Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
May 31, 2024

Fflach Newyddion Nature Ceredigion Nature Newsflash

 

 

From: Gillian Clark
Sent: 31 May 2024 16:05
To: Gill Clark <gclrk@outlook.com>
Subject: dfgdfgdgdf

 

 

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsflash

 

Wythnos Werdd Fawr

A hoffai eich grŵp / sefydliad drefnu rhywbeth bach neu fawr yn ystod yr Wythnos Werdd Fawr, i ddangos bod ots gyda ni? Dydd Sadwrn 8 – Dydd Sul 16 Mehefin. Yr Wythnos Werdd Fawr yw dathliad mwyaf erioed y DU o weithredu cymunedol i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac amddiffyn byd natur. Y llynedd, bu chwarter miliwn o bobl yn cymryd rhan yn yr Wythnos Werdd Fawr mewn dros 4,000 o ddigwyddiadau ledled y wlad, gan roi pwysau yn y pen draw ar y llywodraeth i wella ei gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.

 

Fideo yr Wythnos Fawr Werdd

Edrychwch ar y wybodaeth hon am rai o’r bobl ryfeddol sy’n cymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd ledled y Deyrnas Gyfunol.

 

 

Big Green Week

Would your group / organisation like to organise something big or small during Great Big Green Week, to show that we care? Saturday 8th – Sunday 16th June. The Great Big Green Week is the UK’s biggest ever celebration of community action to tackle climate change and protect nature. Last year, Great Big Green Week had a quarter of a million people taking part in over 4,000 events across the country, ultimately putting pressure on the government to up its game on climate change. 

 

Big Green Week Video

Take a look at this showcase of some of the amazing people taking action in different kinds of ways across the UK.

 

 

30 Diwrnod Gwyllt

Dilynwch y dolenni hyn i weld sut allwch chi gymryd rhan yn her yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, lle bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gwneud rhywbeth gwyllt bob dydd drwy gydol mis Mehefin.

  • Events | North Wales Wildlife Trust
  • 30 Days Wild | The Wildlife Trusts

 

 

30 Days Wild

Follow these links to find out how you can get involved in The Wildlife Trusts' annual challenge event, where everyone involved does one wild thing a day throughout the month of June.

  • Events | North Wales Wildlife Trust
  • 30 Days Wild | The Wildlife Trusts

 

 

Chwiliad Dolydd Mawr – Angen Help?

Bydd y Chwiliad Dolydd Mawr yn para o ddydd Sadwrn 1 Mehefin i ddydd Sadwrn

31 Awst. Os ydych yn berchen ar dir ac os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect ond yn methu â gwneud y chwilio eich hun, yna cysylltwch â bigmeadowsearch@gmail.com i drefnu i wirfoddolwr o Ganolfan Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru wneud y chwilio a darparu rhestr o’r rhywogaethau.

 

 

Big Meadow Search – Need Help?

The Big Meadow Search runs from Saturday 1st June to Saturday 31st August. If you own land and are interested in the project but are unable to undertake a search yourself then contact bigmeadowsearch@gmail.com to arrange a volunteer from the West Wales Biodiversity Centre to undertake a search and provide a species list.

 

GWEITHGAREDDAU

 

Prosiect Gwesty Pryfed Clust

Helpwch y Buzz Club i ddod o ddarganfod y cynllun mwyaf deniadol i bryfed clust gysgodi, gan helpu garddwyr i’w symud i fannau mwy llesol yn yr ardd. Mehefin – Hydref.

 

Hafod Walled Garden Event

Bydd y grŵp hwn yn chwilio am ffyrdd i ganolbwyntio mwy ar y gymuned ddydd Sul 2 Mehefin 12canol dydd-2pm. Dewch â phicnic gyda chi a rhannwch eich syniadau. Gweler ynghlwm.

