FW: Fflach Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsflash
Fflach Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature Newsflash |
CYFARFOD PARTNERIAETH NATUR LEOL CEREDIGION Bydd y cyfarfod PNLC nesaf ddydd Gwener 19 Ebrill 9am-4pm yn Neuadd Goffa Tregaron. Gwybodaeth archebu ac opsiynau cyfarfod hybrid ar gael yn y ddolen. | CEREDIGION LOCAL NATURE PARTNERSHIP MEETING The next CLNP meeting will take place on Friday 19th April 9am-4pm at Tregaron Memorial Hall. Booking information and hybrid meeting options available at the link. |
Ceilliau Esgob Mae ymchwil a gynhelir ar hyn o bryd fel rhan o brosiect i lunio cofrestr swyddogol o afalau Cymreig wedi datgelu yr arferai fod afal coginio da iawn a oedd yn felyn ac a oedd yn adnabyddus iawn yn yr ardal rhwng Aberaeron ac Aberteifi ac yn rhannau o ddyffryn Teifi. Mae sawl unigolyn hŷn a gyfwelwyd fel rhan o'r gwaith ymchwil hwn yn cofio'r afal hwn yn iawn, ac yn fwy penodol, roeddent yn cofio ei enw lleol hyfryd, sef Afal Ceilliau’r Esgob. Mae'r ffaith bod nifer o bobl leol yn cofio'r afal hwn o hyd yn awgrymu yr arferai fod yn fath cymharol gyffredin a oedd yn tyfu ar draws yr ardal o fewn cof. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw un a gyfwelwyd yn gwybod ble allai coeden o'r fath fod yn tyfu o hyd ac yn cynhyrchu ei ffrwythau sy'n swnio mor hyfryd. Os ydych chi'n cofio'r afal hwn, neu yn fwy arbennig, os ydych chi'n gwybod lle y mae coeden yn tyfu'r afalau hyn o hyd efallai, ffoniwch fi a byddaf yn sicrhau bod y math hwn yn cael ei enwebu er mwyn ei gynnwys yn y Gofrestr Afalau Cymreig a hefyd, gyda chaniatâd y perchennog, bod toriadau yn cael eu cymryd yn ystod y gaeaf nesaf fel y gellir tyfu coed newydd o impiadau. Hon yw'r unig ffordd y gallwn sicrhau y bydd llinell deuluol yr Esgob yn parhau! Yn olaf, os ydych chi'n gwybod am unrhyw fathau neu enwau lleol eraill, byddem yn falch i glywed amdanyn nhw hefyd gan eu bod yn rhan o hanes cyfoethog o dyfu afalau yn yr ardal hon, y mae angen i ni ei diogelu. Diolch yn fawr. Wayne Lewis (Caerwedros) 07909332412 waynelewis0691@gmail.com | Bishop’s Testicles. Research currently being undertaken as part of a project to compile a definitive register of Welsh apples has revealed that there was a very good cooking apple, yellow in colour, well known in the area roughly stretching from Aberaeron down to Cardigan and in parts of the Teifi valley. Several older people interviewed as part of this research clearly remember the apple and its wonderful name, Afal Ceilliau’r Escob. The fact that a number of local people still remember this apple suggest that it was a relatively common variety throughout the area. However, no-one interviewed knew where there may be a tree still growing and producing its lovely sounding fruit. If you remember this apple or, more particularly, if you know where a tree may still be growing, please give me a call and I will make sure that not only does this variety get into the Register of Welsh Apples but also that, with the permission of the owner, cuttings are taken next winter so that new trees can be grown from grafts so that the Bishop’s descendants are safe! If you know any other local varieties or names, we’d be pleased to hear of them too as they are a part of a rich history of apple growing in this area and Wales as a whole. Wayne Lewis (Caerwedros) 07909332412 waynelewis0691@gmail.com |
Ar ôl yn agos i 20 mlynedd o ddarparu cyngor hyrwyddo, sefydlu a gwella rheoli tir pori ar gyfer bywyd gwyllt, mae PONT wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth 2024. Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth. Taith Dywys i Weld Adfer Mawndir Ymunwch â’r tîm Tir Canol i edrych ar adfer mawndir ar Ben Carreg Gopa ddydd Sadwrn 20 Ebrill 9.30am-3.30pm. Fforwm Ieuenctid Moroedd Bywiving Seas Youth Forum – Ar-lein Ydych chi rhwng 9 a 24 oed? Ydych chi’n byw yng Ngheredigion? Ydych chi eisiau helpu mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd? Cewch wybod rhagor am y fforwm, eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a chwrdd â’r aelodau presennol nos Lun 22 Ebrill 7-8pm. Lansiad Llyfr Gwahoddir chi i Lansiad Llyfr Carwyn Graves, ble bydd yr awdur a’r hanesydd Carwyn Graves yn mynd â ni ar daith trwy hanes diwylliannol ac ecolegol ein gwlad. Wrth wneud bydd yn holi pam fod cefn gwlad yn gartre i gymaint yn llai o fywyd gwyllt a chymaint yn llai o bobl yn gweithio’r tir na chanrif yn ôl – a beth gall hyn ein dysgu ni wrth wynebu’r dyfodol? RSPV erbyn Ebrill 22 i’r e-bost yma: hazel.thomas@uwtsd.ac.uk Dewch am daith fer o gwmpas ardal Ystrad Fflur, gydag arweiniad am nodi a’r ffyrdd gorau i ddefnyddio planhigion