Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
February 1, 2024

Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 01/02/2024

 

Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsletter

Helo a chroeso i’r rhifyn hwn o Newyddion Natur Ceredigion, y lle ichi gael y newyddion i gyd am fywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’r amgylchedd yn y sir.

  • Gwyddoniaeth y Bobl

  • Webinarau

  • Ariannu

  • Coed

  • Cystadlaethau

  • Cyrsiau

  • Gwirfoddoli a Swyddi Gwag

  • Mae Angen Help

  • Troseddau Bywyd Gwyllt

  • Gweithgareddau

  • Adroddiadau

 

 

Hello and welcome to this edition of Newyddion Natur Ceredigion, your one-stop-shop for news of wildlife, biodiversity and the environment around the county.

  • Citizen Science

  • Webinars

  • Funding

  • Trees

  • Competitions

  • Courses

  • Volunteering and Job Vacancies

  • Help Wanted

  • Wildlife Crime

  • Activities

  • Reports

GWYDDONIAETH Y BOBL

 

Fforwm Blynyddol Cofnodwyr WWBIC

Cynhelir Fforwm y Cofnodwyr eleni yng Nghanolfan Clydau, Tegryn ddydd Sadwrn

2 Mawrth. Os oes gan rywun destun i siarad amdano a allai lenwi bwlch o hanner nawr, cysylltwch ar kate@westwalesbiodiversity.org.uk

 

Hyfforddiant Cofnodi Bywyd Gwyllt

Ymunwch â WWBIC i ddysgu sut i gofnodi bywyd gwyllt yn Aber-porth ddydd Sul 25 Chwefror 10am-1pm.

 

Gwylio’r Cap Cŵyr

Helpu cofnodi  amrywiaeth a niferoedd y ffyngau rhyfeddol hyn.

 

Arolwg Grifft Mewn Llynnoedd

Helpu casglu data am leoliad brogaod a llyffantod sy’n bridio o fis Rhagfyr i fis Mai i ddeall yn well sut mae amffibiaid yn defnyddio gwahanol fathau o fannau dŵr i fagu.

 

CITIZEN SCIENCE

 

WWBIC Annual Recorders Forum

This year’s Recorders Forum will be held at Canolfan Clydau, Tegryn on Saturday 2nd March. If anyone has a topic, they wish to talk about that could fill a 30 minute slot please get in touch at kate@westwalesbiodiversity.org.uk

 

Wildlife Recording Training

Join WWBIC and learn how to record wildlife in Aberporth on Sunday 25th February 10am-1pm.

 

Waxcap Watch

Help record the diversity and abundance of these wonderful fungi.

 

PondNet Spawn Survey

Help collect data on the location of breeding frogs and toads from December-May to better understand how amphibians use different types of waterbodies to breed.

 

WEBINARAU

 

Webinar Cyfrif Adar Tir Ffermio

Dysgu am y Cyfrif Adar Tir Ffermio, sut i helpu adar ar eich fferm  a’r hyn sydd wedi ei ddysgu wrth gyfrif am ddeng mlynedd. Dydd Mawrth 6 Chwefror 10.30-12canol dydd.

 

Peillwyr a Phobl - Webinar

Edrych ar yr effeithiau cymdeithasol ar beillwyr trefol a dysgu sut gall garddwyr atal rhywogaethau ymledol rhag ehangu nos Fawrth 13 Chwefror 7-8pm. Ar gael am gyfraniad o £1 ond croeso ichi roi mwy.

 

Helpu Gwyfynod yn ein Trefi a’n Dinasoedd

Webinar am bwysigrwydd gwyfynod yn yr ecosystem drefol nos Lun 26 Chwefror

7-8pm. Ar gael am gyfraniad o £1 ond croeso ichi roi mwy.

 

WEBINARS

 

Big Farmland Bird Count Webinar

Learn about the Big Farmland Bird Count, how to help birds on your farm and what has been learnt from ten years of the count. Tuesday 6th February 10.30-12noon.

 

Pollinators and People - Webinar

Look at the social impacts on urban pollinators, and learn how gardeners can stop the spread of invasive species on Tuesday 13th February 7-8pm. Available for a £1 donation but larger amounts are welcome.

