Fflach Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsflash
Fflach Newyddion Natur Ceredigion | Ceredigion Nature Newsflash |
Trapiau Silphidae a’r BBC. Mae’r Cynllun Cofnodi Silphidae yn gofyn ichi roi gwybod os bydd unrhyw gofnodwyr sy’n defnyddio trapiau golau yn cael unrhyw Chwilod Claddu yn eu trapiau. Mae tîm y BBC yn chwilio am safleoedd yng Ngorllewin Cymru i ffilmio’r chwilod hyn, felly os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â owen.jewell.ext@bbc.com neu a.whiffin@nms.ac.uk | Silphidae Traps and the BBC. The Silphidae Recording Scheme is asking you to let them know if any recorders who light trap have had any Burying Beetles in their traps. The BBC team are looking for sites in West Wales to film these beetles so if you would like to be involved contact owen.jewell.ext@bbc.com or a.whiffin@nms.ac.uk |
HAU HADAU LLESIANT Fideo Paratoi at Hau Hadau Llesiant Gwyliwch y fideo hwn gan Mark Schofield, arbenigwr ar leiniau porfa, wrth iddo’ch arwain drwy baratoi eich gardd neu eich lawnt gymunedol ar gyfer Hau Hadau Llesiant. Blog ysbrydoledig gan yr Ymddiriedolaeth Gêm a Bywyd Gwyllt. | NO MOW MAY Watch this video featuring road verges expert Mark Schofield as he guides you through preparing your garden or community lawn for No Mow May. Inspirational blog from the Game and Wildlife Conservation Trust. |
CYFLEOEDD I BOBL IFANC Mae ein grant dan Arweiniad Pobl Ifanc wedi ailagor ar gyfer 2024! Os ydych yn chwilio am gyllid ar gyfer prosiect a ddatblygwyd gan bobl ifanc, i hybu gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc, cymerwch olwg! Byddwch yn gyflym, gan ei fod yn cau ar Dydd Llun 20 Mai. Mae yna dri diwrnod gweithgareddau rheolaidd i adael plant 9:30-3:00pm yng nghoetir Elemental Adventures drwy gydol y gwyliau ysgol. Dechrau dydd Llun 27 Mai. Chwarae gyda Natur a Hwyl i’r Teulu Gan fod y gwyliau ysgol wrth law, dyma rai syniadau i helpu plant i ddysgu am y byd o’u cwmpas a gwneud y mwyaf o le chwarae gorau Cymru – ein hamgylchedd naturiol ryfeddol. Diwrnod Blasu i fod yn Fiolegydd Môr Ydych chi rhwng 9 a 24 oed ac am fod yn fiolegydd môr? Ymunwch â’r Tîm Cambrian Bywyd Gwyllt y Môr ddydd Mawrth 28 Mai 10am-1pm yng Ngheinewydd. Cystadleuaeth Gelf Crëwch ddarn o gelf wedi ei ysbrydoli gan anifail neu blanhigyn brodorol yng Nghymru i ennill camera blwch nythu i’ch ysgol. Grwpiau oedran: 5-11 a 12-18. Dyddiad cau: Dydd Gwener 31 Mai. Gweler y poster. Cystadleuaeth Codi Llais Dros Goed Cystadleuaeth siarad cyhoeddus i bobl ifanc. Mentrwch nawr a dwedwch wrth y Cyngor Coed pam mae coed a natur mor bwysig i chi. Dyddiad cau: Dydd Gwener 31 Mai. Swydd Fewnol gan y Gymdeithas Mamaliaid Mae’r Gymdeithas Mamaliaid yn cynnig swydd fewnol ran-amser am 9 mis i rywun ar ddechrau gyrfa neu fyfyriwr rhan-amser 18-24 oed o gefndir lleiafrifol ethnig sydd am gael profiad mewn elusen gadwraeth fach. Dyddiad cau: Dydd Gwener 31 Mai. Muddy Buddies Gweler y poster sydd wedi’i gysylltu am wybodaeth am sesiynau wedi’r ysgol i deuluoedd a sesiynau cyn-ysgol yng Nghoetir Long Wood o ddydd Llun 3 Mehefin. | OPPORTUNITIES FOR YOUNG PEOPLE The Youth Led grant has reopened. If you’re looking for funding for a project developed by young people, to promote volunteering among young people, then take a look. Be quick, as it closes Monday 20th May. There are regular drop-off activity days 9:30-3:00pm at Elemental Adventures woodland venue through the school holidays. Starting Monday 27th May. With the school holidays not far away here are some ideas to help children learn about the world around them and make the most of Wales’ best playground – our wonderful, natural environment. Are you aged 9-24 and an aspiring marine biologist? Join the Cambrian Marine Wildlife Team on Tuesday 28th May 10am-1pm in New Quay. Art Competition Create a piece of art inspired by an animal or plant native to Wales and win a nest box camera for your school. Age groups: 5-11 and 12-18 years. Closing date: Friday 31st May. See poster. Speak up for Trees Competition A public speaking competition for young people. Enter now and let The Tree Council know why trees and nature are so special to you. Closing date: Friday 31st May. The Mammal Society is offering a paid 9-month part-time internship for a career starter or part-time student aged 18-24 from a minority ethnic background looking to gain experience in a small conservation charity. Closing date: Friday 31st May. Muddy Buddies Please see the attached poster for information on after school family sessions and pre-school sessions at Longwood Community Woodland from Monday 3rd June. |
GWEITHGAREDDAU Dewch â’ch byrddau syrffio, eich rhodlau a’ch gwisgoedd nofio i ymuno â Surfers Against Sewage – Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol fel rhan o’u hymgyrch ar ansawdd dŵr ddydd Sadwrn 18 Mai 2pm gan gwrdd wrth Safle’r Band yn Aberystwyth. Agor Parc Natur Pen-glais Caiff Llwybr Isaf y Chwarel ei agor yn swyddogol gan y Cyng Maldwyn Pryse, Maer Aberystwyth, ddydd Sadwrn 18 Mai 11am. Bio-Blitz Edrych am ieir bach yr haf/pili palaod, creaduriaid diasgwrn-cefn ac ymlusgiaid yn Plwmp ddydd Sadwrn 18 Mai 10am-12.30pm. Gweler y poster. Sesiwn o ysgrifennu creadigol yn archwilio hanes natur yn Ystrad Fflur ddydd Sadwrn 18 Mai 10am-4pm. £40. Gŵyl Peillwyr Cletwr Gweithgareddau i’r teulu cyfan, gan gynnwys trap gwyfynod, pwy fydd yn lwcus, saffari gwenyn meirch, coed treftadaeth Merched y Berllan a llawer iawn mwy ddydd Sul 19 Mai 10am-4pm. Poster ynghlwm. Mae hwn yn gyfle i arbenigwyr y diwydiant, addysgwyr, pysgotwyr, pobl sy’n hoffi bwyd a'r gymuned ehangach ddod ynghyd yn Sir Benfro i drafod a darganfod buddiannau amgylcheddol ar ariannol gwymon. Dydd Iau 16 – dydd Sul 19 Mai. Dileu’r Balsam Diwrnod i wirfoddolwyr balsam Himalaya ar Afon Dulas ddydd Mawrth 21 Mai 10am-1pm a dydd Llun 1 Gorffennaf, Llanbedr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cofrestrwch eich diddordeb ar nathaniel@westwalesriverstrust.org Gweler y poster. Cyfarfod Partneriaeth y Wiwer Goch yng Nghanolbarth Cymru Cynhelir y cyfarfod yn yr Hen Goetsiws, Pumsaint ddydd Iau 23 Mai 10am-12:30pm. Grŵp Cyfiawnder Bydeang Climate Cymru Bydd Grŵp Cyfiawnder Byd-eang newydd Climate Cymru yn cwrdd ar y pedwerydd dydd Iau bob mis. Cyfarfod nesaf ddydd Iau 23 Mai. Gellir gweld yr agenda barhaus yma. Brecwast gyda Dolffin Trwynbwl Ymunwch â Chanolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion ddydd Sadwrn 25 Mai 7-9am yng Ngheinewydd i weld bywyd gwyllt a chael te a choffi. Rhaid trefnu ymlaen llaw. Cwrs tair wythnos ar-lein ar fioleg Mochyn Daear a’i ecoleg ac arolygon. £45. Cychwyn ddydd Llun 27 Mai. | ACTIVTIES Grab your surfboards, paddles and swimsuits to join Surfers Against Sewage - National Day of Action as part of their water quality campaign on Saturday 18th May 2pm meeting next to Aberystwyth Bandstand. Parc Natur Penglais Opening The Lower Quarry Path will be officially opened by Cllr Maldwyn Pryse, Mayor of Aberystwyth. Saturday 18th May 11am. Bio-Blitz Look for butterflies, invertebrates and reptiles in Plwmp on Saturday 18th May 10am-12.30pm. See poster. Creative writing session exploring the natural history of Strata Florida on Saturday 18th May 