 

Hyfforddiant Gwyddoniaeth y Bobl

Bydd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn cynnal hyfforddiant monitro ansawdd dŵr gweledol a sesiwn saffari ar allanfeydd ddydd Mercher 5 Mehefin 10am-2pm. Cwrdd yng Nghenarth yng ngwesty Phat Forks ar gyfer y sesiwn ddosbarth cyn mynd i gerdded o gwmpas y pentref a’r afon i nodi effeithiau ansawdd dŵr, allanfeydd a rhoi hyfforddiant arolwg ar waith. Cysylltwch â Nathaniel@westwalesriverstrust.org.

 

Gweithdy Rhywogaethau Ymledol ac Adfer Afonydd

Ydych chi am gael effaith ar eich afonydd? Ymunwch â'r gweithdy hwn nos Iau 6 Mehefin 6.30-8pm yn Neuadd y Dref, Llandeilo i ddysgu mwy am waith y gallwch ei wneud i gymryd rhan wrth adfer ein hafonydd. Gweler ynghlwm.

 

Antur Afon Arth dydd Sadwrn 15 Mehefin 2-4pm

Ymunwch â ni am brynhawn ar lan Afon Arth hyfryd. Bydd cyfleoedd i ddysgu am ecoleg afon Arth, o’r glannau ac yn yr afon (gan ddibynnu ar yr amodau). Byddwn hefyd yn dysgu am hanes rhyfeddol yr afon a’i chysylltiad â diwylliant yr ardal.

 

ACTIVITIES

 

Ear Wig Hotel Project

Help Buzz Club find the most attractive design for earwigs to shelter in, helping gardeners move them to more beneficial areas of the garden. June – October.

 

Hafod Walled Garden Event

This group is looking for ways become more community orientated on Sunday June 2nd 12noon-2pm. Bring a picnic to Cwmystwyth and share your ideas. See attached.

 

Citizen Science Training

West Wales Rivers Trust are holding a visual water quality monitoring training and outfall safari session on Wednesday 5th June 10am-2pm. Meet at Cenarth Falls Resort at Phat Forks restaurant for the classroom session before heading out for a walk round the village and river to identify water quality impacts, outfalls and put survey training into action. Contact Nathaniel@westwalesriverstrust.org

 

Invasive Species and River Restoration Workshop

Want to make an impact on your rivers? Join this workshop on Thursday 6th June 6.30-8pm at Llandeilo Civic Hall, to learn more about work you can get involved in to restore our rivers. See attached.

 

Afon Arth Adventure, Saturday 15th June 2-4pm

Join us for an afternoon by the wonderful Afon Arth. There will be opportunities to learn about the ecology of the Arth, both from the banks and in the river (conditions allowing). We will also learn about the incredible history of the river and its links to local culture.

 

WEBINARAU A CHYRSIAU

 

Aquatic Plant ID – Ar-lein

Cwrs yn edrych ar rywogaethau dŵr allweddol mewn nentydd, afonydd a llynnoedd ar iseldir Prydain. Dydd Llun 10 Mehefin 10am-4pm. £60.

 

The Noble Jewel-wasp – Webinar

Aaron Bhambra yn edrych ar y rhesymau posibl dros ehangu cwmpas y wenynen farch Noble Jewel nos Fercher 12 Mehefin 7-8pm.

 

Gwenyn Unigol

Dysgu’r gwahaniaeth rhwng gwenyn cymdeithasol a rhai unigol, a chyflwynwch eich hun i rai o’r rhywogaethau amrywiol a rhyfeddol y gallech eu gweld yn eich man gwyrdd ddydd Iau 13 Mehefin 12canol dydd.

 

Darganfod Morloi y Deyrnas Gyfunol – Ar-lein

Yn y cwrs ar-lein hwn i ddechreuwyr, byddwch yn dysgu mwy am fioleg ac ecoleg y mathau o forloi y gallech eu gweld o gwmpas ein harfordir. Hyd: 4 wythnos. Cychwyn dydd Gwener 14 Mehefin 5.30-6.45pm. £60.

 

WEBINARS AND COURSES

 

Aquatic Plant ID – Online

Course looking at the key aquatic species of streams, rivers and ponds in lowland Britain. Monday 10th June 10am-4pm. £60.

