/26
GWYLIO BYWYD GWYLLT GORLLEWIN CYMRU - Medi
Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod y bywyd gwyllt lleol.
Maes y Pwll, Ceinewydd – Dydd Mercher 16 Medi
Coetir Anian / Cambrian Wild Wood, Bwlch Corog – Dydd Sadwrn 26 Medi
GWEITHGAREDDAU
Cyflwyniad i Gadw Gwenyn
Dysgwch hanfodion cadw gwenyn, bioleg gwenyn mêl a chadw gwenyn mewn modd cydymdeimladol, y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth: Dydd Sadwrn 5 Medi - dydd Sul 6 Medi 10am–4pm = £248.
Digwyddiadau Fferm Denmarc
F = Am Ddim i Drigolion Lleol
X = Gweler y wefan am bris
Hyfforddiant Diffibriliwr a Chymorth Cyntaf Cymunedol - Dydd Iau 17 Medi 10am–1pm = F
Bara Surdoes - Dydd Gwener 18 Medi 10am–4pm = £65
Cyflwyniad i Waith Crosio: Crefftio Natur – Dydd Iau 10 Medi–22 Hydref, 10am–1pm = X
Gwehyddu Helyg: Adeiladwr Sgiliau Gwaith Sgwâr 3 Diwrnod - Dydd Llun 28 Medi - Dydd Mercher 30 Medi, 10am–4:30pm = X
Basged Coed Helyg - Dydd Iau 1 Hydref - Dydd Gwener 2 Hydref, 10am–4:30pm = X
Trybedau Helyg - Dydd Sul 4 Hydref, 10am–4:30pm = X
Sauerkraut a Kombucha - Dydd Gwener 16 Hydref 10am–2pm = £50
Cynhadledd Genedlaethol Ystlumod – Hybrid
Cyfle i glywed gan arbenigwyr, datblygu eich sgiliau a chysylltu â gweithwyr ystlumod o bob cwr o'r wlad. Dydd Gwener 11 Medi – Dydd Sul 13 Medi.
Diwrnod Agored yr Hydref
Mae Gardd Goedwig Gymunedol Naturewise yn cynnal diwrnod agored hydrefol gyda chrefft, sgyrsiau, gweithgareddau i blant, gwerthu planhigion, cacennau, te, coffi a mwy. Dydd Sadwrn 19 Medi 1–6pm. Gweler ynghlwm.
Glanhau Traethau Prydain Gyfan
Yn digwydd o rhwng dydd Gwener 18 Medi a dydd Sul 27 Medi, bydd y digwyddiad hwn yn denu miloedd o wirfoddolwyr i'r arfordir i waredu a chofnodi sbwriel.
Cysylltu â Natur
Mae Tir Coed yn cynnig sesiynau byw yn y gwyllt a chysylltu â natur i oedolion o oedran gweithio nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd, gan gynnwys pobl â chyflyrau iechyd, cyfrifoldebau gofalu neu anableddau, o 10am–2pm.
Dydd Mercher 21 Medi– Gardd Goedwig Gymunedol Naturewise, Aberteifi
Dydd Iau 1 Hydref 10am–2pm – Woody's Lodge, ger Castellnewydd Emlyn
Dydd Iau 8 Hydref 10am–2pm – Coed Tyllwyd, ger Aberystwyth
Cysylltwch â [email protected] neu 07376 299354 am ragor o wybodaeth.
Blas ar y Bywyd Da
Cyflwyniad ymarferol i hunangynhaliaeth, cadwraeth, gwarchod bywyd gwyllt a rheoli tir yn Orchid Meadows, Tregaron. Mae ymweliadau preswyl a dydd ar gael, a gweithgareddau yn newid trwy gydol y flwyddyn.
Medi – Rheoli corsydd migwyn neu wneud jeli draenen wen
Hydref - Tynnu sudd afal
Tachwedd/Rhagfyr - Cynnal a chadw gwelyau llysiau heb balu
Ionawr – Plannu ar gyfer coed tal
Chwefror – Cerflun helyg byw neu docio helyg a rheoli coetir
Mawrth – Cynhyrchu coed tân neu botio clafrllys gwreidd-dan a hadu tyweirch
Trefnir dyddiadau trwy gytundeb = £45+
CYLCHLYTHYRAU
Tir Natur
Cylchlythyr Parc NetPool: Gweler ynghlwm.
COED
Derw Llwybr Arfordir Cymru – Coeden y Flwyddyn 2026?
Mae derwen fach ond rhyfeddol yn RSPB Ynys-hir yn un o 10 a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn 2026 Coed Cadw.
Pleidleisiwch erbyn dydd Mawrth 29 Medi 5pm i helpu'r goeden hon o Geredigion i gipio'r teitl.
Difrod gan Wiwerod Llwyd -Ar-lein
Archwiliwch ddifrod gan wiwerod llwyd ar-lein yng nghoetiroedd y DU, gan gynnwys ymchwil newydd i dynnu rhisgl a'r hyn sy'n sbarduno'r ymddygiad hwn. Dydd Mawrth 15 Medi 11.15am – 12 hanner dydd.
Adfer Llwyfenni -Ar-lein
Archwiliwch adferiad ecolegol a diwylliannol llwyfenni ym Mhrydain, gan gynnwys ymchwil i agweddau a chysylltiadau â rhywogaethau coed coll a'u hadfer. Dydd Mawrth 22 Medi 11:15am – 12 hanner dydd.
Hanes eich Coetir -Ar-lein
Archwiliwch hanes coetiroedd Prydain dros y 12,000 mlynedd diwethaf. Dydd Iau 24 Medi.
CYRSIAU
Cwrs Garddio Coedwig
Dewch i ddylunio, creu a rheoli gardd goedwig trwy'r cwrs ar-lein achrededig hwn sy’n para saith mis. £420+
Anatomeg Fotanegol
Dewch i feithrin eich dealltwriaeth o anatomeg fotanegol dail, blodau a ffrwythau a hadau, egino a ffrwythloni blodau yn y cwrs ar-lein canolradd hwn am flodau gwyllt = £60.
CYLLID
Sefydliad Teulu Ashley
Cyllid ar gyfer elusennau, sefydliadau anghorfforedig a grwpiau cymunedol sydd â phwrpas elusennol.
Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol
Grantiau hyd at £12,500 yn ariannu lles, sgiliau a chyflogadwyedd, gwydnwch ariannol, bwyd iach, ac ymwybyddiaeth a chadwraeth amgylcheddol.
Dyddiad cau: Dydd Llun 5 Hydref.
Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol
Mae grantiau hyd at £25,000 yn gwella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad amgylcheddol adeiladau cymunedol. Dyddiad cau: Dydd Llun 5 Hydref.
ADNODDAU
Canllawiau Rheoli Dolydd
Os ydych chi'n rheoli hen gladdfa, gall addasu eich trefn torri glaswellt ychydig bach ei thrawsnewid yn ddôl liwgar yn llawn o flodau gwyllt.
BIOSFFER DYFI
Newyddion Biosffer Dyfi
Newyddion Biosffer Dyfi
Lleisiau Biosffer Dyfi
Cyfres o gyfweliadau â phobl a sefydliadau ar draws Biosffer Dyfi gan gynnwys rhai wynebau cyfarwydd.
GWEMINARAU
Rhostir y Gylfinirod a'r Grugieir
Archwilio pwysigrwydd rhostir lle rheolir grugieir ar gyfer poblogaethau gylfinirod sydd mewn trafferth. Dydd Llun 14 Medi 6.30-7.30pm.
Gwarchod Pyllau Trefol
Dysgwch sut i greu, gwella a rheoli pyllau trefol ar gyfer amffibiaid a bywyd gwyllt arall. Dydd Mawrth 15 Medi 6pm.
