Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
October 27, 2023

Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 27/10/2023

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsflash

Ecolegydd Cynllunio

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i benodi Ecolegydd Cynllunio dros gyfnod mamolaeth. Ceisiadau erbyn dydd Mercher 1 Tachwedd.

 

Cynorthwyydd Bioamrywiaeth

Ymunwch â Thîm Cadwraeth Cyngor Sir Ceredigion yn y swydd ran-amser hon am gyfnod penodol gan weithio o’r cartref. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Llun

27 Tachwedd.

 

Cydlynydd Digwyddiadau a Rhwydwaith

Mae’r Grŵp Cydweithredol Meithrinfa Coed Cymunedol am benodi Cydlynydd Digwyddiadau a Rhwydwaith i gefnogi’r Grŵp Cydweithredol yn y swydd ran-amser hon gan weithio o’r cartref. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Gwener

3 Tachwedd.

 

Arweinydd Tîm Rheolaeth Gynaliadwy y Môr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i benodi rhywun i arwain tîm mawr aml-ddisgyblaeth dros Gymru gyfan i gyfrannu at ddarparu Rhaglen Fôr CNC. Dyddiad cau dydd Sul 5 Tachwedd.

 

Swyddog Datblygu Prosiectau Cymru

Ymunwch â’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt i sicrhau newidiadau cadarnhaol wrth adfer natur ledled Cymru. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Sadwrn

11 Tachwedd.

 

Planning Ecologist.

Ceredigion County Council would like to employ a Planning Ecologist to cover maternity leave. Applications by Wednesday 1st November.

 

Biodiversity Assistant

Join Ceredigion County Council’s Conservation Team in this home-based, fixed term, part-time role. Closing date for applications Monday 27th November.

 

Events and Network Coordinator

The Community Tree Nursery Collaborative are looking for a new Events and Network Coordinator to support the Collaborative in this part-time homebased role. Closing date for applications Friday 3rd November.

 

Marine Sustainable Management Team Leader

Natural Resources Wales are looking for someone to lead a large all-Wales multi-disciplinary team contributing to the delivery of the NRW Marine Programme. Closing date Sunday 5th November.

 

Wales Project Development Officer

Join the Wildlife Trusts delivering positive changes in nature restoration across Wales. Closing date for applications Saturday 11th November.

 

Cerdded Cymunedol

O 25 Hydref bob dydd Mercher 1pm bydd dwy daith gerdded yn cychwyn ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – Campws Llanbedr. Croeso i bawb. Gwybodaeth wedi ei chysylltu.

 

Cystadleuaeth Tymor y Bwci Bo

Ysgrifennwch yn yr adran sylwadau am eich hoff rywogaeth i ennill tywel sychu llestri. Dyddiad cau dydd Gwener 27 Hydref. 

 

Sgwrs arm Gynllun Gweithredu i Adfer Natur

Ymunwch â Gwrthryfel Difodiant Aberteifi nos Wener 3 Tachwedd 6-8pm i gwrdd a thrafod unrhyw faterion am yr hinsawdd. Bydd sgwrs am y Cynllun Gweithredu i Adfer Natur gan Rachel Auckland. Posteri wedi eu cysylltu.

 

Hadau Cymreig Coed Cymreig

Gweithdy ar gasglu hadau lleol i wella’r cyflenwad o goed brodorol ddydd Gwener 3 Tachwedd yng Nghoedlan Gymunedol Long Wood, Llanbedr.

 

Diwrnod Gofal Ystlumod Cymru

Datblygu gwybodaeth a sgiliau a all helpu diogelu ystlumod ddydd Sadwrn

4 Tachwedd. Tocynnau rhithwir ac yn bersonol ar gael. Y lleoliad yw’r Ganolfan Technoleg Amgen.

 

Cynhadledd Cymdeithas Adaregwyr Cymru

Bydd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar adar ar y Rhestr Goch a bydd hefyd yn cynnwys hanesion am lwyddiant yn ehangu a chynyddu rhywogaethau ddydd Sadwrn 4 Tachwedd 9.30am-5pm ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Sut i Sefydlu Meithrinfa Goed

Dysgu sut i gofrestru clystyrau o hadau coed, casglu hadau coed o goed iach a sefydlu eich meithrinfeydd coed eich hunain i ddarparu coed ifanc ar gyfer prosiectau plannu lleol ddydd Mawrth 7 Tachwedd 10.30am-3.30pm ym Methesda.