 

Helping Moths in our Towns and Cities

A webinar on the importance of moths in the urban ecosystem on Monday 26th February 7-8pm. Available for a £1 donation but larger amounts are welcome.

 

ARIANNU

 

Arferion Da Wrth Godi Arian

Diweddariad i gyrff gwirfoddol am arferion da wrth godi arian a datblygiadau diweddar.

 

Cerdded yn y Gaeaf i Godi Arian

Cerdded am 5k neu 10k yn eich ardal leol gan ddefnyddio taflenni adnabod a chanllawiau gweithgarwch i ddod yn nes at natur rhwng dydd Llun 12 a dydd Sul 25 Chwefror.

Codwch £30 i gael crys-t WWF a chyrraedd y targed o £100 i gael eco-fedal WWF.

 

Grŵp Cymunedol Dŵr Croyw 

Ydych chi’n perthyn i grŵp gwirfoddol sy’n ymddiddori yn iechyd eich amgylchedd dŵr croyw yn lleol? Gallwch gael pecynnau tanysgrifio ac ariannu gan Freshwater  Watch.

 

Cywiriad

Yn y Newsflash diwethaf cyhoeddwyd dyddiad cau anghywir ar gyfer Cronfa Cynnal y Cardi. Dylai ddweud mai’r dyddiad agor oedd 1 Chwefror.

 

FUNDING

 

Good Fundraising Practice

An update for voluntary organisations on good fundraising practice and recent developments.

 

Big Winter Wander Fundraiser

Complete a 5k or 10k walk in your local area, using spotter sheets and activity guides to get closer to nature between Monday 12th - Sunday 25th February.

Raise £30 to receive a WWF t-shirt and hit the £100 target to receive a WWF eco medal.

 

Freshwater Community Group

Do you belong to a volunteer group that is interested in the health of your local freshwater environment? Get subscription packages and funding from Freshwater Watch.

 

Correction

In the last newsflash an incorrect closing date for the Cynnol Y Cardi Fund was published. It should have read that the opening date was the 1st of February.

 

COED

 

Achub Coed Ynn

Dewch i gymryd rhan, naill ai fel Gwarchodwr Coed, trin a monitro onnen su’n dioddef oherwydd dieback, fel hyrwyddwr neu fel noddwr. Ar ôl cofrestru byddwch yn cael biochar i’w ddefnyddio a phecyn croeso. Chi sy’n penderfynu faint o goed fyddwch chi am eu trin a’u monitro.

 

Ymgyrch Materion Rheoli Coedlannau   

Dysgu sut i reoli eich coedlan ac am fuddiannau Continuous Cover Forestry.

 

Hyfforddiant Bioamrywiaeth ar gyfer Meithrinfeydd Coed Cymunedol

Cyngor ymarferol ar-lein ar wella bio-ddiogelwch i feithrinfeydd coed cymunedol

nos Fercher 21 Chwefror 6.30-8pm.

 

Hyfforddiant Cadw Cofnodion   

Ar gyfer Meithrinfeydd Coed Cymunedol, dysgu sut i gynnal a chadw cofnodion cywir nos Iau 7 Mawrth 6.30pm.

 

TREES

 

Save the Ash Trees

Get involved; either as a Tree Guardian, treating and monitoring an ash tree affected by dieback, an advocate or as a sponsor. Once you have signed up you will receive biochar to use and a welcome pack. It's up to you how many trees you want to treat and monitor.

 

Woodland Management Matters Campaign

Learn how to manage your woodland and about the benefits of Continuous Cover Forestry.

 

Biosecurity training for Community Tree Nurseries

Practical online advice on improving biosecurity for community tree nurseries on Wednesday 21st February 6.30-8pm.

 

Record Keeping Training

For Community Tree Nurseries, learn how to maintain accurate records on Thursday 7th March 6.30pm.

 

CYSTADLAETHAU

 

Cystadleuaeth Camera Bywyd Gwyllt

Cystadleuaeth Fisol i bobl sy’n defnyddio trailcam.

 

Cystadlu am Gadair

Gwyliwch y ffilm am gyfle i ennill cadair goedwig. Dyddiad cau: dydd Iau

29 Chwefror.

 

Cystadleuaeth Ystafell Ddosbarth Dan Do

Ennill ystafell ddosbarth dan do gwerth £11,000 oddi wrth y tîm SouL, a fydd yn darparu’r holl ddefnyddiau a’r llafur ac yn ei gosod lle mynnwch chi ar safle’ch ysgol. Dyddiad cau: Dydd Gwener 8 Mawrth. 

