Fflach Newyddion Natur Ceredigion 27/03/2026
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 27/03/2026 |
|---|
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU - EBRILLSesiynau am ddim yn cofnodi bywyd gwyllt gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt lleol.
|
Gweithdy CompostioDewch i ddysgu am Warchodfeydd Natur ym Mhenparcau a sut i ddelio â’ch gwastraff gardd yn Hyb Penparcau. Gweler ynghlwm am sesiynau taro heibio o 1 awr. Dydd Llun 30 Mawrth. Gweithdy’n cynnwys cyngor ymarferol am wastraff gardd, compostio, garddio er mwyn bywyd gwyllt, rhywogaethau ymledol a thyfu eich bwyd eich hun. Bin compostio am ddim ar gael i drigolion Penparcau – dim ond ychydig ar gael. Ymweld mewn sesiynau 1 awr: |
Digwyddiadau’r Pasg gyda Phrosiect Arfordirol TeifiEwch i Daliad y Dydd yn Aberteifi i gymryd rhan yn y digwyddiadau cyffrous hyn. Gweler ynghlwm.
|
GWEITHGAREDDAUEco-BasgDiwrnod Gwirfoddoli gyda thema’r Pasg. Hwyl i’r teulu cyfan yng Ngardd Gymunedol Naturewise ddydd Mawrth 7 Ebrill 10am-4pm. Brecwast gyda Dolffin TrwynbwlEdrych am Ddolffiniaid Trwynbwl, Llamhidyddion, Morloi Llwyd ac adar môr oddi ar wal y cei yng Ngheinewydd ddydd Mawrth 14 Ebrill 9.30-11am = £2.88 Rhaglen Ddogfen am WenynYmunwch â Chymdeithas Gwenynwyr Aberystwyth am noson arbennig yn y sinema nos Fercher 15 Ebrill. Dim angen trefnu. Symposiwm Rhithwir am Gofnodi BiolegolY prosiectau biolegol, y newyddion a’r astudiaethau achos diweddaraf sy’n helpu darparu dull ar sail tystiolaeth o adfer natur. Dydd Mercher 15 Ebrill 10am-1pm = £30+ Gwymon a Gofal y CroenArchwilio manteision gwymon i’ch croen a sut y gallwn ei ddefnyddio mewn gofal croen arbenigol a naturiol. Dydd Gwener 17 Ebrill Aber-porth 2-5pm = £30+ |
GWOBRGwobrau Cefn Gwlad SchöffelManteisiwch ar y cyfle i enwebu eich arwyr cadwraeth am 2026. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 31 Mawrth. |
WEBINARAUGwarchod y GylfinirAmlinelliad o’r heriau sy’n wynebu’r gylfinir ym Mrydain a dulliau ymarferol i’w adfer. Nos Lun 13 Ebrill 6.30-7.30pm Fertebratiaid brodorol PrydainDysgu am y rhywogaethau a’r is-rywogaethau asgwrn-cefn sydd i’w cael ym Mhrydain. Dydd Iau 16 Ebrill 12.30-2pm. Pryfed MilwrolBydd y webinar hwn yn sôn am yr amrywiol Bryfed Milwrol sydd i’w cael ym Mhrydain. Nos Iau 16 Ebrill 6-7.30pm. |