Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
February 16, 2024

Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 16/02/2024

 

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsflash

GWEITHGAREDDAU

 

Dathlu Tirweddau Dynodedig

Dathlu 75 mlynedd o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad I Gefn Gwlad yn y Senedd Ddydd Mawrth 5 Mawrth 12 canol dydd - 1.30pm. Atebwch erbyn dydd Mawrth 20 Chwefror.

 

Webinar am Ddim ar Ffyngau Coedlannau

Dysgwch sut i adnabod rhywogaethau cyffredin y goedlan a chael gwell dealltwriaeth o’u pwysigrwydd ecolegol nos Fawrth 20 Chwefror 6pm. Anfonwch e-bost at  Sarah am wybodaeth.

 

Ffilm ar Dyfu Bwyd

Ymunwch â Phartneriaeth Bwyd Ceredigion y is hwn i weld y ffilm Rooted – Growing a Local Food System a thrafodaeth i ddilyn nos Fercher 21 Chwefror 5.30pm yn yr Hen Neuadd ar Gampws Llanbedr Pont Steffan.

 

Awgrymiadau Sut i Adnabod Gwyfynod

Cyfres ar-lein am ddim yn canolbwyntio ar fathau o wyfynod sy’n cael eu camenwi’n gyffredin. Sesiynau’n dechrau ddydd Mercher 21 Chwefror.

 

Cwrs ar Blygu Cloddiau

Dysgu’r grefft draddodiadol o blygu cloddiau gyda Thir Coed ym Mhont-iets ddydd Iau 22 Chwefror a dydd Gwener 23 Chwefror 10am-3pm. Poster ynghlwm. Cysylltwch ag alex.nicholas@cavs.org.uk

 

Webinar ar Reoli Tir ar gyfer Ceffylau 

Cyfle i bawb sydd â cheffylau i ddysgu sut i reoli tir (ar rent neu’n eiddo) mewn ffordd sy’n dda i geffylau, pobl a’r amgylchedd nos Fawrth 27 Chwefror 6.30-8pm.

 

Hyfforddiant ‘Beewalk’ – Ar-lein

Dysgwch sut i sefydlu a rhedeg ‘Beewalk’, a rhoi arweiniad i'r rhywogaethau cyffredin o Cacwn ledled Prydain. 6yp – 7.30yp.

Rhan Un – Dydd Iau 29 Chwefror

Rhan Dau – Dydd Iau 7 Mawrth.

Rhan Tri – Dydd Mercher 13 Mawrth

 

Gweithgareddau Llesiant

Mae gan Hyb Llesiant Dyffryn Aeron amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar natur. Gweler y poster sydd ynghlwm.

 

 

ACTIVITIES

 

Celebrating Welsh Designated Landscapes

Celebrate 75 years of the National Parks and Access to the Countryside Act at The Senedd on Tuesday 5th March 12noon-1.30pm. RSVP by Tuesday 20th February.

 

Woodland Fungi Free Webinar

Learn how to identify common woodland species and gain a deeper understanding of their ecological importance on Tuesday 20th February 6pm. Please  email Sarah for information.

 

Food Growing Film

Join Partneriaeth Bwyd Ceredigion this month, for a film screening of Rooted – Growing a Local Food System followed by a discussion on Wednesday 21st February 5.30pm at Old Hall, Lampeter Campus.

 

Moth Identification Tips

A free, online series focusing on commonly misidentified moth species. Sessions start Wednesday 21st February.

 

Hedge Laying Course

Learn the traditional skill of hedge laying with Tir Coed at Pontyates on Thursday 22nd February and Friday 23rd February 10am-3pm. Poster attached. Please contact alex.nicholas@cavs.org.uk

 

Managing Land for horses Webinar

An opportunity for all horse owners to learn how to manage land (rented or owned) in a way that is good for horses, people and the environment on Tuesday 27th February 6.30-8pm.

 

Beewalk Training – Online

Learn how to set up and run a Beewalk, and give a guide to the common species of Bumblebee across Britain. 6pm – 7.30pm.

Part One – Thursday 29th February

Part Two – Thursday 7th March.

Part Three – Wednesday 13th March

 

Wellbeing Activities

Aeron Valley Wellbeing Hub have a range of nature-based activities. See attached poster.

