Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 12-01-2024
Fflach Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature Newsflash |
Bydd cyfarfod nesaf Partneriaeth Natur Leol Ceredigion ar ddydd Gwener 19fed Ionawr 10am-1pm. Gweler wedi ei atodi agenda ar gyfer y cyfarfod hwn a chofnodion y cyfarfod blaenorol. Mae dolen i’r cyfarfod yn yr agenda ac uchod.
Holiadur a Chynllun Gweithredu i Adfer Natur yng Ngheredigion Mae Ceredigion yn lle arbennig. Hi yw’r bedwaredd sir fwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd tir, ac mae’n cynnwys nifer o ecosystemau rhyfeddol. Y Cynllun Gweithredu ar Adfer Natur (NRAP) yw’r ymdrech gyntaf i greu strategaeth gynhwysfawr ond hygyrch i helpu adfer natur yn y sir. Er bod dogfennau a chynlluniau blaenorol wedi eu cyhoeddi, nod yr NRAP hwn yw cynrychioli gweledigaeth newydd ar gyfer adfer natur, un sy’n agored i bawb yn y sir sy’n dymuno cymryd rhan. Dim ond drwy ddull cydweithredol gwirioneddol gynhwysol y gall yr NRAP hwn gael ei weithredu a sicrhau adferiad natur. Gwahoddir pawb sydd â diddordeb mewn cyflawni’r weledigaeth hon i ddarllen y drafft cyntaf hwn a rhannu eu syniadau a’u hymateb drwy lenwi’r arolwg hwn. Gweler yr atodiad. Dyddiad cau ar gyfer sylwadau: Dydd Gwener 19 Ionawr 2024.
| The next meeting of the Ceredigion Local Nature Partnership will be on Friday 19th January 10am-1pm. Link to meeting in attached agenda and above.
Ceredigion Nature Recovery Action Plan and Questionnaire Ceredigion is a special place. Wales’ fourth largest county by land area, Ceredigion is home to many fascinating ecosystems. The Nature Recovery Action Plan (NRAP) represents the first attempt to create a comprehensive yet accessible strategy for helping nature recovery in the county. Whilst previous documents and plans have been published, this NRAP seeks to represent a new vision for nature recovery, one that is open to all those in the county who wish to participate. It is only through a truly cross-society, collaborative approach that this NRAP can be implemented, and nature recovery achieved. All those interested in achieving this vision are invited to read the first draft and share thoughts and feedback by completing this survey. Closing date for comments: Friday 19th January 2024.
|
Rydym yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi. Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau i Geredigion a’r tymor tyfu newydd. Y llynedd, gyda Rachel Auckland o’r Bartneriaeth Natur Leol, helpais i redeg prosiect o’r enw Tyfu Ceredigion i gefnogi gerddi cymunedol a rhandiroedd yn y sir. Nawr, fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, mae Ceredigion yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Partneriaeth Bwyd Lleol (manylion yma). Fel rhan o hynny, rwy’n gweithio gydag Eco Hwb Aber ar brosiect i fapio gerddi cymunedol a rhandiroedd, a gweld beth yw’r posibiliadau. Anfonwch eich barn atom. Pa bynciau sy'n bwysig i chi, a beth yw eich peth? Er enghraifft, a hoffech chi feddwl am neu weithio ar: bresgripsiynu cymdeithasol, tyfu ar gyfer prydau cymunedol, microfentrau, cyfnewid hadau, compostio cymunedol, neu gysylltiadau ysgol? Beth yw'r cyfyngiadau sy'n eich wynebu a beth fyddai'n helpu? Byddwn yn llunio adroddiad a fydd yn llywio gwaith y Bartneriaeth yn y dyfodol. Anfonwch eich straeon newyddion da atom hefyd, yn ddelfrydol gyda chwpl o luniau, fel y gallwn eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich gwaith a thyfu cymunedol Ceredigion yn gyffredinol. Cysylltwch cyn gynted ag y gallwch, gan mai dim ond tan ddechrau mis Mawrth y mae'r prosiect hwn yn rhedeg - mae angen i ni symud yn gyflym! Edrych ymlaen at glywed gennych i gyd, Diolch yn fawr Jane gyda Kate a Cath o Eco Hwb Aber
| We wish you a Happy New Year. There are exciting times ahead for Ceredigion and the new growing season. Last year, with Rachel Auckland from the Local Nature Partnership, I helped run a project called Tyfu Ceredigion to support community gardens and allotments in the county. Now, as some of you will know, Ceredigion is being funded by Welsh Government to set up a Local Food Partnership (details here). As part of that, I am working with Eco Hub Aber on a project to map community gardens and allotments, and see what the possibilities are. Please send us your thoughts. What topics are important to you, and what is your thing? For example would you like to think about or work on: social prescribing, growing for community meals, microenterprises, seed swaps, community composting, or school links? What are the limitations you face and what would help? We will compile a report that will inform the Partnership’s work in future. Please also send us your good news stories, ideally with a couple of photographs, that we can share on social media to promote your work and Ceredigion community growing in general. Please get in touch as soon as you can, as this project only runs until early March – we need to move fast! Looking forward to hearing from you all, Many thanks Jane, with Kate and Cath from Eco Hub Aber |
Arolygon o Wyau’r Brithribin Brown Cyfarfod ym mharc ceir y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran am 10.00am. Dydd Sadwrn 13 Ionawr Dydd Mawrth 16 Ionawr Dydd Iau 18 Ionawr
Dadansoddiad Genetig o Fridiau Prin Bydd y Dr Matt Hegarty yn esbonio dadansoddiad genetig o fridiau prin ymhlith ceffylau, cŵn a gwartheg nos Lun 15 Ionawr 7.30pm. I fyny’r grisiau ym Mar y Theatr, Canolfan y Celfyddydau.
