Fflach Newyddion Natur Ceredigion Newsflash 01-02-2024
Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature Newsletter |
Helo a chroeso i’r rhifyn hwn o Newyddion Natur Ceredigion, y lle ichi gael y newyddion i gyd am fywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’r amgylchedd yn y sir.
| Hello and welcome to this edition of Newyddion Natur Ceredigion, your one-stop-shop for news of wildlife, biodiversity and the environment around the county. |
GWYDDONIAETH Y BOBL
Fforwm Blynyddol Cofnodwyr WWBIC Cynhelir Fforwm y Cofnodwyr eleni yng Nghanolfan Clydau, Tegryn ddydd Sadwrn 2 Mawrth. Os oes gan rywun destun i siarad amdano a allai lenwi bwlch o hanner nawr, cysylltwch ar kate@westwalesbiodiversity.org.uk
Hyfforddiant Cofnodi Bywyd Gwyllt Ymunwch â WWBIC i ddysgu sut i gofnodi bywyd gwyllt yn Aber-porth ddydd Sul 25 Chwefror 10am-1pm.
Helpu cofnodi amrywiaeth a niferoedd y ffyngau rhyfeddol hyn.
Helpu casglu data am leoliad brogaod a llyffantod sy’n bridio o fis Rhagfyr i fis Mai i ddeall yn well sut mae amffibiaid yn defnyddio gwahanol fathau o fannau dŵr i fagu.
| CITIZEN SCIENCE
WWBIC Annual Recorders Forum This year’s Recorders Forum will be held at Canolfan Clydau, Tegryn on Saturday 2nd March. If anyone has a topic, they wish to talk about that could fill a 30 minute slot please get in touch at kate@westwalesbiodiversity.org.uk
Join WWBIC and learn how to record wildlife in Aberporth on Sunday 25th February 10am-1pm.
Help record the diversity and abundance of these wonderful fungi.
Help collect data on the location of breeding frogs and toads from December-May to better understand how amphibians use different types of waterbodies to breed.
|
WEBINARAU
Webinar Cyfrif Adar Tir Ffermio Dysgu am y Cyfrif Adar Tir Ffermio, sut i helpu adar ar eich fferm a’r hyn sydd wedi ei ddysgu wrth gyfrif am ddeng mlynedd. Dydd Mawrth 6 Chwefror 10.30-12canol dydd.
Peillwyr a Phobl - Webinar Edrych ar yr effeithiau cymdeithasol ar beillwyr trefol a dysgu sut gall garddwyr atal rhywogaethau ymledol rhag ehangu nos Fawrth 13 Chwefror 7-8pm. Ar gael am gyfraniad o £1 ond croeso ichi roi mwy.
Helpu Gwyfynod yn ein Trefi a’n Dinasoedd Webinar am bwysigrwydd gwyfynod yn yr ecosystem drefol nos Lun 26 Chwefror 7-8pm. Ar gael am gyfraniad o £1 ond croeso ichi roi mwy.
| WEBINARS
Big Farmland Bird Count Webinar Learn about the Big Farmland Bird Count, how to help birds on your farm and what has been learnt from ten years of the count. Tuesday 6th February 10.30-12noon.
Pollinators and People - Webinar Look at the social impacts on urban pollinators, and learn how gardeners can stop the spread of invasive species on Tuesday 13th February 7-8pm. Available for a £1 donation but larger amounts are welcome.
Helping Moths in our Towns and Cities A webinar on the importance of moths in the urban ecosystem on Monday 26th February 7-8pm. Available for a £1 donation but larger amounts are welcome.
|
ARIANNU
Diweddariad i gyrff gwirfoddol am arferion da wrth godi arian a datblygiadau diweddar.
Cerdded yn y Gaeaf i Godi Arian Cerdded am 5k neu 10k yn eich ardal leol gan ddefnyddio taflenni adnabod a chanllawiau gweithgarwch i ddod yn nes at natur rhwng dydd Llun 12 a dydd Sul 25 Chwefror. Codwch £30 i gael crys-t WWF a chyrraedd y targed o £100 i gael eco-fedal WWF.
Ydych chi’n perthyn i grŵp gwirfoddol sy’n ymddiddori yn iechyd eich amgylchedd dŵr croyw yn lleol? Gallwch gael pecynnau tanysgrifio ac ariannu gan Freshwater Watch.
