Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 16-02-2024
Fflach Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature Newsflash |
GWEITHGAREDDAU
Dathlu 75 mlynedd o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad I Gefn Gwlad yn y Senedd Ddydd Mawrth 5 Mawrth 12 canol dydd - 1.30pm. Atebwch erbyn dydd Mawrth 20 Chwefror.
Webinar am Ddim ar Ffyngau Coedlannau Dysgwch sut i adnabod rhywogaethau cyffredin y goedlan a chael gwell dealltwriaeth o’u pwysigrwydd ecolegol nos Fawrth 20 Chwefror 6pm. Anfonwch e-bost at Sarah am wybodaeth.
Ffilm ar Dyfu Bwyd Ymunwch â Phartneriaeth Bwyd Ceredigion y is hwn i weld y ffilm Rooted – Growing a Local Food System a thrafodaeth i ddilyn nos Fercher 21 Chwefror 5.30pm yn yr Hen Neuadd ar Gampws Llanbedr Pont Steffan.
Awgrymiadau Sut i Adnabod Gwyfynod Cyfres ar-lein am ddim yn canolbwyntio ar fathau o wyfynod sy’n cael eu camenwi’n gyffredin. Sesiynau’n dechrau ddydd Mercher 21 Chwefror.
Cwrs ar Blygu Cloddiau Dysgu’r grefft draddodiadol o blygu cloddiau gyda Thir Coed ym Mhont-iets ddydd Iau 22 Chwefror a dydd Gwener 23 Chwefror 10am-3pm. Poster ynghlwm. Cysylltwch ag alex.nicholas@cavs.org.uk
Webinar ar Reoli Tir ar gyfer Ceffylau Cyfle i bawb sydd â cheffylau i ddysgu sut i reoli tir (ar rent neu’n eiddo) mewn ffordd sy’n dda i geffylau, pobl a’r amgylchedd nos Fawrth 27 Chwefror 6.30-8pm.
Hyfforddiant ‘Beewalk’ – Ar-lein Dysgwch sut i sefydlu a rhedeg ‘Beewalk’, a rhoi arweiniad i'r rhywogaethau cyffredin o Cacwn ledled Prydain. 6yp – 7.30yp. Rhan Un – Dydd Iau 29 Chwefror Rhan Dau – Dydd Iau 7 Mawrth. Rhan Tri – Dydd Mercher 13 Mawrth
Gweithgareddau Llesiant Mae gan Hyb Llesiant Dyffryn Aeron amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar natur. Gweler y poster sydd ynghlwm.
| ACTIVITIES
Celebrating Welsh Designated Landscapes Celebrate 75 years of the National Parks and Access to the Countryside Act at The Senedd on Tuesday 5th March 12noon-1.30pm. RSVP by Tuesday 20th February.
Woodland Fungi Free Webinar Learn how to identify common woodland species and gain a deeper understanding of their ecological importance on Tuesday 20th February 6pm. Please email Sarah for information.
Food Growing Film Join Partneriaeth Bwyd Ceredigion this month, for a film screening of Rooted – Growing a Local Food System followed by a discussion on Wednesday 21st February 5.30pm at Old Hall, Lampeter Campus.
A free, online series focusing on commonly misidentified moth species. Sessions start Wednesday 21st February.
Hedge Laying Course Learn the traditional skill of hedge laying with Tir Coed at Pontyates on Thursday 22nd February and Friday 23rd February 10am-3pm. Poster attached. Please contact alex.nicholas@cavs.org.uk
Managing Land for horses Webinar An opportunity for all horse owners to learn how to manage land (rented or owned) in a way that is good for horses, people and the environment on Tuesday 27th February 6.30-8pm.
Beewalk Training – Online Learn how to set up and run a Beewalk, and give a guide to the common species of Bumblebee across Britain. 6pm – 7.30pm. Part One – Thursday 29th February Part Two – Thursday 7th March. Part Three – Wednesday 13th March
Wellbeing Activities Aeron Valley Wellbeing Hub have a range of nature-based activities. See attached poster.