Morgrug Lasius
Dysgwch am forgrug gan gynnwys rhywogaethau cyfarwydd fel Morgrug Melyn y Ddôl a Morgrug Du’r Ardd. Dydd Mawrth 22 Medi 6-7.30pm = £12.50.
Darganfyddiadau ar ôl Nosi
Sut mae pryfed yn ein cysylltu â natur. Dydd Iau 24 Medi 1-2pm.
Tyfu Allan o'r Ymylon
Dysgwch sut y gall mannau tyfu greu cyfleoedd i bobl ifanc a grwpiau ymylol, gan gefnogi cysylltiad, addysg a grymuso. Dydd Iau 24 Medi 4–5pm.
SoNaRR 2025: Cyfres Gweminarau Curo’r Drwm
Gweminarau sy'n archwilio canfyddiadau allweddol Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol 2025, gyda sesiynau arbenigol yn troi tystiolaeth yn fewnwelediadau ymarferol ar gyfer polisi, cynllunio a chyflawni ledled Cymru. Ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb.
Tystiolaeth sy'n gyrru gweithredu dros y canlynol yng Nghymru:
Moroedd – Dydd Mercher 16 Medi, 12pm
Afonydd – Dydd Mercher 14 Hydref, 1pm
Tir – Dydd Mercher 4 Tachwedd, 2pm
Anifeiliaid a phlanhigion – Dydd Mawrth 17 Tachwedd, 11am
Cymru Drefol – Dydd Iau 10 Rhagfyr, 2pm
CERDDIN GWYNION
Adnabod Cerddin Gwynion
Dysgwch am gerddin gwynion, coed criafol a cherdin, gan gynnwys sut i adnabod gwahanol rywogaethau a gwahaniaethu rhwng coed brodorol ac estron. Dydd Mawrth 29 Medi 12.30 - 2pm = £12.50.
Cerddin Gwynion Endemig
Dysgwch am y cerddin gwynion endemig a geir yn Ynysoedd Prydain yn unig. Dydd Mawrth 13 Hydref 12.30-2pm = £12.50.
AROLYGON
Arolwg Magl Camera
Defnyddiwch eich magl camera i fonitro mamaliaid yr ardd tua diwedd haf 2026 a/neu aeaf 2026–2027 i helpu Gardenwildlife.org ddeall pa anifeiliaid sy'n defnyddio'ch mannau.
Mis y Bele
Arolwg sy'n casglu cipolygon gan y cyhoedd a gwybodaeth am agweddau tuag at fele’r coed ledled Prydain.
Drudwy Ewropeaidd a Ffermwyr
Nod yr arolwg hwn yw deall profiadau ffermwyr da byw gyda drudwy Ewropeaidd ar ffermydd.
Sâl wedi Nofio
Ydych chi wedi teimlo'n sâl ar ôl bod yn y dŵr? Dywedwch eich hanes wrth Surfers Against Sewage a helpwch i lenwi bwlch tystiolaeth hanfodol.
Arolwg Cyffylogod
Mae arolygon monitro blynyddol yn digwydd ar safleoedd penodol, ochr yn ochr ag arolwg cenedlaethol bob 10 mlynedd. Darganfyddwch sut i gymryd rhan.
Rhestr Coed Hynafol
Cofnodwch hen goed a choed hynafol i helpu i amddiffyn ein treftadaeth goed werthfawr.
Arolwg Perllannau
Gwirfoddolwch i arolygu perllannau traddodiadol yn eich ardal leol. Darperir pecynnau arolwg a chyfarwyddiadau.
Mapiwr Mamaliaid
Defnyddiwch ap am ddim Cymdeithas y Mamaliaid i gofnodi arwyddion a chipolygon o famaliaid yn ystod gweithgareddau pob dydd.