 

Cystadleuaeth Prifardd Ystlumod

Dwy gystadleuaeth ysgrifennu creadigol; y naill i oedolion a’r llall i blant. Dyddiad cau dydd Mawrth 7 Tachwedd.

 

Gŵyl Ymchwil

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau o ddydd Mercher 1 tan ddydd Sadwrn 7 Tachwedd i dynnu sylw at y ffordd y gall dyheadau unigolion ac ymrwymiad ar y cyd gael dylanwad sylweddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn y fyd-eang.

 

Dosbarth Antur Mythig a Cherddoriaeth

Sesiynau rhieni a phlant yn dechrau ddydd Iau 8 Tachwedd 10yb-12yp yn Llandysul dan arweiniad storïwr a cherddor, Duncan Stirling. Bydd y sesiynau'n cynnwys chwarae straeon dychmygus, lle mae'r plant yn ymwneud â chreu a chwarae straeon a chanu cymunedol caneuon syml, sy'n seiliedig ar natur yn Gymraeg a Saesneg. Poster ynghlwm.

 

Bio-ddiogelwch ar Ynysoedd Cymru

Sgwrs gyda darluniau nos Fercher 8 Tachwedd 7.30pm yn Theatr Mwldan, Aberteifi. Poster wedi ei gysylltu.

 

Cyfarfod Achub Afon Teifi

Bydd y cyfarfod nesaf nos Iau 9 Tachwedd am 7pm yn Mwldan 6 yn Aberteifi.

 

Gweithdy Tyfu Bwyd

Dysgu sut i dyfu bwyd yn eich cartref ddydd Iau 9 Tachwedd neu ddydd Mawrth 14 Tachwedd 10-12pm yng Nghreuddyn, Llanbedr. Rhaid trefnu ymlaen llaw. Poster wedi ei gysylltu.

 

Sgwrs am Ystlumod

Dewch i glywed sgwrs ddifyr iawn gan yr arbenigwraig Naomi Davies sy’n achub ystlumod ddydd Sadwrn 11 Tachwedd 2pm yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi. Mynediad £3.

 

Meddwl am Fwyd

Pryd o fwyd cymunedol am ddim i drafod y ffordd orau i ddarparu bwyd fforddiadwy, iach yng Nghastellnewydd Emlyn. Dydd Iau 16 Tachwedd 3-7.30pm. Poster wedi ei gysylltu.

 

Hela Wyau’r Brithribin Brown

Chwiliwch am wyau’r pili-pala Brithribin Brown yn llwyni’r ddraenen ddu ddydd Sadwrn 18 Tachwedd 10am. Poster wedi ei gysylltu. 

 

Community Walks

From 25th October every Wednesday 1pm there will be two walks planned, starting at The University of Wales Trinity St. David - Lampeter Campus. All are welcome. Information attached.

 

Spooky Season Species Competition

Write in the comments section about your favourite species to win a tea towel. Closing date Friday 27th October. 

 

Nature Recovery Action Plan Talk

Join Cardigan Extinction Rebellion for on Friday 3rd November 6-8pm to meet and discuss about any climate issues. There will be a talk on the Nature Recovery Action Plan from Rachel Auckland. Posters attached.

 

Welsh Seeds Welsh Trees

Workshop about collecting local seed to improve the supply of Welsh provenance trees on Friday 3rd November at Long Wood Community Woodland, Lampeter.

 

Wales Bat Worker's Day

Develop knowledge and skills that can support bat conservation on Saturday 4th November. There are virtual and in-person tickets available. Location is the Centre for Alternative Technology.

 

Welsh Ornithological Society Conference

The focus is on Red-listed birds and will also include success stories of expanding and increasing species at this conference on Saturday 4th November 9.30am-5pm at Aberystwyth University.