|
Ar-lein - Y Môr a Ni: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llythrennedd Morol Cymru
Hoffai Partneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru eich gwahodd i ymgysylltu ag “Y Môr a Ni: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llythrennedd Morol Cymru” mewn dau weithdy ar-lein:
Rydym yn ymwybodol bod rhai wedi methu â mynychu’r gweithdai wyneb yn wyneb a gynhaliwyd oherwydd ymrwymiadau gwaith a mynediad. Mae hwn yn gyfle i ymgysylltu mewn ffordd arall. Gellir disgrifio llythrennedd morol yn ei ystyr symlaf fel deall eich dylanwad ar y môr, a dylanwad y môr arnoch chi. Mae llawer o waith gwych wedi bod yn digwydd yng Nghymru i gefnogi’r syniad hwn, ac roedd rhwydwaith o ymarferwyr morol ac arfordirol yn cydnabod yr angen am weledigaeth, strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer y gwaith hwn ac felly aethant ati i’w datblygu. Rydym am rannu hyn gyda chi a deall yn well sut y gallwn symud y gwaith yn ei flaen, gyda'n gilydd. Nod y gweithdai: Dod ag ymarferwyr morol ac arfordirol yng Nghymru at ei gilydd i gefnogi datblygiad y Strategaeth Llythrennedd Eigion yng Nghymru (Y Môr a Ni). Amcanion:
Bydd gwahoddiad i gyfarfod MS Teams yn cael ei anfon ar 20 Chwefror ar gyfer y digwyddiad hwn ar ôl cofrestru.
| Online - Y Môr a Ni: Wales Ocean Literacy Strategy and Action Plan
Coast and Seas Partnership, Cymru (CaSP) would like to invite you to engage with “Y Môr a Ni: Wales Ocean Literacy Strategy and Action Plan” at two online workshops:
We are aware that many could not attend the recent face to face workshops we held due to access and working commitments. This is an opportunity to engage in another way. Ocean literacy in its simplest sense can be described as understanding your influence on the ocean, and its influence on you. Lots of fantastic work has been going on in Wales to support this idea, and a network of marine and coastal practitioners recognised the need for, and so have developed, a vision, strategy and action plan for this work. We want to share this with you and better understand how we can lead this work forward, together. Aim of the workshops: To bring marine and coastal practitioners in Wales together to support the development of the Ocean Literacy Strategy in Wales (Y Môr a Ni). Objectives:
An MS Teams meeting invitation will be sent out on 20th February for this event after registration.
|
GWIRFODDOLI A CHYFLEOEDD AM WAITH
Diwrnod Gwaith Gwirfoddol – Rheoli Coedlannau Ymarfer sgiliau i ddiogelu, gwella ac adfer y dirwedd a hyrwyddo cynefinoedd bywyd gwyllt a bioamrywiaeth gydag Elemental Adventures, Llandysul ddydd Sul 18 Chwefror 10am-2pm.
Lleoliad Gwyddoniaeth Cadwraeth Ymunwch â PlantLife i ddatblygu a darparu rhaglenni gwyddoniaeth y bobl. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Sul 18 Chwefror.
Mae RSPB yn chwilio am eiriolwr sy’n wybodus yn wleidyddol i ymuno â’u Tîm Polisi ac Eiriolaeth. Dyddiad cau: dydd Mercher 21 Chwefror
Swyddog Datblygu – ‘Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned’ A allech chi arwain yr agwedd hon o brosiect ‘Tyfu Dyfi - Tyfu'r Economi Bwyd Lleol’? Nodweddion allweddol i gynnwys: Dealltwriaeth o ddulliau cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynhyrchwyr lleol; Profiad o drefnu, hyrwyddo a/neu annog cyfraniad at ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Dyletswyddau i gynnwys: Gweithio i gynyddu cyfaint y bwyd a gynhyrchir yn lleol trwy ddefnyddio arferion amaethecolegol; Datblygu cydweithio. Cytundeb: Misoedd Ebrill- Rhagfyr (18.5 awr yr wythnos). £13,744.64 (£27,489.28 llawn amser) I wneud cais: Darllenwch grynodeb y prosiect ar http://www.ecodyfi.cymru/. Anfonwch CV a llythyr eglurhaol atom yn dangos sut mae eich profiad, gwybodaeth a sgiliau yn ymateb i nodweddion y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb yr Unigolyn. Dyddiad cau: 10yb, 26 Chwefror 2024 Cyfweliadau: Dydd Iau 29 Chwefror
Gwirfoddolwyr Diogelu Afonydd Mae prosiect partneriaeth newydd wedi ei sefydlu gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru i helpu diogelu afonydd Teifi, Tywi a Chleddy. Bydd y prosiect yn defnyddio gwirfoddolwyr i helpu rheoli effaith rhywogaethau ymledol ar yr afonydd. Os hoffech gymryd rhan neu gael gwybod rhagor, anfonwch e-bost i 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Helpu rhedeg Arddangosfa Mynachlog Fawr yn Ystrad Fflur fel Tywysydd yr Arddangosfa.
Angen Gwirfoddolwyr yr Ardd Goffa Ydych chi’n fodlon helpu cynnal a chadw a gwella Gardd Goffa Llangrannog i gynyddu’r planhigion a gwneud yr ardd yn fwy bioamrywiol ac yn fwy caredig i fywyd gwyllt? Anfonwch e-bost i Llangrannoggarden@gmail.com
Gwirfoddolwyr Yr Ardd
Os gallwch helpu, cysylltwch ag elizabeth@yrardd.org neu 07579 849805 am fwy o wybodaeth.
| VOLUNTEERING AND JOB OPPORTUNITIES
Volunteer Work Day – Woodland Management Practice skills to conserve, enhance and restore the landscape and promote wildlife habitats and biodiversity with Elemental Adventures, Llandysul on Sunday 18th February 10am-2pm.