Arolwg Gwrychoedd Prydain Fawr
Aseswch ansawdd a chyflwr strwythurol gwrychoedd ac archwiliwch opsiynau rheoli.
Gwrychoedd Iach
Cewch gynnal prawf iechyd cyflym ar wrych a chael opsiynau rheoli ar unwaith.
YMGYNGHORIADAU
Cynllun Rheoli Coedwig
Mae Cynllun Rheoli Coedwig drafft yn cael ei ddatblygu ar gyfer Pencoedtop gyda'r nod o gynyddu bioamrywiaeth. Mae'r perchnogion yn gofyn am sylwadau gan gymdogion, ymgyngoreion a'r gymuned leol yn rhan o'r ymgynghoriad. Gofynnir am sylwadau erbyn dydd Iau 10 Medi. Gweler ynghlwm.
Canllawiau Dipio Defaid
Gwahoddir ffermwyr, rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i helpu i lunio canllawiau wedi'u diweddaru ar ddefnyddio a gwaredu dip defaid yn ddiogel.
Ymgynghoriad Cymunedol
Mae Coetir Anian eisiau clywed eich syniadau a'ch adborth i helpu i gynllunio gweithgareddau ym Mwlch Corog ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Egwyddorion Amgylcheddol Drafft a Datganiad Integreiddio Diogelu'r Amgylchedd
Ceisio barn am y datganiad drafft sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026. Yn cau ddydd Gwener 11 Medi.
Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig
Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau a'r materion allweddol y dylai'r Pwyllgor eu hystyried yn ystod y Seithfed Senedd. Yn cau ddydd Gwener 11 Medi.
Papur Gwyn Prawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
Ymgynghoriad ar faterion gan gynnwys dyletswydd statudol ar ddeddfwriaeth prawfesur gwledig, gwastraff ac amgylcheddol. Yn cau ddydd Mercher 14 Hydref.
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Ceisio barn am y Datganiad drafft ynghylch Ymgysylltu â’r Cyhoedd, y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol a rôl y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig. Yn cau ddydd Gwener 20 Tachwedd.
CYSTADLEUAETH
Raffl Fawr Finyl
Raffl am ddarn unigryw o gelf gerddorol a gweledol, sy'n cynnwys recordiadau maes o ystlumod Prydain.
GWASANAETHAU NATUR LLEOL
Gwasanaethau Ymgynghori Amgylcheddol RTT
Mae Gwasanaethau Ymgynghori Amgylcheddol RTT yn helpu datblygwyr, tirfeddianwyr, ffermwyr a sefydliadau cadwraeth i ddiogelu a gwella natur. O arfarniadau ecolegol ac asesiadau effaith i gyngor rheoli cynefinoedd a data amgylcheddol, gall RTT eich helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ar gyfer eich tir a'ch prosiectau. Gweler ynghlwm.
SWYDDI A PHARTNERIAETH
Chwilio am Bartneriaid Cyflawni
Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn chwilio am bartneriaid i gyflawni prosiectau amgylcheddol a chymunedol ledled Cymru drwy ei System Brynu Ddynamig newydd. Mae cyfleoedd ar agor i fusnesau bach, elusennau, grwpiau cymunedol a chontractwyr annibynnol, gan gynnwys gwaith mewn gwelliannau mannau gwyrdd, hyfforddiant amgylcheddol, arolygu ac ymgysylltu â'r gymuned.
Swyddog Cymunedol ac Ymgysylltu
Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt. Dyddiad cau: Dydd Gwener 11 Medi.
Rheolwr Sicrwydd
Plantlife. Dyddiad cau: Dydd Llun 14 Medi.
Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd
Yr Ymddiriedolaeth Afonydd. Dyddiad cau: Dydd Llun 14 Medi.
Cydlynydd Polisi ac Ymgyrchoedd Cymru
Cynghrair Gweithwyr y Tir. Dyddiad cau: Dydd Sul 20 Medi.