fforio ddydd Sadwrn 27 Ebrill 10am-1pm. £30. Gan ddechrau ddydd Sadwrn 27 Ebrill, bydd nifer o ddyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs deuddydd hwn yng Nghoed Tal-y-lan. Bydd Gŵyl Farddoniaeth Aber yn digwydd o ddydd Sadwrn 4 i ddydd Llun 6 Mai gyda’r thema Natur Wyllt yn y Siop Lyfrau Wrth y Môr. Cynhelir y prif ddigwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda beirdd o fri a cherddoriaeth fyw. Ysgrifennu cerdd ar thema ‘Natur Wyllt: Archwilio cysylltiadau dyn a natur’ erbyn dydd Mawrth 23 Ebrill. Gwahoddir yr enillwyr i berfformio yn y Sioe Farddoniaeth ddydd Sul 5 Mai a byddant hefyd yn cael taleb Siop Lyfrau. SWYDDI GWAG A GWIRFODDOLI Gwirfoddolwyr Rhywogaethau Anfrodorol Mae’r prosiect Pedair Afon ar gyfer BYWYD yn galw am wirfoddolwyr i helpu diogelu afonydd pwysig rhag bygythiadau gan rywogaethau anfrodorol yng Ngorllewin Cymru. Mae Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon yn chwilio am rywun i arwain ar y prosiect Planhigion Blaenoriaeth ar SoDdGA sy’n rhan o’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Dyddiad cau: dydd Sul 21 Ebrill. Mae’r Ymddiriedolaeth Afonydd yn chwilio am berson trefnus tu hwnt ar gyfer swydd newydd sbon Rheolwr Codi Arian, gan gydlynu gwaith codi arian creiddiol a strategol. Dyddiad cau: dydd Llun 22 Ebrill. Cydlynydd Dealltwriaeth Ieuenctid Helpu cysylltu pobl ifanc a busnesau i weithio gyda’i gilydd i gynnal byd cynaliadwy. Dyddiad cau: dydd Mercher 24 Ebrill. Mae Cambrian Wildwood yn chwilio am rywun i weithio o bell. O fewn pellter rhesymol i allu teithio i safle’r prosiect ger Machynlleth o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Swyddfa ar gael yn Aberystwyth os bydd angen. Dyddiad cau: Dydd Mercher 1 Mai. | After nearly 20 years of providing advice to promote, establish and enhance grazing management for wildlife, PONT made the difficult decision to close down at the end of March 2024. Please click the link for more information. Peatland Restoration Guided Walk Join the Tir Canol team for a guided walk to look at the peatland restoration taking place on Pen Carreg Gopa on Saturday 20th April 9.30am-3.30pm. Living Seas Youth Forum – Online Are you aged 9-24? Do you live in Ceredigion? Do you want to help tackle climate change? Discover more about the forum, their plans for the future and meet existing members. Monday 22nd April 7-8pm. Book Launch You are cordially invited to Carwyn Graves’ Book Launch, where writer and naturalist Carwyn Graves takes us on a journey into the human and ecological history of Wales. Why, he asks, does the countryside contain far less nature and fewer people working the land than it did a century ago – and what can it teach us about how we approach the future? RSVP by April 22 to this email address: hazel.thomas@uwtsd.ac.uk Take a short walk around the Strata Florida area, with guidance on identification and the best ways to use foraged plants on Saturday 27th April 10am-1pm. £30. Starting Saturday 27th April, there are a number of dates available for this two-day course at Coed Talylan. The Aberystwyth Poetry Festival will take place on Saturday 4th - Monday 6th May with the theme Wild Nature at The Bookshop by the Sea. The headline event will be held at The National Library to hear world-class poets and live music performances. Aberystwyth Poetry Festival Competition Create a poem on the theme of ‘Wild Nature: Exploring human and natural connections’ by Tuesday 23rd April. The winners be invited to perform at the Poetry Showcase on Sunday 5th May and will also receive a Bookshop voucher. JOB VACANCIES AND VOLUNTEERING Invasive Non-native Species Volunteers The Four Rivers for LIFE project is calling for volunteers to help protect important rivers from the threats of invasive non-native species in West Wales. The Botanical Society of Britain and Ireland are looking for someone to lead on the Nature Networks Programme funded Priority Plants on SSSIs project. Closing date: Sunday 21st April. The Rivers Trust are seeking a highly organised individual to take on the brand new role of Fundraising Manager, co-ordinating core and strategic fundraising. Closing date: Monday 22nd April. Help connect young people and businesses to work together to maintain a sustainable world. Closing date: Wednesday 24th April. Cambrian Wildwood are looking for a person for remote working, within reasonable distance to enable travel to project site near Machynlleth, at least four times per year. Office available in Aberystwyth if required. Closing date: Wednesday 1st May. |
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk | Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk |