Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
October 19, 2023

Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 19/10/2023

 

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsflash

Gwobrau Dewi Sant

Cydnabod a dathlu pobl sy’n gwneud pethau eithriadol drwy eu henwebu ar gyfer y wobr hon. Dyddiad cau: dydd Iau 19 Hydref.

 

Webinar diogelu amffibiaid ac ymlusgiaid

Dysgu sut i warchod a meithrin amffibiaid ac ymlusgiaid mewn mynwentydd:

ddydd Mawrth 24 Hydref 2-3.30pm.

 

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon

Bod yn llythrennog am garbon gydag Eco-Ysgolion Cymru o ddydd Mercher

25 Hydref.

 

Webinar Monitro Bioamrywiaeth Pridd

Ymunwch â’r Dr Frank Ashwood am sgwrs am y prif brosiectau monitro bioamrywiaeth pridd sy’n mynd ymlaen nawr yn y DG ac ar draws y byd ddydd Iau 26 Hydref 7-8pm.

 

Webinar Mapio Mynwentydd

Darganfod pam mae arnom angen mapiau da o fynwentydd a sut y cânt eu creu ddydd Mawrth 31 Hydref 2-3.30pm.

 

Saffari ar Lan y Môr

Sesiwn ystafell ddosbarth ac yna archwilio pyllau glan môr ddydd Mawrth 31 Hydref 3.30-5.30pm.

 

Naturewise - Angen Help dros Galan Gaeaf

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer y digwyddiad Calan Gaeaf ddydd Mawrth 31 Hydref a phlant 6-12 oed i gymryd rhan mewn sioe bypedau. Mae gwybodaeth a manylion wedi eu cysylltu am yr help sydd eisiau.

 

Gwirfoddolwyr Ar Gael

Mae Arup yn holi am unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli posibl i grŵp gweithio dros y misoedd nesaf ar gyfer tua deg ar hugain o bobl. Gallant gael eu rhannu, gan ganolbwyntio ar weithio gyda’i gilydd i gyfrannu at yr amgylchedd, megis glanhau afonydd, amddiffyn rhag llifogydd. Os oes gan rywun rywbeth addas, cysylltwch os gwelwch yn dda â Louisa.Rhodes@arup.com

Coetir Anian

Hoffem i bobl wybod y bydd yr holl gyfraniadau iddynt am fis Hydref yn cael eu treblu.

 

Ymgynghorydd Newid Ymddygiad a Gwerthuswr Annibynnol

Os yw’r naill deitl neu’r llall yn eich disgrifio chi, yna cysylltwch, os gwelwch yn dda,

â biodiversity@ceredigion.gov.uk i weithio gyda ni ar y Prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i roi cyngor ar ddulliau dylunio, monitro a gwerthuso. Neu i asesu effeithiolrwydd prosiectau a methodolegau.

 

Rheolwr Prosiectau Cadwraeth

Mae’r Bumblebee Conservation Trust yn edrych am Reolwr Prosiectau Cadwraeth amser-llawn yng Nghymru i arwain gyda darparu gwaith cadwraeth yng Nghymru. Dyddiad cau dydd Llun 30 Hydref.

Grant Datblygu Mawndir

 

  • Mae’r rownd grant newydd wedi agor 13/10/2023 ac yn cau am ganol nos 15/1/2024.

  • Mae gwerth £100,000 o gronfa ar gael, ar ffurf grantiau £10k-£30k i unigolion a sefydliadau ar gyfer datblygu cynlluniau i adfer mawndir.

  • Rhaid cwblhau prosiectau llwyddiannus Rownd 3 y Grantiau Datblygu erbyn 15/1/25.

  • Ceir yr holl fanylion a mynediad i’r broses ymgeisio drwy dudalen we Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.

  • I esbonio’r broses ymgeisio, cynhelir gweminarau ar Teams ar 27/10/23 (10-11yb Saesneg a 11:30yb-12:302yp Cymraeg) gyda chofrestru yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Uwchlwythir recordiad o’r gweminarau er mwyn cyfeirio nôl atynt.

  • Ariennir y grantiau gan Lywodraeth Cymru.

  • Mae gan Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC rôl strategol yn ehangu adfer mawndir Cymru gyda phartneriaid.

  • Y Cyhoeddiad Grant Datblygu Mawndir    

 

Diolch am eich cefnogaeth i rannu’r wybodaeth.

 

Dylid cyfeirio pob ymholiad am y grant a’r broses ymgeisio at grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â mawndir yn benodol, dylid danfon at NPAP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

 

 

St. David Awards

Recognise and celebrate people who do exceptional things by nominating them for this award. Deadline: Thursday 19th October.

 

Conserving amphibians and reptiles webinar

Learn how to conserve and nurture amphibians and reptiles in burial grounds Tuesday 24th October 2-3.30pm.

 

Carbon Literacy Training

Become Carbon Literate with Eco-Schools Wales from Wednesday 25th October.

 

Soil Biodiversity Monitoring Webinar

Join Dr Frank Ashwood for a talk on the major soil biodiversity monitoring projects currently being undertaken in the UK and globally Thursday 26th October 7-8pm.

 

Burial Ground Mapping Webinar

Discover why we need good maps of burial grounds and how they are created on Tuesday 31st October 2-3.30pm.

 

Seashore Safari

A classroom session followed by rockpool exploration on Tuesday 31st October 3.30-5.30pm.

 

Naturewise Halloween Help needed

Volunteers are needed for the Naturewise Halloween event on Tuesday 31st October and people aged 6-12 years to take part in the puppet show. Event information and details of the help needed are attached.

 

Volunteers Available

Arup would like to enquire about any possible volunteering opportunities for a work group over the next few months for approximately thirty people, who can be split up, with a focusing on working together to give back to the environment, such as a river clear up, flood defences. If anyone has anything suitable, please contact Louisa.Rhodes@arup.com

Cambrian Wildwood

Would like to let people know that for the month of October, all donations made to them will be trebled.

 

Behaviour Change Consultant and Independent Evaluator

If either of these titles describe you then please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk to work with us on the Local Places for Nature Project to advise on design, monitoring and evaluation methods; or assess effectiveness of projects and of methodologies.

 

Conservation Projects Manager

Bumblebee Conservation Trust is looking for a full-time Conservation Projects Manager in Wales to lead on the delivery of conservation work in Wales. Closing date Monday 30th October.

 

Peatland Development Grant

  • The new grant round was launched 13/10/2023 and closes at midnight 15/1/2024.

  • £100,000 of funding is available as £10k-£30k grants to individuals and organisations for developing plans for peatland restoration.

  • The successful Development Grant projects must be completed by 15/1/25.

  • All details and the application process can be accessed through the Wales Peatland Action Programme web page.

  • Webinars to explain the application process will be held on Teams on 27/10/23 (10-11am English and 11:30am-12:30pm Welsh) with registration in  Welsh and English. A recording of the webinars will be uploaded for on-going reference.

  • The grants are funded by Welsh Government.

  • NRW’s National Peatland Action Programme has a strategic role to expand Wales’ peatland action through partners.

  • The Peatland Development Grant Announcement    

Thank you for your support in sharing this information.

All queries about the grants and application process should be directed to grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

Any queries regarding peatland specifically, should be directed to NPAP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

 

 

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.