 

Ennill Profiad Mewn Coedlan: Asynnod Dyfi

Os rhowch eich barn a allai Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi fod yn fan cychwyn ar gyfer gweithgareddau natur ac awyr agored i’w staff a’r gymuned leol, ynghyd â gofal meddygol, a gallwch ennill y wobr hon. 

 

COMPETITIONS

 

Trail Cam Competition

Monthly Competition for trail cam enthusiasts.

 

Chair Competition

Watch the film for a chance to win a forest chair. Closing date: Thursday 29th February.

 

Canopy Classroom Competition

Win a suspended canopy classroom worth £11,000 from The SOuL team who will provide all of the materials, labour and fully install it in a location of your choosing on your school site. Closing date: Friday 8th March.

 

Win a Woodland Experience: Dyfi Donkeys

Share your views on whether Bro Ddyfi Community Hospital could be a springboard for nature-based and outdoor activities for its staff and local community, alongside medical care and win this prize.

 

CYRSIAU

 

Cwrs ar Bridd Byw

Cyflwyniad yw’r modiwl eang hwn i ddeall ac ymchwilio i fathau cyffredin o bridd gardd a defnyddio egwyddorion rheoli pridd yn gynaliadwy.

 

Hyfforddiant Ysgolion Coedwig

Cyrraedd Lefel 3 mewn Hyfforddiant Ysgolion Coedwig ddydd Mawrth 12 Mawrth. Gweler y poster sydd ynghlwm. Os hoffech ddod i sesiwn wybodaeth yn Ray Ceredigion ddydd Sadwrn 2 Mawrth, cysylltwch ag everydayplayjd@gmail.com

 

Cyrsiau Prifysgol Aberystwyth

Mae yna nifer o gyrsiau am amrywiol bynciau ar gael. Mae rhai eisoes wedi dechrau, ond gan eu bod ar-lein a chithau’n gosod y cyflymdra, mae’n dal yn bosibl i bobl ymuno a dal i fynd â’r gwaith.

 

COURSES

 

Living Soil Course

This module is a wide-ranging introduction to understanding and investigating common garden soil types and applying the principles of sustainable soil management.

 

Forest School Training

Obtain a Level 3 in Forest School Training starting Tuesday 12th March. Please see attached poster. If you would like to attend an information session at Ray Ceredigion on Saturday 2nd March, please contact everydayplayjd@gmail.com

 

Aberystwyth University Courses

There are a number of courses on a variety of topics available. Some have already started but as they are online and self-paced, it’s still possible for people to join and catch up with the work.

 

GWIRFODDOLI A SWYDDI GWAG

 

Prentis Ffermio Gwenyn

Mae gan Gwenyn Gruffydd gyfle i bobl 17–35 oed. Bydd yr ymgeisydd yn cwblhau Cynllun Prentisiaeth y Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn sy’n cymryd tair blynedd. Dyddiad cau dydd Gwener 2 Chwefror.

 

Gweithiwr Fferm

Mae Llannerchaeron yn Aberaeron eisiau cyflogi aelod awyddus a chadarnhaol o’r tîm sy’n frwd i gyfleu gwybodaeth i ymwelwyr. Dyddiad cau: Dydd Sul 4 Chwefror.

 

Lleoliad i Fyfyriwr

Mae gan y Game and Wildlife Trust leoliad i fyfyriwr neu fyfyrwraig i gymryd rhan  mewn gwaith ymchwil pwysig ar gadwraeth hela a bywyd gwyllt. Dyddiad cau: Dydd Mercher 14 Chwefror. 

 

Gwirfoddoli yn Sbaen

Mae hon yn rhaglen wirfoddoli sy’n cael ei hariannu ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 30 oed.  Mae eco-bentref Mas Les Vinyes yn chwilio am bedwar gwirfoddolwr am chwe mis i ddysgu am baramaethu, hunan-gynhaliaeth a thyfu bwyd. Dyddiad cau: Dydd Iau 15 Chwefror.