 

Ar-lein - Y Môr a Ni: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llythrennedd Morol Cymru

 

Hoffai Partneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru eich gwahodd i ymgysylltu ag “Y Môr a Ni: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llythrennedd Morol Cymru” mewn dau weithdy ar-lein: 

  • 21 Chwefror 2024 – 2 - 3:30pm Ar-lein

  • 21 Chwefror 2024 – 7 - 8:30pm Ar-lein

Rydym yn ymwybodol bod rhai wedi methu â mynychu’r gweithdai wyneb yn wyneb a gynhaliwyd oherwydd ymrwymiadau gwaith a mynediad. Mae hwn yn gyfle i ymgysylltu mewn ffordd arall.

Gellir disgrifio llythrennedd morol yn ei ystyr symlaf fel deall eich dylanwad ar y môr, a dylanwad y môr arnoch chi. Mae llawer o waith gwych wedi bod yn digwydd yng Nghymru i gefnogi’r syniad hwn, ac roedd rhwydwaith o ymarferwyr morol ac arfordirol yn cydnabod yr angen am weledigaeth, strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer y gwaith hwn ac felly aethant ati i’w datblygu.

Rydym am rannu hyn gyda chi a deall yn well sut y gallwn symud y gwaith yn ei flaen, gyda'n gilydd.

Nod y gweithdai:

Dod ag ymarferwyr morol ac arfordirol yng Nghymru at ei gilydd i gefnogi datblygiad y Strategaeth Llythrennedd Eigion yng Nghymru (Y Môr a Ni).

Amcanion:

  • Rhoi gwybod i grŵp ehangach am waith y gweithgor Llythrennedd Morol a chyflwyno drafft o Y Môr a Ni: Strategaeth a chynllun cyflawni

  • Annog trafodaeth egnïol a mewnbwn er mwyn mireinio'r strategaeth a'r cynllun cyflawni

  • Ceisio ymrwymiad ehangach i wireddu’r cynllun cyflawni

Cofrestrwch yma

Bydd gwahoddiad i gyfarfod MS Teams yn cael ei anfon ar 20 Chwefror ar gyfer y digwyddiad hwn ar ôl cofrestru.

 

Online - Y Môr a Ni: Wales Ocean Literacy Strategy and Action Plan

 

Coast and Seas Partnership, Cymru (CaSP) would like to invite you to engage with “Y Môr a Ni: Wales Ocean Literacy Strategy and Action Plan” at two online workshops: 

  • February 21st 2024 – 2 - 3:30pm Online

  • February 21st 2024 – 7 - 8:30pm Online

We are aware that many could not attend the recent face to face workshops we held due to access and working commitments. This is an opportunity to engage in another way.

Ocean literacy in its simplest sense can be described as understanding your influence on the ocean, and its influence on you. Lots of fantastic work has been going on in Wales to support this idea, and a network of marine and coastal practitioners recognised the need for, and so have developed, a vision, strategy and action plan for this work.

We want to share this with you and better understand how we can lead this work forward, together.

Aim of the workshops:

To bring marine and coastal practitioners in Wales together to support the development of the Ocean Literacy Strategy in Wales (Y Môr a Ni).

Objectives:

  • Inform a wider group about the work of the Ocean Literacy working group and present the draft Y Môr a Ni: Strategy and implementation plan

  • Encourage active discussion and input to refine the strategy and implementation plan

  • Seek wider buy-in and commitment to delivering the implementation plan

Register here

An MS Teams meeting invitation will be sent out on 20th February for this event after registration.

 

GWIRFODDOLI A CHYFLEOEDD AM WAITH

 

Diwrnod Gwaith Gwirfoddol – Rheoli Coedlannau

Ymarfer sgiliau i ddiogelu, gwella ac adfer y dirwedd a hyrwyddo cynefinoedd bywyd gwyllt a bioamrywiaeth gydag Elemental Adventures, Llandysul ddydd Sul

18 Chwefror 10am-2pm.

 

Lleoliad Gwyddoniaeth Cadwraeth

Ymunwch â PlantLife i ddatblygu a darparu rhaglenni gwyddoniaeth y bobl. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Sul 18 Chwefror.

 

Swyddog Eiriolaeth y Senedd

Mae RSPB yn chwilio am eiriolwr sy’n wybodus yn wleidyddol i ymuno â’u Tîm Polisi ac Eiriolaeth. Dyddiad cau: dydd Mercher 21 Chwefror

 

Swyddog Datblygu – ‘Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned’

A allech chi arwain yr agwedd hon o brosiect ‘Tyfu Dyfi - Tyfu'r Economi Bwyd Lleol’?