 

The Noble Jewel-wasp – Webinar

Aaron Bhambra looks at the potential reasons behind the range expansion of the Noble Jewel-wasp on Wednesday 12th June 7-8pm.

 

Solitary Bees

Learn the differences between social and solitary bees, and introduce youself to some of the diverse and fascinating solitary species you might find in your green spaces on Thursday 13th June 12noon.

 

Discovering UK Seals – Online

In this beginner’s online course, you will learn more about the biology and ecology of UK seal species that you may see around our coastline. Duration: 4 weeks. Beginning Friday 14th June 5.30-6.45pm. £60.

 

CYFRYNGAU

 

Sefyll i Fyny Dros Ein Dyfodol

Dangosiad Cyntaf gan y Fforwm Ieuenctid Moroedd Byw, ffilm ddogfen fer am newid yn yr hinsawdd nos Sadwrn 8 Mehefin 5.30-7pm.

 

Chwe Modfedd o Bridd

Hanes ysbrydoledig am ffermwyr ifanc ym Mhrydain yn sefyll i fyny yn erbyn y system fwyd ddiwydiannol a thrawsnewid y ffordd maent yn cynhyrchu bwyd - i wella’r pridd a’n hiechyd a darparu ar gyfer cymunedau lleol. Theatr Mwldan, Aberteifi: Dydd Sadwrn 1 i ddydd Iau 12 Mehefin.

 

MEDIA

 

Stand Up For Our Future

Documentary Premiere from The Living Seas Youth Forum, a short climate change documentary on Saturday 8th June 5.30-7pm.

 

Six Inches of Soil

The inspiring story of young British farmers standing up against the industrial food system and transforming the way they produce food - to heal the soil, our health and provide for local communities. Theatre Mwldan, Cardigan: Saturday 1st - Thursday 12th June.

 

EGLWYSI A NATUR

 

Tir Eglwysi a Natur

Dysgu mwy am yr hyn y gall tir eglwysi ei wneud dros natur ddydd Mawrth 4 Mehefin 2-3pm.

 

Eich Eglwys a'ch Gwennol Ddu – Webinar

Mae’r Wennol Ddu yn denant delfrydol yn ogystal â bod yn nodwedd unigryw a chyffrous yn eich Eglwys. Cewch wybod mwy yn y sgwrs ddifyr a darluniadol hon, sy’n llawn cyngor ymarferol a hawdd ei ddilyn ddydd Mawrth 11 Mehefin 12 canol dydd.

 

Coed Yw Hynafol

Mae tri chwarter y coed yw hynaf ym Mhrydain i’w cael mewn mynwentydd yng Nghrymu a Lloegr. Gallwch gael eglurder am fioleg coed yw, y ffordd orau i’w rheoli a dileu’r chwedlau a'r camsyniadau amdanynt. Dydd Mercher 12 Mehefin 12canol dydd.

 

CHURCHES AND NATURE

 

Church Land for Nature

Learn about what church land can do for nature on Tuesday 4th June 2-3pm.

 

Your Church and Your Swift – Webinar

The Swift is the ideal tenant, as well as being a unique and exciting feature for your Church. Find out more at this fascinating and well-illustrated talk, full of practical and easy to follow advice on Tuesday 11th June 12noon.

 

Ancient Yew Trees

Three-quarters of Britain’s oldest yew trees can be found in Welsh and English churchyards. Get clarity on Yew biology, best-practice management and dispel these myths and misconceptions. Wednesday 12th June 12noon.

 

NEWYDDION

 

Newyddion Cadwraeth Ocsigen

Rydyn ni’n falch iawn cael cyhoeddi fod Oxigen Conservation wedi cael arian o’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol fel Jac y Neidiwr, Rhododendron a Chanclwm Japan ar hyd glannau Afon Arth yng Ngheredigion. Darllenwch fwy am y prosiect hyd yma ar ein gwefan yma!