 

Tîm Cadwraeth y Môr

Mae Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn cynnig swydd breswyl am dâl i berson ifanc (18-24 oed) i weithio gyda staff a thîm gwirfoddolwyr Cadwraeth y Môr yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion yng Ngheinewydd.  Dyddiad cau dydd Sul 18 Chwefror.

 

Swyddog Amaethyddiaeth a Chadwraeth 

Swydd am 12 mis yw hon, yn gweithio gartref o fewn Cymru. Dyddiad cau: dydd Llun 19 Chwefror.

 

Chwilio am Gyfle i Wirfoddoli

Mae Hannah White yn astudio i fod yn Therapydd Galwedigaethol ac mae angen iddi gwblhau 25 awr o waith gwirfoddol yn ardal Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr wythnos dydd Llun 18 Mawrth a/neu ar ddydd Iau a dydd Gwener o ddydd Llun 18 Mawrth i ddydd Llun 8 Ebrill. Gall y gwirfoddoli fod yn seiliedig ar natur gan mai ei ddiben yw deall buddiannau gwirfoddoli ar lesiant. Cysylltwch â hannahrewhite@icloud.com

 

Chwilio am Wirfoddolwyr  - Coedwig Gymunedol

Mae Coedwig Gymunedol Long Wood yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gydag amrywiaeth o weithgareddau. Er enghraifft: rhedeg caffe yn y Ganolfan Ymwelwyr, clirio llwyni, arwyddion ac unrhyw le bydd angen helpu. Cewch ragor o fanylion ar ôl ichi  gofrestru yn

marketing@longwood-lampeter.org.uk

neu gofrestru gyda grŵp gwirfoddolwyr Coedwig Gymunedol Long Wood yn y ddolen.

 

Pencampwr y Môr - Gwirfoddolwr

Mae Cymdeithas Cadwraeth y Môr yn eich gwahodd i gofrestru fel Pencampwr y Môr.

 

VOLUNTEERING AND JOB VACANCIES

 

Apprentice Bee Farmer

Gwenyn Gruffydd has this opportunity for people aged 17–35, the candidate will complete the Bee Farmers Association Apprenticeship Scheme, which takes three years. Closing date Friday 2nd February.

 

Farm Worker

Llanerchaeron in Aberaeron are looking for an engaging and positive team member with a passion for sharing knowledge with visitors. Closing date: Sunday 4th February.

 

Student Placement

The Game and Wildlife Trust have a placement for a student to take part in important game and wildlife conservation research. Closing date: Wednesday 14th February.

 

Volunteering in Spain

This is a funded volunteering program for young people between 18-30 years old. Mas Les Vinyes ecovillage is looking for four volunteers for six months to learn permaculture, self-sufficiency and food growing. Closing date Thursday 15th February.

 

Marine Conservation Intern

The Wildlife Trust of South and West Wales are offering a paid internship for a young person (18-24 years) to work alongside the Marine Conservation staff and volunteer team at the Cardigan Bay Marine Wildlife Centre, New Quay. Closing date Sunday 18th February.

 

Agricultural and Conservation Officer

This is a 12-month post, working from home within Wales. Closing date: Monday 19th February.

 

Volunteering Opportunity Wanted

Hannah White is studying to be an Occupational Therapist and needs to complete 25 hours of volunteering in the Lampeter area in the week Monday 18th March and/or spread over Thursdays and Fridays of the weeks Monday 25th March – Monday 8th April. The volunteering can be nature based as the purpose of it is to understand the benefits of volunteering on wellbeing. Contact hannahrewhite@icloud.com

 

Volunteers Wanted - Coedwig Gymunedol

Long Wood Community Woodland are looking for volunteers to help with a range of activities. For example: running a cafe in the Visitors centre, bush clearing, signage and anywhere where help is required

More details will be given once you sign up to marketing@longwood-lampeter.org.uk

or sign up to the Coedwig Gymendol Longwood volunteer group found in the link.

 

Sea Champion - Volunteer

The Marine Conservation Society would like to invite you to register as a Sea Champion.

 

MAE ANGEN HELP

 

Ymgynghoriad ar Intangible Cultural Heritage

Rhowch eich adborth inni am rai o’r penderfyniadau yn y cam cyntaf i weithredu’r cytundeb ‘2003 UNESCO Convention for the Safeguarding of Intangible Cultural Heritage’. Dyddiad cau: Dydd Iau 29 Chwefror.

