Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 08-12-2023
Fflach Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature Newsflash |
Partneriaeth Natur Leol Ceredigion – Arolwg ynghylch Cymorth i Reoli Dolydd Mae glaswelltir llawn rhywogaethau, neu led-naturiol, yn gynefin gwerthfawr o safbwynt ecolegol, sydd wedi dirywio’n ddifrifol yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae Ceredigion yn ardal bwysig oherwydd ei chynefinoedd glaswelltir, a hoffai ein Partneriaeth Natur Leol gael gwybod sut y gallwn gynorthwyo pobl i wneud yn fawr o’r cynefin rhyfeddol hwn.
Helpwch ni i benderfynu pa gymorth ychwanegol a allai fod yn ofynnol i adfer a gwella ein cynefinoedd glaswelltir arbennig, drwy gwblhau ein harolwg ar-lein. Mae modd cael gafael ar yr arolwg yma, neu www.surveymonkey.com/r/ceredigionmeadows
Bydd yr arolwg hwn yn dod i ben ar 13 Ionawr 2024.
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Catrin Evans Consultancy, ar ran y Bartneriaeth Natur Leol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch gysylltu â Catrin ar catrin@catrinevans.cymru.
Helpwch ni drwy rannu’r post Facebook yma i roi gwybod i bobl am yr arolwg!
|
Ceredigion Local Nature Partnership - Survey on Support for Meadow Management Species-rich, or semi-natural, grassland is an ecologically valuable habitat that has undergone a huge decline over the last century. Ceredigion is important for its grassland habitats and our Local Nature Partnership would like to find out how we can support people to make the most of this amazing habitat.
Please help us work out what additional support may be needed to restore and enhance our special grassland habitats by completing our online survey, which can be found here, or www.surveymonkey.com/r/ceredigionmeadows.
This survey closes on 13th January 2024.
This survey is being carried out by Catrin Evans Consultancy, on behalf of the Local Nature Partnership. If you have any queries, you can contact Catrin directly on catrin@catrinevans.cymru.
Please share this facebook post to let people know about the survey!
|
Diwrnod Gwaith Gwirfoddol Helpu Parc Natur Pen-glais i glirio eithin yn y parc ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr 10am. Poster wedi ei gysylltu.
| Volunteer Work Day Help Parc Nature Penglais clear gorse in the park on Saturday 9th December 10am. Poster attached.
|
Gwybodaeth ac Ymweliad â Gwaith Trin Dŵr Mae Dŵr Cymru yn gweithio i leihau faint o ffosfforws sydd yn eu helifiant terfynol gyda’r nod o leihau effaith eu hasedion, ar ddalgylchoedd Ardaloedd Arbennig Cadwraeth sy’n methu â chyrraedd targedau ffosfforws. Gwahoddir chi i gerdded o gwmpas safle Gwaith Trin Dŵr Llanbedr Pont Steffan ddydd Mawrth 12 Rhagfyr 10am-12pm i ddysgu mwy am y wyddoniaeth y tu ôl i drin dŵr gwastraff, natur heriol y pibau sy’n gwasanaethu cymunedau, a’u cynlluniau i ddiogelu ein dyfrffyrdd. Mynegwch eich diddordeb drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn Riverqualityliaison@dwrcymru.com
| Wastewater Treatment Visit and Information Dwr Cymru are working to reduce the amount of phosphorus in their final effluent with the aim of reducing the impact of their assets, on Special Areas of Conservation catchments failing phosphorus targets. You are invited to a site walkover of Lampeter Wastewater Treatment Works on Tuesday 12th December 10am-12pm to learn more about the science behind wastewater treatment, the challenging nature of the pipes that serve communities and their plans for protecting our waterways. Please express your interest using the following email address Riverqualityliaison@dwrcymru.com
|
Sesiwn am Bwrs y Fôr-forwyn Helpu Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau ar draeth Tan-y-bwlch i chwilio am sachau wyau Siarcod a Chathod Môr, a chlirio ychydig sbwriel oddi ar y traeth. Cwrdd yn y parc ceir wrth draeth Tan-y-bwlch ddydd Mercher 13 Rhagfyr am 2pm. Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau..
| Mermaid's Purse session Help Penparcau Wildlife Group at Tanybwlch beach, look for the egg cases of Sharks and Skates, and to get some of the litter off the beach. Meet at the car park at Tanybwlch beach Wednesday 13th December at 2pm. Penparcau Wildlife Group.
|
Yn Eisiau – Nythod wedi eu Gadael Roedd Elliott (11) yn rhyfeddu at faint o blastig oedd mewn nyth cotiar ym Mae Caerdydd, a phenderfynodd astudio plastig mewn nythod yng Ngorllewin Cymru ar gyfer Gwobr Ceidwad yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Anfonwch unrhyw nythod sydd wedi eu gadael o flychau nythu at Elliott. Anfonwch e-bost i sejones79@hotmail.com i gael y cyfeiriad.. Os yw’n bosibl cynhwyswch y rhywogaeth, y cyfeiriad grid a’r lleoliad. Diolch.
| Wanted – Abandoned Nests. Shocked by the amount of plastic in a Coot nest in Cardiff Bay, Elliott (11) decided to study plastic in nests in West Wales for his Wildlife Trust Ranger Award. Please send any abandoned nests from nest boxes to Elliott. Please email sejones79@hotmail.com for the address. If possible, please include the species, a grid reference and location. Thank you.
|
National Resources Wales Nature and us campaign
| |
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk | Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk |