Newyddion Natur Ceredigion 03/04/2026
Newyddion Natur Ceredigion 03/04/2026 |
|---|
Cyfarfod Partneriaeth Natur Leol CeredigionCynhelir y cyfarfod chwarterol hybrid nesaf ddydd Mawrth 21 Ebrill 10am-4pm yng Ngheinewydd. Yn ogystal â sgwrs gan Josh, y Dyn Bywyd Gwyllt, bydd TAITH AM DDIM MEWN CWCH o gwmpas Craig yr Adar. Does dim rhaid ichi ddod i’r cyfarfod na bod yn aelod i fynd ar y daith, ond mae’r lleoedd yn brin, a’r cyntaf i’r felyn gaiff le. Gallwch drefnu’ch lle yn y cyfarfod a/neu ar y daith ar y cwch yma. Gweler yr agenda ynghlwm.https://www.eventbrite.com/e/1986072711945?aff=oddtdtcreator |
Rhestr Adran 7: rhywogaethau a chynefinoedd o’r pwysigrwydd pennaf yng NghymruRhestr o'r organebau byw a mathau o gynefinoedd o’r pwysigrwydd mwyaf i gynnal a gwella amrywiaeth biolegol yng Nghymru. |
Creincwr (Daliwr Crancod) Gwirfoddol ar gyfer Sesiynau Creinca Am Ddim 🦀Mae angen rhywun â diddordeb yn y môr i redeg sesiwn creinca yng Ngorffwysfa’r Pysgotwr yn ystod hanner tymor mis Mai neu wyliau haf yr ysgolion 2026. Bydd y sesiynau’n cyd-fynd â’r llanw uchel, am tua 4 awr mewn adegau o hanner awr. Y nod yw helpu addysgu plant ac oedolion am bwysigrwydd cael hwyl ar lan y môr heb blastig a’u helpu i ddod i adnabod crancod. Mae nifer fach o rwydi crancod pren ar gael am ddim i’w defnyddio a’u cadw ar ôl y sesiwn. Cysylltwch â catchofthedaycardigan@btconnect.com i drefnu’ch amser neu ffoniwch Jane ar 01239 612359 i drafod gwirfoddoli. (Cyfleusterau ar gael ar y safle). Mae’r gweithgaredd hwn yn rhan o Brosiect Arfordir Teifi sy’n cael ei ariannu drwy LNP-WG-WcVA-Coastal Fisheries. |
GWEITHGAREDDAUDysgu sut i adnabod amrywiol rywogaethau (bwytadwy a gwenwynig), ble i’w cael, sut i’w cynaeafu’n gynaliadwy, a‘u nodweddion maeth a meddygol, Dynyn ddydd Sadwrn 11 Ebrill 10am – 4pm. Costau’n amrywio. Gweithdy Cloddiau HelygDysgu sut i blannu ‘fedge’ - cyfuniad o ffens a chlawdd - o goed helyg byw, ffordd greadigol a defnyddiol o ddefnyddio coed helyg. Dydd Sadwrn 18 Ebrill 10am-1pm yn Bird Farm Alpacas, Llanbedr. Cwrs ar Reoli Rhandiroedd CynaliadwyDysgu sut i reoli rhandir i gyd-fynd â natur gan ddefnyddio technegau garddio organaidd sy’n addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn y Ganolfan Technoleg Amgen. Dydd Sadwrn 11 neu ddydd Mercher 22 Ebrill = £65. Digwyddiadau yn Fferm Denmark
Webinar Gwenyn Iard GefnYmchwil yn dangos sut mae mannau gwyrdd preifat yn cynnal amrywiol beillwyr mewn dinasoedd. Dydd Mercher 22 Ebrill 1-2pm. Cadwch ddydd Sadwrn 25 Ebrill yn rhydd am brynhawn llawn gweithgareddau hwyliog sy’n dathlu gwenoliaid duon … a rhinos hefyd!Prynhawn gwych yn helpu Neuadd Goffa Caerwedros i ddathlu ei phen-blwydd yn 75 oed gydag agoriad swyddogol tŵr gwenoliaid duon cyntaf Ceredigion – Hafod y Wennol. Gweler ynghlwm. Rhaglen Ddogfen am WenynYmunwch â Chymdeithas Gwenynwyr Aberystwyth am noson arbennig yn y sinema nos Fercher 15 Ebrill. Dim angen trefnu. Gweler ynghlwm. |
CYSTADLAETHAUEnnill Talebau Gofal GwylltCymryd rhan yn yr Her Darganfod Mamaliaid fel rhan o wythnos Genedlaethol Mamaliaid Dydd Llun 20 – Dydd Sul 26 Ebrill i ennill talebau. Gwobrau Comedi Bywyd GwylltGall unrhyw un gystadlu am ddim gan ddefnyddio camera o unrhyw fath. Dim ond anfon llun neu fideo digri o fywyd gwyllt rhyfeddol. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 30 Mehefin. |
CYLCHLYTHYRGrŵp Lleol Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd CeredigionNewyddion am sgyrsiau a chyfarfodydd i ddod. |
YMGYNGHORIYmgynghori am Brosiect Addasu Arfordir y Borth i Ynys-hirMynegi eich barn a helpu datblygu cynllun cynaliadwy sy’n tynnu sylw at ymyriadau a allai digwydd yn ddibynnol ar godiad yn lefel y môr dros 100 mlynedd. Ymgynghori CymunedolElemental Adventures CIC sydd wedi creu’r holiadur hwn fel rhan o ymgynghoriad cymunedol i’w helpu i ddarparu gwasanaeth sy’n adlewyrchu’r anghenion hynny. Ymgynghori ar Reoli DŵrYmgynghori ar reoli afonydd, llynnoedd, nentydd, dŵr tir a dŵr arfordir Cymru yn y dyfodol. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 21 Ebrill. |
LLAWLYFRY Llanw’n Newid |
AROLYGONArolwg Byw Gyda MamaliaidHelpu monitro mamaliaid a chofnodi eu gweld er mwyn diogelu eu dyfodol. Arolwg YmchwilArolwg byr o’r syniad o ddyfais profi dŵr gan fyfyriwr o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. |
SWYDDI A GWIRFODDOLIHelp yng Ngardd yr YsgolMae Ysgol Cilgerran yn adeiladu gardd newydd ac yn gofyn am help i greu ystafell ddosbarth fyw ddydd Sadwrn 9 Mai 10am – 4pm mae angen gwirfoddolwyr. Gweler ynghlwm. Swyddog Cyswllt Ffermydd / Swyddog Gwarchodfeydd UwchYmddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De Cymru. Dyddiad cau: Dydd Llun 13 Ebrill. Swyddog Cadwraeth CymruButterfly Conservation. Dyddiad cau: Dydd Llun 20 Ebrill. Swyddog Prosiect Biodiversity Net Gain (BNG) Partneriaeth Cadwraeth Madfallod DŵrYmddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw. Dyddiad Cau: Dydd Gwener 24 Ebrill. |