 

Gofyn am Adeileddau Rhyngweithiol

Mae Coedwig Gymunedol Long Wood yn creu llwybr teulu rhyngweithiol drwy’r goedwig ac yn chwilio am fannau ffocws neu adeileddau rhyngweithiol i’w gosod ar hyd y llwybr - unrhyw beth o glychau gwynt i adeileddau pren. Os gallwch greu neu gyfrannu rhywbeth i’w gynnwys ar y llwybr, anfonwch e-bost i marketing@longwood-lampeter.org.uk

 

HELP WANTED

 

Intangible Cultural Heritage Consultation

Give feedback on some of the decisions regarding the first stage of implementing the 2003 UNESCO Convention for the Safeguarding of Intangible Cultural Heritage. Closing date: Thursday 29th February.

 

Interactive Structures Wanted

Long Wood Community Woodland are creating an interactive family trail through the woodland and are looking for focal points or interactive structures to place along the trail - anything from wind chimes to wooden sculptures - if you can make or donate something to include on the trail, please email marketing@longwood-lampeter.org.uk

 

TROSEDDAU BYWYD GWYLLT

 

Archwiliadau Llygredd Ffermydd  

Bydd tîm newydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio dros 800 o ffermydd yn 2024 i helpu lleihau effaith llygredd amaethyddol. 

 

Dirwyo Canolfan Ailgylchu

Mae canolfan ailgylchu metel gwastraff yn Rhydaman wedi cael dirwy o £42,000 am fethu â chydymffurfio ag amodau caniatâd amgylcheddol, ar ôl i olew ollwng.

 

WILDLIFE CRIME

 

Farm Pollution Inspection

A new team at Natural Resources Wales aims to inspect over 800 farms in 2024 to help reduce the impact of agricultural pollution.

 

Recycling Centre Fined

A scrap metal recycling centre in Ammanford has been fined £42,000 for failing to comply with conditions of environmental permit, following an oil

GWEITHGAREDDAU

 

Cors Caron – Taith Dywys

Bydd taith dywys am ddim o’r gyforgors enwog yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ddydd Gwener 2 Chwefror i ddathlu Diwrnod Bydeang Gwlyptiroedd. Bydd y daith yn dechrau am 1pm a rhaid trefnu lle i gael ymuno â’r daith. Anfonwch e-bost i liferaisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  i drefnu lle.

 

Gweithgareddau Natur

Yn ôl pleidlais y gymuned. Gweler y poster.

  • Sesiwn i’r Teulu – Dydd Sul 11 Chwefror 1-2pm. Ciliau Aeron

  • Enwi Coed – Dydd Mercher 21 Chwefror. Ymddiriedolaeth Tŷ Glyn

 

Codi Arian Drwy Gerdded Cŵn  

Dewch i Ganolfan Ymwelwyr Nantyrarian i godi ymwybyddiaeth am stad y milgi. Croeso i unrhyw gi. Rhaid cadw cŵn sy’n ymateb ar dennyn gyda ffrwyn am eu trwynau. Cwrdd yn y prif barc ceir. Dydd Sul 11 Chwefror 11am.

 

Cadw Gwenyn – Gwyddor neu Gelfyddyd?

Bydd Caffe Gwyddoniaeth Aberystwyth nos Lun 12 Chwefror am 7.30pm ym Mar Theatr Canolfan y Celfyddydau.

 

Cathod Gwyllt Ynysoedd Prydain

Sgwrs gyda lluniau am hanes Cathod Gwyllt nos Fercher 14 Chwefror 7.30pm yn Theatr Mwldan.  £3 i gynnwys te a bisgedi. Poster ynghlwm.

 

Penwythnos Garddio Gaeaf  

Siaradwyr gwadd a phlanhigion i’w prynu yn Neuadd Tysul, Llandysul. Dydd Iau 15 – dydd Iau 18 Chwefror – dydd Sul 18 Chwefror.

 

Ffilm am Dyfu Bwyd

Ymunwch â Phartneriaeth Bwyd Ceredigion y mis hwn i weld y ffilm Rooted – Growing a Local Food System a thrafodaeth i ddilyn. Posteri ynghlwm.

