Fflach Newyddion Natur Ceredigion 27/02/2026
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 27/02/2026 |
|---|
Gŵyl Natur CeredigionMae Partneriaeth Natur Leol Ceredigion yn cynnal gŵyl natur yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf fel rhan o Wythnos Natur Cymru. Rydym yn chwilio am unigolion, grwpiau a sefydliadau brwdfrydig a fyddai’n hoffi cael stondin yn y digwyddiad. Oes gennych chi rywbeth i’w ddangos, neges i’w chyhoeddi, gweithgaredd yr hoffech ei rannu neu rywbeth i’w werthu? Cysylltwch ar biodiversity@ceredigion.gov.uk |
Eich Lle Gwyllt – MawrthSesiynau am ddim i gofnodi bywyd gwyllt 10am-1pm gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt yn lleol. Gweler ynghlwm.
|
GWEITHGAREDDAUYmddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru"Coetir Anian (Cambrian Wildwood): Restoration, Connection and Collaboration", sgwrs gan Cian Llywelyn (Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu Treftadaeth). Dydd Llun 2 Mawrth 2026, 7.00pm, Ystafell C22, Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth. Croeso i bawb. Unrhyw gwestiynau: iscott77@hotmail.com Heddwch a Natur: Adeiladu Rhwydwaith UNESCO yng NghymruGweithdy ar thema adeiladu heddwch yng nghyd-destun ein perthynas â natur. Dydd Mercher 4 Mawrth 10am-4pm yn Aberystwyth. Grŵp Bywyd Gwyllt PenparcauTaith gerdded hwylus gydag arbenigwr adar ddydd Gwener 6 Mawrth 2pm i adnabod adar gyda chymorth Naomi, adarwraig leol adnabyddus. Am ddim, dim angen trefnu, dim ond dod. Darlith am ein Cefnfor HanfodolMyfyrio am y ffordd y byddai adfer a diogelu ecosystemau ein cefnfor yn newid cwrs hanes ein hinsawdd yn y Ganolfan Technoleg Amgen – Nos Lun 9 Mawrth 7-8.30pm. Archwilio Dan y Dŵr yn Ynysoedd ScillyLluniau rhyfeddol a chanlyniadau cyffrous o brosiect yn defnyddio fideo o bell i fonitro bywyd y môr yn Ynysoedd Scilly. Dydd Mawrthn 10 Mawrth 1-2pm. Lluniau o Drap CameraDysgu golygu, adnabod a dosbarthu lluniau, rheoli data a rhannu darganfyddiadau o drap camera drwy MammalWeb. Dydd Iau 19 Mawrth 12.20-2pm. Fforwm Gweddi yr Eglwys Eco (Penwythnos)Ymunwch ddydd Iau 19 Mawrth 12canol dydd-1pm i gysylltu â chymuned ehangach yr Eglwys Eco a myfyrio, rhannu a gweddio gyda’ch gilydd. Chwilio am BerlysiauDechrau gyda thaith gerdded, dysgu sut i adnabod planhigion meddyginiaethol, a chreu eich meddyginiaethau tymhorol eich hun. Dydd Iau 19 Mawrth 10am-2.30pm = £50. Cymdeithas Tyfwyr Ceredigion a’r CylchMae’r gymdeithas hon wedi cyhoeddi rhestr o ddigwyddiadau am eleni. |
CYRSIAUCwrs Cymorth Cyntaf Awyr Agored (penwythnos)Mae’r cwrs cymorth cyntaf 2 ddiwrnod hwn yn yr awyr agored (16 awr) sy’n cael ei reoleiddio gan Ofqual yn bodloni pob un o ofynion NGB. Dydd Sadwrn 14 i ddydd Sul 15 Mawrth.
Helpu Syrfewyr i Adnabod TegeiriannauCwrs ar-lein yn edrych ar deulu’r Tegeirian gydag awgrymiadau da sut i’w handnabod a ble i’w cael. Dydd Mercher 18 Mawrth 9am-12canol dydd = O £45. |
SWYDDI A GWIRFODD0LIAngen Hwylusydd Gwirfoddoli yn Longwood Swyddog Prosiect a GIS |