Yn y Newsflash diwethaf cyhoeddwyd dyddiad cau anghywir ar gyfer Cronfa Cynnal y Cardi. Dylai ddweud mai’r dyddiad agor oedd 1 Chwefror.
| FUNDING
An update for voluntary organisations on good fundraising practice and recent developments.
Complete a 5k or 10k walk in your local area, using spotter sheets and activity guides to get closer to nature between Monday 12th - Sunday 25th February. Raise £30 to receive a WWF t-shirt and hit the £100 target to receive a WWF eco medal.
Do you belong to a volunteer group that is interested in the health of your local freshwater environment? Get subscription packages and funding from Freshwater Watch.
In the last newsflash an incorrect closing date for the Cynnol Y Cardi Fund was published. It should have read that the opening date was the 1st of February.
|
COED
Dewch i gymryd rhan, naill ai fel Gwarchodwr Coed, trin a monitro onnen su’n dioddef oherwydd dieback, fel hyrwyddwr neu fel noddwr. Ar ôl cofrestru byddwch yn cael biochar i’w ddefnyddio a phecyn croeso. Chi sy’n penderfynu faint o goed fyddwch chi am eu trin a’u monitro.
Ymgyrch Materion Rheoli Coedlannau Dysgu sut i reoli eich coedlan ac am fuddiannau Continuous Cover Forestry.
Hyfforddiant Bioamrywiaeth ar gyfer Meithrinfeydd Coed Cymunedol Cyngor ymarferol ar-lein ar wella bio-ddiogelwch i feithrinfeydd coed cymunedol nos Fercher 21 Chwefror 6.30-8pm.
Ar gyfer Meithrinfeydd Coed Cymunedol, dysgu sut i gynnal a chadw cofnodion cywir nos Iau 7 Mawrth 6.30pm.
| TREES
Get involved; either as a Tree Guardian, treating and monitoring an ash tree affected by dieback, an advocate or as a sponsor. Once you have signed up you will receive biochar to use and a welcome pack. It's up to you how many trees you want to treat and monitor.
Woodland Management Matters Campaign Learn how to manage your woodland and about the benefits of Continuous Cover Forestry.
Biosecurity training for Community Tree Nurseries Practical online advice on improving biosecurity for community tree nurseries on Wednesday 21st February 6.30-8pm.
For Community Tree Nurseries, learn how to maintain accurate records on Thursday 7th March 6.30pm.
|
CYSTADLAETHAU
Cystadleuaeth Camera Bywyd Gwyllt Cystadleuaeth Fisol i bobl sy’n defnyddio trailcam.
Gwyliwch y ffilm am gyfle i ennill cadair goedwig. Dyddiad cau: dydd Iau 29 Chwefror.
Cystadleuaeth Ystafell Ddosbarth Dan Do Ennill ystafell ddosbarth dan do gwerth £11,000 oddi wrth y tîm SouL, a fydd yn darparu’r holl ddefnyddiau a’r llafur ac yn ei gosod lle mynnwch chi ar safle’ch ysgol. Dyddiad cau: Dydd Gwener 8 Mawrth.
Ennill Profiad Mewn Coedlan: Asynnod Dyfi Os rhowch eich barn a allai Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi fod yn fan cychwyn ar gyfer gweithgareddau natur ac awyr agored i’w staff a’r gymuned leol, ynghyd â gofal meddygol, a gallwch ennill y wobr hon.
| COMPETITIONS
Monthly Competition for trail cam enthusiasts.
Watch the film for a chance to win a forest chair. Closing date: Thursday 29th February.
Win a suspended canopy classroom worth £11,000 from The SOuL team who will provide all of the materials, labour and fully install it in a location of your choosing on your school site. Closing date: Friday 8th March.
Win a Woodland Experience: Dyfi Donkeys Share your views on whether Bro Ddyfi Community Hospital could be a springboard for nature-based and outdoor activities for its staff and local community, alongside medical care and win this prize.
|
CYRSIAU
Cyflwyniad yw’r modiwl eang hwn i ddeall ac ymchwilio i fathau cyffredin o bridd gardd a defnyddio egwyddorion rheoli pridd yn gynaliadwy.
Cyrraedd Lefel 3 mewn Hyfforddiant Ysgolion Coedwig ddydd Mawrth 12 Mawrth. Gweler y poster sydd ynghlwm. Os hoffech ddod i sesiwn wybodaeth yn Ray Ceredigion ddydd Sadwrn 2 Mawrth, cysylltwch ag everydayplayjd@gmail.com
Mae yna nifer o gyrsiau am amrywiol bynciau ar gael. Mae rhai eisoes wedi dechrau, ond gan eu bod ar-lein a chithau’n gosod y cyflymdra, mae’n dal yn bosibl i bobl ymuno a dal i fynd â’r gwaith.
| COURSES
This module is a wide-ranging introduction to understanding and investigating common garden soil types and applying the principles of sustainable soil management.