Nodweddion allweddol i gynnwys: Dealltwriaeth o ddulliau cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynhyrchwyr lleol; Profiad o drefnu, hyrwyddo a/neu annog cyfraniad at ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.

Dyletswyddau i gynnwys: Gweithio i gynyddu cyfaint y bwyd a gynhyrchir yn lleol trwy ddefnyddio arferion amaethecolegol; Datblygu cydweithio.

Cytundeb: Misoedd Ebrill- Rhagfyr (18.5 awr yr wythnos). £13,744.64 (£27,489.28 llawn amser)

I wneud cais: Darllenwch grynodeb y prosiect ar http://www.ecodyfi.cymru/. Anfonwch CV a llythyr eglurhaol atom yn dangos sut mae eich profiad, gwybodaeth a sgiliau yn ymateb i nodweddion y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb yr Unigolyn.                                         

Dyddiad cau: 10yb, 26 Chwefror 2024                     

Cyfweliadau: Dydd Iau 29 Chwefror

 

Gwirfoddolwyr Diogelu Afonydd

Mae prosiect partneriaeth newydd wedi ei sefydlu gydag Ymddiriedolaeth  Afonydd Gorllewin Cymru i helpu diogelu afonydd Teifi, Tywi a Chleddy. Bydd y prosiect yn defnyddio gwirfoddolwyr i helpu rheoli effaith rhywogaethau ymledol ar yr afonydd. Os hoffech gymryd rhan neu gael gwybod rhagor, anfonwch e-bost i 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Gwirfoddolwr Ystrad Fflur

Helpu rhedeg Arddangosfa Mynachlog Fawr yn Ystrad Fflur fel Tywysydd yr Arddangosfa.

 

Angen Gwirfoddolwyr yr Ardd Goffa

Ydych chi’n fodlon helpu cynnal a chadw a gwella Gardd Goffa Llangrannog i gynyddu’r planhigion a gwneud yr ardd yn fwy bioamrywiol ac yn fwy caredig i fywyd gwyllt? Anfonwch e-bost i Llangrannoggarden@gmail.com

 

Gwirfoddolwyr Yr Ardd

  • Os hoffech wirfoddoli, dewch i gwrdd bob dydd Iau 10-12:30pm yn Yr Ardd, Llandysul. Dim angen profiad garddio.

  • Allwch chi helpu hyrwyddo’r Ardd mewn Digwyddiadau Llesiant Cymunedol a gyda’u presenoldeb Cyfryngau Cymdeithasol?

  • Mae angen gwirfoddolwyr i gynnal arolygon biolegol misol ‘gwyddoniaeth y bobl’, yn bennaf o flodau gwylltion am ddeuddeg mis. Bydd yn cymryd tua 2-4 awr y mis. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Bydd angen y canlynol: gwybodaeth sylfaenol o appiau symudol, diddordeb mewn blodau gwylltion, a gallu gweithio’n annibynnol ac yn gyson ar brosiect. 

 

Os gallwch helpu, cysylltwch ag elizabeth@yrardd.org neu 07579 849805 am fwy o wybodaeth.

 

VOLUNTEERING AND JOB OPPORTUNITIES

 

Volunteer Work Day – Woodland Management

Practice skills to conserve, enhance and restore the landscape and promote wildlife habitats and biodiversity with Elemental Adventures, Llandysul on Sunday 18th February 10am-2pm.

 

Conservation Science Intern

Join PlantLife in the development and delivery of citizen science programmes. Closing date for applications: Sunday 18th February.

 

Senedd Advocacy Officer

RSPB are looking for a politically-savvy environmental advocate to join their Policy and Advocacy Team. Closing date: Wednesday 21st February.

 

Development Officer – Community Supported Agriculture

Could you lead this aspect of the ‘Tyfu Dyfi - Growing the Local Food Economy’ project?

Key attributes to include: Understanding of sustainable food production and local producers; Experience of organising, promoting and/or encouraging participation in community events & activities.

Duties include: Work to increase the volume of food being produced locally using agroecological practices; Develop collaborations.

Contract: April-December (18.5 hours/week); £13,744.64 (£27,489.28 FTE)

To apply: Read the project summary from http://www.ecodyfi.cymru/. Send us a CV and a covering letter showing how your experience, knowledge and skills respond to the characteristics in the Job Description and Person Specification.