 

NEWS

 

Oxygen Conservation News

We’re delighted to announce that Oxygen Conservation has received funding from the Nature Networks Programme to tackle invasive species like Himalayan balsam, Rhododendron, and Japanese knotweed along the Afon Arth banks in Ceredigion, Wales. Read more about the project so far on our website here!

 

SWYDDI GWAG

 

Prentis Garddwriaeth – Lefel 2

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am rywun i ymuno â’i Thîm Gardd yn Llannerch Aeron. Dyddiad dau: Dydd Llun 3 Mehefin.

 

Uwch Swyddog Cadwraeth

Cael rhan allweddol yn cydlynu a darparu’n llwyddiannus y prosiect Cadwraeth Creaduriaid Di-asgwrn-cefn Tiriogaethau Iwerydd. Dyddiad cau: Dydd Mercher 5 Mehefin.

 

Arbenigwr Mapio Cynefinoedd

Bod yn rhan o dîm o arbenigwyr GIS sy’n gyfrifol am reoli ac ymholi i nifer o setiau data ffisegol a biolegol i ddatblygu mapiau o gynefinoedd gwely’r môr ledled y DG ac mewn dyfroedd rhyngwladol. Dydd Sadwrn 8 Mehefin.

 

Pennaeth Gwasanaethau Masnachol

Darparu’r cyfnod nesaf yn nhaith Waterwise – cynyddu ei gwmpas a’i effaith ar effeithlonrwydd dŵr o fewn a’r tu allan i’r sector dŵr. Dyddiad cau: Dydd Sul 9 Mehefin.

 

Gwirfoddolwr Eiriolaeth Fyd-eanq

Gweithio gyda Chydlynydd Eiriolaeth Fyd-eang Plantlife i ymchwilio i’r graddau y mae gwledydd yn cynnwys cadwraeth planhigion o fewn eu Strategaethau a’u Cynlluniau Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Dyddiad cau: Dydd Sul 9 Mehefin.

 

Swyddog Economi Werdd (Cymru)

Hoffech chi weithio gyda'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt a bod yn rhan o dîm sydd ar flaen y gad yn natblygiad buddsoddi preifat i adfer natur? Dyddiad cau:

Dydd Llun 10 Mehefin.

 

Amddiffynwr Bioamrywiaeth (Swyddog Prosiect)

Mae Cadwraeth Ocsigen yn chwilio am Amddiffynwr Bioamrywiaeth (Swyddog Prosiect)  brwdfrydig i helpu i gael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol yn ein hystâd Esgair Arth. Gellir dod o hyd i fanylion am swydd a cheisiadau yma. Dyddiad dau: Dydd Sul 16 Mehefin.

 

JOB VACANCIES

 

Horticulture Apprentice – Level 2

The National Trust are looking for a someone join their Garden Team at Llanerchaeron. Closing Date: Monday 3rd June.

 

Senior Conservation Officer

Play an instrumental role in coordinating and successfully delivering the Supporting Atlantic Territories Invertebrate Conservation project. Closing date: Wednesday 5th June.

 

Habitat Mapping Specialist

Form part of a team of GIS specialists who are responsible for managing and interrogating a wide variety of physical and biological datasets to develop seabed habitat maps for areas throughout UK and international waters. Saturday 8th June.

 

Head of Commercial Services

Deliver against the next phase of Waterwise’s journey - increasing their reach and impact on water efficiency both within and beyond the water sector. Closing date: Sunday 9th June.

 

Global Advocacy Volunteer

Work with Plantlife’s Global Advocacy Coordinator to research the extent to which countries include plant conservation within their National Biodiversity Strategies and Plans. Closing date: Sunday 9th June.

 

Green Finance Officer (Wales)

Do you want to work with The Wildlife Trusts and be part of a team leading the field in the development of private investment into nature’s recovery? Closing date: Monday 10th June.

 

Biodiversity Defender (Project Officer)

Oxygen Conservation is looking for an enthusiastic Biodiversity Defender (Project Officer) to help eradicate invasive non-native species at our Esgair Arth estate. Job description and application details can be found here. Closing date: Sunday 16th June.

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.