 

How to Establish a Tree Nursery

Learn how to register tree seed clusters, collect tree seeds from healthy trees and set up your own tree nurseries to provide saplings for local tree planting projects on Tuesday 7th November 10.30am-3.30pm at Bethesda.

 

Batty Laureate Competition

Two creative writing competitions; one for adults, one for children. Closing date Tuesday 7th November.

 

Festival of Research

Aberystwyth University are holding a series of events from Wednesday 1st– Saturday 7th November to highlight how individual aspirations and collective commitment can hold significant influence locally, nationally and globally.

 

Mythic Adventure and Music Class

Parent and child sessions starting on Thursday 8th November 10am-12pm in Llandysul led by storyteller and musician, Duncan Stirling. The sessions will involve imaginative story-play, where the children are involved in creating and playing out the stories and communal singing of simple, nature-based songs in English and Welsh. Poster attached.

 

Bio-security on Welsh Islands

An illustrated talk on Wednesday 8th November 7.30pm at Theatre Mwldan, Cardigan. Poster attached

 

Save The Teifi Meeting

The next meeting will be on Thursday 9th November at 7pm at Mwldan 6 in Cardigan.

 

Food Growing Workshop

Learn to grow food in your home on Thursday 9th November or Tuesday 14th November 10-12pm at Creuddyn, Lampeter. Booking essential. Poster attached.

 

Bat Talk

Come along to a captivating talk by bat rescuer and expert Naomi Davies Saturday 11th November 2pm at Dyfi Wildlife Centre. Entry £3.

 

Food for Thought

Free community meal, discussing the best way to provide Newcastle Emlyn with affordable, healthy food. Thursday November 16th 3-7.30pm. Poster attached.

 

Brown Hairstreak Egg Hunt

Look for Brown Hairstreak butterfly eggs in blackthorn on Saturday 18th November 10am. Poster attached.

 

 

 

Ein Cartref, Ein Cynefin: Ceredigion LNP’s Local Places for Nature – Small Grants Scheme

Get up to £5000 for capital projects. Closing date for applications Thursday 30th November. Contact CAVO on 01570 423 232 or grant@cavo.org.uk  

 

 

Ein Cartref, Ein Cynefin: Ceredigion PNLl Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Cynllun Grantiau Bach  

Gallwch gael hyd at £5000 ar gyfer prosiectau cyfalaf. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Iau 30 Tachwedd. Cysylltwch â CAVO ar 01570 423 232 neu grant@cavo.org.uk 

 

Diweddariad Gwasanaeth Natur Cymru

Amser: 2:00 – 3:00pm

Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023

Dros y misoedd diwethaf mae partneriaid allweddol wedi bod yn brysur yn datblygu'r camau nesaf ar gyfer gwasanaeth natur cenedlaethol i Gymru.

Nod Gwasanaeth Natur Cymru yw darparu llwyfan ar gyfer darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen ar gyfer economi sy’n seiliedig ar natur drwy gysylltu pobl o bob oed â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, prentisiaethau, cyflogaeth, menter a gwirfoddoli sy’n seiliedig ar natur.

Byddem yn croesawu eich presenoldeb yn y digwyddiad rhithiol hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith hyd yma, y camau nesaf, yn ogystal â chasglu eich barn ar gynlluniau'r dyfodol.

I fynychu ar y diwrnod cofrestrwch eich diddordeb yma: Gwasanaeth Natur Cymru

Unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad cysylltwch gyda Meilyr Ceredig ar meilyr@sgema.cymru

Nature Service Wales update

Time: 2:00 – 3:00pm

Date: Tuesday, 14 November 2023

Over recent months key partners have been busy developing next steps for a national nature service for Wales.

Nature Service Wales, aims to provide a platform for providing the knowledge, skills, and attitudes needed for a nature-based economy through linking people of all ages with opportunities for nature-based training, apprenticeships, employment, enterprise and volunteering.

We would welcome your presence at this virtual event to update you on work to date, next steps, as well as garner your view on future plans.

To attend on the day register your interest here: Nature Service Wales

Any queries prior to the event please contact Meilyr Ceredig on meilyr@sgema.cymru

 

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.