Cyflwyniad i Olrhain Bywyd Gwyllt Ar-lein Cyflwyniad i adnabod a dehongli olion ac arwyddion cyffredin o fywyd gwyllt Prydain. Chwe sesiwn wythnosol yn cychwyn gyda sesiwn flasu am ddim ddydd Mawrth 16 Ionawr £160.
Webinarau y Gymdeithas Coedyddiaeth Webinarau am ddim ar ddydd Mercher am 6pm.
Webinar Rhywogaeth Ystlum y Flwyddyn Mae’r Ystlum Clustlydan Mwyaf wedi ei ddewis yn ‘Rhywogaeth Ystlum y Flwyddyn 2024-2025’ gan bartneriaid BatLife Europe. Ymunwch â’r webinar nos Fercher 17 Ionawr 8pm. Cofrestrwch ar e-bost: batlifeeurope@bats.org
Amaethyddiaeth a Ffermwyr – Digwyddiadau Llesiant Ar-lein Bydd y cwrs hyfforddiant hwn i bobl yng Nghymru yn rhoi dealltwriaeth ichi am brofiad pobl o golled a galar, gan gynnwys colled ar ôl marwolaeth annisgwyl yn y gymuned ffermio. Saesneg – Dydd Iau 18 Ionawr 9.30-11.30am. Cymraeg – Nos Fawrth 23 Ionawr 6.30-8.30pm. Saesneg – Nos Fercher 24 Ionawr 6.30-8.30pm.
Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl mewn Amaethyddiaeth: Dydd Llun 19 Ionawr 9:30am-1pm.
Dysgu sut mae Meithrinfeydd Coed yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd coed ddydd Iau 18 Ionawr 10.30am-12pm.
Gweithdy diwrnod yn canolbwyntio ar y dechneg Gouache Resist ddydd Sadwrn 20 Ionawr 10am-4pm £65.
Cyflwyniadau ffurfiol a stondinau gwybodaeth lle gallwch drafod yr Ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dydd Mawrth 30 Ionawr 2-8pm Gwesty’r Cliff, Aberteifi.
Rheoli Mannau Gwyrdd i Beillwyr Ymunwch yn lawnsiad adnoddau canllaw newydd BugLife i helpu Awdurdodau Lleol i ddeall yn well beth ellir ei wneud i reoli mannau gwyrdd ar gyfer peillwyr a bywyd gwyllt arall ddydd Mercher 31 Ionawr 10-11.30am.
Cynhadledd CIEEM 2024 Cymru Adfer Mawndiroedd: Dulliau a Heriau yng Nghymru ddydd Mercher 31 Ionawr yn Abertawe.
| Meet at the Welsh Wildlife Centre, Cilgerran car park at 10.00am. Saturday 13th January Tuesday 16th January Thursday 18th January
Genetic Analysis of Rare Breeds Dr Matt Hegarty will explain genetic analysis of rare breeds in horses, dogs and cattle on Monday 15th January 7.30pm. Upstairs in the Arts Centre Theatre Bar.
Introduction to Wildlife Tracking Online An introduction to identifying and interpreting commonly seen tracks and signs of British wildlife. Six weekly sessions, starting with a free taster session Tuesday 16th January £160.
Arboriculture Association Webinars Free Webinars taking place on Wednesdays at 6pm.
Bat Species of the Year Webinar The Greater Mouse-Eared Bat has been selected as ‘Bat Species of the Year 2024-2025’ by the partners of BatLife Europe. Join the webinar on Wednesday 17th January 8pm. To register email: batlifeeurope@bats.org.
Agriculture and Farmers – Wellbeing Events Online This training course for people in Wales, will give you an understanding of how people might experience bereavement and grief, including bereavement following an unexpected death in the farming community. English – Thursday 18th January 9.30-11.30am. Welsh - Tuesday 23rd January 6.30-8.30pm. English - Wednesday 24th January 6.30-8.30pm.
Mental Health Awareness in Agriculture: Monday 19th February 9:30am-1pm.
Learn about how Tree Nurseries comply with tree health regulations on Thursday January 18th 10.30am-12pm.
One day workshop focusing on the Gouache Resist technique on Saturday 20th January 10am-4pm £65.
Formal presentations and information stands where you can discuss the Sustainable Farming Scheme consultation. Tuesday 30th January 2-8pm The Cliff Hotel, Cardigan.
Managing Green Spaces in B-Lines for Pollinators Join the launch of BugLife’s new guidance resources to help Local Authorities better understand what can be done to manage green spaces for pollinators and other wildlife on Wednesday 31st January 10-11.30am.
CIEEM 2024 Wales Conference Peatland Restoration: Approaches and Challenges in Wales on Wednesday 31st January in Swansea.
|
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk |
Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk
|