Obtain a Level 3 in Forest School Training starting Tuesday 12th March. Please see attached poster. If you would like to attend an information session at Ray Ceredigion on Saturday 2nd March, please contact everydayplayjd@gmail.com
Aberystwyth University Courses There are a number of courses on a variety of topics available. Some have already started but as they are online and self-paced, it’s still possible for people to join and catch up with the work.
|
GWIRFODDOLI A SWYDDI GWAG
Mae gan Gwenyn Gruffydd gyfle i bobl 17–35 oed. Bydd yr ymgeisydd yn cwblhau Cynllun Prentisiaeth y Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn sy’n cymryd tair blynedd. Dyddiad cau dydd Gwener 2 Chwefror.
Mae Llannerchaeron yn Aberaeron eisiau cyflogi aelod awyddus a chadarnhaol o’r tîm sy’n frwd i gyfleu gwybodaeth i ymwelwyr. Dyddiad cau: Dydd Sul 4 Chwefror.
Mae gan y Game and Wildlife Trust leoliad i fyfyriwr neu fyfyrwraig i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil pwysig ar gadwraeth hela a bywyd gwyllt. Dyddiad cau: Dydd Mercher 14 Chwefror.
Mae hon yn rhaglen wirfoddoli sy’n cael ei hariannu ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 30 oed. Mae eco-bentref Mas Les Vinyes yn chwilio am bedwar gwirfoddolwr am chwe mis i ddysgu am baramaethu, hunan-gynhaliaeth a thyfu bwyd. Dyddiad cau: Dydd Iau 15 Chwefror.
Mae Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn cynnig swydd breswyl am dâl i berson ifanc (18-24 oed) i weithio gyda staff a thîm gwirfoddolwyr Cadwraeth y Môr yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion yng Ngheinewydd. Dyddiad cau dydd Sul 18 Chwefror.
Swyddog Amaethyddiaeth a Chadwraeth Swydd am 12 mis yw hon, yn gweithio gartref o fewn Cymru. Dyddiad cau: dydd Llun 19 Chwefror.
Chwilio am Gyfle i Wirfoddoli Mae Hannah White yn astudio i fod yn Therapydd Galwedigaethol ac mae angen iddi gwblhau 25 awr o waith gwirfoddol yn ardal Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr wythnos dydd Llun 18 Mawrth a/neu ar ddydd Iau a dydd Gwener o ddydd Llun 18 Mawrth i ddydd Llun 8 Ebrill. Gall y gwirfoddoli fod yn seiliedig ar natur gan mai ei ddiben yw deall buddiannau gwirfoddoli ar lesiant. Cysylltwch â hannahrewhite@icloud.com
Chwilio am Wirfoddolwyr - Coedwig Gymunedol Mae Coedwig Gymunedol Long Wood yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gydag amrywiaeth o weithgareddau. Er enghraifft: rhedeg caffe yn y Ganolfan Ymwelwyr, clirio llwyni, arwyddion ac unrhyw le bydd angen helpu. Cewch ragor o fanylion ar ôl ichi gofrestru yn marketing@longwood-lampeter.org.uk neu gofrestru gyda grŵp gwirfoddolwyr Coedwig Gymunedol Long Wood yn y ddolen.
Pencampwr y Môr - Gwirfoddolwr Mae Cymdeithas Cadwraeth y Môr yn eich gwahodd i gofrestru fel Pencampwr y Môr.
| VOLUNTEERING AND JOB VACANCIES
Gwenyn Gruffydd has this opportunity for people aged 17–35, the candidate will complete the Bee Farmers Association Apprenticeship Scheme, which takes three years. Closing date Friday 2nd February.
Llanerchaeron in Aberaeron are looking for an engaging and positive team member with a passion for sharing knowledge with visitors. Closing date: Sunday 4th February.
The Game and Wildlife Trust have a placement for a student to take part in important game and wildlife conservation research. Closing date: Wednesday 14th February.
This is a funded volunteering program for young people between 18-30 years old. Mas Les Vinyes ecovillage is looking for four volunteers for six months to learn permaculture, self-sufficiency and food growing. Closing date Thursday 15th February.
