Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Subscribe
Archives
October 11, 2024

Fflach Newyddion Natur Ceredigion Nature Newsflash

 

 

11.10.24

 

CYFARFOD PARTNERIAETH NATUR LEOL CEREDIGION

Mae croeso i bawb i gyfarfod nesaf PNLC ddydd Gwener 18 Hydref 10am-4pm yn Neuadd Tysul, Llandysul. Gwybodaeth am drefnu ar gael ar y ddolen.

  • Diweddariadau aelodau
  • Cyflwyniadau
  • Cinio bwffe ysgafn
  • Ymweliad safle ag Afon Teifi

 

YMUNWCH AR-LEIN YMA: Join the meeting

 

Er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dymuno siarad yn cael cyfle, rydyn ni’n gofyn, os bydd eich cyfraniad yn cymryd mwy na 5-10 munud, am ichi roi crynodeb yn ystod y cyfarfod ac yna gall fersiwn lawn gael ei hanfon fel e-bost at bawb sy’n bresennol, ar ôl y digwyddiad.

Nid yw’n ofynnol siarad os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Mae croeso i bobl ddod dim ond i wrando.

 

CEREDIGION LOCAL NATURE PARTNERSHIP MEETING

All are welcome to the next CLNP meeting on Friday 18th October 10am-4.00pm at Neuadd Tysul Hall, Llandysul. Booking information available at the link.

  • Member Updates
  • Presentations
  • A light lunch buffet
  • A site visit to the River Teifi

 

JOIN ONLINE HERE: Join the meeting

 

In order to ensure that everyone who wishes to speak has a chance, we are asking that if your update takes more than 5 – 10 minutes, you give a summary during the meeting and a full version can be emailed to attendees after the event.

There is no requirement to speak if you don’t want to. People are welcome to just come and listen.

 

SWEPT: Galw ar bobl sy’n wyddonwyr i brofi ansawdd dŵr

Mae’r prosiect Surveying the Waterway Environment for Pollution Threats (SWEPT) yn gweld bod angen pobl sy’n wyddonwyr i brofi lefelau nitradau a ffosffad mewn cyrsiau dŵr croyw. Mae angen gwirfoddolwyr i fonitro nentydd yr arfordir sy’n llifo i mewn i Fae Ceredigion. Gweler ynghlwm.

 

Chwilen Rhisgl Sbriws Wyth Dant

Os na chaiff ei rheoli, gall y chwilen achosi niwed sylweddol i’r diwydiant coedwigoedd a phren sbriws ym Mhrydain.

 

Thrive – Ystafell Ddosbarth yng Nghefn Gwlad

Cwmpasu natur drwy’r tymhorau: caiff plant y lle, yr amser a’r rhyddid i ddysgu’n weithgar ac yn naturiol ym Mrongest.

 

SWEPT: Callout for citizen scientists to test water quality

The Surveying the Waterway Environment for Pollution Threats (SWEPT) project sees citizen scientists testing nitrate and phosphate levels of freshwater watercourses. Volunteers are needed to monitor coastal streams flowing into Cardigan Bay SAC. See attached.

 

Eight-toothed Spruce Bark Beetle

If left uncontrolled, the beetle has the potential to cause significant damage to Britain’s spruce-based forestry and timber industries.

 

Thrive – A Countryside Classroom

Embracing nature throughout the seasons; children have the space, time and freedom to learn actively and naturally in Brongest.

 

 

GWEITHGAREDDAU

 

Gardd Goedwig Gymunedol Naturewise - Hydref

Gwahoddir chi i’r diwrnodau gwirfoddoli sydd i ddod, a fydd yn canolbwyntio ar ofalu am goed, datblygu llynnoedd ac ehangu gwelyau meddyginiaeth.

  • Dydd Mawrth 15, 22, 29 
  • Dydd Sadwrn 19
  • Nos Iau 24 6:30-8:00pm – Sesiwn taflu syniadau

 

Cerdded gyda Natur

Taith i’r teulu ar hyd afon Rheidol i chwilio am adar, gwenyn meirch ac ieir bach yr haf  hwyr. Dydd Gwener 18 Hydref 2pm. Cwrdd ym mharc ceir Morrisons lle mae’n cwrdd â’r llwybr beicio.

 

Llwybr Dyffryn Teifi

Dwy daith gerdded fer i gael blas ar y Llwybr yn rhannau uchaf Dyffryn Teifi. Dydd Sadwrn 19 Hydref. Gweler ynghlwm.