Dydd Mawrth 20 Chwefror 3.30-5pm yn Fforwm Cymunedol Penparcau, Aberystwyth a Dydd Mercher 21 Chwefror 5.30pm yn yr Hen Neuadd, Campws Llanbedr Pont Steffan.

 

Cerdded y Ci a Sgwrsio

Ymunwch â Chanolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion i gerdded ar hyd Traeth Gwyn ddydd Iau 22 Chwefror 2-6pm i ddysgu mwy am waith cadwraeth y môr a thrafod bod yn garedig i’r amgylchedd wrth fod yn berchennog anifeiliaid anwes. Cwrdd ym Mharc Ceir Coed Llanina am 2pm. Rydym yn disgwyl nifer fawr o gŵn yn y digwyddiad, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer cŵn anghymdeithasol. Am ragor o  wybodaeth cysylltwch â cbmwc@welshwildlife.org

 

Her Mamaliaid Prifysgol

Timau hyd at bump o fyfyriwyr yn cofnodi arwyddion o famaliaid ar eu campws gan ddefnyddio amrywiol ddulliau.  Rhoir pwyntiau hefyd am godi arian a denu pobl eraill at gadwraeth mamaliaid

 

ACTIVITIES

 

Cors Caron – Guided Tour

A free guided tour of a celebrated raised bog will be held at the Cors Caron National Nature Reserve, near Tregaron on Friday 2nd February to celebrate World Wetlands Day. The tour will start at 1pm, and booking is essential to join the tour. Email liferaisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  to book a place.

 

Nature Based Activities

As voted for by the community. See poster.

  • Family Session – Sunday 11th February 1-2pm. Ciliau Aeron

  • Tree Identification – Wednesday 21st February. Ty glyn Trust.

 

Dog Walk Fundraiser

Head to Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre to raise the awareness of the plight of the greyhound. All dogs welcome. Reactive dogs must be kept on a lead with a muzzle. meet up on the main carpark. Sunday 11th February 11am.

 

Bee Keeping – Science or Art?

The Aberystwyth Science Cafe will be on Monday 12th February 7.30pm in the Arts Centre Theatre Bar.

 

Wildcats of the British Isles

An illustrated talk on the history of Wildcats on Wednesday 14th February 7.30pm at Theatre Mwldan. £3 including tea and biscuits. Poster attached.

 

Winter Gardening Weekend

Guest speakers and plants to purchase at Tysul Hall, Llandysul. Thursday 15th – Sunday 18th February.

 

Food Growing Film

Join Partneriaeth Bwyd Ceredigion this month, for a film screening of Rooted – Growing a Local Food System followed by a discussion. Posters attached.

Tuesday 20th 3.30-5pm at Penparcau Community Forum, Aberystwyth

Wednesday 21st 5.30pm at Old Hall, Lampeter Campus

 

Dog Walk and Talk

Join Cardigan Bay Marine Wildlife Centre for a walk alongTraeth Gwyn on Thursday 22nd February 2-6pm to discover more about marine conservation work and discuss environmentally responsible pet ownership. Meet at Llanina Wood Parking at 2pm. It is anticipated that there will be a large number of dogs at the event so it may not be suitable for those with unsociable dogs. For more information contact cbmwc@welshwildlife.org

 

University Mammal Challenge

Teams of up to five students record signs of mammals on their campuses using a variety of method. Points are also awarded for fundraising and engaging others in mammal conservation.

 

ADRODDIADAU

 

Garddwriaeth yn y Pedair Gwlad (Horticulture Across Four Nations)

Adroddiad sy’n cyflwyno’r achos dros godi statws gerddi marchnad amaeth-ecolegol yn y Deyrnas Gyfunol.

 

Adroddiad ar Fuddsoddi Mewn Amddiffynfeydd Rhag Llifogydd  

Adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â bod yn barod am y newid yn yr hinsawdd a lleihau perygl llifogydd mewn cymunedau ledled Cymru.

 

REPORTS

 

Horticulture Across Four Nations

A report which makes the case for the upscaling of agroecological market gardens across the UK.

 

Flood Defences Investment Report

Report from Natural Resources Wales about keeping pace with climate change and reducing future flood risk to communities across Wales.

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.