Closing date: 10am, 26 February 2024

Interviews: Thursday 29 February

 

River Protection Volunteers

A new partnership project has been set up with the West Wales Rivers Trust to help protect the Teifi, Tywi and Cledddau. The project will use volunteers help to control the impact of invasive species on the rivers. If you would like to get involved or want to find out more, please email 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Strata Florida Volunteer

Help run the Arddangosfa Mynachlog Fawr Exhibition at Strata Florida as an Exhibition Guide.

 

Memorial Garden Volunteers Wanted

Are you willing to help maintain and improve the lower Llangrannog Memorial Garden to increase the planting and make the garden a more biodiverse and wildlife friendly space? Please email Llangrannoggarden@gmail.com

 

Yr Ardd Volunteer

  • If you are interested in volunteering, meet every Thursday 10-12:30pm at Yr Ardd, Llandysul. No gardening experience necessary

  • Are you able to help promote Yr Ardd at the Community Wellbeing Events, and with their Social Media presence?

  • Volunteers needed to undertake monthly 'citizen science' biological surveys, mainly of wildflowers for twelve months. This will take approx. 2-4 hours per month. Training will be given. Pre-requisites are: A basic working knowledge of mobile apps, an interest in wildflowers, and the ability to work independently and consistently on a project. 

 

If you can help, please contact elizabeth@yrardd.org  or 07579 849805 for more information.

 

GARDDIO

 

Grŵp Garddio

Cynhelir y grŵp ar ddydd Gwener o 10am i 5pm yn Hyb Cymunedol Penparcau. Croeso i bobl ddod pryd bynnag fyddan nhw ar gael am cyhyd ag y mynnwch. 

 

Cwtsh Natur

Cyfle i gymdeithasu a garddio ychydig unwaith y mis ar ddydd Sadwrn yn Yr Ardd. Coffi a theisen wedi’u cynnwys . Am fwy o wybodaeth cysylltwch â llinos.cbw@gmail.com

 

Cymdeithas Garddio

Mae Cymdeithas Garddio Three Picks yn eich croesawu i’w grŵp. Rhannu gwybodaeth, awgrymiadau a hadau ar y 3ydd dydd Iau bob mis yn Nhafarn Glanyrafon, Talgarreg. Cyrraedd am 7.30 am sesiwn 8-9pm.

 

Penwythnos Garddio Llandysul

Digwyddiad pedwar diwrnod yn cynnwys sgyrsiau  am amrywiaeth o bynciau garddio a thyfu o ddydd Iau i ddydd Sul 18 Chwefror . Gweler y posteri ynghlwm.

 

GARDENING

 

Gardening Group

The group is held on Fridays from 10am-5pm at the Penparcau Community Hub. People are welcome to come whenever they are available and for as long as they want to.

 

Cwtsh Natur

An opportunity to socialise and do some gardening once a month on a Saturday at Yr Ardd. Coffee and cake included. For more information, please contact llinos.cbw@gmail.com

 

Gardening Society

The Three Picks Gardening Society welcome you to their group. Share knowledge, tips and seeds on the 3rd Thursday of each month at The Glanyrafon Arms, Talgarreg. Arrive at 7.30 for an 8-9pm session.

 

Llandysul Gardening Weekend

A four-day event including talks on a variety or gardening and growing topics from Thursday 15th to Sunday 18th February. See attached posters.

 

AROLYGON

 

Arolwg Bwyd

Arolwg gan Bartneriaeth Bwyd Ceredigion i weld a hoffai dinasyddion Ceredigion gael mwy o randiroedd neu gyfleoedd i dyfu rhywfaint o'u bwyd eu hunain a beth allai'r rhwystrau posibl fod. Gweler ynghlwm.

 

Arolwg o'r Ardd

Mae gerddi Gerddi Bro Ddyfi yn gofyn am eich barn a'ch syniadau ar gyfer y dyfodol, mae eich mewnbwn yn hanfodol wrth lunio eu dyfodol.

SURVEYS

 

Food Survey

Survey from Partneriaeth Bwyd Ceredigion to find out whether Ceredigion's citizens would like more allotments or opportunities to grow some of their own food and what the possible barriers might be. See attached.

 

Garden Survey

Gerddi Bro Ddyfi gardens are asking for your opinions and ideas for the future, your input is crucial in shaping their future.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

 

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
custom Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.