 

Cwrs Tyfu Madarch Technoleg Isel

Gwneud a chael llond bwced o fadarch  wystrys, pren shiitake a thyfu ar gardfwrdd ddydd Sadwrn 19 Hydref 10am-3pm ym Moncath. £40-£60.

 

Wythnos Datws

Ar 29 a 30 Hydref bydd crefftau Calan Gaeaf i blant gan ddefnyddio tatws wedi eu tynnu o’r darn tatws ym Mharc Fferm Ffantasi, Aberystwyth.

 

ACTIVITIES

 

Naturewise Community Forest Garden - October

You are invited to the upcoming volunteer days, where they’ll be focusing on tree care, pond development, and expanding medicinal beds.

  • Tuesdays 15th, 22nd, 29th 
  • Saturday 19th
  • Thursday 24th 6:30-8:00pm - Brain storming session.

 

Nature Walk

A family-friendly walk along the river Rheidol, looking for birds, bumblebees, and late season butterflies. Friday 18th October 2pm. Meet at the back of Morrisons car park where it meets the cycle path.

 

Teifi Valley Trail

Two short walks to sample the Trail in the Upper Teifi Valley. Saturday 19th October. See attached.

 

Low-Tech Mushroom Cultivation Course

Make and takeaway a bucket of oyster mushrooms, a shitake log and cardboard culture on Saturday 19th October 10am-3pm in Boncath. £40-£60.

 

Potato Picking Week

On the 29th and 30th October there will be Halloween crafts for children using potatoes picked from the potato patch at Fantasy Farm, Aberystwyth.

WEBINARAU

 

Corynnod mewn ogofâu

Addasiadau ymddygiad yn eu gwe, wrth fforio ac wrth wasgaru. Dydd Mawrth

15 Hydref 1-2pm.

 

Gelod Dŵr Croyw

Dysgu am y math o gelod dŵr croyw sydd i’w cael ledled Prydain. Nos Iau

24 Hydref 6.30-8pm. £10.

 

WEBINARS

 

Cave Spiders

Behavioural adaptations in webs, foraging and dispersal. Tuesday 15th Oct 1-2pm.

 

Freshwater Leeches

Learn about the species of freshwater leech that occur across the United Kingdom. Thursday 24th October 6.30-8pm. £10.

 

CYLLIDO

 

Cronfa Estyn Allan

Grant i grwpiau cymunedol, ysgolion, elusennau cofrestredig bach a Rhwydweithiau Wardeiniaid Coed sydd am sefydlu coed, cloddiau a pherllannau. Dyddiad cau: Dydd Sul 1 Rhagfyr.

 

Arian y Loteri Cenedlaethol - Arian i Bawb

Cyllid o £300 i £20,000 i gefnogi eich prosiect i ddarparu gweithgarwch newydd neu weithgarwch presennol, neu i gefnogi eich cymdeithas i newid ac addasu yn wyneb heriau newydd ac yn y dyfodol. 

 

 

FUNDING

 

Branching Out Fund

Grant for community groups, schools, small registered charities, and Tree Warden Networks seeking to establish trees, hedgerows, and orchards. Closing date: Sunday 1st December.

 

National Lottery Awards for All Wales

Funding from £300 to £20,000 to support your project to deliver a new or existing activity or to support your organisation to change and adapt to new and future challenges.

 

 

CHYSTADLAETHAU

 

Ennill Rhandir

Cyfle i ennill Prydles Rhent Rhad gyda Green Allotments ar gyfer gerddi rhandir. Dyddiad cau: Canol nos Sadwrn 30 Tachwedd.

 

Cystadleuaeth Bio-grefftau

Creu gwaith celf 3D ar sail bioleg wedi ei greu o ddefnydd wedi ei ailgylchu, neu ddefnyddiau eraill, ac anfon ffotograff i wneud  cais. Dyddiad cau: Dydd Llun 4 Tachwedd. 

 

 

COMPETITIONS

 

Win an Allotment

The opportunity to win a 30-year Peppercorn Lease with Green Allotments for allotment gardens. Closing date: Midnight Saturday 30th November.

 

BioCraft Competition

Create a biology-inspired 3D artwork from recycled, or other, materials and send a photo to enter. Closing date: Monday 4th November.

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

 

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
Website Facebook
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.