Join PlantLife in the development and delivery of citizen science programmes. Closing date for applications: Sunday 18th February.
RSPB are looking for a politically-savvy environmental advocate to join their Policy and Advocacy Team. Closing date: Wednesday 21st February.
Development Officer – Community Supported Agriculture Could you lead this aspect of the ‘Tyfu Dyfi - Growing the Local Food Economy’ project? Key attributes to include: Understanding of sustainable food production and local producers; Experience of organising, promoting and/or encouraging participation in community events & activities. Duties include: Work to increase the volume of food being produced locally using agroecological practices; Develop collaborations. Contract: April-December (18.5 hours/week); £13,744.64 (£27,489.28 FTE) To apply: Read the project summary from http://www.ecodyfi.cymru/. Send us a CV and a covering letter showing how your experience, knowledge and skills respond to the characteristics in the Job Description and Person Specification. Closing date: 10am, 26 February 2024 Interviews: Thursday 29 February
River Protection Volunteers A new partnership project has been set up with the West Wales Rivers Trust to help protect the Teifi, Tywi and Cledddau. The project will use volunteers help to control the impact of invasive species on the rivers. If you would like to get involved or want to find out more, please email 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Help run the Arddangosfa Mynachlog Fawr Exhibition at Strata Florida as an Exhibition Guide.
Memorial Garden Volunteers Wanted Are you willing to help maintain and improve the lower Llangrannog Memorial Garden to increase the planting and make the garden a more biodiverse and wildlife friendly space? Please email Llangrannoggarden@gmail.com
Yr Ardd Volunteer
If you can help, please contact elizabeth@yrardd.org or 07579 849805 for more information.
|
GARDDIO
Grŵp Garddio Cynhelir y grŵp ar ddydd Gwener o 10am i 5pm yn Hyb Cymunedol Penparcau. Croeso i bobl ddod pryd bynnag fyddan nhw ar gael am cyhyd ag y mynnwch.
Cwtsh Natur Cyfle i gymdeithasu a garddio ychydig unwaith y mis ar ddydd Sadwrn yn Yr Ardd. Coffi a theisen wedi’u cynnwys . Am fwy o wybodaeth cysylltwch â llinos.cbw@gmail.com
Cymdeithas Garddio Mae Cymdeithas Garddio Three Picks yn eich croesawu i’w grŵp. Rhannu gwybodaeth, awgrymiadau a hadau ar y 3ydd dydd Iau bob mis yn Nhafarn Glanyrafon, Talgarreg. Cyrraedd am 7.30 am sesiwn 8-9pm.
Penwythnos Garddio Llandysul Digwyddiad pedwar diwrnod yn cynnwys sgyrsiau am amrywiaeth o bynciau garddio a thyfu o ddydd Iau i ddydd Sul 18 Chwefror . Gweler y posteri ynghlwm.
| GARDENING
Gardening Group The group is held on Fridays from 10am-5pm at the Penparcau Community Hub. People are welcome to come whenever they are available and for as long as they want to.
Cwtsh Natur An opportunity to socialise and do some gardening once a month on a Saturday at Yr Ardd. Coffee and cake included. For more information, please contact llinos.cbw@gmail.com
Gardening Society The Three Picks Gardening Society welcome you to their group. Share knowledge, tips and seeds on the 3rd Thursday of each month at The Glanyrafon Arms, Talgarreg. Arrive at 7.30 for an 8-9pm session.
Llandysul Gardening Weekend A four-day event including talks on a variety or gardening and growing topics from Thursday 15th to Sunday 18th February. See attached posters.
|
AROLYGON
Arolwg Bwyd Arolwg gan Bartneriaeth Bwyd Ceredigion i weld a hoffai dinasyddion Ceredigion gael mwy o randiroedd neu gyfleoedd i dyfu rhywfaint o'u bwyd eu hunain a beth allai'r rhwystrau posibl fod. Gweler ynghlwm.
Mae gerddi Gerddi Bro Ddyfi yn gofyn am eich barn a'ch syniadau ar gyfer y dyfodol, mae eich mewnbwn yn hanfodol wrth lunio eu dyfodol. | SURVEYS
Food Survey Survey from Partneriaeth Bwyd Ceredigion to find out whether Ceredigion's citizens would like more allotments or opportunities to grow some of their own food and what the possible barriers might be. See attached.
Gerddi Bro Ddyfi gardens are asking for your opinions and ideas for the future, your input is crucial in shaping their future. |
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk
| Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk
|