The Wildlife Trust of South and West Wales are offering a paid internship for a young person (18-24 years) to work alongside the Marine Conservation staff and volunteer team at the Cardigan Bay Marine Wildlife Centre, New Quay. Closing date Sunday 18th February.
Agricultural and Conservation Officer This is a 12-month post, working from home within Wales. Closing date: Monday 19th February.
Volunteering Opportunity Wanted Hannah White is studying to be an Occupational Therapist and needs to complete 25 hours of volunteering in the Lampeter area in the week Monday 18th March and/or spread over Thursdays and Fridays of the weeks Monday 25th March – Monday 8th April. The volunteering can be nature based as the purpose of it is to understand the benefits of volunteering on wellbeing. Contact hannahrewhite@icloud.com
Volunteers Wanted - Coedwig Gymunedol Long Wood Community Woodland are looking for volunteers to help with a range of activities. For example: running a cafe in the Visitors centre, bush clearing, signage and anywhere where help is required More details will be given once you sign up to marketing@longwood-lampeter.org.uk or sign up to the Coedwig Gymendol Longwood volunteer group found in the link.
The Marine Conservation Society would like to invite you to register as a Sea Champion.
|
MAE ANGEN HELP
Ymgynghoriad ar Intangible Cultural Heritage Rhowch eich adborth inni am rai o’r penderfyniadau yn y cam cyntaf i weithredu’r cytundeb ‘2003 UNESCO Convention for the Safeguarding of Intangible Cultural Heritage’. Dyddiad cau: Dydd Iau 29 Chwefror.
Gofyn am Adeileddau Rhyngweithiol Mae Coedwig Gymunedol Long Wood yn creu llwybr teulu rhyngweithiol drwy’r goedwig ac yn chwilio am fannau ffocws neu adeileddau rhyngweithiol i’w gosod ar hyd y llwybr - unrhyw beth o glychau gwynt i adeileddau pren. Os gallwch greu neu gyfrannu rhywbeth i’w gynnwys ar y llwybr, anfonwch e-bost i marketing@longwood-lampeter.org.uk
| HELP WANTED
Intangible Cultural Heritage Consultation Give feedback on some of the decisions regarding the first stage of implementing the 2003 UNESCO Convention for the Safeguarding of Intangible Cultural Heritage. Closing date: Thursday 29th February.
Interactive Structures Wanted Long Wood Community Woodland are creating an interactive family trail through the woodland and are looking for focal points or interactive structures to place along the trail - anything from wind chimes to wooden sculptures - if you can make or donate something to include on the trail, please email marketing@longwood-lampeter.org.uk
|
TROSEDDAU BYWYD GWYLLT
Archwiliadau Llygredd Ffermydd Bydd tîm newydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio dros 800 o ffermydd yn 2024 i helpu lleihau effaith llygredd amaethyddol.
Mae canolfan ailgylchu metel gwastraff yn Rhydaman wedi cael dirwy o £42,000 am fethu â chydymffurfio ag amodau caniatâd amgylcheddol, ar ôl i olew ollwng.
| WILDLIFE CRIME
A new team at Natural Resources Wales aims to inspect over 800 farms in 2024 to help reduce the impact of agricultural pollution.
A scrap metal recycling centre in Ammanford has been fined £42,000 for failing to comply with conditions of environmental permit, following an oil |
GWEITHGAREDDAU
Cors Caron – Taith Dywys Bydd taith dywys am ddim o’r gyforgors enwog yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ddydd Gwener 2 Chwefror i ddathlu Diwrnod Bydeang Gwlyptiroedd. Bydd y daith yn dechrau am 1pm a rhaid trefnu lle i gael ymuno â’r daith. Anfonwch e-bost i liferaisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i drefnu lle.
Gweithgareddau Natur Yn ôl pleidlais y gymuned. Gweler y poster.
Dewch i Ganolfan Ymwelwyr Nantyrarian i godi ymwybyddiaeth am stad y milgi. Croeso i unrhyw gi. Rhaid cadw cŵn sy’n ymateb ar dennyn gyda ffrwyn am eu trwynau. Cwrdd yn y prif barc ceir. Dydd Sul 11 Chwefror 11am.
Cadw Gwenyn – Gwyddor neu Gelfyddyd? Bydd Caffe Gwyddoniaeth Aberystwyth nos Lun 12 Chwefror am 7.30pm ym Mar Theatr Canolfan y Celfyddydau.
Cathod Gwyllt Ynysoedd Prydain Sgwrs gyda lluniau am hanes Cathod Gwyllt nos Fercher 14 Chwefror 7.30pm yn Theatr Mwldan. £3 i gynnwys te a bisgedi. Poster ynghlwm.
Siaradwyr gwadd a phlanhigion i’w prynu yn Neuadd Tysul, Llandysul. Dydd Iau 15 – dydd Iau 18 Chwefror – dydd Sul 18 Chwefror.
Ffilm am Dyfu Bwyd Ymunwch â Phartneriaeth Bwyd Ceredigion y mis hwn i weld y ffilm Rooted – Growing a Local Food System a thrafodaeth i ddilyn. Posteri ynghlwm. Dydd Mawrth 20 Chwefror 3.30-5pm yn Fforwm Cymunedol Penparcau, Aberystwyth a Dydd Mercher 21 Chwefror 5.30pm yn yr Hen Neuadd, Campws Llanbedr Pont Steffan.
Cerdded y Ci a Sgwrsio Ymunwch â Chanolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion i gerdded ar hyd Traeth Gwyn ddydd Iau 22 Chwefror 2-6pm i ddysgu mwy am waith cadwraeth y môr a thrafod bod yn garedig i’r amgylchedd wrth fod yn berchennog anifeiliaid anwes. Cwrdd ym Mharc Ceir Coed Llanina am 2pm. Rydym yn disgwyl nifer fawr o gŵn yn y digwyddiad, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer cŵn anghymdeithasol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â cbmwc@welshwildlife.org
Timau hyd at bump o fyfyriwyr yn cofnodi arwyddion o famaliaid ar eu campws gan ddefnyddio amrywiol ddulliau. Rhoir pwyntiau hefyd am godi arian a denu pobl eraill at gadwraeth mamaliaid
| ACTIVITIES
Cors Caron – Guided Tour A free guided tour of a celebrated raised bog will be held at the Cors Caron National Nature Reserve, near Tregaron on Friday 2nd February to celebrate World Wetlands Day. The tour will start at 1pm, and booking is essential to join the tour. Email liferaisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk to book a place.
Nature Based Activities As voted for by the community. See poster.
Head to Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre to raise the awareness of the plight of the greyhound. All dogs welcome. Reactive dogs must be kept on a lead with a muzzle. meet up on the main carpark. Sunday 11th February 11am.
The Aberystwyth Science Cafe will be on Monday 12th February 7.30pm in the Arts Centre Theatre Bar.
Wildcats of the British Isles An illustrated talk on the history of Wildcats on Wednesday 14th February 7.30pm at Theatre Mwldan. £3 including tea and biscuits. Poster attached.
Guest speakers and plants to purchase at Tysul Hall, Llandysul. Thursday 15th – Sunday 18th February.
Food Growing Film Join Partneriaeth Bwyd Ceredigion this month, for a film screening of Rooted – Growing a Local Food System followed by a discussion. Posters attached. Tuesday 20th 3.30-5pm at Penparcau Community Forum, Aberystwyth Wednesday 21st 5.30pm at Old Hall, Lampeter Campus
Dog Walk and Talk Join Cardigan Bay Marine Wildlife Centre for a walk alongTraeth Gwyn on Thursday 22nd February 2-6pm to discover more about marine conservation work and discuss environmentally responsible pet ownership. Meet at Llanina Wood Parking at 2pm. It is anticipated that there will be a large number of dogs at the event so it may not be suitable for those with unsociable dogs. For more information contact cbmwc@welshwildlife.org
Teams of up to five students record signs of mammals on their campuses using a variety of method. Points are also awarded for fundraising and engaging others in mammal conservation.
|
ADRODDIADAU
Garddwriaeth yn y Pedair Gwlad (Horticulture Across Four Nations) Adroddiad sy’n cyflwyno’r achos dros godi statws gerddi marchnad amaeth-ecolegol yn y Deyrnas Gyfunol.
Adroddiad ar Fuddsoddi Mewn Amddiffynfeydd Rhag Llifogydd Adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â bod yn barod am y newid yn yr hinsawdd a lleihau perygl llifogydd mewn cymunedau ledled Cymru.
| REPORTS
Horticulture Across Four Nations A report which makes the case for the upscaling of agroecological market gardens across the UK.
Flood Defences Investment Report Report from Natural Resources Wales about keeping pace with climate change and reducing future flood risk to communities across Wales.
|
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk | Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk
|