10am-4pm. £40. Cletwr Pollinator Festival Activities for all the family, including moth trap, lucky dip, bumblebee safaris, Merched y Berllan heritage fruit trees and lots more on Sunday 19th May 10am-4pm. Poster attached. This is an opportunity for industry experts, educators, fishers, farmers, foodies and the wider community to come together in Pembrokeshire to debate and discover the financial and environmental benefits that seaweed has to offer. Thursday 16th – Sunday 19th May. Balsam Blitz Himalayan balsam pulling volunteer day on the River Dulas on Tuesday 21st May 10am-1pm and Monday 1st July, Lampeter at University of Wales Trinity Saint David. Please register your interest to nathaniel@westwalesriverstrust.org See poster. Mid Wales Red Squirrel Partnership Meeting This meeting will be held at the Old Coach House, Pumsaint on Thursday 23rd May 10am-12:30pm. Climate Cymru Global Justice Group Climate Cymru’s new Global Justice Group, will meet on the fourth Thursday of the month. The next meeting will be held on Thursday 23rd May. The rolling agenda can be viewed here. Join the Cardigan Bay Marine Wildlife Centre on Saturday 25th May 7-9am in New Quay for wildlife spotting, tea and coffee. Booking essential. Three-week online course on Badger biology, ecology, and surveying: £45. Starting Monday 27th May. |
GWIFODDOLI A SWYDDI Ymunwch â grŵp Bwyd Gwastraff Aber a helpu mynd â bwyd i’w compostiwr. Gwirfoddolwyr Afonydd Mae Achub Afon Teifi yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer dau brosiect Gwyddoniaeth y Bobl. Y naill yn Brosiect Saffari Arllwysfannau a fydd yn golygu cofnodi gwybodaeth weledol ar hyd y afon. Y llall mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion y fesur ansawdd dŵr ar hyd yr afon. Cysylltwch â: volunteer@teifi.one Sesiwn Gwirfoddolwyr Helpu gwaith i wella’r coetir yng Nghoed y Bont. Dydd Sul 19 Mai 10.30am - 12.30pm. Cwrdd yn y parc ceir neu’r gysgodfan addysg. Gwaith CBFfChG Mae’r ddwy swydd sy’n dilyn yn gweithio i gefnogi’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad.
Mae RSPB Cymru yn chwilio am rywun i arwain y tîm codi arian (Grantiau, Ymddiriedolaethau a Chorfforaethau, rhoddwyr mawr) yng Nghymru i wneud y mwyaf o incwm o ffrydiau codi arian allanol. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 21 Mai. Mae RSPB Cymru yn dymuno cyflogi rhywun i ymuno â’u Tîm Polisi ac Eiriolaeth Tir a Môr yng Nghymru. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 21 Mai. Cyfnod Preswyl Celf Cysylltiol Mae yna ddeg Cyfnod Preswyl Celf Cysylltiol fel rhan o’r Rhaglen Ymgysylltu Celf Natur am Byth. Dyddiad cau: Dydd Gwener 24 Mai. Llysgenhadon Gwirfoddol Partneriaeth Awyr Agored Mae CGGC yn dymuno recriwtio pum llysgennad gwirfoddol Partneriaeth Awyr Agored ym mhob rhanbarth yng Nghymru dros y 12 mis nesaf. Byddai hyn yn gyfle i rywun sydd am ddatblygu ei sgiliau. Dyddiad cau: Dydd Llun 27 Mai. | Join the Aber Food Surplus group and help take food to their composter. River Volunteers Save the Teifi are seeking volunteers for two Citizen Science projects. One is on the Outfall Safari Project that will involve recording visual information along the river. The second is in collaboration with Ceredigion County Council and will involve measuring water quality along the river. Contact: volunteer@teifi.one Volunteers Session Help carry out some work to improve the woodland at Coed Y Bont. Sunday 19th May 10.30am - 12.30pm. Please meet in the carpark area or education shelter. FFCC Employment The following are two roles working to support the work of Food Farming and Countryside Commission.
