Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
July 13, 2023

Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 13/07/2023

 

 

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsflash

 

Achub y Teifi - Cyfarfod

Bydd y cyfarfod hwn ar ddydd Iau, 13 Gorffennaf am 7y.h. yn Ystafell 4 - Mwldan (Sinema Aberteifi)

 

 

Save the Teifi Meeting

This meeting will be on Thursday, July 13th at 7 p.m. in Room 4 - Mwldan (Cardigan Cinema)

 

Gweminar Miri Mes

Dysgwch am ymgyrch Miri Mes Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Iau, Gorffennaf 13 o 3.45y.p.  tan 4.45y.p. a sut y gallwch chi helpu.

 

Acorn Antics Webinar

Learn about Natural Resources Wales’s Acorn Antics campaign on Thursday, July 13th from 3.45 p.m. until 4.45 p.m. and how you can help

 

 

Sgrinio Ffilm

‘The Seeds of Vanda Shiva’ a fydd yn cael ei dangos ar ddydd Iau, Gorffennaf 13fed am 7y.p. yw rhaglen ddogfen am fywyd yr eco-actifydd Gandhi a'r amaeth-ecolegydd Vandana Shiva.

 

 

Film Screening

The Seeds of Vanda Shiva which will be shown on Thursday, July 13th at 7 p.m. is a documentary about the life story of the Gandhian eco-activist and agro-ecologist, Vandana Shiva.

 

Gwirfoddolwyr Cynnal a Chadw Garddio

Mae Grŵp Garddio Penparcau yn chwilio am wirfoddolwyr ar ddydd Gwener, Gorffennaf 14eg am 10 y bore i helpu i  dorri glaswellt, chwynnu a chlirio fel bod yr ardd yn hygyrch i'r trigolion ei defnyddio. Bydd bws mini o Ganolfan Penparcau am 10 y bore. Gellir trefnu  taith arall amser cinio neu os oes angen lifft yn ôl i'r dref neu godi am y prynhawn.

Cysylltwch ag Al Prichard volunteering@tircoed.org.uk

 

 

Gardening Maintenance Volunteers

The Penparcau Gardening Group are looking for volunteers on Friday, July 14th at 10 a.m.  to help carry out cutting grass, weeding and clearing so that the garden is accessible for the residents to use. There will be a minibus from Penparcau Hub at 10 a.m. and another run can be arranged at lunchtime or if anyone needs a lift back to town or picking up for the afternoon.

Please contact Al Prichard volunteering@tircoed.org.uk

 

Gweithdy Gwirfoddoli Gwyfynod

Ymunwch â Coed Gwyllt Cambrian ddydd Sadwrn, Gorffennaf 15fed o 10y.b. tan 4y.p. i arolygu gwyfynod a thorri rhedyn. Mae poster gwybodaeth ynghlwm wrth y fflach newyddion hwn.

 

 

Moth Volunteer Workshop

Join Cambrian Wildwood on Saturday, July 15th from 10 a.m. until 4 p.m. to survey moths and slash bracken. An information poster is attached to this newsflash.

 

Taith Glöynnod Byw

Helpu i gyfrif Gloÿnnod Byw Glas Cyffredin ar laswelltir Tanybwlch ar ddydd Llun, Gorffennaf 17eg am 2y.p. Cwrdd ym maes parcio traeth Tanybwlch.

 

 

Butterfly Walk

Help to count Common Blue Butterflies at Tanybwlch grassland on Monday, July 17th at 2 p.m. Meet at Tanybwlch beach car park.

 

Wythnos Natur Cymru

Ydych chi'n cynllunio digwyddiad yn ystod Wythnos Natur Cymru sy'n rhedeg o ddydd Sadwrn, Gorffennaf 22ain tan ddydd Sul, Gorffennaf 30ain? Os felly, cofiwch gysylltu â ni yn biodiversity@ceredigion.gov.uk os yw eich grŵp cymunedol, ysgol neu sefydliad yn cynllunio digwyddiad.

 

 

Wales Nature Week

Are you planning an event during Wales Nature Week which runs from Saturday, July 22nd until Sunday, July 30th?

If so, please remember to get in touch at biodiversity@ceredigion.gov.uk  if your community group, school or organisation are planning an event.

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
https://naturceredi… Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.