Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
September 27, 2024

FFlach Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsflash

 

 

27.09.24

 

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

Ceredigion Nature Newsflash

 

CYFARFOD PARTNERIAETH NATUR LEOL CEREDIGION

Mae croeso i bawb i gyfarfod nesaf PNLC ddydd Gwener 18 Hydref 10am-4pm yn Neuadd Tysul, Llandysul. Gwybodaeth am drefnu ar gael ar y ddolen.

Mae’r agenda a chofnodion y cyfarfod diwethaf wedi eu cysylltu. Bydd:

  • Diweddariadau aelodau
  • Cyflwyniadau
  • Cinio bwffe ysgafn
  • Ymweliad safle ag Afon Teifi

 

YMUNWCH AR-LEIN YMA: Join the meeting

 

Er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dymuno siarad yn cael cyfle, rydyn ni’n gofyn, os bydd eich cyfraniad yn cymryd mwy na 5-10 munud, am ichi roi crynodeb yn ystod y cyfarfod ac yna gall fersiwn lawn gael ei hanfon fel e-bost at bawb sy’n bresennol, ar ôl y digwyddiad.

Nid yw’n ofynnol siarad os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Mae croeso i bobl ddod dim ond i wrando.

 

 

CEREDIGION LOCAL NATURE PARTNERSHIP MEETING

All are welcome to the next CLNP meeting on Friday 18th October 10am-4.00pm at Neuadd Tysul Hall, Llandysul. Booking information available at the link.

Please find attached the agenda and the minutes of the last meeting. There will be:

  • Member Updates
  • Presentations
  • A light lunch buffet
  • A site visit to the River Teifi

 

JOIN ONLINE HERE: Join the meeting

 

In order to ensure that everyone who wishes to speak has a chance, we are asking that if your update takes more than 5 – 10 minutes, you give a summary during the meeting and a full version can be emailed to attendees after the event.

There is no requirement to speak if you don’t want to. People are welcome to just come and listen.

 

Rhaglen Ymchwilio i Forfilod yn Dod i’r Lan

Ymunwch â Grŵp Lleol Gogledd Ceredigion o’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt nos Lun 7 Hydref 7pm i glywed am waith rhyfeddol y Rhaglen Ymchwilio i Forfilod yn Dod i’r Lan. C22 Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth.

 

Ffyngau wedi Mynd yn Angof

Trafod byd hudolus ffyngau, bygythiad i’w parhad a sut y gallwn i gyd wneud ein rhan yn eu dyfodol. Nos Iau 3 Hydref 7pm.

 

Mawn a Mawndiroedd yng Nghymru

Edrych ar hanes dynol, ffisegol a biolegol mawndiroedd gan ganolbwyntio ar Gors Fochno, ond gan gyfeirio at safleoedd eraill yng Nghymru. Ar nos Fawrth o 8 Hydref i 17 Rhagfyr. £130.

 

Cymdeithas Blodau Gwyllt yr Hydref

Cyfarfodydd ar-lein – 7-8pm. Gweler ynghlwm am fwy o fanylion a gwybodaeth am drefnu.

  • The Species Recovery Trust – Nos Fercher 9 Hydref
  • The Teesdale Project - Nos Fercher 13 Tachwedd
  • Uchafbwyntiau 2024 – Nos Fercher 4 Rhagfyr

 

Her Iechyd y Môr

Gallwch ennill hyd at £2,000 i’ch ysgol drwy Her Iechyd y Môr. Ymunwch â chystadleuaeth genedlaethol i ysbrydoli plant ysgol i fynd i’r afael â llygredd plastig yn y môr drwy beirianneg. Dydd Llun 7 Hydref – dydd Sadwrn 23 Tachwedd.

 

Cynhadledd Cymdeithas Rheoli Cefn Gwlad

Arfer da ar gyfer gweithio dros natur, tirweddau a phobl.  Croeso i rai nad ydynt yn aelodau. Dydd Llun 4 - dydd Mercher 6 Tachwedd. Gweler ynghlwm am raglen o ddigwyddiadau yn Nyfnaint.

 

Cetacean Strandings Investigation Programme

Join The Wildlife Trust's North Ceredigion Local Group on Monday 7th October 7pm. to hear about the amazing work of the UK Cetacean Strandings Investigation Programme. C22 Hugh Owen, Aberystwyth University.

 

Forgotten Fungi

Discuss the magical world of fungi, the threats to their survival and how we can all play our part in their future. Thursday 3rd October 7pm.

 

Peat and Peatlands in Wales

Look at the human, physical, and biological history of peatlands concentrating on Cors Fochno but with reference to other Welsh sites. Tuesdays 8th October – 17th December. £130.

 

Autumn Wild Flower Society

Online Meetings – 7-8pm. Please see attached for more details and booking information.

  • The Species Recovery Trust – Wednesday 9th October                                                                                  
  • The Teesdale Project - Wednesday 13th November                                                     
  • Highlights of 2024 – Wednesday 4th December 4th                                           

 

Ocean Health Challenge

Win up to £2,000 for your school through the Ocean Health Challenge. Join a national competition inspiring school students to tackle ocean plastic pollution through engineering. Monday 7th October – Saturday 30th November.

 

Countryside Management Association Conference

Best practice working for nature, landscapes and people. Non-members welcome. Monday 4th – Wednesday 6th November. Please see attached for the programme of events in Devon.

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
Website Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.