RSPB Cymru are looking for a person to lead the high value fundraising (Grants, Trusts and Corporates, major donors) team in Wales to maximise income from external funding streams. Closing date: Tuesday 21st May. RSPB Cymru would like to employ a person to join their Wales Land and Sea Policy and Advocacy Team. Closing date: Tuesday 21st May. There are ten Associate Artist Residency opportunities as part of the Natur am Byth Arts Engagement Programme. Closing date: Friday 24th May. Outdoor Partnership Volunteer Ambassadors WCVA wants to recruitment five Outdoor Partnership volunteer ambassadors to each region of Wales over the next 12 months. This would be a great opportunity for anyone interested in developing their skills. Closing date: Monday 27th May. |
ARIANNU Mae gan Lleoedd Lleol i Natur bum categori i ddewis o’u plith. Mae’r Pecynnau Cychwyn, Datblygu a Pherllannau yn dal ar gael, ond maent hefyd yn darparu Pecynnau Mawr Iawn ac Ychwanegiadau. Rhwng dydd Llun 13 a 20 Mai, bydd rhoddion i’r Rhwydwaith Ffermio Caredig i Natur yn dyblu heb ddim cost ychwanegol fel rhan o’r Ymgyrch Rhoi Mawr. Adnoddau Un Llais Cymru - Webinar Dewch i lansiad ar-lein swyddogol yr adnoddau newydd gan Un Llais Cymru ar gyfer Bioamrywiaeth ddydd Mawrth 21 Mai 11am-1pm. Cwrdd â’r Ariannwr - Webinar Dysgu mwy am raglenni ariannu gan Sefydliad Cymunedol Cymru ddydd Mercher 22 Mai 12 canol dydd -1pm. Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru Mae’r cyfnod cais am ariannu cylch 4 yng Nghynllun Môr a Physgodfeydd Cymru wedi ei ymestyn. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau nawr yw dydd Gwener 24 Mai. | FUNDING Local Places for Nature have five categories to choose from. The Starter, Development and Orchard Packages are still available, but they’ve also introduced Supersize and Top-up Packages. Between Monday 13th and 20th May, donations made to the Nature Friendly Farming Network will be doubled at no extra cost as part of the Big Give Campaign. One Voice Wales Resources - Webinar Attend the official Online launch of One Voice Wales’s new resources for Biodiversity on Tuesday 21st May 11am-1pm. Meet the Funder - Webinar Learn more about funding programmes from Community Foundation Wales on Wednesday 22nd May 12noon-1pm. Welsh Marine and Fisheries Scheme The application window for funding round 4 of the Welsh Marine and Fisheries Scheme has been extended. The closing date for applications is now Friday 24th May. |
WEBINARAU Adroddiadau am gynnydd tuag at drawsnewid cyfiawn a charedig i natur nos Fawrth 28 Mai 6-7pm. Dysgu am arwyddocâd cofnodi biolegol mewn mynwentydd a mannau claddu eraill, ddydd Mercher 22 Mai 12 canol dydd. Adeiladu eich dealltwriaeth o anatomeg botanegol drwy ystyried strwythur a swyddogaeth dail, blodau, ffrwythau ac egino. Dydd Mercher 29 Mai – dydd Mercher 3 Gorffennaf. £60. Dysgu am rai o’r mathau mwyaf o chwilod hirgorn a’r rhai mwyaf arbennig sydd i’w gweld ledled y Deyrnas Gyfunol, gyda Wil Heeney nos Fercher 29 Mai 6.30-8pm. Recordiad o’r Webinar Tegwch i Goed Dolen yw hon i’r recordiad o’r webinar a’r drafodaeth wedyn. Bydd y webinar nesaf ddydd Mercher 29 Mai pan gewch eich cyflwyno i’r Greenspace Toolkit newydd
| WEBINARS Reports on progress towards a just and nature-positive transition on Tuesday 28th May 6-7pm. Knowing your Ant from your Elder Learn the significance of biological recording in churchyards and other burial grounds on Wednesday 22nd May 12noon. Build your understanding of botanical anatomy considering the structure and function of leaves, flowers, fruits and seeds and germination. Wednesday May 29th – Wednesday 3rd July. £60. Longhorn Beetles of the UK Part 1 Learn about some of the larger and more distinctive species of longhorn beetle occurring across the United Kingdom with Wil Heeney on Wednesday 29th May 6.30-8pm. Tree Equity Webinar Recording This is a link to the recording of the webinar and subsequent discussion. The next webinar will be on Wednesday 29th May when you’ll be introduced to the newly re-published Greenspace Toolkit.
|
Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk | Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk |